Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cais am Ganiatad Arbennig PDF 11 MB Ystyried cais am ganiatâd arbennig. Cofnodion: Cyflwynwyd ceisiadau am ganiatâd arbennig i gael cymryd rhan ym musnes y Cyngor gan y Cynghorwyr Jason Zalot, Stan Zalot a Howard Mattocks, aelodau o Gyngor Tref Biwmares, ar faterion yn ymwneud ag adnewyddu Gorchymyn Pysgodfa Dwyrain Y Fenai. Mae’r ymgeiswyr wedi gofyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried rhoi caniatâd arbennig mewn perthynas â diddordebau sy’n rhagfarnu, fel yr amlinellir ym mhob cais.
Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Ashenden, Clerc Cyngor Tref Biwmares a’r Cynghorwyr Zalot a Mattocks i’r cyfarfod. Adroddodd y byddai pob cais am ganiatâd arbennig yn cael ei ystyried ar wahân ac ar ei rinweddau ei hun o ganlyniad i fân wahaniaethau ym mhob achos.
Rhoddodd yr Athro Ashenden grynodeb o gefndir y ceisiadau. Adroddodd fod Cymdeithas Rheoli Gorchmynion Pysgodfeydd Dwyrain Y Fenai yn ymgeisio am adnewyddu’r Gorchymyn Pysgodfa, sy’n caniatáu ffermio cregyn gleision a charthu gwaelod y môr (dredging) ar hyd Y Fenai mewn ardal sy’n cynnwys Bae Biwmares ac sy’n agos i’r dref.
Adroddodd yr Athro Ashenden fod y Gymdeithas Reoli wedi rhoi sicrwydd na fydd adnewyddu’r Gorchymyn Pysgodfa yn effeithio ar hwylio, cerdded ar y blaendraeth na physgota â gwialen yn yr ardal. Fodd bynnag, mynegwyd pryder yn lleol dros nifer o flynyddoedd y byddai cynnwys Bae Biwmares yn y Gorchymyn yn bygwth presenoldeb parhaus yr angorfeydd dŵr dwfn sy’n hanfodol ar gyfer cynifer o weithgareddau. Byddai colli’r ardal dŵr dwfn neu leihad ym maint yr ardal yn cael effaith negyddol ar economi’r dref a’i thrigolion, ynghyd â gweithgareddau yn y bae.
Nodwyd bod y Gymdeithas Reoli wedi cadarnhau nad yw’n bwriadu carthu ardal yr angorfeydd na defnyddio ardal y bae. Fodd bynnag, nid yw’r Gorchymyn Pysgodfa, sydd yn y cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd ac y bydd yn cael ei adnewyddu yn 2022, yn rhoi rheolaeth o’r ardal i’r Gymdeithas. Yn y gorffennol, cyflwynwyd cais i Weinidog Llywodraeth Cymru er mwyn eithrio’r rhan hon o’r bae a’r ardal sy’n agos i’r dref yn y Gorchymyn, gan fod angorfeydd wedi eu lleoli oddi ar ben y pier. O ganlyniad, gwrthodwyd y cais hwn.
Mae gan nifer o aelodau Cyngor Tref Biwmares ddiddordeb arbenigol yn y defnydd o’r bae o ran angorfeydd, pysgota, teithiau cwch pleser a mwynhad o’r ardal leol.
Nododd y Panel mai dim ond y Cynghorydd Stan Zalot sydd wedi gwneud cais i siarad â swyddogion y Cyngor Cymuned ac nad oes unrhyw Gynghorwyr wedi gofyn am ganiatâd arbennig i gael ysgrifennu at Swyddogion. Gan y bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Gorchymyn Pysgodfa yn parhau tan 2022, rhoddodd y panel cyfle i’r Cynghorwyr Jason Zalot a Howard Mattocks gynnwys “i ysgrifennu at a siarad â swyddogion y Cyngor Cymuned” yn eu ceisiadau am ganiatâd arbennig ac fe wnaethant gytuno i hynny. Cafodd cais y Cynghorydd Stan Zalot ei ddiwygio i gynnwys “i ysgrifennu at swyddogion”.
Gofynnodd y Cadeirydd i Jason Zalot gyflwyno ei gais am ganiatâd arbennig.
Adroddodd y Cynghorydd Zalot ei fod wedi gweithio ar y cychod ym Miwmares yn cynnal teithiau pleser a physgota oddi ar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |