Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 317 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Medi 2016 yn gywir.
Materion yn codi o'r cofnodion -
Eitem 2
Cynghorau Tref a Chymuned - Gwefannau
Holodd yr Is-Gadeirydd a yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymateb ynglŷn â’r camau a gymerir ganddo oni fydd Cynghorau Cymuned wedi cydymffurfio â'r gofyniad i sefydlu gwefan. Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd wedi derbyn unrhyw gyfathrebiad hyd yma gan yr Ombwdsmon ynghylch y mater.
Eitem 3
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gofrestrau Ar-lein yr Aelodau
Holodd yr Is-Gadeirydd a ellid gwneud cais ar y cyd am gyllid gydag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru i ddiweddaru’r ffurflen ar-lein ar gyfer Cofrestru Diddordeb yn y system Modern.Gov, a fyddai’n rhoi'r dewis i Aelodau roi eu manylion i mewn yn ddwyieithog yn y Gofrestr Gymraeg.
Ymatebodd y Swyddog Monitro trwy ddweud bod y Pensaer Gwasanaethau Digidol wedi dweud yn y cyfarfod diwethaf y byddai'n codi'r mater yn rhanbarthol yn y Grŵp Defnyddwyr Modern.Gov, yn y gobaith o gael cefnogaeth gan awdurdodau lleol eraill i ariannu system ddwyieithog ar draws Gogledd Cymru. Nodwyd bod y mater wedi ei drafod yn y cyfarfod Grŵp Defnyddwyr Modern.Gov, ond yn anffodus nid oedd gan unrhyw awdurdodau eraill ddiddordeb yn y cynnig.
Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n siarad â Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor parthed ffurflen Cofrestru Diddordeb ar-lein ar gyfer Aelodau i holi a ellid gwneud cais am gyllid. Nodwyd y gall Aelodau lenwi'r ffurflenni’n ddwyieithog ar-lein, ond ni allant ond ymateb i gwestiynau sy'n ymddangos yn y Saesneg yn unig.
PENDERFYNWYD: -
• Bod y Swyddog Monitro yn codi'r mater gyda Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor i ganfod a oes unrhyw gymorth ariannol ar gael. • Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar ran y Pwyllgor Safonau, yn gofyn bod meddalwedd ar gyfer defnyddio'r iaith Gymraeg yn cael ei chynnwys yn y pecyn pan ddaw’n amser adnewyddu’r contract Modern.Gov.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.
Eitem 4
Rhaglen Hyfforddiant ddrafft ar gyfer Aelodau Newydd ym Mai 2017
Gofynnodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Safonau yn cael rhybudd digonol o ddyddiadau sesiynau hyfforddi ym mis Mai i ganiatáu amser i’r holl Aelodau fynychu.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cynllun Hyfforddiant ar gyfer Aelodau Etholedig wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 28 Chwefror 2017 a bod y drafft cyfredol ar gael yn awr ar wefan y Cyngor. |
|
Cwynion am Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 334 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ffurf tabl wedi ei ddiweddaru ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics diweddaru ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorau Tref / Cymuned.
Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod cwyn arall wedi dod i law heddiw yn erbyn Cynghorydd Tref / Cymuned, a bod yr Ombwdsmon yn ystyried a yw’n werth ymchwilio i'r gŵyn.
Mynegwyd pryder gan Aelodau ynghylch yr amser a gymerwyd hyd yma i ymchwilio i gŵyn a wnaed ym Medi 2016 yn erbyn Cynghorydd Tref / Cymuned ac sy’n cael sylw ar hyn o bryd. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod cynnydd yn cael ei wneud, ond nad oes gan yr Ombwdsmon amserlen benodol ar gyfer delio â'r ymchwiliad.
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar natur y cwynion a wnaed yn erbyn Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref / Cymuned, ond cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod y wybodaeth hon dan embargo. Gofynnodd yr Aelodau eu bod yn cael eu diweddaru ynghylch datblygiadau mewn perthynas â'r cwynion y cyfeirir atynt yn y matrics.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi'r adroddiad er gwybodaeth. • Bod y Swyddog Monitro yn diweddaru Aelodau o'r Pwyllgor Safonau bob 3 mis drwy gyflwyno’r matrics cwynion diweddaraf ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r cwynion yr ymchwilir iddynt gan yr Ombwdsmon. • Bod y Swyddog Monitro yn rhoi dadansoddiad blynyddol i Aelodau o’r Pwyllgor Safonau ar natur y cwynion a gyfeirir at yr Ombwdsmon.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod. |
|
Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru PDF 210 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn cynnwys crynodeb o’r penderfyniadau diweddaraf. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn cynnwys crynodeb o benderfyniadau diweddaraf Panel Dyfarnu Cymru a wnaed rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017.
Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod un mater arall wedi ei benderfynu gan y Panel ers cyhoeddi’r rhaglen ar gyfer y Pwyllgor hwn, sef ynglŷn â Chynghorydd o Gyngor Caerdydd. Bydd crynodeb o'r penderfyniad hwnnw’n cael ei gynnwys fel eitem ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Nododd y Pwyllgor fod y Panel Dyfarnu wedi cyfeirio mater yn ôl i'r Pwyllgor Safonau, gydag argymhelliad o ran cosb, ac roeddent yn pryderu efallai na fyddai Cynghorwyr yn mynd â materion i apêl pe bai’r dull hwn o ymdrin â chwynion yn dod yn gyffredin gyda chosbau llymach yn cael eu pennu ar apêl.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi'r adroddiad er gwybodaeth. • Anfon copi o'r adroddiad at Aelodau Etholedig. • Anfon copi o'r adroddiad at Glercod y Cynghorau Cymuned a gofyn iddynt ei ddwyn i sylw eu Haelodau.
GWEITHREDU: Cynnwys penderfyniad a wnaed gan Banel Dyfarnu Cymru ar 2 a 3 Mawrth, 2017 ynghylch Aelod o Gyngor Caerdydd mewn adroddiad ar gyfer cyfarfod mis Medi 2017. |
|
Diweddariad ar Bresenoldeb yr Ombwdsmon yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru PDF 725 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar gyflwyniad a chwestiynau’r Ombwdsmon ar 17 Hydref, 2016. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ymweliad yr Ombwdsmon i Gyngor Sir Ynys Môn ar 17 Hydref 2016, pan fynychodd gyfarfod o Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru. (Y Fforwm). Cafwyd cyflwyniad gan yr Ombwdsmon ac atebodd gwestiynau gan Aelodau'r Fforwm ac Aelodau'r Pwyllgor Safonau.
Cododd yr Ombwdsmon y materion canlynol yn ystod y drafodaeth: -
• Croesewid ymestyn y trefniadau Datrysiad Lleol i Gynghorau Tref / Cymuned. • Mae nifer y cwynion am Gynghorau Sir wedi gostwng ond mae nifer y cwynion am Gynghorau Cymuned / Tref wedi cynyddu. Mae 3 Chyngor Cymuned yn gyfrifol am un o bob tair o'r holl gwynion am Gynghorau Tref / Cymuned. • Parheir i ddefnyddio’r prawf dau gam a’i nod yw parhau i gael gwared ag unrhyw gwynion blinderus. Fodd bynnag, mae swyddfa'r Ombwdsmon yn derbyn mwy o gwynion. • Mae'r rhan fwyaf o gyllideb yr Ombwdsmon wedi ei neilltuo ar gyfer ymchwiliadau iechyd, ond dywedodd yn glir na fyddai’n goddef bwlio, llygredd neu gamddefnyddio grym, h.y. torri'r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Etholedig. • Mae'n credu bod Fforwm Pwyllgorau Safonau Cymru Gogledd o fudd i awdurdodau Gogledd Cymru, a byddai'n falch o gwrdd â'r Fforwm yn fwy rheolaidd os ystyrir y byddai gwneud hynny’n ddefnyddiol.
Codwyd cwestiwn gyda'r Ombwdsmon yn y Fforwm ynghylch a gynigir neu a drefnir hyfforddiant cyfryngu i Aelodau'r Pwyllgor Safonau yng ngoleuni'r gofyniad i wneud mwy trwy’r trefniant datrysiad lleol. Ymatebodd yr Ombwdsmon y byddai hyfforddiant yn fuddiol, yn enwedig felly i gefnogi Cynghorau Cymuned, ond nid oedd adnoddau ar gael i’w ariannu. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n trefnu i'r mater gael ei godi yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.
Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod Un Llais Cymru yn datblygu Protocol Datrysiad Lleol drafft, i'w ddefnyddio gan Gynghorau Tref / Cymuned. Mynegodd yr Aelodau bryder nad oedd Un Llais Cymru yn ymgynghori gyda gwahanol bartïon cyn cwblhau dogfen o'r fath fel y gellid cynnwys unrhyw adborth yn y ddogfen ddrafft. Nodwyd y rhennir y Protocol gydag Aelodau cyn gynted ag y derbynnir y fersiwn derfynol gan Un Llais Cymru. Fodd bynnag, nodwyd ymhellach y byddai'r Pwyllgor Safonau wedi hoffi i Un Llais Cymru ymgynghori ag ef ar y drafft cyntaf.
Unwaith y bydd y Protocol Datrysiad Lleol wedi ei weithredu drwy Un Llais Cymru, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai'r Pwyllgor Safonau gynnig cymorth ar sut i ddefnyddio'r Protocol i’r Cynghorau Tref / Cymuned hynny sydd â phŵer cymhwysedd cyffredinol.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi'r adroddiad. • Dosbarthu copi o Atodiad 2 i Swyddogion Monitro awdurdodau eraill Gogledd Cymru. • Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ceisio cadarnhad o'r trefniadau ar gyfer y cyfarfod nesaf o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru. • Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn cysylltu ag Un Llais Cymru ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Diweddariad ar Fabwysiadu'r Côd Ymddygiad Statudol Diwygiedig PDF 228 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i ddiweddaru aelodau ar fabwysiadu’r Côd Ymddygiad diwygiedig, sydd wedi ei gynnwys yn y Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016, gan Gynghorau Tref a Chymuned Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn rhoi diweddariad i Aelodau ar Gynghorau Tref / Cymuned yn mabwysiadu Côd Ymddygiad diwygiedig a gynhwysir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol) 2016 (Cymru).
Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod 'Mabwysiadu Côd Ymddygiad Diwygiedig' wedi ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Medi, 2016. ‘Roedd yr adroddiad ysgrifenedig hwnnw’n cadarnhau nad oedd 17 o Gynghorau Tref / Cymuned wedi ymateb i gais i gadarnhau eu bod wedi mabwysiadu'r Côd. Ar y pryd, cadarnhawyd bod 12 o'r 17 wedi bod mewn cysylltiad ers i'r adroddiad gael ei baratoi. Felly ‘roedd 5 o Gynghorau Tref a Chymuned nad oeddent wedi ymateb.
Cyfeiriwyd at Atodiad 1 yr adroddiad, sy'n amlygu mewn coch y Cynghorau Tref / Cymuned hynny sydd wedi ymateb ers paratoi’r adroddiad ysgrifenedig diwethaf; mae 1 Cyngor Cymuned wedi ymateb, ond nid yw wedi cadarnhau y dyddiad y mabwysiadwyd y Côd. Nid yw’r 3 Chyngor Cymuned a ganlyn wedi ymateb o hyd:
• Cyngor Cymuned Bodorgan • Cyngor Cymuned Llangristiolus • Cyngor Cymuned Rhoscolyn
PENDERFYNWYD: -
• Nodi'r adroddiad. • Gofyn i'r Swyddog Monitro ysgrifennu ar ran Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i'r 3 Chyngor Cymuned sydd heb ymateb er mwyn eu hatgoffa o'r gofyniad i fabwysiadu'r Côd Ymddygiad diwygiedig, ac i ofyn iddynt anfon copi i'r Swyddog Monitro o gofnodion y cyfarfod lle gwnaed penderfyniad i fabwysiadu’r Côd • Dylid anfon copi o'r llythyr uchod hefyd at yr Aelodau Etholedig lleol er gwybodaeth.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod. |
|
Diweddariad ar y cyflwyniad a roddwyd i'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned PDF 665 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y cyflwyniad a roddwyd gan Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau i Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned ar 24 Tachwedd, 2016. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y cyflwyniad a roddwyd gan Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau yn y Fforwm Cynghorau Tref / Cymuned ar 24 Tachwedd 2016 mewn perthynas â 'Materion yn codi o'r Pwyllgor Safonau '.
Trafodwyd y materion canlynol yn y cyfarfod: -
• Mabwysiadu'r Côd Ymddygiad diwygiedig; • Canllawiau’r Ombwdsmon ar y Côd Ymddygiad diwygiedig; • Gofynion ar Gynghorau Tref / Cymuned mewn perthynas â chofrestru diddordebau personol; • Adolygu’r Cofrestrau o Ddiddordebau; • Cyflwyniad yr Ombwdsmon yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru; • Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru.
