Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1/Committee Room 1 / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd ar gyfer y Cyfarfod Ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Cafodd Mr John R Jones ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant. |
|
Ethol Cadeirydd ar gyfer Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y weithdrefn ar gyfer ethol Cadeirydd o’r Pwyllgor Safonau yn unol â Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001 a Pharagraff 2.9.2.6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor.
Rhaid i’r Pwyllgor Safonau ethol Cadeirydd o blith pum aelod annibynnol y Pwyllgor Safonau am dymor heb fod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd neu tan fydd tymor swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn dod i ben. Roedd bywgraffiadau’r pum aelod annibynnol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn Atodiad 1 - 5.
PENDERFYNWYD ethol Dr Rhys Davies yn Gadeirydd o’r Pwyllgor Safonau am dymor o bedair blynedd (a bydd yn gymwys i gael ei ail-ethol).
Bu i Mr John R Jones groesawu Dr Rhys Davies i’w rôl fel Cadeirydd a dymunodd yn dda iddo yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Diolchodd Dr Rhys Davies i Mr Jones am ei waith a’i arweiniad dros y pedair blynedd diwethaf yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, a diolchodd i’r Pwyllgor Safonau am eu cefnogaeth ac am ei ethol. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gael gweithio gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau a’r swyddogion dros y pedair blynedd nesaf. |
|
Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y weithdrefn ar gyfer ethol Is-gadeirydd o’r Pwyllgor Safonau yn unol â Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001.
Rhaid i’r Pwyllgor Safonau ethol Is-gadeirydd o blith pum aelod annibynnol y Pwyllgor Safonau am dymor heb fod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd neu tan fydd tymor swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn dod i ben.
PENDERFYNWYD ethol Mr Trefor Owen yn Is-gadeirydd o’r Pwyllgor Safonau am dymor o bedair blynedd (a bydd yn gymwys i gael ail-ethol). |