Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 46 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2013. (PAPUR ‘A’) Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2013. |
|
Cwynion ynghylch ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 349 KB 3A Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru i Gynghorwyr Sir. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘B’)
3B Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru i Gynghorwyr Sir. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘C’) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3A Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi’i ddiweddar ar gyfer Cynghorwyr Sir.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Bydd y Swyddog Gofal Cwsmer yn cyflwyno diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
3B Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi’i ddiweddar ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Bydd y Swyddog Gofal Cwsmer yn cyflwyno diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau. |
|
Penderfyniadau Panel Arfarnu PDF 7 MB Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer er gwybodaeth. (PAPUR ‘CH’) Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd – canfyddiadau Panel Dyfarnu Cymru o 1 Ebrill, 2011 i 29 Awst, 2013.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Bydd y Swyddog Gofal Cwsmer yn cyflwyno diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau. |
|
Cyn-gofrestru Diddordebau - Diweddariadau gan Gynghorwyr Sir PDF 614 KB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer a phederfynu pa gamau gweithredu pellach, os o gwbl, all fod eu hangen. (PAPUR ‘D’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ynghylch yr uchod.
Dywedodd y Swyddog Gofal Cwsmer fod 3 Chynghorydd Sir eto i ddiweddaru eu cofrestrau o ddiddordeb ymlaen llaw. Gofynnwyd sawl gwaith iddynt gwblhau’r ddogfen cofrestru diddordebau ymlaen llaw.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU :
• Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i anfon llythyr at y 3 Chynghorydd Sir yn gofyn iddynt ddiweddaru’r ddogfen cofrestru diddordebau ymlaen llaw o fewn 7 niwrnod i ddyddiad y llythyr;
• Anfon copi o’r ohebiaeth at Arweinydd GrWp y Grwpiau Gwleidyddol y mae’r aelodau etholedig yn aelodau ohonynt;
• Bod yr aelodau etholedig yn cael eu galw i ymddangos gerbron y Pwyllgor Safonau oni fyddant yn cydymffurfio gyda’r cais;
• Bydd y Swyddog Gofal Cwsmer yn cyflwyno diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau. |
|
Cynghorau Tref a Chymuned - Côd Ymddygiad ac Ymrwymiadau PDF 615 KB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer a phenderfynu pa gamau gweithredu pellach, os o gwbl, all fod eu hangen. (PAPUR ‘DD’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar yr uchod.
Dywedodd y Swyddog Gofal Cwsmer fod yr holl Gynghorau Tref a Chymuned ac eithrio un wedi ymateb mewn perthynas â’r Côd Ymddygiad a’r Ymgymeriadau.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU :
• Derbyn diweddariad gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau. |
|
Cynghorau Tref a Chymuned - Hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad PDF 2 MB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ynglyn â’r nifer fydd yn derbyn hyfforddiant ar 23 Medi, 2013 a 26 Medi, 2013 a phenderfynu pa gamau gweithredu pellach, os o gwbl, all fod eu hangen. (PAPUR ‘E’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar yr uchod.
Dywedodd y Swyddog Gofal Cwsmer fod 34 o’r 40 Cyngor Tref/Cymuned wedi ymateb a bod 64 o Gynghorwyr wedi mynychu sesiynau addas mewn perthynas â’r Côd Ymddygiad.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a’r Is-Gadeirydd ynghyd â Mrs. Dilys Shaw yn bwriadu mynychu’r Sesiynau Hyfforddiant. Dywedodd Mr Wilson y byddent yn pwysleisio’r angen i Gynghorau Tref a Chymuned fynychu’r hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad ac i raeadru’r hyfforddiant hwnnw yn eu Cynghorau Cymuned.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) y gellid anfon llythyr at yr holl Gynghorwyr Tref/Cymuned yn bersonol yn hytrach na thrwy Glerc y Cynghorau Tref/Cymuned.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Yn dilyn y Sesiwn Hyfforddi a gynhelir ar ddiwedd y mis hwn, anfon llythyr at bob Cynghorydd Tref/Cymuned nad ydynt yn anfon cynrychiolwyr, yn dwyn sylw at bwysigrwydd mynychu hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad.
|
|
Rheolau Gweithdrefn Cynllunio PDF 27 MB Derbyn adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro/Uwch Gyfreithiwr (Cynllunio) ar gyfer ei argymell i’r Pwyllgor Gwaith/Cyngor. (PAPUR ‘F’) Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro/Uwch Gyfreithiwr (Cynllunio) ar gyfer argymhelliad i’r Pwyllgor Gwaith/Cyngor.
Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro/Uwch Gyfreithiwr (Cynllunio) mai dyma oedd y newidiadau i’r Cyfansoddiad a oedd yn cael eu hargymell:-
Rheolau Gweithdrefn Cynllunio (Y Rheolau) :
Newid 1 (paragraff 3.5.3.15.5) – Yn y dyfodol, gall ceisiadau sy’n groes i bolisi a gyflwynir gan Gynghorwyr, Swyddogion perthnasol neu eu teuluoedd neu gyfeillion agos, yn hytrach na chael eu cyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio (y Pwyllgor) fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, gael eu gwrthod gan y Swyddogion Cynllunio dan y pwerau dirprwyedig ac yna, bydd adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor. Mewn achosion lle mae Swyddogion eisiau cymeradwyo ceisiadau sy’n groes i bolisi, yna dim ond y Pwyllgor fedr eu cymeradwyo;
Newid 2 (adran 4.6) – Diwygio’r Rheolau i adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol a chymryd i ystyriaeth Adran 25 Deddf Lleoliaeth 2011. Bod Aelodau’r Pwyllgor yn cael caniatâd i fynegi barn ar rinweddau’r cais hyd yn oed cyn iddo ddod gerbron y Pwyllgor am benderfyniad ar yr amod fod y farn a fynegir ganddynt yn rhagdueddiad ac nid yn rhagbenderfyni ad. Byddai hyn yn cynnwys caniatáu i Aelodau o’r Pwyllgor sydd hefyd yn Aelodau o Gynghorau Tref/Cymuned gymryd rhan mewn materion cynllunio mewn cyfarfodydd o’u Cynghorau Tref/Cymuned.
PENDERFYNW YD derbyn yr adroddiad a’r argymhellion ynddo.
GWEITHREDU: Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Swyddog Monitro/Uwch Gyfreithiwr (Cynllunio) i’r Pwyllgor Gwaith/Cyngor yn y man. |
|
Ymgynghoriad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol PDF 15 MB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro a phenderfynu ar ymateb ymgynghori. (PAPUR ‘FF’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro ar yr uchod.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol. Eleni, roeddynt wedi bod yn ymweld ag Awdurdodau Lleol ynghyd â Chynghorau Tref/Cymuned i gael sylwadau ynghylch adroddiadau’r Panel Annibynnol a’r lwfansau a ganiateir. Yng nghyd-destun Aelodau Cyfetholedig yr Awdurdodau Lleol, mae’r PAGA wedi cyhoeddi Adroddiad Atodol Drafft ar daliadau ar gyfer ymgynghori yn ei gylch. Derbyniwyd gohebiaeth ddyddiedig 1 Awst 2013 gan y PAGA yn rhestru 4 o faterion y maent angen sylwadau Awdurdodau Lleol yn eu cylch cyn iddynt gyhoeddi Adroddiad Atodol terfynol.
• (1) Mae amser rhesymol i baratoi cyn cyfarfod yn gymwys i gael ei gynnwys yn yr hawliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig a gall y Swyddog priodol wneud penderfyniad ynghylch faint o amser a fydd ei angen cyn y cyfarfod;
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro y gall Aelodau Cyfetholedig yn awr hawlio am amser i baratoi cyn cyfarfodydd ac y bydd y Swyddog priodol (Swyddog Monitro) yn penderfynu ar baratoadau o’r fath cyn y cyfarfod. Bydd angen gweithio allan amcangyfrif rhesymol o’r amser a fydd ei angen cyn anfon papurau at yr Aelodau Cyfetholedig mewn perthynas â pharatoi/darllen y gwaith papur.
Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd gael cyfarfod gyda’r Swyddog Monitro i benderfynu ar gyfnod amser rhesymol i baratoi ar gyfer cyfarfod oherwydd gall y gwaith papur ar gyfer rhai cyfarfodydd fod yn faith; yn benodol, mae’n cymryd mwy o amser i baratoi ar gyfer trafodaethau mewn Gwrandawiadau.
PENDERFYNW YD cytuno mewn egwyddor i (1) uchod a chynnal trafodaethau pellach yn ganolog mewn perthynas â chytuno ar amser safonol ar gyfer paratoi am gyfarfodydd.
• (2) Gellir cynnwys amser teithio i ac o’r man cyfarfod yn y costau y mae Aelodau Cyfetholedig yn eu hawliau (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol);
• (3) Gall y Swyddog priodol yn yr awdurdod benderfynu ymlaen llaw a yw’r cyfarfod wedi’i raglennu ar gyfer diwrnod cyfan a bydd y ffi’n cael ei thalu’n seiliedig ar y penderfyniad hwn hyd yn oed os bydd y cyfarfod yn dod i ben mewn llai na phedair awr;
• (4) Mae cyfarfodydd y gellir talu ffioedd ar eu cyfer yn cynnwys Pwyllgorau a Gweithgorau eraill (gan gynnwys Grwpiau Tasg a Gorffen) neu unrhyw gyfarfodydd ffurfiol eraill y gofynnir i Aelodau Cyfetholedig eu mynychu. (Gellir hawliau costau eisoes am rag- gyfarfodydd gyda Swyddogion, Hyfforddiant a mynychu Cynadleddau).
PENDERFYNWYD cytuno i (2), (3) a (4) fel y cânt eu nodi uchod.
Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro ymhellach at argymhelliad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol y dylai Awdurdodau Lleol ystyried nifer uchaf yr achlysuron y gellir gwneud taliadau yn eu cylch ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 PDF 11 MB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro, er gwybodaeth. (PAPUR ‘G’) Cofnodion: Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.
Dywedwyd bod y Pwyllgor Safonau yn ei gyfarfod ar 25 Gorffennaf, 2012, wedi cytuno ar ymateb i’r ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Hyrwyddo Democratiaeth Leol. Nodwyd bod Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 bellach wedi cael Caniatâd Brenhinol.
Dygodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) / Swyddog Monitro sylw’r Pwyllgor at Ran 5 y ddogfen sy’n cyfeirio’n benodol at faterion sy’n rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau:-
55 Gwefannau Cynghorau Cymuned 58 Cofrestrau o Ddiddordebau Aelodau 59 Mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell 68 Pwyllgorau Safonau ar y Cyd 69 Cyfeirio achosion sy’n ymwneud ag ymddygiad
PENDERFYNWYD i nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Dim |
|
Caniatâd Arbennig Generig - Indemniadau PDF 2 MB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro a phenderfynu a ddylid rhoi caniatâd arbennig generig ai peidio i’r holl Gynghorwyr Sir. (PAPUR ‘NG’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro ynghylch a ddylid rhyddhau caniatâd arbennig i’r holl Gynghorwyr Sir.
Rhoes yr Adroddiad Monitro adroddiad manwl i’r Pwyllgor ar y broses caniatâd arbennig a dywedodd fod gan y Pwyllgor Safonau'r disgresiwn i benderfynu a dyllid rhyddhau’r caniatâd arbennig y gofynnir amdano ai peidio ac i orfodi unrhyw gyfyngiadau fel sy’n briodol i amgylchiadau’r cais.
PENDERFYNW YD bod y Pwyllgor Safonau’n rhyddhau caniatâd arbennig fel a ganlyn :-
• Petai’r angen yn codi, mae holl Aelodau cyfredol y Cyngor Sir drwy hyn yn cael caniatâd arbennig i ymddangos gerbron yr Is-Bwyllgor Indemniadau (neu ei olynydd, os o gwbl) er mwyn cyflwyno unrhyw gais y maent yn dymuno i’r Is-Bwyllgor ei ystyried yn unol â’r Polisi a’r Weithdrefn ar gyfer Indemniadau.
• Rhyddheir y caniatâd arbennig hwn dan Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatâd Arbennig) Cymru 2001 2.(d) and 2.(f).
• Bydd unrhyw Aelodau sy’n gweithredu ar yr hyn â’r hawl i gyflwyno eu cais ac ateb cwestiynau ond bydd yr Is-Bwyllgor yn cynnal unrhyw drafodaethau’n breifat.
• Nid yw’r caniatâd arbennig hwn yn rhagfarnu hawl unrhyw Aelod i ofyn am i’w cais gael ei drafod yn seiliedig ar y papurau’n unig nac ychwaith ar eu hawl i gael eu cynrychioli gan ymgynghorydd cyfreithiol.
• Bydd y caniatâd arbennig hwn, petai raid, yn ymestyn hefyd i unrhyw ystyriaeth gan y Pwyllgor Safonau yn unol â’u pwerau dan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006 pan fydd gan unrhyw Aelod yr hawl i gyflwyno eu hachos yn bersonol gerbron y Pwyllgor Safonau, cyn i’r Pwyllgor ymneilltuo i sesiwn breifat i ystyried sut i weithredu ei bwerau statudol.
• Bydd y caniatâd arbennig hwn yn parhau ar gyfer y rheiny sy’n aelodau yn ystod tymor y Cyngor hwn.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd I ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: “Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod am yr eitem(au) isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12, Rhan 1 Atodlen 12A y ddeddf a’r Profion Budd y Cyhoedd ynghlwm”.” |
|
Canlyniad Ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwyn yn erbyn Cynghorydd Sir Derbyn adroddiad, er gwybodaeth, gan y Swyddog Gofal Cwsmer. (PAPUR ‘H’) Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth - canlyniad ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwyn yn erbyn Cynghorydd Sir.
GWEITHREDU: Dim |
|
Canlyniad Ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwyn yn erbyn Cynghorydd Cymuned Derbyn adroddiad, er gwybodaeth, gan y Swyddog Gofal Cwsmer. (PAPUR ‘I’) Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth - canlyniad ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwyn yn erbyn Cynghorydd Cymuned.
GWEITHREDU: Dim |
|
Cyfarfod/ydd rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ac Arweinyddion Grwpiau Derbyn adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau a nodi unrhyw faterion Safonau ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Arweinyddion Grwpiau. Cofnodion: Rhoes y Cadeirydd adroddiad cryno ar y cyfarfodydd a gafodd gyda’r Arweinyddion Grwpiau. Dywedodd fod trefniadau bellach wedi’u sefydlu y byddai ef fel Cadeirydd yn cael cyfarfodydd gyda’r Arweinyddion Grwpiau bedair gwaith y flwyddyn.
PENDERFYNW YD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Dim |