Rhaglen a chofnodion

Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 6ed Chwefror, 2025 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni ddaeth yr un i law.

2.

Ethol Is-Gadeirydd pdf eicon PDF 88 KB

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Brace Griffiths yn Is-gadeirydd o blith aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau tan 14 Chwefror 2028 (y dyddiad y byddai tymor swydd yr Is- Gadeirydd blaenorol wedi dod i ben) neu tan ddiwedd tymor swydd Mr Griffiths, pa un bynnag a ddeuai gyntaf.

3.

Cofnodion Cyfarfodydd pdf eicon PDF 202 KB

Cadarnhau cofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-.

 

  18 Mehefin 2024

  16 Medi 2024 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2024 yn gywir.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi derbyn cofnod gweithredu wedi'i ddiweddaru o faterion yn codi o'r cofnodion. Dywedodd y gweithredid ar yr argymhellion o'r cofnodion neu eu bod wedi’u rhoi ar waith.

 

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft cyfarfod eithriadol o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Medi 2024 yn gywir.

4.

Diweddariad Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 87 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad diweddaru gan Bennaeth Democratiaeth ar y gwaith a wnaed o fewn y Gwasanaethau Democrataidd oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor hwn, a'r Cynllun Gwella a rannwyd gyda'r Pwyllgor ym mis Medi 2024. Roedd y Cynllun yn ymdrin â rhai materion democrataidd a godwyd yn dilyn adolygu Cofrestrau Buddiannau'r Aelodau.

 

Dywedodd Pennaeth Democratiaeth y gweithredwyd ar 15 o'r 20 cam gweithredu yn y Cynllun. O'r pump oedd yn weddill, roedd dau yn parhau ac nid oedd modd datrys dau ar hyn o bryd. Ychwanegwyd cam gweithredu ychwanegol at y rhai a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Safonau, lleroedd cynnydd sylweddol wedi'i wneud.

 

Roedd y ddau fater nad oeddynt wedi’u datrys yn ymwneud â meddalwedd Modern.Gov. Nid oedd gan y system ryngwyneb Cymraeg er mwyn cynnwys gwybodaeth am Gofrestrau Buddiannau, ac nid oedd, ychwaith, yn rhoi’r opsiwn i aelodau gwblhau datganiadau o ddiddordeb yn ystod cyfarfodydd ar-lein. O ran y mater cyntaf, gallai aelodau gwblhau'r Gofrestr yn Gymraeg neu’n Saesneg ac roeddynt wedi cael cynnig cymorth gan y gwasanaeth democrataidd i gyfieithu testunau. Yn ail, roedd staff wrth law i roi copïau electronig o ffurflenni i aelodau, yn ôl yr angen.

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn, hefyd, o'r adroddiad: -

 

  Byddai’r Protocol ar gyfer Cyfarfodydd Hybrid yn cael ei adolygu a'i

   ddiweddaru yn ôl yr angen.

  Byddai swyddog o Heddlu Gogledd Cymru yn dod i’r cyfarfod y mis hwn i

   gynghori aelodau ar ddiogelwch personol.

  Derbyniwyd 26 o adroddiadau blynyddol aelodau ar gyfer 2023/24. Byddai’r

   templed, wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2024/25, yn cael ei rannu gydag

   aelodau yn fuan. Rhaid oedd ei gwblhau erbyn diwedd mis Mai 2025.

  Atgoffwyd aelodau i gofrestru datganiadau o ddiddordeb o fewn 28 diwrnod.

   Rhannwyd canllawiau, hefyd, ar y broses diweddaru'r cofrestrau ar-lein.

  Câi Arweinyddion Grŵp ddiweddariadau chwarterol ar hyfforddiant aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithredu: Dim

5.

Datblygiad Aelodau pdf eicon PDF 551 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddiant a Datblygu (Adnoddau Dynol) ar y ddarpariaeth hyfforddi a datblygu a gynigiwyd i aelodau etholedig dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi fod 39 o sesiynau hyfforddi wedi'u cynnig I aelodau, o fis Ebrill 2023 hyd yn hyn, 24 yn llai na'r flwyddyn flaenorol.

 

Cyfeiriodd at y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024/25 a amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad a dywedodd fod mwy o bwyslais wedi’i roi ar hyfforddiant mandadol yn ddiweddar, gan arwain at gynnydd yn nifer y sesiynau hyfforddi yr aethpwyd iddynt. Nodwyd bod 34 allan o 35 aelod wedi mynd am hyfforddiant Iechyd a Diogelwch. Cofnodwyd cynnydd, hefyd, mewn hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Diogelu Data. Yn ystod y cyfnod nesaf, byddid yn canolbwyntio ar Seiberddiogelwch, Diogelu a Lles.

 

Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn sgil eu holi, wedi cadarnhau nad oedd ganddynt ddarpariaeth hyfforddiant dwyieithog mewn perthynas â hyfforddi Arweinyddion Grŵp. Fodd bynnag, roedd trefniadau yn eu lle i Nia Gwynn Meacher gwblhau sesiynau dadfriffio Proffil DiSC gyda phob un o'r Arweinyddion Grŵp ac yna i Gwen Greaves, gynt o Hyfforddiant Glaslyn, arwain cyfres o sesiynau hyfforddi. Byddai’r ddau weithgaredd ar gael yn ddwyieithog, gyda dyddiadau i gytuno arnynt.

 

Nodwyd bod sesiynau hyfforddi rhithwir a hyfforddiant wedi'i recordio wedi'u cynnig i aelodau yn ogystal â sesiynau ystafell ddosbarth. At hyn,roedd fideos Iechyd a Diogelwch wedi'u rhannu gydag aelodau; rhywbeth oedd yn llwyddiant mawr.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithredu: Dim

6.

Cwynion am Ymddygiad a Gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) pdf eicon PDF 396 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn gysylltiedig â: -

(a) Cynghorwyr Sir, a

(b) Cynghorwyr Tref/Cymuned

ar gyfer Chwarter 1, 2 a 3 2024/2025

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaethadroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar gwynion chwarterol a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned, ar gyfer Chwarterau 1-3,2024/25.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod tair cwyn yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned wedi'u cyfeirio at yr Ombwdsmon. Roedd dwy wedi'u gwrthod, roedd y trydydd mater yn parhau ac wedi bod dan ymchwiliad ers dros flwyddyn.

 

Nodwyd bod pedair cwyn wedi'u cyflwyno i’r Ombwdsmon yn erbyn Cynghorwyr Sir am y cyfnod. Gwrthododd yr Ombwdsmon y gŵyn gyntaf a'r ail gŵyn ac atgoffodd yr ail achwynydd o rwymedigaeth yr unigolyn i ddatgan buddiant o dan y Cod Ymddygiad. Roedd y trydydd mater wedi bod dan ymchwiliad ers mis Chwefror 2024 ac yn parhau. Roedd yr ymchwiliad i'r pedwerydd mater wedi dod i ben yn dilyn ymchwiliad a barodd 18 mis. Yn hyn o beth, roedd yr Ombwdsmon wedi cyfeirio'r mater at y Pwyllgor Safonau.

 

Mynegodd y Pwyllgor Safonau bryder bod proses gwynion yr Ombwdsmon yn hir. Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod o Fforwm Cadeiryddion y Pwyllgor Safonau yr aeth iddo’n ddiweddar, lle roedd yr Ombwdsmon wedi datgan mai ei nod oedd cwblhau ymchwiliadau o fewn 12 mis ond ei bod yn cael trafferth cyflawni'r amserlen oherwydd diffyg adnoddau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys Atodiadau 1- 6 yn yr adroddiad.

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn ysgrifennu at yr Ombwdsmon i

   fynegi pryderon y Pwyllgor ynghylch yr amserlen ar gyfer

   ymchwiliadau i gwynion sydd i'w cwblhau, a

  Bod y Cadeirydd a'r Swyddog Monitro yn cytuno ar yr amserlen ar

   gyfer ysgrifennu at yr Ombwdsmon.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

7.

Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) pdf eicon PDF 187 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Ganlyniadau Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn crynhoi canfyddiadau cyhoeddedig Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gwynion dan y Cod Ymddygiad yng Nghymru o fis Mehefin i fis Rhagfyr 2024.

 

Cododd y Swyddog Monitro y pwyntiau a ganlyn o'r 11 crynodeb achos a gyfeirwyd at yr Ombwdsmon: -

 

  Cyngor Cymuned Llanedidangosodd yr achos hwn fod ymddygiad ac iaith yn ffactorau arwyddocaol wrth benderfynu a oedd y Cod Ymddygiad wedi'i dorri. Rhoddwyd pwyslais ar sylweddoli'r effaith y gellid ei chael ar eraill.

  Cyngor Tref Porthcawl/Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwramlygodd y ddau achos bwysigrwydd datgan buddiant personol neu ragfarnllyd.  Er na chymerwyd unrhyw gamau yn y penderfyniadau hyn, y neges a gafwyd oedd bod angen i Gynghorwyr fod yn ofalus wrth ddatgelu diddordeb er mwyn osgoi cwynion a'u rhoi eu hunain dan straen.

  Cyngor Sir y Fflintyn yr achos hwn, ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth a dynnai sylw at unrhyw ymddangosiad o ffafriaeth, rhagfarn neu ddylanwad gormodol ar dorri'r Cod. Nodwyd dau ffactor risg, y cyntaf oedd risg i'r aelod fod â chŵyn yn ei erbyn, a allai fod yn ddifrifol, gan ddibynnu ar y dystiolaeth, Y risg arall oedd, gallu herio a gwrthdroi'r penderfyniad ei hun os oedd yr aelod wedi bod yn rhan o benderfyniad lleroedd rhagfarn, gan arwain at gostau sylweddol i'r awdurdod.

  Cyngor Dinas Casnewydddylai aelodau osgoi defnyddio'r teitl 'y Cynghorydd' os oeddynt yn mynd i gwyno am rywun yn eu bywyd personol. 

  Cyngor Cymuned Saundersfoot/Cyngor Sir Benfroamlygodd yr achos hwn mai yn nwylo’r Ombwdsmon ac nid yn nwylo’r achwynydd yr oedd penderfyniad i dynnu cwyn yn ôl, os oedd digon o dystiolaeth neu os oedd cwyn er budd y cyhoedd. Y neges oedd yma wrth wneud cwyn i’r Ombwdsmon o dan y Cod oedd na ddylai’r achwynydd drin y mater yn ysgafn oherwydd y gellid dilyn yr achos drwodd.

  Cyngor Cymuned Llandeilo BertholauAtgoffwyd Cynghorau Tref a Chymuned o’r Protocol Datrys Lleol. Ystyriwyd y gellid bod wedi datrys yr ymchwiliad i’r achos heb ymyrraeth yr Ombwdsmon.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr opsiynau gorau i rannu gwybodaeth am grynodebau’r achosion a’r gwersi a ddysgwyd o’r adroddiad hwn gydag aelodau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys y crynodebau achosion a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

  Trafod gyda'r Arweinyddion Grŵp sut y dylai'r Pwyllgor Safonau rannu

   gwybodaeth, cyn anfon llythyr gyda dolenni i aelodau.

  Trafod cynnig y Pwyllgor Safonau i gyflwyno'r gwersi a ddysgwyd o

   benderfyniadau'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus mewn

   sesiynau briffio aelodau gyda'r Prif Weithredwr.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod

8.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru (PDC) pdf eicon PDF 184 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau PDC yng Nghymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn crynhoi achosion a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers y cyfarfodydd  o’r Pwyllgor Safonau a gynlhaliwyd ar 18 Mehefin 2024 a 31 Rhagfyr 2024.

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro grynodeb o'r achosion a ganlyn a gyhoeddwyd gan y Panel: -

 

Roedd yr achos cyntaf yn ymwneud â phenderfyniad i wahardd yr aelod etholedig am 12 mis am dorri'r Cod Ymddygiad drwy ddwyn anfri ar y Cyngor. Roedd yr achos yn ymwneud ag aflonyddu o natur rywiol, lle'r oedd y Cynghorydd wedi anfon negeseuon at unigolyn yn bersonol, nid fel Cynghorydd. Roedd y Cynghorydd wedi dangos edifeirwch am ei weithredoedd ond nid oedd ganddo syniad gwirioneddol o effaith ei ymddygiad. Ymchwiliodd yr Heddlu i'r achos, hefyd, a rhoddwyd rhybudd amodol am dri mis i'r Cynghorydd; rhybudd na chafodd ei gyhoeddi. Roedd y Tribiwnlys Achos wedi penderfynu nad oedd angen i'r mater gael ei gyhoeddi oherwydd, mewn cymuned fach, roedd pawb yn gwybod am y penderfyniad.

 

Roedd yr ail achos yn ymwneud ag unigolyn oedd wedi'i wahardd am dair blynedd. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gyfanswm o naw digwyddiad o ymddygiad rheibus, oedd wedi digwydd dros gyfnod hir o amser. Roedd y Swyddog Monitro a'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymyrryd cyn i'r Heddlu ymchwilio i'r achos. Ni pheidiodd ymddygiad y Cynghorydd o beri pryder, a chymerai ei ymddygiad yn ysgafn, rhywbeth na chymeradwywyd gan y Tribiwnlys. Sefydlwyd Tribiwnlys Dros Dro (oherwydd natur yr ymddygiad), gan mai’r teimlad oedd bod yna risg i'r cyhoedd yn yr achos hwn, a chafodd yr unigolyn ei wahardd am chwe mis wrth i’r ymchwiliad barhau. Ymddiswyddodd y Cynghorydd o'i ddwy rôl fel Cynghorydd cyn i'r mater ddod i ben - ond, y tro hwn, ni chafodd effaith ar y canlyniad.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys y crynodebau achos a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

  Ychwanegu'r materion hyn at gamau gweithredu'r eitem flaenorol o

   ran rhoi gwybod i aelodau am wersi i'w dysgu er mwyn cael darlun

   llawn o ddigwyddiadau.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

 

(Ymunodd y Cynghorydd Iorwerth Roberts â’r cyfarfod am 10:55am)

9.

Ceisiadau am Ganiatad Arbennig

Mae'n arferol i adroddiad gael ei baratoi i'r Pwyllgor Safonau gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau. Yn ystod y cyfnod rhwng y Pwyllgor Safonau ar 18 Mehefin 2024 a diwrnod cyhoeddi’r rhaglen hon, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau. Ar y sail hon, nid oes adroddiad ynghlwm.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd adroddiad, gan y nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau am ganitâd arbennig wedi dod i law yn ystod y cyfnod ers cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Safonau a dyddiad cyhoeddi'r rhaglen hon.

10.

Diweddariad ar Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Pwyllgorau Safonau pdf eicon PDF 88 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Aelodau Annibynnol o Bwyllgorau Safonau yng Nghymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad diweddaru gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar ddau gyfarfod diwethaf o’r Fforwm yr aeth Cadeirydd y Pwyllgorau Safonau iddynt ar 24 Mehefin 2024 a 27 Ionawr 2025.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Cyfreithiol fod y Pwyllgor Safonau wedi derbyn copi o nodiadau'r Cadeirydd yn dilyn y ddau gyfarfod o'r Fforwm. Croesawodd y Cadeirydd unrhyw sylwadau gan aelodau'r Pwyllgor Safonau ar y prif bwyntiau a godwyd yn ei nodiadau o'r cyfarfodydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n mynd i gyfarfod nesaf o’r Fforwm ar 23 Mehefin 2025 ac yn adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.

          

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithredu: Dim

11.

Adolygiad gan y Pwyllgor Safonau o Gofrestrau Diddordebau aelodau etholedig o'r Cyngor Sir pdf eicon PDF 449 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro gyda manylion y canfyddiadau a wnaed yn ystod yr adolygiadau o gofrestrau diddordebau ar gyfer sampl o aelodau etholedig.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar yr uchod. Yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin 2024, cytunodd y Pwyllgor Safonau y dylid cyflwyno adroddiad pellach i gyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at yr adroddiad cyffredinol oedd yn cynnwys y prif faterion a gododd o'r broses adolygu ac a drafodwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf. Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yr adroddiad i Arweinyddion Grŵp ym mis Gorffennaf y llynedd a chafodd ei rannu gyda'r aelodau ym mis Awst 2024.

 

Gan gyfeirio at faterion technegol a chorfforaethol, ysgrifennodd y Pwyllgor Safonau at y Prif Weithredwr ym mis Mai 2024 yn manylu ar y materion corfforaethol a nododd yr aelodau annibynnol wrth gynnal yr adolygiad. Roedd y Prif Weithredwr wedi rhoi diweddariad ar y rhaglen waith a ddatblygwyd i ymateb i'r materion a godwyd, gan dynnu sylw at y cynnydd da a gafwyd. Roedd diweddariad gan y Pennaeth Democratiaeth ar y rhaglen waith yn ei adroddiad yn Eitem 4 ar raglen heddiw ac yn cadarnhau'r ddau fater TGCh oedd yn weddill. Nodwyd bod y materion hyn, hefyd, wedi’u codi gan y Pwyllgor Safonau yn ystod ei adolygiad diwethaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor bod angen cael y feddalwedd TGCh angenrheidiol, fel bod aelodau’n cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol ac anogodd wneud bob ymdrech i ddatrys y materion a nodwyd.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad a'i atodiadau.

  Bod y Pwyllgor Safonau yn cefnogi datblygiadau i uwchraddio meddalwedd

   Mod.Gov er budd yr aelodau.

  Cysylltu â TGCh i ofyn am ddiweddariad ar fuddsoddi mewn meddalwedd

   Mod.Gov yn y dyfodol ar gyfer cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor

   Safonau.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

          

 

12.

Adroddad Adolygiad Annibynnol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) pdf eicon PDF 136 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar yr adroddiad a gyflwynwyd yn dilyn adolygiad annibynnol o Achosion Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn dilyn adolygiad annibynnol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ganfod a yw ei brosesau gwneud penderfyniadau yn addas at y diben.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi derbyn cwyn a gadarnhawyd ym mis Mawrth y llynedd am bostiad amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol ac a gyhoeddwyd gan aelod o staff yr Ombwdsmon. O ganlyniad i'r mater hwn, mynegwyd pryderon ynghylch a oedd proses gwneud penderfyniadau’r Ombwdsmon yn deg ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol.

 

Ar y sail honno, comisiynodd yr Ombwdsmon adolygiad annibynnol, dan arweiniad Dr Melissa McCullough, i ganfod a oedd y gweithdrefnau cwyno a ddilynwyd gan Dîm Cod yr Ombwdsmon i ymchwilio i gwynion yn gadarn.

 

Cyhoeddwyd canfyddiadau cyffredinol yr adolygiad ym mis Medi 2024 a daethant i'r casgliad bod prosesau ymchwilio'r Ombwdsmon yn gadarn. Roedd pob penderfyniad yn systematig, wedi'i gofnodi'n dda, yn seiliedig ar ffeithiau, tystiolaeth ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol.

 

Nododd yr Ombwdsmon fod y saith argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad wedi'u derbyn ac y byddai'r chwe gwers a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adolygiad.

 

Gweithredu: Dim

13.

Ymgynghoriad OGCC ar Argymhelliad Rhif 2 yn yr Adolygiad Annibynnol pdf eicon PDF 257 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y papur ymgynghori a gyflwynwyd yn gysylltiedig ag argymhelliad yn yr adroddiad yn dilyn yr adolygiad annibynnol o Achosion Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn dilyn papur ymgynghori a gyhoeddwyd mewn perthynas ag argymhelliad 2 adolygiad annibynnol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (a drafodwyd yn Eitem 12).

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod yr argymhelliad yn deillio o Ymgynghoriad yr Ombwdsmon yn yr eitem flaenorol. Cyfeiriai at arfer presennol yr Ombwdsmon o beidio â rhoi gwybod i Aelod Cyhuddedig am gŵyn yn ei erbyn nes ei bod wedi'i hasesu.

 

Nodwyd nad oedd Aelodau Cyhuddedig, ar hyn o bryd, yn gwybod am unrhyw gwynion a wnaed yn eu herbyn hyd nes y byddai’r Ombwdsmon wedi cwblhau asesiad cychwynnol. Yn ei hadroddiad, ac er mwyn bod yn deg ac yn dryloyw, daeth Dr McCullough i'r casgliad y dylai'r Ombwdsmon adfer y trefniant blaenorol o roi gwybod i'r Aelod Cyhuddedig yn gynt, adeg cyflwyno cwyn i'r Ombwdsmon. Cytunodd y Pwyllgor Safonau â chynnig Dr McCullough.

 

Anfonwyd gohebiaeth mewn perthynas ag ymgynghoriad yr Ombwdsmon at aelodau etholedig a chyfetholedig y Cyngor a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned i gael eu sylwadau. Roedd y Pwyllgor Safonau wedi derbyn dau ymateb ac wedi trafod y rhain yn rhan o gyfarfod anffurfiol. Aeth Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i gyfarfod o Arweinyddion Grŵp i gyflwyno barn y Pwyllgor Safonau a chael eu barn hwythau. Anfonodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau lythyr yn manylu ar yr holl safbwyntiau a gafwyd cyn y dyddiad cau, 31 Ionawr 2025.

 

Byddai’r Swyddog Monitro’n rhoi gwybod i'r Pwyllgor Safonau am benderfyniad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dilyn yr ymgynghoriad, pan gaiff ei gyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Pwyllgor Safonau’n nodi cynnwys yr adroddiad.

  Rhannu gohebiaeth Cadeirydd y Pwyllgor Safonau gyda'r Pwyllgor

   Safonau.

  Bod y Swyddog Monitro’n rhoi gwybod i'r Pwyllgor Safonau am

   ganlyniad ymgynghoriad yr Ombwdsmon ar ôl iddo gael ei gyhoeddi.

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau’n rhoi gwybod i aelodau etholedig

   a chyfetholedig y Cyngor Sir a'r Cynghorau Tref a Chymuned am

   benderfyniad yr Ombwdsmon ar ei drefniadau ynghylch rhoi gwybod i

   Aelod Cyhuddedig am gŵyn yn ei erbyn.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

14.

Protocolau Datrysiad Lleol a fabwysiadwyd gan awdurdodau yng Nghymru pdf eicon PDF 535 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro gyda manylion y gwaith a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gysylltiedig â’r gwahanol Brotocolau Datrysiad Lleol a fabwysiadwyd gan awdurdodau yng Nghymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn manylu ar y gwaith a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â gwahanol Brotocolau Datrys Lleol oedd wedi'u mabwysiadu gan awdurdodau yng Nghymru.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod disgwyl i bob awdurdod lleol fabwysiadu Protocol i ymdrin â mân gŵynion a chwynion dibwys nad ydynt yn torri'r Cod. Dywedodd fod gan y Cyngor Sir ei brotocol ei hun, oedd wedi'i ddiweddaru dair gwaith ers ei fabwysiadu.

 

Roedd yr Ombwdsmon wedi casglu'r Cynlluniau Datrys Lleol cyfredol gan Awdurdodau Cymru ac wedi derbyn barn gyfreithiol ar egwyddorion a gynhwysid yn y Protocolau. Roedd y Swyddog Monitro wedi cynnal proses fapio i gymharu Cynllun Datrys Lleol presennol y Cyngor Sir â'r egwyddorion a gafwyd yn y farn gyfreithiol.

 

O ganlyniad i hyn, cynghorwyd y Pwyllgor Safonau i ystyried diwygio Cynllun Datrys Lleol y Cyngor, a gynhwysid yn Atodiad 1, yn unol â'r ddau argymhelliad a nodwyd yn Atodiad 2.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Pwyllgor Safonau’n nodi'r egwyddorion ym mharagraff 2 yr

   adroddiad.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n rhannu egwyddorion yr Ombwdsmon gydag

   Arweinyddion Grŵp i'w cynorthwyo yn eu dyletswyddau i hyrwyddo a

   chynnal safonau uchel o ymddygiad a chynorthwyo aelodau yn eu

   dealltwriaeth o (i) y Cynllun Lleihau Priodol; a (ii) y prosesau

   eraill sydd ar gael i aelodau, rhag ofn y bydd pryderon yn codi

   ynghylch safonau uchel o ymddygiad aelodau.

  Bod y Swyddog Monitro’n cyfeirio’r gwelliannau a argymhellid i'r

   Cynllun Lleihau Priodol a nodir yn Atodiad 2 at yr Arweinyddion

   Grŵp, iddynt eu hadolygu a'u hystyried, ochr yn ochr ag argymhelliad

   gan y Pwyllgor Safonau y dylid derbyn y gwelliannau.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n gofyn am ddiweddariad gan y Swyddog

   Monitro yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar faterion sy'n

   ymwneud ag:

 

    A oedd yr Arweinyddion Grŵp wedi cytuno i’r gwelliannau a

      argymhellid i'r Cynllun Lleihau Priodol;

    A oedd ffurf y Cynllun hwn wedi’i ddiweddaru, yn sgil trafodaethau

      gyda’r Arweinyddion Grŵp; ac, 

    A oedd gofyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried rhagor o ddiwygiadau

      canlyniadol i weithdrefnau neu ddogfennau’r Cyngor, er mwyn

      adlewyrchu unrhyw newidiadau i’r Cynllun a’r farn gyfreithlon a

      gafodd yr Ombwdsmon, fel yr adroddwyd arno.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

 

15.

Proses Gwrandawiadau Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 376 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro sy’n cynnwys fersiwn diwygiedig o Weithdrefn Gwrandawiadau’r Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar waith a wnaed i addasu'r broses wrandawiadau ar gyfer cyfeiriadau gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am honiadau o dorri'r Cod Ymddygiad.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod tair cwyn dan ymchwiliad gan yr Ombwdsmon yn haf 2024. Ar y sail honno, gellid cyfeirio'r rhain yn ôl at y Pwyllgor Safonau i benderfynu arnynt. Cynhaliwyd hyfforddiant allanol ar gynnal gwrandawiadau ym mis Medi 2024. Argymhellodd yr hyfforddwr rai newidiadau i'r broses.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y newidiadau hynny a nodwyd yn yr adroddiad wedi'u gwneud i'r broses wrandawiadau, ac roedd y rhain wedi cael ymateb cadarnhaol gan y Pwyllgor pan gawsant eu rhannu ar 29 Tachwedd 2024. Byddai angen eu cadarnhau'n ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno â mabwysiadu'r broses a gynhwysir

   Yn Atodiad 1 yn weithdrefn i benderfynu ar gwynion ynghylch

   camymddygiad aelodau.

  Gwneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi'r broses ddiwygiedig hon, fel y

   bo'n berthnasol.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

16.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 99 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol: -

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus atodedig.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod: -

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A o'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus sydd wedi’i atodi”.

17.

Cwynion am Ymddygiad a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro sy’n rhannu gwybodaeth am yr Hysbysiadau Penderfyniadau a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch ymddygiad; cwynion yr oedd yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio iddynt.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod fersiynau wedi'u golygu o'r pedwar hysbysiad penderfyniad a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon yn ystod chwarteri 1-3 2024/25 (a gyflwynwyd fel data yn Eitem 6 ar raglen heddiw yn unig) wedi'u rhannu â'r Pwyllgor Safonau. Yr achosion oedd materion lleroedd yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio oherwydd nad oedd tystiolaeth o dorri'r Cod Ymddygiad. Roedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau y dylid rhannu'r hysbysiadau penderfyniad â'r Pwyllgor Safonau yn gyfrinachol, er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor gyda'i ddyletswydd i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ymhlith aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau’n nodi cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau.

 

Gweithredu: Dim