Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unryw eitem ar y Rhaglen. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2014. (PAPUR ‘A’) Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2014.
MATERION YN CODI
2. (11) - Nododd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod Clerc Cyngor Tref Caergybi wedi ymateb i ddweud y bydd yn mynychu un o’r sesiynau hyfforddi a drefnir gan y Cyngor Sir. |
|
Fforwm Pwyllgor Safonau PDF 452 KB Cadarnhau cofnodion y Fforwm Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2014 a derbyn adroddiad llafar gan Mr. Mike Wilson. (PAPUR ‘B’) Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd – cofnodion y Fforwm Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2014.
Rhoddodd y Cadeirydd adroddiad ar y materion a godwyd yn y Fforwm. Nodwyd bod presenoldeb y Cynghorau Tref a Chymuned mewn sesiynau hyfforddi yn ymddangos fel pe bai’n broblem i bob awdurdod. Roedd yr Aelodau’n credu y dylid annog aelodau Cynghorau Tref a Chymuned i fynychu sesiynau hyfforddiant yn arbennig felly mewn perthynas â’r Côd Ymddygiad. Roedd Clercod Cynghorau Tref a Chymuned hefyd i’w gweld fel pe baent yn anesmwyth o ran cymryd cyfrifoldeb am roi cyngor i’w haelodau ar y Côd Ymddygiad.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro y byddai’n cysylltu ag Unllais Cymru i weld a oedd gan Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ddisgrifiad swydd. Dywedodd hefyd y dylid gwneud y Clercod yn ymwybodol o’r ffaith bod y Cyngor Sir ar gael i roi cyfarwyddyd ar unrhyw fater yn ymwneud â’r Côd a bod y cyfrifoldeb am gadw at y Côd yn fater i’r Cynghorwyr.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Cael disgrifiadau swydd safonol i Glercod a chyflwyno copi i’r Cadeirydd. |
|
Datganiadau o ddiddordeb mewn cyfarfodydd a’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch PDF 73 KB Derbyn diweddariad gan uwch Reolydd y We ar y sefyllfa mewn perthynas â’r tair cofrestr ac yn arbennig felly’r gofrestr ar gyfer datgan diddordebau mewn cyfarfodydd. (PAPUR ‘C’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr y We Gorfforaethol mewn perthynas â chyhoeddi Cofrestrau Statudol ar-lein.
Dywedodd Rheolwr y We Gorfforaethol nad oedd unrhyw ddatganiadau o Roddion a Lletygarwch wedi cael eu cwblhau gan yr Aelodau ers y cyfarfod diwethaf. Soniodd ymhellach am y meddalwedd ychwanegol sydd ei hangen er mwyn caniatáu i Aelodau roi eu datganiadau o ddiddordeb mewn cyfarfodydd i mewn eu hunain. Byddai datblygu’r feddalwedd hon yn costio £7,500 + TAW i’r awdurdod. Byddai angen cyfnod o arbrofi a hyfforddi a rhagwelwyd y byddai’r defnydd newydd hwn yn cymryd hyd at 3 mis i’w ddatblygu a’i weithredu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogi’r fenter.
GWEITHREDU : Bydd Rheolwr y We Gorfforaethol yn drafftio adroddiad, gyda chefnogaeth y Pwyllgor Safonau i ofyn am gyllid ar gyfer y feddalwedd fel y gall yr Aelodau eu hunain fewnbynnu yn electronig eu datganiadau o ddiddordeb mewn cyfarfodydd. |
|
Prosiect Rheoli Cwynion – Adolygiad Archwilio PDF 149 KB Derbyn diweddariad gan y Rheolwr Archwilio ar y modd y mae’r Cyngor yn cydymffurfio gyda’I Bolisi Corfforaethol ar gyfer Pryderon a Chwynion. (PAPUR ‘CH’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yng nghyswllt archwiliad a wnaed o’r Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol fel rhan o’r Cynllun Archwilio Mewnol cyfnodol oedd wedi ei gymeradwyo ar gyfer 2014/15 yn dilyn cais gan y Pwyllgor Safonau.
Nododd y Rheolwr Archwilio bod 62 o gwynion wedi eu prosesu hyd at eu cwblhau rhwng Ebrill 2013 a Mawrth 2014. Nid oedd y cwynion hyn yn cynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgolion gan eu bod yn cael eu cofnodi ar wahân. Dywedodd y canfuwyd yn ystod yr adolygiad fod prosesau digonol yn eu lle i sicrhau cydymffurfiaeth. Fodd bynnag, roedd dau wendid a nodwyd yn ymwneud â hyfforddi staff mewn perthynas â’r polisi pryderon a chwynion a hefyd cynhyrchu adroddiad blynyddol i roi dadansoddiad o batrymau cwynion a gwersi i’w dysgu o flynyddoedd blaenorol.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro) ei bod wedi cael cyfarfod gyda’r Swyddog Cwynion Corfforaethol ac y cafwyd cytundeb y byddai’n cyfarfod â’r Swyddogion Cwynion yn y Gwasanaethau i lunio’r adroddiad yr oedd ei angen ac yna i drefnu hyfforddiant.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
GWEITHREDU : Bod Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn derbyn adroddiad y Swyddog Cwynion Corfforaethol yng nghyswllt yr uchod, ynghyd â’r cynllun hyfforddi. |
|
Adolygu Perfformiad Derbyn adroddiad gan yr Uwch Reolydd Datblygu AD ar y cam nesaf o’r adolygiad perfformiad yn dilyn cytuno ar y disgrifiadau swydd. (PAPUR ‘D’ – I DDILYN) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad llafar gan yr Uwch Swyddog Datblygu AD ar y broses gyfredol ar gyfer Adolygiadau Datblygu Perfformiad Aelodau Etholedig gyda chyfeiriad at y dogfennau profforma.
Cyfeiriodd y Swyddog at yr Adolygiadau Datblygu Perfformiad y bydd angen i Aelodau’r Pwyllgor Safonau eu cwblhau. Awgrymwyd y byddai’r Cadeirydd/Is-Gadeirydd yn gweithredu fel adolygwyr. Pwrpas adolygiadau o’r fath yw nodi’r sgiliau a’r anghenion hyfforddi sydd eu hangen i gefnogi swyddogaethau Aelodau’r Pwyllgor Safonau. Pwysleisiwyd y dylid cwblhau’r adolygiadau hyn erbyn mis Hydref. Mae’r holl ddisgrifiadau swydd bellach wedi eu cymeradwyo.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Yr Uwch Swyddog Datblygu AD a’r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) i wneud trefniadau ar gyfer cynnal Adolygiadau Datblygu Perfformiad i Aelodau’r Pwyllgor Safonau er mwyn sicrhau bod y gwaith papur yn cael ei gwblhau a bod unrhyw anghenion datblygu’n cael eu nodi. |
|
Cwynion am Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 44 KB 7A Adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi’I ddiweddaru ar gyfer Cynghorwyr Sir. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘DD’)
7B Adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi’I ddiweddaru ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘E’) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7A Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru i Gynghorwyr Sir.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Adroddiad diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn y Pwyllgor Safonau nesaf.
7B Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Adroddiad diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn y Pwyllgor Safonau nesaf. |
|
Penderfyniadau’r Panel Dyfarnu PDF 78 KB 8A Bydd y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) yn cyflwyno crynodeb o benderfyniadau a waned yn ddiweddar. (PAPUR ‘F’)
8B Derbyn crynodeb gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) o Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru. (PAPUR ‘FF’) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 8A Cyflwynwyd – crynodeb o benderfyniadau a gyflwynwyd gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ac a wnaed gan y Panel Dyfarnu rhwng 12 Mawrth 2014 a 10 Mehefin 2014.
Rhoddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) adroddiad byr ar gefndir rhai penderfyniadau a wnaed yng nghyswllt achos yng Nghyngor Tref Llandrindod.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Diweddariad i’w dderbyn neu unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn y Pwyllgor Safonau nesaf, a hysbysu’r Aelodau gan gynnwys Cynghorau Cymuned lle mae hynny’n briodol.
8B Cyflwynwyd – crynodeb o Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol).
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Diweddariad i’w dderbyn neu unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn y Pwyllgor Safonau nesaf, a hysbysu’r Aelodau gan gynnwys Cynghorau Cymuned lle mae hynny’n briodol. |
|
Hyfforddiant i Aelodau’r Pwyllgor a Chynghorau Tref a Chymuned PDF 218 KB 9A Crynodeb gan y Gyfreithwraig (LLywodraethu Corfforaethol) o’r ymatebion a dderbyniwyd i lythyrau a anfonwyd mewn perthynas â mynychu sesiynau hyfforddiant gan Un Llais Cymru ynghyd â thrafodaeth ar y digwyddiad hyfforddi nesaf ar gyfer Clercod a gynhelir yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn – h.y. ffurf yr hyfforddiant a’r pynciau y dylid eu cynnwyd. (PAPUR ‘G’)
9B Derbyn adroddiad gan y Gyfreithwraig (llywodraethu Corfforaethol) ar yr hyfforddiant a gyflwynir gan Mr. Peter Keith Lucas ar 1af Gorffennaf, 2014. (PAPUR ‘NG’)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 9A Cyflwynwyd – Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr ymatebion a dderbyniwyd i’r llythyrau a anfonwyd ynglŷn â phresenoldeb mewn sesiynau hyfforddi a gyflwynwyd gan Un Llais Cymru.
Dywedodd y Swyddog bod angen annog Clercod Cynghorau Tref a Chymuned i ofyn am gyfarwyddyd gan y Cyngor Sir. Nodwyd bod y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro a’r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn barod i geisio adeiladu perthynas weithio agosach gyda’r Clercod yng nghyswllt materion yn ymwneud â’r Côd Ymddygiad.
PENDEFYNWYD derbyn yr adroddiad.
GWEITHREDU : Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn gohebu â Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned i’w hannog hwy i fynychu’r sesiynau hyfforddi ac i’w gwneud hwy yn ymwybodol ei bod hi a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar gael i roi cyfarwyddyd pan mae angen hynny.
9B Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr hyfforddiant sydd i’w gyflwyno gan Mr. Peter Keith Lucas ar 1 Gorffennaf 2014.
Dywedodd y Swyddog bod angen i unrhyw Aelod o’r Pwyllgor Safonau sy’n dymuno codi unrhyw bynciau ychwanegol yn y sesiwn hyfforddi anfon eu ceisiadau ymlaen iddi hi mewn da bryd.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Safonau nesaf ar yr hyfforddiant a roddwyd. |
|
Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd a’r Rhaglen Waith PDF 400 KB Derbyn adroddiad gan y Cadeirydd ar yr Adroddiad Blynyddol a gyflwynwyd i’r Cyngor llawn ar 8 Mai, 2014. (PAPUR ‘H’) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol a’r Rhaglen Waith i’r Cyngor llawn ar 8 Mai 2014. Nododd ei fod wedi pwysleisio eto y bydd y Pwyllgor Safonau yn canolbwyntio’n bennaf ar gynnal safonau o fewn y Cyngor a chynnig cyfleon hyfforddi i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ar y Côd Ymddygiad.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Dim.
Daeth y cyfarfod i ben am 4.00 p.m. |