Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyfeiriodd y Cadeirydd at waeledd y Cynghorydd Dafydd R. Thomas. Cytunwyd y dylid anfon llythyr at y Cynghorydd Thomas ar ran y Pwyllgor yn dymuo’n dda iddo. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 237 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2013. (PAPUR ‘A’) Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2013.
YN CODI
4.(1) – Yn y cofnodion, cyfeiriwyd at lythyr a anfonwyd at yr Aelodau Etholedig yn eu hatgoffa i lenwi’r gofrestr o roddion a lletygarwch ar-lein. Gofynnodd yr Is-gadeirydd pam nad oedd modd datgan rhoddion a lletygarwch ar y wefan ar hyn o bryd. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) y gall Aelodau Etholedig lenwi’r ffurflen ar-lein a bod angen lleihau’r defnydd o ffurflenni papur a defnyddio’r cyfleuster i gofrestru rhoddion a lletygarwch ar-lein. Dywedodd hefyd mai’r cyfleuster ar gyfer Datgan Diddordebau mewn Cyfarfodydd oedd yr un nad oedd ar gael ar hyn o bryd.
GWEITHREDU: Rheolydd y We Gorfforaethol i roi diweddariad i’r cyfarfod nesaf ar gynnydd mewn perthynas â’r gofrestr datgan diddordebau mewn cyfarfodydd.
11. Cyfeiriwyd yn y cofnodion at hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad. Gofynnwyd cwestiwn gan yr Is-gadeirydd mewn perthynas â’r argymhelliad y dylai aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau fynychu cyfarfod o Gyngor Tref Caergybi. Gofynnodd a oedd dyddiad wedi’i bennu ar gyfer y cyfarfod. Dywedodd y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ei bod wedi ysgrifennu at Glerc Cyngor Tref Caergybi ddwy waith i ofyn pryd y bydd y sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnal ond nid ydyw hyd yma, wedi cael ateb.
Gweithredu: Y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) i adrodd ar gynnydd yn y cyfarfod nesaf wedi iddi gael ymateb gan Gyngor Tref Caergybi. Bydd y Cynghorydd T Ll Hughes yn codi’r mater hwn yn y cyfarfod nesaf y bydd ef yn ei fynychu.
|
|
Fforwm Pwyllgorau Safonau PDF 160 KB 3A Cadarnhau cofnodion y Fforwm Pwyllgorau Safonau a gynhaliwyd ar 21 Hydref, 2013. (PAPUR ‘B’)
3B Cymeradwyo’r llythyr a fydd yn cael ei anfon at Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â datblygu :- (i) Copi ar gyfer gwefannau Cynghorau Tref a Chymuned, a (ii) ‘Pecyn Cymorth’ ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. (PAPUR ‘C’)
3C Cymeradwyo’r llythyr a fydd yn cael ei anfon at yr Ombwdsmon yn gofyn am i benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Bwyllgorau Safonau gael eu cyhoeddi ar wefan yr Ombwdsmon. (PAPUR ‘CH’) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3A Cyflwynwyd a nodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Fforwm Pwyllgorau Safonau a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2013.
GWEITHREDU : Dim
3B Cyflwynwyd a chymeradwywyd y llythyrau a fydd yn cael eu hanfon at Un Llais Cymru a Chymdeithasol Llywodraethol Leol Cymru mewn perthynas â datblygu (i)Model o wefan ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned, a (ii) pecyn cymorth ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r llythyr at Un Llais Cymru a CLlLC fel a nodir uchod gan ymgorffori ynddo’r newidiadau a awgrymwyd gan yr Is-Gadeirydd yn y cyfarfod.
GWEITHREDU : Anfon copi o lythyr Un Llais Cymru at Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd i’w gymeradwyo ganddo.
3C Cyflwynwyd – copi o lythyr i’w anfon at yr Ombwdsmon yn gofyn am gael cynnwys ar wefan yr Ombwdsmon y penderfyniadau hynny a wneir gan Bwyllgorau Safonau.
Roedd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) o’r farn y gellid cynnwys yr eitem hon ar raglen y Fforwm Pwyllgorau Safonau ac y dylid gofyn i’r Fforwm benderfynu a ddylid ei anfon ymlaen yn ei enw ef.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys llythyr yr Ombwdsmon.
GWEITHREDU : Gofyn i’r Fforwm Pwyllgor Safonau rhanbarthol gymeradwyo ac anfon y llythyr.
|
|
Datganiadau o Ddiddordeb mewn Cyfarfodydd a Chofrestr Rhoddion a Lletygarwch Derbyn diweddariad ar lafar gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) mewn perthynas â’r sefyllfa gyfredol o ran y tair gofrestr. Cofnodion: Rhoes y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ddiweddariad llafar ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â’r cofrestrau isod:-
· Y gofrestr sefydlog; · Y gofrestr o ddatganiadau o ddiddordebau mewn cyfarfodydd; · Rhoddion a lletygarwch.
Mewn perthynas â’r uchod, eglurodd y Gyfreithwraig na fu unrhyw newid ers y cyfarfod diwethaf. Yn dilyn trafodaeth gyda Rheolydd y We Gorfforaethol, dywedwyd bod angen datblygu meddalwedd ychwanegol ar gyfer y gofrestr o ddiddordebau mewn cyfarfodydd er mwyn sicrhau ei bod yn rhyngweithiol.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Derbyn diweddariad gan Reolydd y We Gorfforaethol yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
|
|
Cwynion ynghylch Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 112 KB 5A Adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf tabl wedi’i ddiweddaru mewn perthynas â Chynghorwyr Sir. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘D’)
5B Adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf tabl wedi’i ddiweddaru mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘DD’)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 5A Cyflwynwyd – Adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cynghorwyr Sir.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Adroddiad diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
5B Cyflwynwyd – Adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Adroddiad diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
|
|
Penderfyniadau'r Panel Dyfarnu PDF 158 KB Crynodeb gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) o benderfyniadau a waned yn ddiweddar. (PAPUR ‘E’) Cofnodion: Cyflwynwyd – Crynodeb a gyflwynwyd gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) mewn perthynas â phenderfyniadau a wnaed gan y Panel Dyfarnu rhwng 13 Rhagfyr. 2013 a 12 Mawrth, 2014.
Cyflwynodd y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) adroddiad cefndirol ar ganlyniadau dau achos a aeth gerbron y Panel Dyfarnu.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU: Diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) yn y Pwyllgor Safonau nesaf.
|
|
7A Cadarnhau yr anfonwyd llythyrau at y Cynghorau Cymuned a’r Aelodau Etholedig yn eu wardiau (y nachos y rheini nad oeddynt yn bresennol) yn dwyn sylw at eu record presenoldeb yn y sesiynau hyfforddi. (PAPUR ‘F’)
7B Trafod dyddiadau ar gyfer y sesiwn hyfforddi nesaf. (Swyddog Monitro)
7C Cadarnhau fod y Rheolydd Datblygu Hyfforddiant wedi ysgrifennu at Un Llais Cymru ynghylch safon yr hyfforddiant a gafwyd yr haf diwethaf. (Uwch Swyddog Datblygu AD)
7CH Adroddiad llafar gan y Rheolydd Datblygu Hyfforddiant ar adolygiadau perfformiad y Pwyllgor Safonau. (PAPUR ‘FF’) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7A Cafwyd cadarnhad fod llythyrau wedi cael eu hanfon at Gynghorau Cymuned ac Aelodau Etholedig yn eu wardiau i ddwyn sylw at eu record bresenoldeb yn y sesiwn hyfforddi.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Bod adroddiad diweddaru ar yr ymatebion a dderbyniwyd yn cael ei gyflwyno gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
7B Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y bwriedir cynnal hyfforddiant mewnol ar gyfer Clercod Cynghorau Tref/Cymuned ar y Côd Ymddygiad yn yr hydref.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Gwneud trefniadau i drefnu sesiwn hyfforddi fewnol ar gyfer Clercod Cynghorau Tref/Cymuned ar y Côd Ymddygiad a bod y sleidiau ar gyfer y sesiwn ar gael i’r Pwyllgor Safonau.
7C Dywedodd yr Uwch Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol yr anfonwyd llythyr at Un Llais Cymru ynghylch safon yr hyfforddiant a ddarparwyd y llynedd. Nodwyd ymhellach fod Un Llais Cymru wedi gwrthod i’r Cyngor Sir gael y sleidiau o’u cyflwyniad.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Dim
7CH Rhoes yr Uwch Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol adroddiad llafar ar y broses gyfredol ar gyfer adolygu perfformiad yr Aelodau Etholedig a chyfeiriodd at y dogfennau pro-forma a ddefnyddir.
Dywedwyd bod angen yn awr i Aelodau Etholedig baratoi Adroddiadau Blynyddol ar yr hyn a gyflawnwyd ganddynt yn ystod eu blwyddyn yn y swydd, eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau ynghyd â’r sesiynau hyfforddiant y maent wedi eu mynychu.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y bydd adolygiad tebyg yn cael ei gynnal ar gyfer Aelodau Lleyg ac Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Bod yr Uwch Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol yn cyflwyno adroddiad diweddaru i’r cyfarfod nesaf.
|
|
Adolygu'r Cofrestrau PDF 265 KB Derbyn adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar gasgliadau’r adolygiadau o’r cofrestrau a thrafod y camau nesaf. (PAPUR ‘G’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y crynodeb o’r canfyddiadau’n dilyn yr adolygiad o’r cofrestrau. Soniodd am y materion isod:-
Y Gofrestr Sefydlog
· Cynghorwyr yn methu darparu gwybodaeth am fudd mewn tir; · Ffurflenni ddim yn cael eu llenwi’n llawn neu’n gywir.
Y Gofrestr o Ddatganiadau o Ddiddordeb mewn Cyfarfodydd
· Dryswch rhwng diddordebau personol/diddordebau sy’n rhagfarnu; · Rhai Cynghorwyr yn parhau i ddefnyddio’r hen ffurflenni.
Y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch
· Ychydig iawn o ddatganiadau a wnaed ynghylch rhoddion a lletygarwch;
Cofrestr Hyfforddiant
· A ddylid cyhoeddi’r gofrestr hyfforddiant ar-lein?
PENDERFYNWYD: Symud ymlaen ac anfon canfyddiadau cyffredinol yr adolygiad at yr holl Aelodau Etholedig yn dilyn trafodaethau gydag Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau.
GWEITHREDU: Trafod anghenion hyfforddi’r Aelodau Etholedig mewn perthynas â llenwi’r Cofrestrau uchod.
|
|
Statws Siartr Aelodau Derbyn adroddiad llafar gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro ar ei statws. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad llafar gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y dyfarnwyd i’r Cyngor Sir lefel sylfaenol y Statws Siarter ar gyfer Llywodraethiant Corfforaethol.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Dim
|
|
Gweddarlledu/Mynychu o bell a chefnogaeth TG ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned PDF 129 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad a ystyriwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 30 Ionawr, 2014. (PAPUR ‘NG’) Cofnodion: Cyflwynwyd er gwybodaeth, yr adroddiad a ystyriwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 30 Ionawr, 2014. Yn yr adroddiad hwn, nodir y cyd-destun a’r cynigion ar gyfer gweddarlledu cyfarfodydd a mynychu o bell. Penderfynodd y Cyngor Sir ar 10 Hydref 2013 i symud ymlaen i weddarlledu cyfarfodydd am gyfnod arbrofol o ddwy flynedd. Yn dilyn proses dendro gystadleuol, dyfarnwyd y cytundeb i Public-i.
Rhoes Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed ac eglurodd fod yr amserlen ar gyfer derbyn y grant am y cyfnod arbrofol wedi cael ei hymestyn i’r flwyddyn nesaf. Eglurodd y bydd darlledu byw yn dechrau ym mis Mehefin, gan gychwyn gyda’r Pwyllgor Gwaith, ac yna’r Cyngor Sir a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a’r modd y byddir yn rhoi prawf ar y system gyda’r aelodau a’r Staff cyn mynd yn fyw. Bydd Public-I yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus ar y cychwyn. Eglurodd y byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Mai.
Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y grant a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i bob Cyngor Tref a Chymuned i’w wario ar ddatblygu gwefannau.
Pwrpas y grant hwn yw cynorthwyo Cynghorau Tref a Chymuned i baratoi ar gyfer Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 sy’n cynnwys darpariaethau a fyddai’n golygu y byddai angen i bob cyngor cymuned gyhoeddi gwybodaeth ar wefan. Eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi llacio’r canllawiau o ran defnyddio’r grant ac y disgwylir canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru. Soniodd y dylai pob cyngor cymuned, erbyn 2015, gael gwefan. Disgwylir canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn.
PENDERFYNWYD
· Nodi’r cynnydd y manylwyd arno yn yr adroddiad mewn perthynas â darlledu cyfarfodydd o fis Mehefin 2014 ymlaen. · Nodi’r sefyllfa gyfredol o ran mynychu o bell.
GWEITHREDU : Bod adroddiad diweddaru ar yr uchod yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Safonau yn y dyfodol.
|