Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Panel Caniatad Arbennig yn Ystafell Bwyllgor, Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 15fed Mehefin, 2026 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddataganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i Mr David Davies ddatgan diddordeb personol am ei fod yn ymweld ag Ynys Môn o bryd i’w gilydd ac yn aros mewn gwersyllfaoedd achrededig.

 

Bu i’r Cynghorydd Celfyn Furlong ddatgan diddordeb rhagfarnol yn ystod y cyfarfod am ei fod yn berchen busnes carafanau, a diben y cyfarfod oedd gwneud penderfyniad ynghylch cais y Cynghorydd am ganiatâd arbennig.  

2.

Cais am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 8 MB

Cais am ganiatâd arbennig.

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Celfyn Furlong wedi ceisio caniatâd arbennig yn seiliedig ar ei ddiddordeb rhagfarnol mewn perthynas â’r busnes, sy’n gweithredu safle carafanau 44 llain.     

 

Nodwyd fod y Cyngor Sir yn cynnal ymgynghoriad ar y cynnig i fabwysiadu ardoll ymwelwyr a’i peidio, yn unol â Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025. 

 

Mae’r Cynghorydd Furlong wedi gwneud cais am ganiatâd arbennig i allu cymryd rhan mewn cyfarfodydd neu drafodaethau am yr ardoll yn y dyfodol, ac i ysgrifennu at swyddogion ac aelodau am y mater.  Mae wedi gofyn am ganiatâd i fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar yr ardoll, ond nid yw’n dymuno pleidleisio ei hun.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Furlong i siarad o blaid ei gais.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Furlong fod ganddo arbenigedd a phrofiad sylweddol o weithio yn y diwydiant twristiaeth a’i fod eisiau codi ymwybyddiaeth aelodau etholedig, y cyhoedd a pherchnogion busnes o’r goblygiadau ynghlwm â mabwysiadu’r ardoll ymwelwyr.  Ategodd mai ei fwriad yw cynrychioli’r sector, gofyn cwestiynau a defnyddio ei wybodaeth a’r brofiad yn y maes. 

 

Cafodd aelodau’r Panel gyfle i gwestiynu Cynghorydd Furlong ar sawl agwedd ar ei waith, yn cynnwys sut fyddai’r ardoll yn effeithio ar ei fusnes pe byddai’n cael ei fabwysiadu. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Furlong ei fod yn gweithredu ac yn berchen ar safle carafanau teithio sy’n croesawu carafanau teithio, cartrefi modur, pebyll a lleiniau tymhorol.  Dywedodd y byddai ffi yr ardoll ymwelwyr ar gyfer cartrefi modur a charafanau yn cael ei osod ar gyfradd uwch, gyda phebyll ar gyfradd is, a lleiniau tymhorol yn cael eu heithrio oni bai eu bod yn cael eu his-osod.  Pwysleisiodd y byddai rheoli’r ardoll yn creu mwy o lwyth gwaith iddo, gan y byddai ffioedd yn weithredol pan mae ymwelwyr yn gadael y safle carafanau.  Nodwyd y gallai hyn achosi problemau pe byddai ymwelwyr yn penderfynu gadael safleoedd carafanau heb dalu’r ffioedd.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Furlong y byddai rheoli ochr weinyddol yr ardoll ymwelwyr yn creu baich i berchnogion gwersyllfeydd gan nad yw bob gwersyllfa wedi mabwysiadu’r dechnoleg ddiweddaraf.  Nodwyd y bydd rhaid i’r rheiny sy’n rhedeg gwersyllfeydd gydymffurfio gyda rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru a chyflwyno adroddiadau chwarterol i’r Awdurdod hwnnw.

 

Dywedodd y Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol y bydd angen glynu wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf o ran yr ardoll ymwelwyr.  Eglurodd fod y Cyngor Sir yn cynnal ymgynghoriad agored am 8 wythnos ar hyn o bryd sy’n darparu digon o wybodaeth i alluogi pobl i ymateb yn bwyllog iddo, sy’n cynnwys asesiad o’r economi, cydraddoldeb a’r amgylchedd.  Bydd ymgynghorydd annibynnol yn cael ei benodi i gyflwyno adroddiad terfynol i’r Cyngor llawn yn dilyn dadansoddiad o adborth yr ymgynghoriad.

 

Ar ôl gwrando ar gefndir y cais am ganiatâd arbennig gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.