Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 12fed Mehefin, 2025 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfodydd pdf eicon PDF 216 KB

Cadarnhau cofnodion drafft cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Chwefror a 26 Chwefror 2025.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor wedi derbyn copi yn ddiweddar o’r gweithredoedd yn codi o’r cofnodion. Cadarnhaodd bod y camau gweithredu naill ai wedi cael eu cwblhau neu eu bod ar y gweill.  

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod arbennig y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Diweddariad Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 83 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar waith llywodraethu a gyflawnwyd gan y Gwasanaethau Democrataidd. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Sgriwtini ddiweddariad ar y cynllun gwella democratiaeth, a ddatblygwyd i fynd i’r afael â materion democrataidd a godwyd gan y Pwyllgor Safonau fel rhan o’i adolygiad o gofrestri aelodau. Rhannwyd y cynllun â’r Pwyllgor y llynedd, a chyflwynwyd diweddariad ym mis Chwefror eleni. 

 

Nodwyd bod 15 o’r 20 gweithred sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun bellach wedi’u cwblhau. O’r 5 sy’n weddill, mae 2 yn weithredoedd parhaus. Y dair weithred sy’n weddill yw: -

 

  Rhoi’r dewis i aelodau gwblhau’r gofrestr ddiddordebau sefydlog ar ochr

   Gymraeg Mod.Gov, yn ogystal â’r Saesneg. Cyflwynwyd cais

   i’r darparwr meddalwedd, ond nid oedd y mater yn cael ei ystyried yn

   flaenoriaeth gan mai dim ond Ynys Môn sydd wedi cyflwyno cais

   i’r fath. Nid yw awdurdodau lleol eraill yng Nghymru’n caniatáu i aelodau

   ddefnyddio’r cyfleuster hwn yn uniongyrchol. Bydd swyddogion y Cyngor,

   felly, yn parhau i gynnig cofnodi’r wybodaeth ar ran aelodau er mwyn lliniaru

   unrhyw broblemau a all godi.

 

  Rhoi’r dewis i aelodau gwblhau ffurflenni cofrestru diddordebau ar-lein, yn

   ogystal â chopïau papur. Nodwyd bod yr ymatebion wedi bod yn

   gadarnhaol, ac mae aelodau’n cwblhau eu ffurflenni ar amser.

 

  Mae’r mater yn ymwneud â chysylltu gwe-ddarllediadau ag eitemau agenda

   wedi’i gwblhau.

 

Awgrymwyd bod y weithred - cwblhau’r gofrestr sefydlog o ddiddordebau ar ochr Gymraeg a Saesneg Mod.Gov - yn cael ei chynnwys ar raglen y Fforwm Pwyllgor Safonau, er mwyn derbyn darlun mwy cyflawn o’r sefyllfa mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n fodlon codi’r mater mewn cyfarfod o’r Fforwm yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod 22 aelod etholedig wedi cwblhau eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2024/25. Atgoffwyd aelodau i gyflwyno eu hadroddiadau erbyn 6 Mehefin 2025, er mwyn eu cyhoeddi erbyn diwedd Mehefin.

 

Nodwyd bod angen i aelodau ddiweddaru’r cofrestri diddordebau cyn pen 28 diwrnod os oes unrhyw newid yn eu hamgylchiadau. Mae angen cwblhau cofrestr ychwanegol ar wahân at ddibenion cwblhau cyfrifon blynyddol y Cyngor.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar ddiweddariadau chwarterol ar hyfforddiant i aelodau a phresenoldeb mewn hyfforddiant mandadol, a anfonir at arweinyddion grwpiau at ddibenion monitro. Nodwyd bod dau o’r pedwar arweinydd grŵp wedi darparu gwybodaeth am anghenion hyfforddi aelodau etholedig drwy’r broses sgyrsiau blynyddol.  

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Bod y Cadeirydd yn cynnwys cwblhau’r gofrestr ddiddordebau

   sefydlog yn ddwyieithog ar fel mater ar Raglen y Fforwm Pwyllgor

   Safonau Cenedlaethol pan gyfyd y cyfle nesaf.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod

4.

Datblygiad Aelodau pdf eicon PDF 244 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol ar y cyfleoedd hyfforddi a datblygu a gynigiwyd i aelodau etholedig ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol bod 55 o gyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi’u cynnig i aelodau ers mis Ebrill 2023. Dywedodd bod hyn yn dyst i ymrwymiad y Tîm Dysgu a Datblygu i gynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant i aelodau. Mae pwys mawr yn cael ei roi ar gwblhau hyfforddiant gorfodol ac mae tueddiadau cadarnhaol wedi cael eu cofnodi. Mae’r ffigyrau a ddiweddarwyd yn cynnwys y niferoedd presenoldeb canlynol: -  

 

Iechyd a Diogelwch    35/35

Diogelu Data              33/35

Seiberddiogelwch       35/35

 

Yr un yw’r gofynion sylfaenol, sef y dylai pob aelod gwblhau’r sesiynau hyfforddi mandadol. Yn ystod y cyfnod nesaf canolbwyntir ar y teitlau sydd â lefelau cwblhau yn isel, yn cynnwys Cydraddoldeb a Diogelu. Nodwyd y byddai sesiynau hyfforddi corfforaethol ar Gydraddoldeb yn cael eu cynnal ar 2 a 8 Gorffennaf 2025.

 

Dywedodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol y byddai ei staff yn gweithio’n agos â’r Gwasanaethau Democratiaeth i ddiwallu unrhyw anghenion hyfforddi yn dilyn cyflwyno newidiadau yn y drefn graffu leol.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar gynnydd wrth weithredu Cam 1af y Cynllun Datblygu ar gyfer Arweinyddion Grwpiau. Nodwyd bod pob Arweinydd Grŵp wedi cwblhau’r Proffil DiSC (personoliaeth) a, lle bo’n berthnasol, maent wedi cymryd rhan mewn sesiwn ddadansoddi un i un gyda hyfforddwr allanol arbenigol.

 

Mae trefniadau ar waith i symud ymlaen i Ail Gam y broses, sy’n cynnwys cyfres o bedair sesiwn hyfforddi ffurfiol dwyieithog fydd yn cychwyn fis nesaf. 

 

Dywedodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol bod llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol ar gael i aelodau ar y dangosfwrdd aelodau ar y Gronfa Ddysgu.

 

Nodwyd nad oedd neb wedi mynychu rhai o’r sesiynau hyfforddi oedd wedi’u rhestru yn Atodiad 1 a mynegwyd pryder ynglŷn â hynny. Nodwyd nad oedd yn bosib rhoi rhesymau penodol am hyn. Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn am wybodaeth am yr aelodau nad ydynt wedi cwblhau hyfforddiant mandadol, er mwyn trafod â’r arweinyddion grwpiau perthnasol yn ystod eu cyfarfodydd yn ddiweddarach yn y mis. 

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau annibynnol yn trafod hyfforddiant mandadol gydag arweinyddion grwpiau’r aelodau hynny nad ydynt wedi cwblhau’r holl fodiwlau.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod

 

(Ymunodd y Cynghorydd Iorwerth Roberts â’r cyfarfod am 10:25 yb)

5.

Cwynion am Ymddygiad a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) pdf eicon PDF 230 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â:-  

 

(a) Cynghorwyr Sir, a

(b) Cynghorwyr Tref a Chymuned

ar gyfer Chwarter 4 o 2024/25

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â’r cwynion chwarterol a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) mewn perthynas ag (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod Atodiad 1 yn cynnwys dau achos hanesyddol yn ymwneud â Chynghorwyr Sir a’u bod yn manylu ar faterion a gyfeiriwyd at OGCC yn ystod Chwarter 4 2024/25. Nid oedd unrhyw faterion newydd wedi’u hadrodd.

 

Roedd OGCC wedi ymchwilio i’r gŵyn gyntaf, a dderbyniwyd ym mis Awst 2023, a chyfeiriodd yr achos at y Pwyllgor Safonau er mwyn cynnal gwrandawiad lleol. Cynhaliwyd y gwrandawiad ym mis Mai 2025. Derbyniodd yr Ombwdsmon yr ail gŵyn yn erbyn Cynghorydd Sir ym mis Chwefror 2024 ac mae’n ymchwilio iddi ar hyn o bryd. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro bod yr adroddiad ar gyfer Chwarter 4 2024/25 yn cynnwys dwy gŵyn am Gynghorwyr Cymuned ac mae un ohonynt yn achos hanesyddol sy’n cael ei hymchwilio ers mis Ionawr 2024. Mae’r Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i’r ail gŵyn.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys Atodiadau 1 a 2.

 

Gweithred: Dim

6.

Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 220 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Ganlyniadau Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro oedd yn crynhoi’r penderfyniadau a gyhoeddwyd gan OGCC mewn perthynas â chwynion Cod Ymddygiad yng Nghymru rhwng Ionawr a Mai 2025.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro mewn perthynas â’r 11 achos a gyfeiriwyd at OGCC: -

 

   Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri - nid oedd yr aelod wedi datgan

    buddiant personol oedd yn rhagfarnu. Wrth asesu’r achos,

    roedd yn amlwg i’r Ombwdsmon bod y Cynghorydd yn ddibrofiad ac nad

    oedd wedi derbyn hyfforddiant; nid oedd unrhyw fudd personol i’r unigolyn;

    nid oedd unrhyw niwed wedi’i achosi i unrhyw un arall; nid oedd

    bwriad ganddo i ddefnyddio ei safle i greu anfantais i eraill; ac ni fyddai’r

    canlyniad yn wahanol pe na bai’r aelod wedi bod yn bresennol yn y

    cyfarfod.  Roedd yr aelod yn derbyn ei fethiannau, er nad oedd bellach yn

    aelod. Roedd amgylchiadau’r gŵyn, a budd y cyhoedd mewn perthynas â’r

    trothwy dau gam, wedi cyfrannu at benderfyniad yr Ombwdsmon yn yr

    achos hwn.

   Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Saltney - roedd yr aelod wedi torri’r Cod

    drwy beidio â datgan buddiant pan ofynnodd am fagiau tywod mewn

    sefyllfa o argyfwng oherwydd llifogydd. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod

    y Cynghorydd wedi torri’r Cod gan nad oedd wedi datgan buddiant. Pe bai’r

    aelod wedi datgan buddiant, gallai hynny fod wedi arwain at dorri’r Cod

    mewn ffordd arall, megis defnyddio ei ddylanwad er mwyn derbyn y bagiau

    tywod. Roedd hon yn sefyllfa o argyfwng ac ni ddylai aelodau ddibynnu ar

    ganlyniad yr achos hwn.

   Cyngor Sir Fyny - yn yr un modd â’r achos uchod, ni ddylai aelodau

    ddibynnu ar y canlyniad gan fod pob achos yn seiliedig ar ei ffeithiau ei

    hun.

   Cyngor Cymuned Llanharan - ystyriwyd ffactorau tebyg i’r achos cyntaf,

    gan gynnwys y ffaith fod y Cynghorydd wedi ymddiswyddo ac nid oedd

    wedi elwa’n bersonol. 

 

Nodwyd bod angen i aelodau fod yn ofalus ac ni ddylent ddibynnu’n ormodol ar yr wybodaeth a gyflwynwyd yn yr achosion hyn, gan nad yw’r ffeithiau llawn yn cael eu datgelu fel rhan o’r penderfyniad a gyhoeddwyd. 

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar sut mae awdurdodau eraill yn cyflwyno crynodebau o achosion yr Ombwdsmon. Awgrymwyd codi’r mater hwn mewn cyfarfod o’r Fforwm Pwyllgor Safonau Cenedlaethol. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys y cronodebau achos a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

  Bod sut mae Crynodebau Achos OGCC yn cael eu cyflwyno mewn

   awdurdodau eraill yn cael ei godi gan y Cadeirydd ar Raglen y Fforwm

   Pwyllgor Safonau Cenedlaethol pan gyfyd y cyfle nesaf.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod

7.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru (PDC) pdf eicon PDF 183 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn crynhoi tri phenderfyniad a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru (PDC) rhwng 1 Ionawr a 31 Mai 2025.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod PDC, wrth ystyried yr achos yn erbyn y cyn Gynghorydd Freya Bletsoe, wedi gwahaniaethu rhwng ei rôl fel Cynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac fel Cynghorydd Tref. Rhoddwyd cosb i’r aelod, sef ei anghymhwyso am 21 mis, ond nid oedd y gosb yn berthnasol i’w rôl fel Cynghorydd Sir. Daeth y Panel i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad oedd yr aelod yn cyflawni ei rôl yn broffesiynol a phriodol.

 

Cyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau gan y cyn Gynghorydd Gareth Baines, cyn Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Tref y Waun. Gwrthodwyd yr apêl oherwydd bod PDC wedi’i dderbyn ar ôl i’r cyfnod o 21 diwrnod ar gyfer apelio ddod i ben. 

 

Roedd y Cynghorydd Steven Bletsoe, Cynghorydd ar Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau lleol i’w atal dros dro am 6 mis. Ym marn PDC, nid oedd y toriadau yn rhai o’r math mwyaf difrifol ac felly roedd sancsiwn o 6 mis yn cael ei hystyried yn ormodol, gan mai dyma’r cyfnod mwyaf y gellir ei osod. Penderfynodd y Panel gyfeirio'r mater yn ôl at y Pwyllgor Safonau gydag argymhelliad y dylid atal yr Apelydd am 10 wythnos. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y crynodebau achos.

 

Gweithred: Dim

8.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig

Mae'n arferol i adroddiad gael ei baratoi i'r Pwyllgor Safonau gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau.  Yn ystod y cyfnod rhwng y Pwyllgor Safonau ar 6 Chwefror 2025 a diwrnod cyhoeddi’r rhaglen hon, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau. Ar y sail hon, nid oes adroddiad ynghlwm. Ar sail hyn, nid oes adroddiad wedi’i atodi.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd adroddiad gan na dderbyniwyd yr un cais am ganiatâd arbennig yn ystod y cyfnod rhwng cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau a dyddiad cyhoeddi rhaglen y cyfarfod hwn.

9.

Diweddariad ar Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Pwyllgorau Safonau pdf eicon PDF 106 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Aelodau Annibynnol o Bwyllgorau Safonau yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â’r uchod.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro nad oedd cyfarfod o’r Fforwm wedi’i gynnal ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ym mis Chwefror 2025. 

 

Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y Fforwm yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin 2025 a bydd y Cadeirydd yn mynychu. Yn dilyn y cyfarfod, bydd y Cadeirydd yn rhannu ei nodiadau a chofnodion y cyfarfod gyda’r Pwyllgor hwn.

 

Roedd y Cadeirydd yn croesawu unrhyw eitemau er mwyn iddo gyflwyno cais iddynt gael eu cynnwys ar raglenni cyfarfodydd y fforwm yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithred: Dim

10.

Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau 2024/2025 pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro yn darparu adroddiad blynyddol drafft y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â’r uchod.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod gofyniad statudol ar y Pwyllgor Safonau i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol.  Dywedodd bod yr adroddiad drafft yn anghyflawn a bod rhaid cynnwys asesiad y Pwyllgor o gydymffurfiaeth arweinyddion grwpiau â’u dyletswydd statudol mewn perthynas ag ymddygiad eu haelodau. Bydd aelodau o’r Pwyllgor Safonau yn cyfarfod ag arweinyddion grwpiau i drafod y materion hyn, gan ddechrau’r wythnos nesaf. Bydd adborth o’r cyfarfodydd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad blynyddol, a bydd angen i’r Pwyllgor Safonau gytuno ar unrhyw newidiadau i’r adroddiad drafft.  Cyflwynir yr adroddiad terfynol i’r Cyngor Llawn ym mis Medi 2025. 

 

Tynnwyd sylw at y mân gywiriadau canlynol oedd angen eu gwneud i’r fersiynau electronig o’r adroddiad blynyddol drafft: -

 

1.       Tudalen 66 - Rhagair - Awgrymwyd bod angen newid (Awst 2024) wrth

       enw’r Cadeirydd i (o Awst 2024).

 

2.       Tudalen 69 - Adran arwaith gyda Chynghorau Tref a Chymuned yr

       ardal” - angen newid yr adroddiad Saesneg yn unigdylid cyfnewid ‘was’

       am ‘with' yn y frawddeg ganlynol - “The Committee’s programme of work

       noted that it would conduct a review was one Community Council”.

 

3.       Tudalen 72 - pwynt bwledNewyddlenni’ - camgymeriad teipio yn y gair

      ‘Newsletters’ yn y llinell gyntaf yn yr adroddiad Saesneg.

 

PENDERFYNWYD: -

 

   Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2024/25

    a’i atodiadau, sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad,

    ac yn amodol ar wneud y mân newidiadau a nodir uchod.

   Bod yr adroddiad blynyddol drafft cyfredol (Atodiad 1) yn cael ei

    ddiweddaru yn unol â gwybodaeth a gesglir yn ystod y cyfarfodydd

    gydag arweinyddion grwpiau; a

   Bod unrhyw newidiadau i’r Adroddiad Blynyddol (Atodiad 1) yn cael

    eu gwneud naill ai mewn cyfarfod anffurfiol, neu drwy ohebu â

    holl aelodau’r Pwyllgor, yn unol â chyfarwyddiadau’r Cadeirydd ac ar

    ôl trafod gyda’r Swyddog Monitro.

   Cyflwyno’r adroddiad blynyddol terfynol i’r Cyngor llawn ym mis Medi

    2025.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod

11.

Hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 179 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn nodi manylion presenoldeb Cynghorwyr Tref a Chymuned mewn sesiynau hyfforddiant a drefnwyd gan y Pwyllgor yn Hydref 2024.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar hyfforddiant Cod Ymddygiad a gyflwynwyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned yn yr Hydref 2024.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Safonau wedi trefnu hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn yr Hydref 2024. Hyfforddiant diweddaru canol tymor oedd hwn, gan fod y Pwyllgor Safonau wedi trefnu hyfforddiant tebyg yn dilyn yr Etholiadau ym mis Mai 2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod y Cynghorau Tref a Chymuned wedi cael cynnig 4 sesiwn hyfforddi ar-lein a ddarparwyd gan Un Llais Cymru, h.y. dwy sesiwn Gymraeg a dwy sesiwn Saesneg.  Anfonwyd gohebiaeth at y Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn dwyn eu sylw at yr hyfforddiant, a rhannwyd gwybodaeth yn y Newyddlen chwarterol ac mewn cyflwyniad i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024.  Roedd 80 o leoedd ar gael ac roedd 66 o Gynghorwyr wedi cofrestru a 48 wedi mynychu’r hyfforddiant. Nodwyd bod 19 o’r 40 Cyngor Tref a Chymuned wedi anfon o leiaf un cynrychiolydd i’r hyfforddiant. Roedd hyn yn galonogol o gymharu â’r nifer oedd wedi mynychu’r hyfforddiant blaenorol. Nodwyd hefyd ei bod yn fanteisiol i Gynghorwyr dderbyn hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, er nad yw’n ofyn statudol.  Ystyrir bod methu â mynychu hyfforddiant ar y Cod yn ffactor gwaethygol, fel y nodir yng Nghanllawiau Panel Dyfarnu Cymru.

 

Mynegwyd pryderon nad oedd cynrychiolwyr o 20 Cyngor Tref a Chymuned yn bresennol yn y sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd yn 2022 nac yn 2024.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Pwyllgor Safonau yn ystyried cynnwys yr adroddiad ac Atodiad

   1 a’r wybodaeth oedd wedi’i chynnwys mewn perthynas â’r canlynol

   yn arbennig (a) y nifer oedd yn bresennol yn y sesiynau hyfforddi a

   (b) nifer y Cynghorau Tref a Chymuned nad oedd yr un o’u haelodau’n

   bresennol yn sesiynau hyfforddi.

  Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr 20 Cyngor Tref a Chymuned nad

   oedd yr un o’u haelodau wedi mynychu’r sesiynau hyfforddi yn 2022

   nac yn 2024, gan fynegi siom y Pwyllgor a thynnu sylw at

   bwysigrwydd hyfforddiant a manteision mynychu’r sesiynau hyn.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod

12.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 100 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol: “Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

13.

Materion Ymddygiad

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn rhannu manylion am Hysbysiadau Penderfyniadau a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, a oedd yn darparu gwybodaeth bellach am hysbysiad penderfyniad a dderbyniwyd gan OGCC yn ystod Chwarter 4, 2024/25 mewn perthynas ag achos o dorri’r Cod Ymddygiad gan Gynghorydd Tref a Chymuned penodol, ac a drafodwyd yn gyhoeddus yn gynharach yn ystod y cyfarfod, o dan Eitem 5 ar raglen. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro nad oedd yr achos o dorri’r Cod Ymddygiad, ym marn OGCC, yn ddigon difrifol i’w ymchwilio, ac na fyddai er budd y cyhoedd. Er hynny, roedd yr Ombwdsmon wedi cynghori’r unigolyn i dderbyn hyfforddiant perthnasol ar y Cod Ymddygiad yn ddiymdroi.

 

Trafododd y Pwyllgor bwyslais OGCC ar yr angen i dderbyn hyfforddiant ar y Cod ac ystyriwyd hynny yng ngoleuni’r drafodaeth a gafwyd o dan Eitem 11 heddiw, o ystyried bod hyfforddiant yn cynorthwyo i addysgu Cynghorwyr. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Gweithred: Dim

14.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 129 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol: “Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

15.

Y Broses ar gyfer Penodi Aelodau Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro er mwyn darparu manylion y broses i’w dilyn wrth benodi aelod annibynnol newydd ar y Pwyllgor Safonau ym mis Rhagfyr 2025. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â phroses benodi aelodau annibynnol newydd i’r Pwyllgor Safonau gan ei Banel Dethol.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod cyfnod mewn swydd un aelod annibynnol yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2025. Bydd angen i’r Pwyllgor Safonau gynnal proses recriwtio yn ystod yr Haf 2025. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro y byddai safbwyntiau’r Pwyllgor Safonau’n ddefnyddiol i’r Panel Dethol eu hystyried wrth drefnu’r broses recriwtio. Gofynnwyd am farn y Pwyllgor Safonau ynglŷn â’r meini prawf a’r dogfennau oedd wedi’u cynnwys yn Atodiadau 1, 2 a 3 i’r adroddiad, fel rhan o’r broses benodi. 

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried a derbyn y cwestiynau mewn ysgrifen italig yn yr adroddiad, a’i fod yn argymell fod ei safbwyntiau ar y materion canlynol yn cael eu cyflwyno i’r Panel Dethol mewn gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, yn dilyn trafodaeth â’r Swyddog Monitro: -

 

(a)    Dylid gofyn am y gofynion statudol yn unig gan ymgeiswyr (dim

      meini prawf dewisol lleol ychwanegol), mewn ymdrech i apelio at

      ystod eang o unigolion.

(b)    Ystyrirbod y ffurflen gais a’r wybodaeth a ddarperir i ddarpar

      ymgeiswyr yn eglur ac ystyrlon.

(c)    Bod y Panel Dethol yn trafod â’r adran Adnoddau Dynol sut y gellir

      sicrhau fod yr hysbyseb yn apelio at groestoriad o gymdeithas.

(d)    Bod trefn cwestiynau’r cyfweliad yn cael ei newidcynigiwyd

      addasu’r drefn rifyddol a defnyddio mwy o gwestiynau agored mewn

      perthynas â chwestiynau 3, 4 a 5.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod