Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog ynghylch unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 304 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2017, gan gynnwys materion yn codi. Cofnodion: Cafodd cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Medi 2017 eu cadarnhau fel rhai cywir.
Materion yn codi o gofnodion 8 Mawrth 2017:-
Eitem 6 – Diweddariad ar fabwysiadu’r Cod Ymddygiad Statudol Diwygiedig
Nodwyd bod y Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at Gynghorau Cymuned Llangristiolus a Bodorgan ddwywaith yn gofyn iddynt anfon copi o’r cofnodion yn cadarnhau eu bod wedi mabwysiadu’r Cod Ymddygiad. Derbyniwyd cadarnhad gan y ddau gyngor cymuned eu bod wedi mabwysiadu’r Cod ond nid ydynt wedi anfon copïau o’r cofnodion y gofynnodd y Pwyllgor amdanynt.
Gweithred:
• Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at Gadeiryddion Cynghorau Cymuned Llangristiolus a Bodorgan er mwyn eu hatgoffa o gais y Pwyllgor. • Aelodau Etholedig y Cyngor Sir sy’n gynrychiolwyr ar y ddau gyngor cymuned i godi mater y cofnodion perthnasol yn eu cyfarfodydd nesaf.
Eitem 8 – Diweddariad ar Gofrestr Buddiannau Cynghorau Tref / Cymuned
Nodwyd bod y Swyddog Monitro yn y gorffennol wedi ysgrifennu at yr holl gynghorau tref/cymuned er mwyn gweld pa gynghorau oedd yn cydymffurfio â’r angen i gyhoeddi eu Cofrestri Buddiannau ar-lein.
Gweithred:
Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at y cynghorau tref/cymuned perthnasol eto er mwyn gweld a oes unrhyw Gynghorau eraill bellach yn cydymffurfio â chyhoeddi eu Cofrestri ar-lein.
Eitem 9 – Cynghorau Tref/Cymuned – Gwefannau
Adroddodd y Swyddog Monitro ei bod wedi derbyn ymateb gan Un Llais Cymru ac fe rannodd yr ymateb hwnnw â’r Pwyllgor. Nodwyd nad oedd Un Llais Cymru yn bwriadu darparu cymorth pellach o ran sefydlu gwefannau.
Gweithred: Dim
Materion yn codi o gofnodion 13 Medi 2017
Eitem 11 – Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau – Swydd Wag
Adroddodd yr Is-gadeirydd fod y broses o benodi aelodau annibynnol i’r Pwyllgor Safonau, ac aelod annibynnol i’r Panel Dethol, wedi bod yn anodd a'i fod wedi codi’r mater yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru.
Awgrymwyd y dylid mabwysiadu opsiwn i rannu aelod annibynnol o’r Panel Dethol â Chynghorau Gwynedd a Chonwy yn y dyfodol os bydd angen.
Gweithred: Dim |
|
Cadarnhad o Benodiad Aelodau Newydd i'r Pwyllgor Safonau - 12 Rhagfyr, 2017 PDF 246 KB Diweddariad gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – diweddariad ar benodiad dau gynghorydd cymuned ac un aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. Cadarnhawyd y penodiadau gan y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017.
PENDERFYNIAD Y CYNGOR FEL A GANLYN:-
• Cadarnhau enwebiadau ar y cyd y cynghorau cymuned drwy benodi’r cynghorwyr cymunedol canlynol fel aelodau cyfetholedig ar y Pwyllgor Safonau a hynny ar unwaith:-
• Cynghorydd Iorwerth Roberts o Gyngor Cymuned Bryngwran • Cynghorydd Keith Roberts o Gyngor Cymuned Bae Trearddur
Bydd penodiadau’r cynghorwyr cymuned yn parhau tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf neu tan na fydd y rhai a benodwyd bellach yn aelodau cyngor cymuned, pa bynnag un ddaw gyntaf.
• Derbyn argymhellion Panel Dethol y Pwyllgor Safonau fel a ganlyn:-
• Penodi Mr John Robert Jones fel aelod annibynnol cyfetholedig ar y Pwyllgor Safonau a hynny ar unwaith.
• Bydd tymor aelodau annibynnol yn y rôl yn dod i ben ar 11 Rhagfyr 2025.
• Petai swydd wag bellach yn codi ar gyfer aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau yn ystod y 12 mis nesaf, y dylid penodi Ms Sarah Laing Gibbens i’r rôl hon heb yr angen am broses recriwtio bellach, ar yr amod bod yr ymgeisydd yn parhau’n gymwys ar gyfer y rôl ac yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol cyn penodi.
Gweithred: Dim
|
|
Cwynion Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 376 KB Adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas ag:-
(a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref/Cymuned. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorau Tref/Cymuned.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod un cwyn wedi’i derbyn yn erbyn Cynghorydd Sir gan aelod o’r cyhoedd a bod yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i’r mater. Cafodd copi wedi’i olygu o'r gŵyn ei anfon ymlaen at aelodau’r Pwyllgor ar wahân ar 28 Chwefror 2018. Nid oedd unrhyw gwynion wedi eu derbyn yn erbyn cynghorydd tref/cymuned ar gyfer yr un cyfnod.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
Gweithred: Dim |
|
Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 244 KB Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar benderfyniadau diweddaraf OGCC yng Nghymru. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro yn crynhoi gwybodaeth a gyhoeddwyd yn Llyfrau Achosion chwarterol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) mewn perthynas â chwynion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad. Roedd y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt gan yr Ombwdsmon yn ymwneud â honiadau bod Cynghorwyr wedi torri’r Cod Ymddygiad i Aelodau rhwng Gorffennaf a Thachwedd 2017.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
Gweithred:
Y Swyddog Monitro i anfon copi o’r Llyfrau Achosion Côd Ymddygiad at holl Aelodau’r Cyngor Sir a Chlercod y Cynghorau Tref a Chymuned. |
|
Penderfyniadau Gwasanaethau Dyfarnu Cymru PDF 373 KB Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar benderfyniadau diweddaraf PDC yng Nghymru. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â phenderfyniadau a wnaed ac a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 13 Medi 2017. Roedd y ddau achos yr adroddwyd arnynt yn ymwneud â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
Gweithred:
Y Swyddog Monitro i anfon copi o benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru ymlaen at holl Aelodau’r Cyngor Sir a Chlercod y Cynghorau Tref a Chymuned. |
|
Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau PDF 860 KB Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar hyfforddiant cynefino a ddarparwyd ar ôl yr etholiad ar gyfer Cynghorwyr Sir a threfniadau ar gyfer hyfforddi Cynghorwyr Tref a Chymuned. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar gynnydd mewn perthynas â’r cyfleoedd datblygu a gynigwyd i Aelodau ers yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2017.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y rhaglen bresennol, sy’n ddogfen ddatblygol a roddwyd at ei gilydd gyda mewnbwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Uwch Swyddogion ac Arweinwyr Grwpiau er mwyn mynd i’r afael ag anghenion yr Awdurdod hwn.
Nodwyd bod 11 sesiwn hyfforddiant ffurfiol ychwanegol wedi eu cynnal rhwng Medi 2017 a 31 Mawrth 2018 – roedd 5 ar gyfer Aelodau’r ddau Bwyllgor Sgriwtini; 1 ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a darparwyd hyfforddiant trwyddedu i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gwahoddwyd y 30 Aelod i weddill y sesiynau hyfforddiant. Lle yr oedd hynny’n berthnasol, gwahoddwyd aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau i sesiynau hyfforddiant penodol hefyd.
Nodwyd y gofynnir i Aelodau lenwi taflenni gwerthuso a darparu adborth ar ôl iddynt fynychu’r sesiynau hyfforddiant er mwyn cofnodi eu cynnydd. Gall Aelodau gael mynediad i’r wybodaeth hon er mwyn gallu cwblhau eu Hadroddiadau Blynyddol.
Mae Aelodau hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r rhaglenni E-ddysgu. Nodwyd fod y Swyddog E-ddysgu wedi darparu nifer o sesiynau hyfforddiant i Aelodau er mwyn gallu bodloni eu hanghenion Hyfforddiant.
Mewn perthynas ag Adolygiadau Datblygiad Personol Aelodau (PDR), adroddodd y Rheolwr fod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi nodi y dylid cwblhau PDR erbyn diwedd Mawrth 2018.
PENDERFYNWYD nodi cynnydd o ran y Cynllun Datblygu a Hyfforddi Aelodau ar gyfer 2017/18.
Gweithred: Dim |
|
Siarter Datblygu Aelodau PDF 536 KB Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Siartr Cymru CLlLC ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau, sydd â’r nod o ddarparu fframwaith eang ar gyfer cynllunio lleol, hunanasesu, gweithredu ac adolygu a rhannu arferion arloesol.
Rhoddwyd y dyfarniad yn 2014 am gyfnod o 3 blynedd ac fe gynigir bod y Cyngor rŵan yn ceisio ail asesiad. Mae hyn yn cynnwys yr angen i baratoi hunanasesiad yn erbyn meini prawf penodol a baratoir gan CLlLC gyda thystiolaeth gefnogol yn erbyn penawdau amrywiol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol bod tystiolaeth wedi’i chasglu ar yr uchod ac y bydd yr hunanasesiad yn cael ei gwblhau cyn diwedd mis Ebrill 2018.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a bod y Cyngor bellach yn ceisio ail asesiad o fewn Siartr Cymru CLlLC ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau.
Gweithred: Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i anfon copi o’r cyflwyniad terfynol at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau. |
|
Protocol Datrysiad Lleol PDF 280 KB Adroddiad gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro yn dilyn adolygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) o’i brawf ar gyfer ymchwilio i gwynion, ac annog awdurdodau lleol yng Nghymru i ddelio â chwynion camymddygiad lefel isel rhwng Aelodau drwy Brotocol Datrysiad Lleol anffurfiol.
Yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2017, roedd y Pwyllgor Safonau wedi gofyn am yr adroddiad hwn er mwyn adnabod pwerau cyfreithiol y Pwyllgor mewn perthynas â’r Protocol, ac i dderbyn unrhyw gynigion/diwygiadau i’r trefniadau presennol.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau wedi anfon copi o’r drafft (Atodiad 2) i’r Arweinyddion Grwpiau ar 1 Chwefror 2018 yn dilyn cyflwyniad a roddodd yn eu cyfarfod grŵp ar 25 Ionawr 2018. Gofynnwyd i Arweinyddion Grwpiau gylchredeg copi i’w Haelodau ar gyfer sylwadau erbyn diwedd Chwefror 2018. Nid oedd unrhyw ymatebion wedi eu derbyn erbyn y dyddiad penodol.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod yr Arweinwyr Grwpiau yn cefnogi mabwysiadu’r protocol lefel is er mwyn annog Aelodau i ddatrys anghydfodau lleol yn anffurfiol gydag Aelod o’r Pwyllgor Safonau.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn ceisio gosod cosbau ar Aelodau etholedig sydd wedi torri’r Côd Ymddygiad. Nodwyd, heb atgyfeiriad at yr Ombwdsmon, nad oes gan y Pwyllgor Safonau unrhyw bwerau cyfreithiol i allu cosbi Aelodau etholedig. Cynigiwyd bod y Pwyllgor Safonau yn cadw’r elfen is o gyfryngu yn unig dan y Protocol drafft newydd a bod Aelodau o’r Pwyllgor Safonau yn cael hyfforddiant i bwrpas cyfryngu. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod y cynghorau tref a chymuned wedi mabwysiadu eu Protocol Datrysiad Lleol eu hunain. Nododd ei bod wedi ysgrifennu at Un Llais Cymru er mwyn gweld pa gynghorau tref a chymuned sydd wedi mabwysiadu’r Protocol, ond nad yw wedi derbyn ymateb.
PENDERFYNWYD y dylai’r Pwyllgor Safonau fabwysiadu’r Protocol drafft (yn Atodiad 2) fel ei Brotocol Datrysiad Lleol.
Gweithred:
• Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i gylchredeg copi o’r Protocol Datrysiad, a ddiwygiwyd ymhellach, ymlaen at yr Arweinyddion Grwpiau. • Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i gyflwyno’r Protocol drafft i’r Cyngor Llawn ar gyfer ei fabwysiadu yng nghyfarfod 15 Mai 2018. • Y Swyddog Monitro i drefnu hyfforddiant cyfryngu ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau mewn perthynas â’r Protocol. • Y swyddog Monitro i sefydlu pa gynghorau tref sydd wedi mabwysiadu Protocol Un Llais Cymru. |
|
Adroddiad ar unrhyw Ganiatad Arbennig a dderbyniwyd Un ymholiad gan Cyngor Cymuned, ond dim cais wedi’i bendefynu ar adeg anfon y rhaglen hon. Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd, yn dilyn cyfarfod o’r Panel Caniatâd Arbennig ar 14 Mawrth 2018, y rhoddwyd caniatâd arbennig i Gyngor Cymuned Llanbadrig ar gyfer cyfnod y tymor presennol.
Rhoddodd y Swyddog Monitro grynodeb o’r ffeithiau a’r sail gyfreithiol dros roi’r caniatâd arbennig.
PENDERFYNWYD nodi’r caniatâd arbennig a roddwyd, ar ba sail a’r amgylchiadau perthnasol.
Gweithred:
• Bod Aelodau’r Panel yn unig, (Michael Wilson, Dilys Shaw ac Iorwerth Roberts) yn cadarnhau’r cofnodion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau). • Y Swyddog Monitro i gylchredeg copi o’r caniatâd arbennig i Aelodau’r Pwyllgor Safonau. |
|
Adroddiad gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro ar gael cymeradwyo caniatâd arbennig cyffredinol ar gyfer tymor y Cyngor.
Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor Sir ar gyfer Aelodau etholedig, mae unrhyw aelod sydd â diddordeb personol neu ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn eitem o fusnes yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd modd i aelod oresgyn y broblem a achosir gan y diddordeb drwy gael caniatâd arbennig gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor Sir.
Adroddodd y Swyddog Monitro bod y Cyngor yn 2015 wedi ystyried a ddylid codi ai peidio am gost y gofal a ddarparwyd mewn clybiau brecwast yn yr ysgolion cynradd. Roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gost o ddarparu’r bwyd i’r plant ond nid oedd y gofal yr oedd ei angen ar y plant er mwyn derbyn y brecwast yn cael ei ariannu. Roedd y Cyngor llawn, yn eu penderfyniad ar y gyllideb, i fod i benderfynu a ddylent godi am ofal brecwast ai peidio. Achosodd y drafodaeth hon ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu ar gyfer yr aelodau hynny oedd â chysylltiad agos â phlant/teuluoedd a fyddai’n cael eu heffeithio gan y penderfyniad. Felly, cyflwynwyd cais am ganiatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau, a gafodd ei gymeradwyo, ac a ddaeth i ben ym Mai 2017. Mae’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Dysgu wedi gofyn i’r Pwyllgor Safonau ymestyn y caniatâd arbennig i weddill tymor y Cyngor hwn.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno’n unfrydol i’r canlynol:-
• Petai’r angen yn codi, bod holl Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn, y mae’r amgylchiadau’n berthnasol iddynt, yn derbyn caniatâd arbennig er mwyn eu galluogi i siarad a phleidleisio, lle mae ganddynt gysylltiad personol agos (teulu neu ffrindiau) sy’n defnyddio’r Clybiau Brecwast mewn Ysgolion Cynradd, neu wasanaeth cyfwerth/tebyg/cysylltiedig nad yw eithriadau o dan y Cod eisoes yn berthnasol iddynta lle mae angen trafod yr angen i godi tâl. • Rhoddir y caniatâd arbennig yn unol â Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Caniatâd Arbennig)(Cymru) 2001, fel y’i diwygiwyd, 2 (c)(d)(e)(f). • Gall unrhyw Aelod sy’n ymarfer yr hawl hon siarad a phleidleisio ar faterion o’r fath. • Bydd y caniatâd arbennig yn ymestyn i unrhyw ystyriaeth o’r mater hwn (neu fater cyfwerth/tebyg/cysylltiol/cysylltiedig â gwasanaethau ysgol) yn y dyfodol yn achos Aelodau y cychwynnodd eu tymor ym Mai 2017, neu’n hwyrach yn achos isetholiad, o Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer gweddill tymor y Cyngor h.y. tan mai 2022. • Bydd Aelodau yn parhau i fod â diddordeb personol o dan y Cod y bydd angen iddynt ei ddatgan boed hynny ar ddechrau’r cyfarfod neu ar ddechrau’r eitem berthnasol. Mae angen i ffurflenni datgan diddordeb gadarnhau eu bod yn dibynnu ar ganiatâd arbennig a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau ar 14 Mawrth 2018.
Gweithred ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Fforwm Pwyllgorau Safonau PDF 467 KB Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Gadeirydd y Fforwm Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2017. Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o'r cefndir a phwrpas y Fforwm i aelodau newydd y Pwyllgor.
Adroddodd y Cadeirydd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) wedi mynychu cyfarfod diwethaf y Fforwm ym mis Tachwedd er mwyn trafod unrhyw faterion a godwyd gan aelodau’r Pwyllgorau Safonau. Roedd materion a drafodwyd yn cynnwys gofal a llesiant Cynghorwyr.
Nodwyd ymhellach y cynhelir Cynhadledd Safonau Cymru yn Aberystwyth ar 14 Medi.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r adroddiad llafar. • Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm Pwyllgor Safonau ym mis Mai, ar ddyddiad ac amser i’w drefnu. |
|
Adolygiad y Pwyllgor Safonau o'r Cofrestrau PDF 658 KB Adroddiad gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – yr Adolygiad Blynyddol o'r Cofrestri canlynol:-
• Cofrestr Sefydlog – Cyn-gofrestru Diddordebau; • Datganiadau mewn cyfarfodydd; • Anrhegion a Lletygarwch.
Adroddodd y Swyddog Monitro bod y dasg wedi cynnwys adolygu pob un o’r 30 Aelod, tair cofrestr, ynghyd â chofrestri aelodau cyfetholedig o Bwyllgorau’r Cyngor. Ar 14 Chwefror 2018, cafodd pedwar aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau gyfarfod er mwyn trafod eu canfyddiadau. Roedd aelod annibynnol newydd y Pwyllgor hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.
O ddadansoddi’r wybodaeth a dderbyniwyd, mynegwyd pryderon am faterion yn ymwneud â rhai cynghorwyr. Mae aelodau’r Pwyllgor wedi dechrau ysgrifennu atynt yn unigol yn amlinellu’r materion. Mae rhai Aelodau etholedig eisoes wedi ymateb a bydd gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r ymatebion unwaith y bydd y dyddiadau cau wedi mynd heibio.
Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau cyffredinol yr aelodau annibynnol a gofynnwyd am iddynt gael eu hanfon ymlaen at yr Arweinyddion Grwpiau a’r Aelodau Etholedig.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn argymell:-
• Bod aelodau annibynnol y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr unigolion perthnasol. • Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i ysgrifennu at yr Arweinwyr Grwpiau er mwyn cadarnhau’r canfyddiadau cyffredinol, yn cynnwys cyflwyniad i Arweinyddion Grwpiau, a bod copi wedyn yn cael ei anfon at yr holl Aelodau. • Y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i drafod â’r pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr opsiwn o ehangu’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am Aelodau etholedig a gwneud y system yn haws i’w defnyddio. • Bod trefniadau’n cael eu gwneud gan y Swyddog Monitro i’r Cynghorwyr Iorwerth Roberts a Keith Roberts gynnal adolygiadau o’r pum aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. • Y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i adrodd yn ôl i’r UDA mewn perthynas â blaenoriaethu Cyrff Allanol a mabwysiadu dull adborth mwy ffurfiol er mwyn gallu adrodd yn ôl i’r Cyngor. • Y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i gynnal sesiwn friffio i Aelodau Etholedig am wahanol opsiynau sydd ar gael o ran cyhoeddi data pellach i’r cyhoedd am weithgareddau aelodau etholedig.
Gweithred: Gweler y datrysiad uchod.
|
|
Hyfforddiant, Datblygiad a Gwerthusiad o'r Pwyllgor Safonau PDF 9 MB Adroddiad gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro ar hyfforddiant, datblygiad a’r broses o werthuso aelodau’r Pwyllgor Safonau. Does dim gofyniad ffurfiol i Aelodau’r Pwyllgor Safonau gymryd rhan yn y PDR.
Adroddodd y Swyddog Monitro, yn dilyn cyfarfod diweddar â’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, y derbyniwyd cadarnhad fod y gwaith papur i Aelodau etholedig gynnal eu hadolygiadau â’u Harweinwyr Grwpiau wedi’i gylchredeg a bod y Cynlluniau Anghenion Hyfforddiant i’w hanfon ymlaen i’r adran Adnoddau Dynol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol y gallai gwerthusiadau hefyd gael eu cynnal ar gyfer Aelodau o’r Pwyllgor Safonau rhwng rŵan ac Ebrill 2018 (Byddai’r Cynghorwyr Dafydd R Thomas a Trefor L Hughes wedi eu heithrio gan y byddant eisoes wedi eu gwerthuso). Mae’r broses werthuso yn un anffurfiol a bydd yn adnabod unrhyw anghenion sydd gan Aelodau o ran eu perfformiad a hyfforddiant ac anghenion datblygu.
Holodd y Swyddog Monitro a hoffai’r Pwyllgor wneud unrhyw newidiadau i’r ffurflenni presennol er mwyn adnabod meysydd allweddol a gofynion penodol ar gyfer unigolion. Ymatebodd y Pwyllgor eu bod yn hapus i barhau i ddefnyddio’r un dogfennau/prosesau ag Aelodau etholedig ond nodwyd yr angen i rai unigolion dderbyn hyfforddiant pellach mewn meysydd penodol.
PENDERFYNWYD:-
• Bod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried a chasglu na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i gynnwys a fformat presennol yr hyfforddiant datblygu a’r broses werthuso ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau. • Bod gwerthusiadau aelodau’r Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnal rhwng rŵan a diwedd Ebrill 2018 os yn bosibl.
Gweithred: Gweler y datrysiad uchod.
|