Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mercher, 12fed Mehefin, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 80 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2013. (Papur ‘A’)

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Mawrth, 2013 yn amodol ar y canlynol :-

 

Eitem 2 9.- dylai’r eitem ddarllen Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan

 

Eitem 2 10. Newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad/ProtocolauNewidiadau (mae 5.3.17 bellach yn 5.3.1 yn y Cyfansoddiad).

 

YN CODI

 

Eitem 5 – Prosiect Rheoli Cwynion – Polisi Adolygu Archwilio

 

Nodwyd y dylid gwahodd y Rheolwr Archwilio i’r Pwyllgor Safonau ar 12 Rhagfyr 2013 er mwyn cytuno ar Gylch Gorchwyl yr Adolygiad Archwilio.

 

Cyfarfod yr Arweinydd a’r Arweinyddion Grwpiau gyda Chadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Cytunwydi drefnu cyfarfod rhwng yr Arweinydd a’r Arweinyddion Grwpiau a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau.

3.

Cwynion am Ymddygiad i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 52 KB

3A Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru i Gynghorwyr Sir ac a ddarperir er sylw’r Pwyllgor. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau.  (Papur ‘B’)

 

3B Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned ac a ddarperir i sylw’r Pwyllgor.  Er gwybodaeth ac unrhyw gwstiynau.  (Papur ‘C’)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3A Cyflwynwyd, er gwybodaethadroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru i Gynghorwyr Sir.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

GWEITHREDU :Diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.

 

3B Cyflwynwyd, er gwybodaeth - adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru I Gynghorau Tref a Chymuned. Cafwyd adroddiad manwl gan y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth)/Swyddog Monitro ar ymateb yr Ombwdsmon mewn perthynas â chwyn gan 5 Aelod o Gyngor Cymuned yn erbyn cyd- Gynghorydd.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth)/Swyddog Monitro ei bod yn bryderus mai dim ond 13 o’r 40 o Gynghorau Tref/Cymuned yn Ynys Môn sydd wedi ymateb i’r cais gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, copïau o’r Datganiadau Derbyn Swydd yn dilyn yr etholiad ym Mai 2013 a chopïau o’u Côd cyfredol.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

·         Cysylltu gyda’r Cynghorau Tref/Cymuned, a hynny ar fyrder, yn rhoi gwybod iddynt am bwysigrwydd derbyn Datganiadau Derbyn Swydd a’r Côd Ymddygiad.

 

GWEITHREDU: Bydd y Swyddog Gofal Cwsmer yn rhoi diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach yn y cyfarfod nesaf.

4.

Penderfyniadau'r Panel Dyfarnu pdf eicon PDF 213 KB

Adroddiad cryno gan y Swyddog Gofal Cwsmer.  (Papur ‘CH’)

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwydCasgliadau Panel Dyfarnu Cymru o 1 Ebrill 2011 i 29 Mai 2013.

 

PENDERFYNU nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU : Dim

5.

Cynhadledd Pwyllgor Safonau Cenedlaethol pdf eicon PDF 207 KB

Adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.  (Papur ‘D’)

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar yr uchod.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor Safonau am gopi o’r papurau a oedd ar gael yn y Gynhadledd er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cyflwyniad llafar gan y Cadeirydd.

 

GWEITHREDU: Bod y papurau perthnasol o’r Gynhadledd yn cael eu hanfon ymlaen at Aelodau’r Pwyllgor Safonau.

6.

Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru 20 Mai, 2013 pdf eicon PDF 286 KB

Adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.  (Papur ‘DD’)

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cyflwyniad llafar gan y Cadeirydd.

 

GWEITHREDU : Dim

7.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2012/13 a Rhaglen Waith ar gyfer 2013/14 pdf eicon PDF 342 KB

Adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.  (Papur ‘E’)

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau am 2012/13 a Rhaglen Waith 2013/14 a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar 23 Mai 2013.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU : Dim

8.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad fel y Penderfynwyd gan y Cyngor ar 23 Mai, 2013 pdf eicon PDF 345 KB

8A     Protocol Cyfryngau Cymdeithasol  (Papur ‘F’)

 

8B     Rheolau Gweithdrefn Cynllunio  (Papur ‘FF’)

 

8C    Protocol Hunanreoleiddo    (Papur ‘G’)

 

8CH Polisi GDG Newydd  (Papur ‘NG’)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd – y newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y penderfynwyd gan y Cyngor Sir ar 23 Mai 2013 ac yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Safonau:-

 

8A Protocol Cyfryngau Cymdeithasol

 

8B Rheolau Gweithdrefn Cynllunio

 

8C Protocol Hunanreoleiddo

 

8CH Polisi GDG Newydd - Nodwyd y bydd y polisi newydd yn cael ei gynnwys gyda’r dogefnnau Adnoddau Dynol ar wefan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD nodi’r newidiadau uchod i’r Cyfansoddiad.

 

GWEITHREDU: Bod y Polisi GDG newydd yn cael ei gynnwys gyda’r dogfennau Adnoddau Dynol.

 

9.

Gweddarlledu/Presenoldeb o bell a Chefnogaeth TGCh i Gynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 96 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.  (Papur ‘H’)

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro fod grant o £40,000 wedi ei ddyrannu i bob Awdurdod Lleol i gynorthwyo gyda darlledu a mynychu o bell, ynghyd â £500 ychwanegol i bob Cyngor Cymuned i gefnogi sefydlu gwefannau iddynt eu hunain. Mae angen gwario’r grant yn ystod 2013/14.

 

Ar hyn o bryd mae recordiadau sain o drafodaethau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael eu rhoi ar wefan y Cyngor ond nid yw’r trefniant hwn wedi ei ymestyn i Bwyllgorau eraill. Mewn perthynas â gweddarlledu cyfarfodydd, a’r dyraniad grant, adroddir ar hyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel rhan o’i raglen waith gyfredol. Mae yna wahanol faterion, rhai technegol ac annhechnegol, y bydd angen rhoi sylw iddynt er mwyn manteisio’n llawn ar weddarlledu cyfarfodydd a gofynion i’r dyfodol mewn perthynas â mynychu o bell.

 

Mae’r Mesur Democratiaeth Leol yn cynnwys gofyniad bod raid i bob Cyngor Cymuned ddatblygu gwefannau. Disgwylir i’r Cynghorau gweithio gydag Unllais Cymru i drafod sut y bydd yr elfen grant ar gyfer gwefannau Cynghorau Cymunedol yn cael ei chydlynu a disgwylir am ragor o ganllawiau

gan Unllais Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU : Bod adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau ar 12 Rhagfyr, 2013.

10.

Hyfforddiant i Aelodau ar y Fframwaith Moesegol pdf eicon PDF 449 KB

(Papur ‘I’)

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro fod 27 o’r 30 o Aelodau Etholedig wedi mynychu’r hyfforddiant gorfodol ar y fframwaith moesegol. Roedd y rheini na fynychodd yr hyfforddiant oll yn aelodau a oedd wedi eu hailethol.

 

PENDERFYNWYD gofyn i’r Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro ysgrifennu at y 3 Aelod nad oeddent wedi mynychu’r hyfforddiant ar y fframwaith moesegol a’u hatgoffa o’r gofynion hyfforddi yn y Cyfansoddiad.

 

GWEITHREDU: Fel y penderfynwyd.

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem(au) a ganlyn oherwydd y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan I, Atodlen 12A y Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A y Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

12.

Cofnodion y Cyfarfod a'r Penderfyniad a Wnaed ar 7 Mawrth, 2013

(Papur ‘L’)

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y Gwrandawiad a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2013 a’r penderfyniad.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro y bydd penderfyniad y Gwrandawiad yn ymddangos yn y wasg leol ac ar wefan y Cyngor pan fo’r cyfnod apel wedi dod i ben.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.