Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir, yn amodol ar y canlynol:-
Materion yn codi o gofnodion 15 Rhagfyr 2021:-
• Cytunwyd bod y Swyddog Monitro yn dosbarthu Cofnod Gweithredu wedi’i ddiweddaru i’r Pwyllgor cyn gynted â phosibl ar ôl cyfarfod heddiw. • Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod Mr Richard Penn wedi anfon ei argymhellion ymlaen at Lywodraeth Cymru ac y bydd Ymgynghoriad Cenedlaethol yn dechrau yn yr Hydref ynghylch cynigion yn deillio o adolygiad Mr Penn. • Mynegodd y Pwyllgor bryder mai dim ond pedwar ar ddeg o Aelodau Etholedig oedd wedi llunio adroddiadau blynyddol y llynedd, er bod y Cyngor yn rhoi cymorth ac er anogaeth y Pwyllgor Safonau.
Penderfynwyd felly gwahodd y Rheolwr Busnes Gwasanaethau Democrataidd i gyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor Safonau i drafod y gefnogaeth y mae’r Cyngor yn ei rhoi i Aelodau, pa broses ac amseriad fydd ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau blynyddol Aelodau a beth arall gall y Pwyllgor Safonau ei wneud i annog yr arfer.
PENDERFYNWYD gwahodd y Rheolwr Busnes Gwasanaethau Democrataidd i fynychu cyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor Safonau i drafod y cymorth y gall y Cyngor ei roi i Aelodau o ran paratoi Adroddiadau Blynyddol Aelodau.
Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod
• Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd unrhyw dueddiadau i'w gweld ar hyn o bryd, oherwydd yr ychydig iawn o gwynion a ffeiliwyd yn erbyn Aelodau Etholedig yn y blynyddoedd diwethaf. • Bydd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor yn mynychu’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned ym mis Medi a byddant yn trafod cynnwys y cylchlythyr, gan gynnwys trafodaeth bosibl am ymestyn y protocol datrys lleol a monitro trafodion yn anffurfiol, i Gynghorau Tref a Chymuned. |
|
Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar ddatblygu a hyfforddi Aelodau.
Cofnodion: Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol ar y Rhaglen Anwytho sydd ar gael i Aelodau etholedig rhwng cyfnod yr etholiad a diwedd Mehefin 2022. Dywedodd ei bod wedi bod yn gyfnod prysur iawn i Aelodau newydd, gyda 23 o sesiynau cynefino/hyfforddi wedi eu cynnal.
Cyfeiriodd y Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol at y rhaglen Datblygu Aelodau Etholedig sydd wedi ei roi at ei gilydd, sy'n seiliedig ar Fframwaith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac sy'n rhedeg o'r cyfnod sefydlu cychwynnol hyd at ddiwedd mis Mehefin gyda chynnllun dilynol wedi’i drefnu ar gyfer mis Gorffennaf i fis Hydref. Mae’r Cynllun wedi’i newid ers iddo gael ei gyhoeddi o ganlyniad i’r sesiynau Sgriwtini yn cael eu hail drefnu.
Nodwyd y gallai fod cyfle i Aelodau etholedig/aelodau lleyg/aelodau o'r Pwyllgor Safonau a allai fod wedi methu sesiwn hyfforddi benodol fynychu eto yn y dyfodol. Bydd manylion presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi dros y cyfnod cynefino wedi eu cwblhau erbyn diwedd Gorffennaf.
Bydd gan aelodau fynediad at wybodaeth hyfforddiant yn electronig ar y Dangosfwrdd Aelodau Etholedig ar y Porth Dysgu. Mae modiwlau hyfforddi ar gael gan “CLlLC” a byddant ar gael drwy borthol ar-lein yr Awdyrdod, y Porth Dysgu, yn ogystal â gwybodaeth yn cael ei chynnwys yn y Bwletin Anwytho’r Aelodau.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod hyfforddiant Rheoli Data ac Ymwybyddiaeth Seiber yn orfodol i staff y Cyngor, Aelodau Etholedig ac aelodau Cyfetholedig. Mynegwyd pryderon nad yw'n ymddangos bod rhai aelodau'n mynychu sesiynau hyfforddi gorfodol. Awgrymwyd felly bod y Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol yn darparu data cyfredol ar hyfforddiant i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn, er mwyn mynychu cyfarfod Arweinwyr Grŵp i drafod hyfforddiant gorfodol.
