Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 103 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol –
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Cais am Ganiatâd Arbennig Ystyried cais am ganiatâd arbennig gan Gynghorydd Cymuned.
Cofnodion: Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod cais am ganiatâd arbennig yn cael ei wneud gan y Cynghorydd Iorwerth Roberts o Gyngor Cymuned Bryngwran er mwyn ei alluogi i gymryd rhan, yn ei gapasiti fel Cadeirydd y Cyngor Cymuned, mewn perthynas â mater cynhennus a oedd i’w drafod gan y Cyngor Cymuned.
Ar ôl clywed cefndir y cais am ganiatâd arbennig gan yr ymgeisydd, cynhaliodd y Panel sesiwn breifat er mwyn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd arbennig ai peidio ac os y byddai caniatâd arbennig yn cael ei roi, ystyried (i) ar ba sail y rhoddir y caniatâd arbennig a (ii) a oedd unrhyw gyfyngiadau/ amodau yn cael eu gosod.
PENDERFYNWYD rhoi caniatâd arbennig rhannol i’r Cynghorydd Iorwerth Roberts yn ei gapasiti fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Bryngwran o ran y buddiannau y cyfeiriwyd atynt yn y cais. Mae’r caniatâd arbennig rhannol yn caniatáu’r Cynghorydd i:-
• Ysgrifennu at Swyddogion a’r Cyngor Cymuned mewn perthynas â’r mater; • Siarad â Swyddogion y Cyngor Cymuned am y mater, heb unrhyw amodau; • Siarad mewn Cyfarfodydd Cyngor Cymuned ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater; • Aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth a/neu bleidlais ar y mater; • Os yn berthnasol, cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd gydag unrhyw gyrff allanol yn ei gapasiti fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Bryngwran.
Nid yw’r caniatâd arbennig rhannol yn caniatáu’r Cynghorydd i bleidleisio ar y mater.
Rhoddir y caniatâd arbennig ar y sail statudol bod natur diddordeb yr Aelod yn un lle na fyddai hyder y cyhoedd yn cael ei niweidio yn y ffordd y mae busnes y Cyngor yn cael ei gyflawni o ganlyniad i’r Aelod yn cymryd rhan; mae’r diddordeb yn gyffredin i’r Aelod a nifer sylweddol o’r cyhoedd; mae cyfranogiad yr Aelod i’r busnes y mae’r diddordeb yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr Aelod (fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Bryngwran); ac mae’n ymddangos i’r Pwyllgor Safonau ei fod o ddiddordeb i drigolion yr ardal a’r Cyngor y dylai’r anallu gael ei ddiddymu.
Gweithredoedd:
• Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Cynghorydd Roberts yn cadarnhau bod Panel y Pwyllgor Safonau wedi rhoi caniatâd arbennig rhannol iddo sy’n ei ganiatáu i ysgrifennu, siarad ond nid pleidleisio ar yr holl faterion yn ymwneud â’r mater hwn. • Rhaid i’r Cynghorydd Roberts ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu wrth fynychu’r Cyngor Cymuned ac unrhyw gyfarfod perthnasol arall gan nodi ei fod wedi cael caniatâd arbennig rhannol gan y Pwyllgor Safonau i allu cymryd rhan ond nid pleidleisio. |