Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd ar gyfer y Cyfarfod Ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod yma. Cofnodion: Penodwyd Mr John R Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 340 KB Cadarnhau cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019, gan gynnwys unrhyw faterion yn codi.
[Yr aelodau all bleidleisio ar yr eitem yma ydi’r aelodau oedd yn bresennol yn y cyfarfod ar 17 Medi 2019, sef John R Jones, Iorwerth Roberts, Keith Roberts a Dafydd Rhys Thomas.
Ni all aelodau newydd y Pwyllgor Safonau bleidleisio ar yr eitem yma.] Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019 i’r Pwyllgor.
Esboniodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) nad oedd cworwm yn bresennol ac nad oedd modd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019 gan mai dim ond dau aelod a oedd yn bresennol yn y cyfarfod blaenorol oedd yn bresennol, sef y Cadeirydd a’r Cynghorydd Keith Roberts. Dywedodd bod rhaid cael tri aelod a oedd yn bresennol yn y cyfarfod blaenorol i gadarnhau bod y cofnodion yn gywir.
Cyflwynir y cofnodion drafft i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar 11 Mawrth 2020 i’w cadarnhau. Cadarnhaodd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Roberts bod y cofnodion yn gywir yn eu barn nhw.
Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ei bod wedi anfon dogfen “materion yn codi” at holl aelodau’r pwyllgor Safonau yn rhoi manylion am y camau a gymerwyd, yn unol â chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) at eitem 11 yn y cofnodion – ‘Adroddiad Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru’. Rhannwyd e-bost gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau mewn perthynas â chyfarfod nesaf y Fforwm ac unrhyw eitemau yr oedd yr aelodau’n dymuno eu hawgrymu ar gyfer y rhaglen. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Ethol Cadeirydd ar gyfer Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ynglŷn â’r broses o ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau, yn unol â Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 a Pharagraff 2.9.2.6.2 Cyfansoddiad y Cyngor.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod rhaid i’r Pwyllgor Safonau ethol Cadeirydd o blith ei aelodau annibynnol. Mae gan bob aelod o’r Pwyllgor bleidlais. Bydd y Cadeirydd yn cael ei ethol am gyfnod o bedair blynedd, neu hyd nes y bydd tymor yr aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau’n dod i ben. Bydd y Cadeirydd yn gymwys i gael ei ail-ethol i’r rôl.
PENDERFYNWYD ethol Mr John R Jones yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Safonau am gyfnod o bedair blynedd (a bydd yn gymwys i gael ei ail-ethol).
Gweithredu: Gweler y penderfyniad uchod
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Safonau am ymddiried ynddo drwy ei ethol yn Gadeirydd, a dywedodd y byddai’n ceisio gwneud ei orau yn y swydd. Roedd yn croesawu cefnogaeth y Pwyllgor ac yn edrych ymlaen at weithio fel tîm, gyda chymorth swyddogion. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn bwriadu gwasanaethu am un tymor yn unig fel bod yr awenau’n cael eu trosglwyddo’n llyfn i ba bynnag aelod annibynnol fydd yn cael ei ethol yn Gadeirydd ar y Pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y weithdrefn i ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau, yn unol â Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod rhaid i’r Pwyllgor Safonau ethol Is-gadeirydd o blith yr aelodau annibynnol am gyfnod o bedair blynedd, neu hyd nes bydd cyfnod yr aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau’n dod i ben. Bydd yr Is-gadeirydd yn gymwys i gael ei ail-ethol hefyd. Mae gan bob aelod o’r Pwyllgor hawl i bleidleisio.
Cafwyd trafodaeth ynghylch a ddylid ystyried tymor o lai na phedair blynedd ar gyfer rôl yr Is-gadeirydd. Esboniodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod rhaid i’r Pwyllgor Safonau wneud penderfyniad yn unol â’r rheolau statudol a chyfansoddiadol. Er mwyn newid tymor yr Is-gadeirydd byddai’n rhaid i’r Cyngor llawn ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngor.
PENDERFYNWYD ethol Mr Thomas Rhys Davies yn Is-gadeirydd ar y Pwyllgor Safonau am gyfnod o bedair blynedd (a bydd yn gymwys i gael ei ail-ethol). |