Nodwyd y bydd sesiynau hyfforddi yn parhau i gael eu cynnal yn rhithiol am y tro. Nodwyd ymhellach y bydd y posibilrwydd o recordio sesiynau hyfforddi mewnol hefyd yn cael ei ystyried, yn ogystal â datblygu dull hybrid o gyflwyno hyfforddiant yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cynnwys y Cynllun. • Y bydd y Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol yn gwneud ei orau i ddarparu data cyfredol ar bresenoldeb Aelodau mewn hyfforddiant gorfodol i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn cyn iddynt fynychu cyfarfod nesaf yr Arweinwyr Grŵp i rannu data cydymffurfio cyffredinol gyda'r Grŵp a data ar wahân ar gyfer pob Arweinydd Grŵp ynghylch cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol o fewn pob grŵp unigol. • Bod y Swyddog Monitro, Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol, y Pennaeth Archwilio a'r Rheolwr Sgriwtini yn hysbysu AD ynghylch pa sesiynau fydd yn orfodol i Aelodau anetholedig y Pwyllgor. • Y bydd y Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol yn gwneud ymholiadau i sefydlu a allai fod yn ymarferol i hyfforddwyr mewnol recordio eu sesiynau a sicrhau eu bod ar gael yn ddigidol i Aelodau
Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Cwynion Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 221 KB Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas ag (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref/Cymuned ar gyfer Chwarter 3 a 4 o 2021//22. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru ar y cwynion chwarterol a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) mewn perthynas â (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned.
Dywedodd y Swyddog Monitro bod OGCC wedi derbyn un gŵyn yn erbyn Cynghorydd Sir gan aelod o’r cyhoedd rhwng Hydref - Rhagfyr 2021 (Ch3), a phenderfynodd OGCC beidio ag ymchwilio’r gwyn. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorydd Sir rhwng Ionawr 2022 – Mawrth 2022 (C4).
Nodwyd bod un gŵyn wedi’i chyflwyno i OGCC yn erbyn Cynghorydd Tref yn ystod Chwarter 3, 2021, ac mae’r ymchwiliad yn parhau. Derbyniwyd un gŵyn hefyd yn erbyn Cynghorydd Tref ar gyfer Chwarter 4, a wrthodwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dilyn ymchwiliad.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cynnwys Atodiadau 1-4. • Bod y Swyddog Monitro yn dosbarthu Atodiadau 1-4 i aelodau etholedig a chyfetholedig y Cyngor, ac aelodau'r Cynghorau Tref a Chymuned drwy'r Cylchlythyrau.
Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Panel Dyfarnu Cymru PDF 329 KB Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro yn crynhoi 4 penderfyniad a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 16 Rhagfyr 2021.
Dywedodd y Swyddog Monitro y bydd penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru yn cael eu cynnwys yn y Cylchlythyr i Gynghorwyr Sir a Chylchlythyr i Gynghorwyr Tref a Chymuned.
Rhoddodd y Swyddog Monitro grynodeb o'r materion allweddol a'r pwyntiau dysgu o bob un o'r achosion a adroddwyd, a drafodwyd wedyn gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cynnwys y crynodebau achos. • Bydd y Cylchlythyr i Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned yn cynnwys dolenni i’r achosion a adroddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru a’r crynodebau achos o’r pwyntiau dysgu yn yr Agenda hon. • Bod Egwyddorion Ymddygiad mewn Bywyd Cyhoeddus (sef Egwyddorion Nolan fel y'u mabwysiadwyd gan Statud yng Nghymru) yn cael eu defnyddio fel prif ffocws y Cylchlythyr nesaf.
Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau PDF 1 MB Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar yr uchod.
Adroddodd y Swyddog Monitro ei bod yn ofynnol i’r Pwyllgor Safonau, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (y Ddeddf), baratoi a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol, a’i gyflwyno i’r Cyngor llawn cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Dywedodd y bydd y Cadeirydd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Statudol cyntaf y Pwyllgor i’r Cyngor llawn ym mis Medi 2022.
Adroddodd y Swyddog Monitro bod gofynion penodol yn y Ddeddf o ran yr hyn sydd angen ei gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol. Dywedodd fod y Pwyllgor Safonau eisoes yn cydymffurfio â meini prawf y ddeddfwriaeth newydd. Nodwyd y bydd yn ofyniad statudol i bob Pwyllgor Safonau gyflwyno Adroddiadau Blynyddol yn y dyfodol.
Pwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth:-
• Lle bo nifer y cwynion yn caniatáu, bydd unrhyw dueddiadau neu batrymau yn cael eu nodi yn y dyfodol. Recriwtio aelodau Cynghorau Tref a Chymuned i'r Pwyllgor Safonau. Eglurodd y Swyddog Monitro y drefn a'r amserlen. Os derbynnir mwy na dau enwebiad, yna bydd pleidlais bost yn dilyn gyda’r dewis yn cael ei wneud gan y Cynghorau Tref a Chymuned a’i gadarnhau trwy adroddiad i’r Cyngor llawn ym mis Rhagfyr 2022.
• O ystyried y ddyletswydd statudol newydd ar arweinwyr grŵp o ran ymddygiad aelodau eu grŵp, bydd Adroddiad Pwyllgor Safonau’r flwyddyn nesaf yn mynd i’r afael â sut mae’r Arweinwyr Grwpiau wedi mynd i’r afael â’u dyletswydd newydd a sut mae’r Pwyllgor Safonau wedi eu cefnogi i wneud hynny; gan gynnwys trefnu hyfforddiant ar gyflawni'r ddyletswydd newydd.
• Mae'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben mewn perthynas â'r canllawiau drafft ar y ddyletswydd statudol newydd. Pan gyhoeddir y fersiwn derfynol, dylem fod yn edrych ymhellach ar sut y bydd y Pwyllgor Safonau yn hyfforddi/cefnogi'r Arweinwyr Grwpiau.
PENDERFYNWYD:-
• Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau, yn amodol ar fân newidiadau y cytunwyd arnynt yn ystod y drafodaeth. • Bod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Medi 2022.
Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau PDF 206 KB I ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau am 2022/23. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Waith Ddrafft y Pwyllgor Safonau i’w thrafod.
• Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Swyddog Monitro na fyddai’n bosibl gosod terfynau amser penodol ar raglen waith flynyddol y Pwyllgor. Mae hyn oherwydd bod llawer o’i gyfrifoldebau statudol, fel cynnal gwrandawiadau ar atgyfeiriad gan OGCC, neu benderfynu ar geisiadau am oddefeb, yn dibynnu ar yr atgyfeiriadau neu’r ceisiadau a wneir gan eraill. Unwaith y bydd hynny wedi digwydd, mae amserlenni wedi’u gosod o fewn y prosesau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Pwyllgor Safonau. Mae materion eraill, megis datrysiad lleol, hefyd yn adweithiol fel y mae ymgynghoriadau'r llywodraeth, a gosod y Fforwm Safonau Cenedlaethol a chyfarfodydd gydag Arweinwyr Grwpiau. • Cytunwyd eisoes ar gyfarfodydd anffurfiol gyda'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd a dosbarthwyd gwahoddiad gan y pwyllgorau i Aelodau'r Pwyllgor Safonau i drafod, yn y cyfarfod cyntaf, gynnwys y cylchlythyrau a'r profforma i'w defnyddio ar gyfer monitro anffurfiol o Gyfarfodydd Pwyllgor. Roedd ail gyfarfod anffurfiol y Pwyllgor Safonau wedi'i drefnu i drafod y protocol datrysiad lleol drafft. Mae'r drafft o'r Pro-forma Pwyllgor a'r protocol datrysiad lleol wedi'u rhannu â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor. • O ran arsylwi’r trafodion, cytunwyd y bydd angen gosod amserlen a gellir ei thrafod yn y cyfarfod anffurfiol ynghyd â sut a phryd y bydd Aelodau'r Pwyllgor yn adrodd yn ôl.
PENDERFYNWYD bod y Swyddog Monitro yn diweddaru'r Pwyllgor Safonau ar ei raglen waith a'i gofnod gweithredu cyn cyfarfodydd ffurfiol a bod y rhaglen waith, y cofnod gweithredu a'r materion “cadw tŷ” i'w trafod mewn cyfarfodydd anffurfiol i'w trefnu cyn cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor Safonau. Bydd hyn yn ychwanegol at y cyfarfodydd briffio arferol ar gyfer Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor.
Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod |