Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 22ain Ionawr, 2026 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mrs Gill Murgatroyd a Mr David Davies ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 7 ar raglen heddiw. Mae’r ddau’n aelodau o Bwyllgor Safonau Sir y Fflint ond ni wnaethont gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad ar yr eitem.

2.

Cofnodion Cyfarfodydd pdf eicon PDF 248 KB

Cadarnhau cofnodion drafft cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -

 

·        16 Mai 2025 (Gwrandawiad Lleol)

·        12 Mehefin 2025

·        6 Tachwedd 2025 (Panel Dethol)

·        13 Tachwedd 2025 (Panel Dethol)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir:-

 

·   16 Mai 2025 (Gwrandawiad Lleol)

·   12 Mehefin 2025

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y camau gweithredu yn y cofnodion naill ai wedi cael eu cwblhau neu eu bod yn derbyn sylw. 

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft Panel Dethol y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a’u nodi er gwybodaeth:-

 

·   6 Tachwedd 2025

·   13 Tachwedd 2025

 

3.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 309 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol er mwyn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Safonau ar yr hyfforddiant a gynigiwyd i aelodau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn ym mis Mehefin 2025. 

 

Dywedodd y Swyddog Hyfforddi AD fod nifer yr aelodau sydd wedi cwblhau hyfforddiant mandadol wedi cynyddu. Dywedodd mai Diogelu sydd â’r gyfradd gwblhau isaf, sef 83%. Pwysleisiwyd fod cymorth ar gael i gael mynediad at fodiwlau hyfforddiant ar y Gronfa Ddysga os oes angen. Nodwyd na fydd angen i’r 29 aelod sydd wedi cwblhau’r modiwl Diogelu ailymweld â’r hyfforddiant yn ystod y cyfnod adnewyddu presennol o dair blynedd. 

 

Bydd angen i’r Cyngor addasu ei hyfforddiant Diogelu er mwyn adlewyrchu Fframwaith Hyfforddiant newydd Gofal Cymdeithasol Cymru a’r canllawiau a ddiweddarwyd. Gofynnwyd am eglurder ynglŷn â’r rhaglen newydd ar gyfer modiwlau Diogelu a sut y byddai’n cael ei gweithredu. 

 

Nodwyd fod cynnydd da’n parhau i gael ei wneud ar y Cynllun Datblygu ar gyfer Arweinyddion Grwpiau. Cynhelir y sesiwn hyfforddi olaf yn fuan, a darperir adborth maes o law.  

 

Mae cydweithio agos rhwng y Tîm Dysgu a Datblygu AD a’r Gwasanaethau Democrataidd yn parhau i fod yn effeithiol.

 

Nodwyd hefyd y byddai’r tîm Dysgu a Datblygu yn anfon nodyn i atgoffa Aelodau pan fydd angen diweddaru hyfforddiant mandadol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am restr o aelodau sydd eto i gwblhau hyfforddiant mandadol.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·        Nodi cynnwys yr adroddiad.

·        Bod y Tîm Dysgu a Datblygu AD yn anfon nodyn atgoffa at aelodau  sydd eto i gwblhau hyfforddiant Diogelu.

·        Bod y Swyddog Hyfforddi AD yn anfon rhestr o aelodau nad ydynt wedi mynychu hyfforddiant mandadol at y Cadeirydd.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod

4.

Diweddariad Gwasanaethau Democratiadd pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth mewn perthynas â gwaith llywodraethiant a gyflawnwyd gan y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod 23 o aelodau etholedig wedi cyflwyno adroddiadau blynyddol ar gyfer 2024/25, ychydig yn llai na’r llynedd.  Dywedodd fod lefelau ymateb Ynys Môn yn ffafriol o gymharu â chynghorau eraill yng ngogledd Cymru. Rhennir templed ar gyfer cofnodi adroddiadau blynyddol 2025/26 gydag aelodau ym mis Mawrth, i’w cwblhau erbyn diwedd mis Mai a’u cyhoeddi ym mis Mehefin 2026.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod aelodau’n cael eu hatgoffa i ddiweddaru eu Cofrestrau o Ddiddordebau cyn pen 28 diwrnod os bydd unrhyw newid yn eu hamgylchiadau. Anfonwyd nodyn atgoffa ar 13 Ionawr gyda chyfarwyddiadau ar sut i ddiweddaru’r gofrestr ar-lein.  

 

Nodwyd bod Arweinyddion Grwpiau’n derbyn diweddariad rheolaidd ynghylch hyfforddiant eu haelodau. Mae sgyrsiau blynyddol hefyd yn cael eu cynnal rhwng Arweinyddion Grwpiau ac aelodau unigol, er mwyn trafod eu hanghenion hyfforddi a datblygu.

 

Bydd adolygiad o drefniadau etholiadau Cynghorau Tref a Chymuned yn cychwyn y mis hwn, er mwyn ystyried p’un a yw’r nifer bresennol o wardiau etholiadol ac aelodau ar Gynghorau Tref a Chymuned yn addas i’r pwrpas.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithred: Dim

 

5.

Cwynion am Ymddygiad a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) pdf eicon PDF 534 KB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â: -  

 

(a) Cynghorwyr Sir, a

(b) Cynghorwyr Tref a Chymuned

ar gyfer Chwarter 1,2 a 3

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â chwynion ymddygiad a dderbyniwyd yn erbyn (a) Cynghorwyr Sir a (b) Cynghorwyr Cyngor Tref/Cymuned, ar gyfer Chwarter 1, 2 a 3 2025/26.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod OGCC wedi ymchwilio i ddau achos yn erbyn Cynghorwyr Sir yn ystod y cyfnod. Cyfeiriwyd yr achos cyntaf, a dderbyniwyd ym mis Awst 2023, at y Pwyllgor Safonau er mwyn cynnal gwrandawiad. Cynhaliwyd gwrandawiad lleol ar 16 Mai 2025, ac mae gweithredoedd yn deillio o’r mater bellach wedi’u cwblhau ac mae’r achos wedi’i gau.

 

Mae’r ail achos, a dderbyniwyd ym mis Awst 2024, yn parhau i gael ei ymchwilio.  Ni dderbyniwyd unrhyw ddiweddariad gan OGCC.

 

Derbyniwyd un gŵyn gan OGCC mewn perthynas â Chynghorwyr Tref/Cymuned yn ystod Chwarter 1, a chynhaliwyd ymchwiliad cychwynnol. Yn ystod Chwarter 2, daeth OGCC i’r casgliad nad oedd y Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri a chaewyd yr ymchwiliad. Derbyniodd OGCC ddwy gŵyn newydd ynglŷn â’r un mater yn ystod Chwarter 2, ond cawsant eu gwrthod. 

 

Ystyriwyd tri chwyn newydd yn ystod Chwarter 3; gwrthodwyd dau yn ddiweddar ac mae un yn cael ei ymchwilio.   

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys Atodiadau 1 - 6 yn yr adroddiad.

 

Gweithred: Dim

6.

Penderfyniadau cyhoeddus ar gyfer holl Gynghorau Cymru gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 244 KB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Ganlyniadau Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro oedd yn crynhoi’r penderfyniadau a gyhoeddwyd gan OGCC mewn perthynas â chwynion Cod Ymddygiad yng Nghymru rhwng 1 Mehefin a 31 Rhagfyr 2025.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro (LL) fod OGCC wedi cyhoeddi dwy Newyddlen Chwarterol, ynghyd ag Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024/25.

 

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y pwyntiau dysgu canlynol mewn perthynas â’r canfyddiadau a gyhoeddwyd:-

 

·        Caniateir trafodaeth a her gadarn rhwng aelodau a swyddogion o dan y Cod. Tynnwyd sylw at yr angen i’r ddwy ochr ddangos parch at y naill a’r llall.

·        Atgoffwyd aelodau bod ymddiheuriad cynnar, didwyll, a’r ffaith bod yr aelod wedi meddwl am yr hyn a wnaeth yn bethau cadarnhaol ym marn yr Ombwdsmon.

·        Gellir cynorthwyo sefyllfa aelod yn fawr trwy ddarparu tystiolaeth ar y pryd a thystiolaeth o gadw cofnodion ac e-byst.

·        Mewn perthynas ag un achos penodol, roedd yr Ombwdsmon yn awyddus iawn i ddeall yr hyfforddiant a ddarparwyd i aelodau ynghylch y Gorchmynion Sefydlog a Threfniadau Llywodraethu. Er y penderfynwyd nad oedd budd i’r cyhoedd trwy gymryd camau pellach, roedd yn amlwg nad oedd yr aelod wedi derbyn hyfforddiant yn yr achos hwnnw.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid anfon crynodeb o’r negeseuon allweddol yn dilyn pob cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau at Gynghorau Tref/Cymuned. Trafododd y Pwyllgor y canfyddiadau a gyhoeddwyd gan OGCC ar gyfer dau achos, h.y. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Powys a Chyngor Tref y Trallwng, a chytunodd anfon y canfyddiadau a gyhoeddwyd ymlaen at y Cynghorau Tref/Cymuned. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

·        Nodi cynnwys y crynodebau achos.

·        Cyfeirio prif bwyntiau’r canfyddiadau a gyhoeddwyd gan OGCC mewn perthynas â’r ddau achos uchod i’r Cynghorau Tref/Cymuned er gwybodaeth.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

7.

Penderfyniadau Panel Dyfanu Cymru pdf eicon PDF 197 KB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn crynhoi tri phenderfyniad a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru (PDC) rhwng 1 Ionawr a 31 Mai 2025.

 

Tynnodd y Swyddog Monitro sylw at y pwyntiau dysgu o’r pum achos y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at ddau bwynt yn ymwneud â’r achos cyntaf, gyda’r cyntaf er ystyriaeth y Pwyllgor Safonau yn unig. Cyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau cyn anfon yr achos ymlaen at Banel Dyfarnu Cymru (PDC). Canfu’r Tribiwnlys Apêl nad oedd y Pwyllgor Safonau wedi esbonio ei benderfyniad mewn llythyr penderfyniad ac roedd wedi methu â dangos sut y bu iddo arfarnu tystiolaeth, ac nid oedd wedi nodi rhesymau clir i gefnogi ei benderfyniadau.

 

Mae’r ail bwynt dysgu’n berthnasol i’r Pwyllgor Safonau a’i aelodau, sef nad oedd hawl gan y Pwyllgor Safonau i orfodi aelodau etholedig i fynychu hyfforddiant, dim ond eu hannog i gymryd rhan. 

 

Mae’r ail achos yn ymwneud â gwahardd aelod am bedair blynedd. Y prif bwynt yn yr achos hwn yw bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn cael blaenoriaeth yn hytrach nag Erthygl 10 - ‘Rhyddid i Lefaru’ mewn cyd-destun gwleidyddol, ac mae hynny’n cynnig amddiffyniad sylweddol yn y math hwn o gŵyn.

 

Roedd y pedwerydd achos yn gysylltiedig â thorri mwy nag un agwedd o’r Cod. Y wers a ddysgwyd oedd bod PDC wedi casglu fod y ffeithiau’n cefnogi’r penderfyniad bod sawl agwedd o’r Cod wedi cael eu torri. Er bod yr unigolyn yn aelod, penderfynodd y Panel nad oedd yn gweithio fel aelod ar y pryd a bod y toriad wedi digwydd yn ei fywyd preifat. Penderfynodd PDC fod yr aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel Cynghorydd a’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y crynodebau achos.

 

Gweithred: Dim

8.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 257 KB

Mae'n arferol i adroddiad gael ei baratoi i'r Pwyllgor Safonau gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â chanlyniad y ceisiadau am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau ers y cyfarfod diwethaf.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Keith Roberts a’r Cynghorydd Jeff Evans wedi cyflwyno ceisiadau am ganiatâd arbennig gan eu bod yn cynrychioli’r Awdurdod Lleol ar Fwrdd Llywodraethu Ysgol Uwchradd Caergybi. Nodwyd fod y Cynghorydd Jeff Evans yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol hefyd.

 

Ar 9 Hydref 2025, ystyriwyd y ddau gais gan Banel Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau. Roedd y ddau Gynghorydd yn gofyn am ganiatâd i gymryd rhan mewn trafodaethau a phenderfyniadau yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 15 Hydref 2025 mewn perthynas â’u diddordebau yn y cynnig ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi.  

 

Roedd y Cynghorydd Roberts wedi datgan diddordeb personol mewn perthynas â’r eitem hon. 

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn nodi’r caniatâd arbennig a roddwyd a’r amgylchiadau dros eu caniatáu.

 

Gweithred: Dim

9.

Diweddariad y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Diprwy Swyddog Monitro pdf eicon PDF 100 KB

Adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro er mwyn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ynghylch materion sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Safonau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro (GPW) grynodeb o’r camau a gymerwyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, fel a ganlyn: -

 

·     Cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2024/25 gan y Cyngor llawn ar 25.9.25. Anfonwyd copi o’r adroddiad at OGCC.

·        Ysgrifennodd y Pwyllgor Safonau at bob Cyngor Tref a Chymuned ar 6.8.25

     i ofyn am gopi o’u cynlluniau hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. Dim ond 6 ymateb a dderbyniwyd hyd yma.

·     Ysgrifennodd y Cadeirydd at OGCC ar 16.7.25 i fynegi pryderon y Pwyllgor ynghylch faint o amser mae’n cymryd i ymchwilio i honiadau. Derbyniwyd ymateb gan OGCC oedd yn cyfeirio at gynlluniau diweddar i wella eu hamseroedd, gan gynnwys dyrannu adnoddau ar gyfer swyddi newydd yn y tîm Cod Ymddygiad.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch yr ymatebion gwael gan Gynghorau Tref/Cymuned.  Roedd aelodau o’r farn fod angen atgyfnerthu’r neges fod gofyn statudol i bob Cyngor fod â chynllun hyfforddi. Cyfeiriodd y Cadeirydd at drafodaeth anffurfiol flaenorol, pan gytunodd y Pwyllgor i ddatblygu rhaglen hyfforddi i adolygu gwaith y Cynghorau Tref/Cymuned. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Monitro fod rhaglen hyfforddi’n cael ei datblygu. Dywedodd y bydd angen dull sydd wedi’i dargedu’n well, yn ogystal â throsolwg ychwanegol gan y Pwyllgor Safonau. 

 

Awgrymodd y Swyddog Monitro y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu at Glercod Cynghorau Tref/Cymuned a gofyn am fanylion cyfleoedd hyfforddi a ddarparwyd ganddynt i’w Cynghorwyr yn ystod cyfnod o ddeuddeg mis, ac i ofyn hefyd am eu trefniadau ar gyfer y dyfodol. Nodwyd y byddai’r mater hwn yn cael ei drafod ymhellach yn anffurfiol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

Gweithred: Dim

10.

Nodiadau Briffio'r Pwyllgor Safonau ar gyfer Aelodau pdf eicon PDF 99 KB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y nodiadau briffio’r Pwyllgor Safonau ar gyfer aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â’r uchod.

 

Ar ôl ystyried adroddiad Archwilio Cymru mewn perthynas â materion llywodraethu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro (GPW) y cytunwyd bod angen adolygu ac ailgyhoeddi’r nodiadau briffio i aelodau yn unol â’r amserlen a nodir yn yr adroddiad.  Ystyrir bod diweddaru ac ailgyhoeddi’r nodiadau briffio yn arfer dda, er mwyn cefnogi a chynnal safonau da.

 

Pan fydd yr adolygiad wedi’i gwblhau, bydd y nodiadau briffio diwygiedig yn cael eu rhannu ag aelodau, Arweinyddion Grwpiau a’r Pwyllgor Safonau. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod yr Arweinyddion Grwpiau wedi cytuno i hyrwyddo’r nodiadau briffio ymysg eu haelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r camau nesaf mewn perthynas â’r adolygiad ac ailddosbarthu Nodiadau Briffio Aelodau i aelodau, Arweinyddion Grwpiau a’r Pwyllgor Safonau.

 

Gweithred: Dim

11.

Fforwm Pwyllgor Safonau Cenedlaethol Cymru pdf eicon PDF 284 KB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar gyfarfod Fforwm Pwyllgor Safonau Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd 23 Mehefin 2025. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â’r uchod.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro (GPW) fod cyfarfod o’r Fforwm wedi’i gynnal ar 23 Mehefin 2025. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar faint o amser mae OGCC yn ei gymryd i ymchwilio i honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad.

 

          Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y Fforwm yn cael ei gynnal ar 26 Ionawr 2026, a bydd y Cadeirydd yn mynychu. Yn dilyn y cyfarfod, bydd y Cadeirydd yn rhannu ei sylwadau a chofnodion y cyfarfod gyda’r Pwyllgor hwn.

 

          Roedd y Cadeirydd yn croesawu unrhyw eitemau er mwyn iddo gyflwyno cais i’w cynnwys ar raglenni cyfarfodydd y fforwm yn y dyfodol. 

 

          PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithred: Dim

12.

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau ac Ymddygiad Aelodau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 pdf eicon PDF 135 KB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau Ac Ymddygiad Aelodau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â’r ddeddfwriaeth uchod a ddaeth i rym ar 5 Ionawr 2026.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro (LL) fod y newidiadau i’r ddeddfwriaeth yn cynnwys pennu meini prawf cymhwysedd ar gyfer aelodau lleyg ar Bwyllgorau Safonau. Mae’r newidiadau’n ymwneud â’r cyfnod o amser sy’n gorfod mynd heibio cyn y gall person a fu’n gweithio mewn awdurdod perthnasol yn y gorffennol wneud cais i fod yn aelod lleyg o Bwyllgor Safonau.

 

Gwnaethpwyd newidiadau pellach i Orchymyn Cod Ymddygiad (Cymru) 2008 trwy ychwanegu diffiniad o’r ‘nodweddion gwarchodedig’ a diwygio paragraff 4(a). Mae’r newid yn ehangu’r warchodaeth ac mae’n sicrhau fod y Cod yn cyd-fynd â chyfraith cydraddoldeb.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y newid yn y ddeddfwriaeth wedi’i gynnwys yn Rhaglen Waith y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, a bydd yn gweithio gyda’r Grŵp Tasg a Gorffen sy’n delio â materion a hyfforddiant cydraddoldeb.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·        Nodi’r diwygiadau a’r camau fydd yn cael eu cymryd i weithredu a chydymffurfio â’r Rheoliadau.

·        Bod y Pwyllgor Safonau yn ysgrifennu at aelodau i gadarnhau’r newidiadau yn y ddeddfwriaeth.

·        Bod y Pwyllgor Safonau yn codi’r mater gyda Rheolwr Polisi a’r Gymraeg y Cyngor, er mwyn derbyn eglurhad ynglŷn â’r hyn sydd ynghlwm â’r gofyniad o ran deddfwriaeth, cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

13.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 99 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol: -

 

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus atodedig.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1972, cau allan y

wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn

oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

14.

Materion Ymddygiad

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn rhannu manylion am Hysbysiadau Penderfyniadau a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, oedd yn darparu gwybodaeth bellach ynglŷn â phenderfyniadau OGCC yn ystod Chwarteri 1, 2 a 3 2024/25.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro (LL) fod y tri hysbysiad penderfyniad a drafodwyd o dan Eitem 5 ar y rhaglen yn gysylltiedig â Chynghorwyr Tref/Cymuned wedi cael eu crynhoi yn Atodiad 1 er mwyn eu trafod ymhellach.

 

Yn yr achos cyntaf, nodwyd fod OGCC yn ymwybodol o faterion yn gysylltiedig â mynediad i’r cyhoedd yn ystod cyfarfodydd y Cyngor Tref/Cymuned hwn. Daeth i’r casgliad nad oedd tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â’r Cod, felly ni chymerwyd camau pellach.

 

Yn yr ail achos, penderfynodd OGCC nad oedd y gŵyn yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cynnal ymchwiliad. Rhoddwyd cyfle i’r achwynydd gyflwyno gwybodaeth bellach. Cyflwynwyd gwybodaeth gan yr achwynydd a chafodd ei ystyried. Daeth OGCC i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth resymol gref o dorri’r Cod, felly ni chynhaliwyd ymchwiliad.

 

Yn y trydydd achos, rhoddwyd dewis i’r achwynydd ddarparu gwybodaeth bellach i gefnogi’r achos, ond ni chyflwynwyd gwybodaeth bellach. Penderfynodd OGCC beidio ag ymchwilio ymhellach i’r gŵyn.    

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithred: Dim