Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 11eg Medi, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan unrhyw Aeod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhalgen.

Cofnodion:

Eitem 4 – Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Swyddog Monitro oherwydd honiad a wnaed gan y Cynghorydd xxx am un o’i Gwasanaethau.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 115 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Mehefin, 2014.

(PAPUR ‘A’)

Cofnodion:

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014 fel rhai cywir.

 

YN CODI O’R COFNODION

 

Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at fersiwn Gymraeg y rhaglen ac at gyfieithu dogfennau i’r Gymraeg. Nododd nad oedd y dyfyniadau yn cael eu cyfieithu a bod y dogfennau hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Gofynnodd a fyddai modd ymchwilio i hyn.

 

Gweithredu: Cyfeirio’r mater i’r Adain Gyfieithu

 

Eitem 3 – Fforwm y Pwyllgor Safonau

 

Cafwyd diweddariad ar Eitem 3 gan y Cadeirydd - cael disgrifiad swydd ar gyfer Clercod Cynghorau Tref a Chymuned ac anfon copi i’r Cadeirydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) wedi anfon dogfen o’r enwCanllawiau Hanfodol i Glercodgan Un Llais Cymru i Gynghorau Tref a Chymuned. Mae disgwyliadau hefyd wedi eu nodi yng Nghanllawiau’r Ombwdsmon ar y Côd.

 

Mewn ymateb casglwyd nad oedd yna ddisgrifiad swydd cyffredinol ac mai cyfrifoldeb y Cynghorau Tref a Chymuned oedd cytuno ar eu disgwyliadau gyda’u Clercod.

 

Gweithredu: Bydd y Swyddog Monitro yn trafod y mater gyda’r Clercod yn yr hyfforddiant a gynhelir yn o fuan.

 

Eitem 4 Datgan diddordeb mewn Cyfarfodydd a’r Gofrestr o Roddion a Lletygarwch

 

Gofynnodd Mrs Shaw i’r Cadeirydd am ddiweddariad ynghylch cyllido’r feddalwedd. Ymatebodd y Cadeirydd trwy ddweud ei fod wedi bod mewn cyfarfod gyda’r Arweinwyr Grwpiau a chytunwyd i gefnogi menter y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ei fod wedi ei gytuno mewn egwyddor, a bod rhaid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith i ddyrannu arian o gronfa wrth gefn yr Arweinyddion Grwpiau. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi gofyn i’r Pwyllgor Safonau gysylltu gyda Chymdeithas Lywodraeth Leol Cymru i weld a oes cyllid ar gael. Cafwyd ymateb gan y Gymdeithas yn dweud nad oedd modd iddi ddarparu cyllid. Dywedodd y Swyddog Monitro ymhellach mai’r rheswm am wrthod cyllido oedd y berthynas fasnachol a chontractyddol rhwng y Cyngor a datblygwr y feddalwedd. Byddai’r Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) yn cysylltu â CLlLC eto i weld a fyddai’n ailystyried.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr adroddiad wedi ei baratoi a’i gymeradwyo’n ffurfiol ond nad oedd hi am fynd â’r mater yn ei flaen hyd oni fydd CLlLC wedi rhoi ateb terfynol neu oni fyddai Cynghorau eraill yn gallu darparu cyllid.

 

Gweithredu:

·      Y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) i ysgrifennu’n ôl at CLlLC yn dilyn trafodaeth gyda Rheolydd Gwe’r Cyngor a darparu diweddariad pellach.

 

·      Disgwyl am ymateb terfynol gan CLlLC neu Gynghorau eraill cyn symud ymlaen.

 

·      Yna, mofyn penderfyniad gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Eitem 9 Hyfforddiant ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor a Chynghorau Tref a Chymuned

 

Holodd Mrs Shaw ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Cymuned.

 

Ymateboddy Swyddog Monitro trwy ddweud bod y dyddiadau wedi eu pennu a bod gwahoddiadau wedi eu hanfon ond ni chafwyd ymateb da iawn.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod ymgysylltu.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 83 KB

 

 Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

(Papur  ‘B’)

 

Cofnodion:

Penderfynwyd mabwysiadu’r isod:

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, anfon y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

4.

Adroddiad gan yr Ombwdsmon

 

 Derbyn adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) mewn perthynas ag achosion honedig o dorri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, a chynnal gwrandawiad interim er mwyn penderfynu a ddylid cyfeirio’r mater ar gyfer gwrandawiad llawn ac, os felly, awdurdodi swyddogion i bennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad o’r fath a chyhoeddi cyfarwyddiadau ar gyfer ei gynnal.

(Papur ‘C’)

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ymchwilio i gŵyn ynghylch achosion honedig o dorri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau gan Gynghorydd Sir.

 

PENDERFYNWYD cynnal gwrandawiad ar ddyddiad ac amser i’w pennu.

 

Ymunodd y Cynghorwyr John Roberts a W R Evans â’r cyfarfod ar ôl y drafodaeth ar yr eitem hon.

5.

Cofrestr o Roddion a Lletygarwch a Nodiadau Briffio pdf eicon PDF 939 KB

 

Derbyn diweddariad ar y gwaith a wnaed mewn perthynas â’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch ers yr Adolygiad gan y Pwyllgor Safonau o’r Cofrestrau a’r cyngor a roddwyd wedyn i’r Aelodau.

(Papur ‘CH’)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) yn amlinellu’r cysyniad o gyhoeddi nodiadau briffio achlysurol ar gyfer Aelodau ar faterion penodol y mae aelodau yn gofyn cyngor arnynt yn aml.

 

Cafwyd diweddariad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar rôl yr Adain Gyfreithiol yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i Aelodau ynghylch unrhyw gwestiynau a fo ganddynt neu i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru ynghylch unrhyw newidiadau perthnasol yn y gyfraith. Dywedodd y Gyfreithwraig fod yr Adain Gyfreithiol wedi cwblhau 4 o nodiadau briffio yn y 6 mis diwethaf.

 

Bwriedir cyhoeddi nodyn briffio newydd ar Roddion a Lletygarwch, yn dilyn adolygiad a wnaed gan y Pwyllgor hwn yn gynharach eleni. Nodwyd nad oedd llawer o Aelodau yn cofnodi rhoddion a lletygarwch. Esboniodd y Gyfreithwraig fod yr Adain Gyfreithiol wedi gosod allan y cwestiynau y mae’r Aelodau yn eu gofyn yn aml gydag awgrymiadau o ran atebion.

 

Awgrymodd yr Is-Gadeirydd y byddai’n dymuno bod derbyn tocynnau a mynediad am ddim yn cael eu hychwanegu at y ffurflen.

 

Awgrymwyd cynnal sessiynau briffio cyn cyfarfodydd y Cyngor oherwydd y gallai ddenu presenoldeb uwch.

 

Nid oedd y Swyddog Monitro yn ystyried y byddai’n ddoeth cynnal sesiynau hyfforddi cyn cyfarfodydd oherwydd y baich gwaith sydd eisoes gan yr Aelodau. Awgrymwyd y gellid sôn eto am y nodiadau briffio yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

6.

Cwynion ynghylch ymddygiad i'r Ombwdsmon pdf eicon PDF 202 KB

 

 6A Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorwyr Sir. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau.

(Papur ‘D’)

 

6B Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Cofforaethol) ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau.

(Papur ‘DD’)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6A CyflwynwydAdroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorwyr Sir.

 

Mynegodd y Cynghorydd John Roberts bryder fod dau o’r cwynion wedi cymryd amser maith i ddod gerbron y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro mai targed yr Ombwdsmon oedd cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Safonau cyn pen cyfnod o flwyddyn, a bod y mater hwn wedi ei godi hefyd yn y Fforwm Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth a chodi’r mater eto pan fydd Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru yn cyfarfod â’r Ombwdsmon ym mis Tachwedd.

 

6B CyflwynwydAdroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Adolygiadau Datblygiad Personol a gofynnodd i Aelodau’r Pwyllgor gwblhau adolygiad. Dywedodd y bydd fersiwn Gymraeg ar gael hefyd. Esboniodd hefyd ei fod wedi neilltuo slotiau o hanner awr ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau ac y byddai’n adrodd yn ôl gyda chynllun hyfforddi drafft ar gyfer y Pwyllgor yn ei gyfanrwydd.