Nodwyd bod Clerc y Fforwm wedi anfon copi o'r cyflwyniad at holl Aelodau’r Fforwm yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD nodi'r cyflwyniad a roddwyd (fel yn Atodiad 1 i'r adroddiad) a'r diweddariad o ran y camau gweithredu a gwblhawyd, fel y gwelwyd yn yr adroddiad.
Gweithredu: Dim |
|
Diweddariad ar Gofrestr o Ddiddordebau Cynghorau Tref a Chymuned PDF 13 MB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i ddiweddaru aelodau ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas â’r Gofrestr o Ddiddordebau. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref/ Cymuned mewn perthynas â'u Cofrestrau o Ddiddordebau.
Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Safonau ar 14 Medi 2016 – ‘Adolygiad y Pwyllgor Safonau o Gofrestrau o Ddiddordebau a gedwir gan y Cynghorau Tref / Cymuned' – yn nodi nad yw rhai Cynghorau wedi ymateb i gais am gadarnhad ynghylch sut mae Cynghorau Tref / Cymuned yn cynnal eu Cofrestrau h.y. ar bapur a / neu ar-lein.
Ar 29 Medi 2016 anfonwyd gohebiaeth at Glercod y Cynghorau sydd heb ymateb. Anfonwyd gohebiaeth hefyd at Aelodau Etholedig Cyngor Sir Ynys Môn sy’n cynrychioli’r ardaloedd lle lleolir y Cynghorau Tref / Cymuned hynny. Nodwyd bod y 5 Cyngor Tref / Cymuned nad oedd wedi ymateb wedi gwneud hynny bellach.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi'r adroddiad a'r ymatebion a gafwyd gan Gynghorau Tref / Cymuned. • Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at yr holl Gynghorau Tref / Cymuned yn nodi nad yw rhai cynghorau yn cyhoeddi eu Cofrestrau o Ddiddordeb ar lein ar hyn o bryd, a hynny’n groes i’r gofyniad statudol. • Bod y Pwyllgor Safonau yn ysgrifennu at Gynghorau Tref a Chymuned / ym Mawrth 2018 i gael diweddariad i ganfod pa Gynghorau sydd â gwefan.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod. |
|
Cynghorau Tref a Chymuned - Gwefannau PDF 1 MB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i ddiweddaru aelodau ar yr ymateb a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned ynglŷn ag a oes ganddynt wefan ai peidio. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y gofyniad statudol i bob Cyngor Tref / Cymuned gael presenoldeb ar y we a chyhoeddi gwybodaeth benodol ar eu gwefannau. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i'r Pwyllgor Safonau oherwydd gwnaed cwynion am dryloywder mewn Cynghorau Cymuned / Tref, yn enwedig mewn rhai Cynghorau Cymuned nad oes ganddynt adnoddau digonol.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar sefydlu pa Gynghorau Tref / Cymuned sydd â gwefan, ac a yw’r Cynghorau nad oes ganddynt wefan ar hyn o bryd yn bwriadu cydymffurfio.
‘Roedd yr Aelodau'n pryderu bod rhai Cynghorau Tref / Cymuned angen cymorth i greu gwefan. Awgrymwyd y dylid gwneud cais i Un Llais Cymru i ofyn a fyddent yn codi'r mater ar raglen un o'u cyfarfodydd, a gellid anfon atynt ddolen gyswllt i'r adroddiad hwn ar wefan y Cyngor.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran ymatebion y Cynghorau Tref / Cymuned (Atodiad 1 yr adroddiad); • Nodi cynnwys Canllawiau Un Llais Cymru (Atodiad 2 yr adroddiad). • Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Un Llais Cymru i ofyn a ydynt yn bwriadu rhoi cymorth i Gynghorau Tref / Cymuned sefydlu gwefannau (ar wahân i'r Canllawiau), neu'n bwriadu eu cynorthwyo i sefydlu dull cydlynol o weithredu?
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod. |
|
Fideo'r Ombwdsmon i Aelodau Etholedig PDF 295 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ba Gynghorau Tref a Chymuned sydd wedi cadarnhau eu bod wedi dwyn y fideo i sylw'r aelodau etholedig. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ynghylch pa Gynghorau Tref / Cymuned sydd wedi cadarnhau eu bod wedi dod â fideo newydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sylw eu Haelodau Etholedig.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y cafwyd e-bost ym mis Gorffennaf 2016 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) gyda dolen i fideo newydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar You Tube. Anfonwyd y ddolen at Aelodau Etholedig y Cyngor Sir ar 21 Gorffennaf 2016. Anfonwyd copi o'r fideo hefyd at Glercod Cynghorau Tref / Cymuned yn gofyn iddynt ddwyn y fideo i sylw eu Haelodau Etholedig ac i adrodd yn ôl i'r Cyngor i gadarnhau’r dyddiad yr edrychwyd ar y fideo. Hyd yn hyn, dim ond 3 Chyngor sydd wedi cadarnhau’r dyddiadau yr edrychwyd ar y fideo.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad ynghyd â'r ymatebion a nodir yn Atodiad 1.
Gweithredu: Dim. |
|
Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn cynnwys dogfen Strwythur Rheoli i’w chymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn amgáu dogfen Strwythur Rheoli i'w chymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod y Pwyllgor Safonau, yn ei gyfarfod ar 14 Medi 2016, wedi trafod fod rhai Aelodau Etholedig yn ansicr pwy oedd yn gyfrifol am wahanol faterion gweithredol o fewn y Cyngor. Mae dogfen Strwythur Rheoli (ar gyfer defnydd mewnol) wedi ei chreu sy'n cynnwys enw, manylion cyswllt a phrif gyfrifoldebau gweithredol pob Pennaeth Gwasanaeth a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
Nodwyd y trafodwyd y ddogfen ddrafft yng nghyfarfod anffurfiol y Pwyllgor Safonau ar 8 Rhagfyr 2016. Gofynnodd yr aelodau o'r Pwyllgor Safonau am i’r ddogfen gynnwys enw a manylion cyswllt Rheolwyr Canol, er mwyn sicrhau nad y Penaethiaid Gwasanaeth fyddai’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater. Fodd bynnag, casglodd y Penaethiaid Gwasanaeth y byddai hyn yn groes i Brotocol y Cyfansoddiad, sy'n ymdrin â'r berthynas rhwng Aelodau a Swyddogion, ac felly gwrthododd y Penaethiaid Gwasanaeth y cais, ond caiff y mater ei adolygu cyn pen blwyddyn.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi'r adroddiad. • Cadarnhau y cymeradwyir y ddogfen yn Atodiad 1. • Cymeradwyo cyhoeddi ffurflen 'Manylion Cyswllt a Chyfrifoldebau Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Phenaethiaid Gwasanaeth Cyngor Sir Ynys Môn’ ar MonITor ar gyfer staff ac Aelodau'r Cyngor Sir.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod. |
|
Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn cynnwys nodyn briffio arfaethedig i’w ddosbarthu i Aelodau ynglŷn â’r newidiadau statudol i’r Cod Ymddygiad. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn atodi Nodyn Briffio a ddosbarthwyd i Glercod Cynghorau Tref / Cymuned ar Rhagfyr 14, 2016 ar y gofynion statudol ar gyfer Cynghorwyr Tref / Cymuned i ddatgelu a chofrestru diddordebau personol.
Gofynnwyd i Glercod Cynghorau Tref / Cymuned ddod â'r Nodyn Briffio i sylw eu Haelodau ac anfon copi o gofnodion perthnasol y cyfarfod pan drafodwyd y mater. Gofynnwyd am gadarnhad o hynny erbyn 20 Chwefror 2017.
Yn ychwanegol at y 10 a nodir yn y tabl (Atodiad 2 o'r adroddiad), nodwyd bod 4 o Gynghorau Cymuned eraill wedi ymateb ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, sef Aberffraw, Bryngwran, Llanddyfnan a Phenmynydd.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi'r adroddiad a’r Nodyn Briffio yn Atodiad 1. • Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ysgrifennu at Glercod y Cynghorau Tref / Cymuned yn gofyn iddynt ddod â'r Nodyn Briffio a’r Côd Ymddygiad diwygiedig i sylw eu Haelodau, pan fyddant yn llofnodi i dderbyn eu swydd yn dilyn etholiadau mis Mai. Bydd copïau o'r ddau ynghlwm wrth y llythyr.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.
|