Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Mynegodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am wellhad buan yn dilyn ei salwch yn ddiweddar. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Cadarnhau confodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2014. (PAPUR ‘A’) Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2014 fel rhai cywir.
Yn codi o’r cofnodion:-
Eitem 4 – Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at rôl y Pwyllgor Safonau yn y gwrandawiad, ac a ddylai’r Pwyllgor bennu cosb ai peidio. Cyn cytuno ar benderfyniad, gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau gan y Cynghorydd Rogers a Ms Ginwalla.
Roedd yr Is-Gadeirydd yn dymuno iddo gael ei nodi nad oedd yr Ombwdsmon wedi argymell cosb yn y gwrandawiad.
Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at y gwrandawiad a dywedodd bod y Pwyllgor hwn, ar ôl ystyried a thrafod, wedi pennu cosb o fis yn unig yn hytrach na 2 fis (sef y gosb yr oedd y Pwyllgor yn dymuno ei phennu) a hynny ar ôl cymryd yr amgylchiadau lliniarol i ystyriaeth.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylid diwygio’r cofnodion i gynnwys:-
“Cafodd y Cynghorydd Rogers ei wahardd fel Cynghorydd Sir am gyfnod o ddau fis ac fe ostyngwyd y cyfnod hwn i un mis oherwydd amgylchiadau lliniarol.” |
|
Fforwm Pwyllgor Safonau 3A Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Fforwm Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2014. (PAPUR ‘B)
3B Derbyn crynodeb o’r cyfarfod gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol). (PAPUR ‘C’) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3A Cyflwynwyd a chadarnhawyd - cofnodion Fforwm y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2015.
PENDERFYNWYD nodi’r cofnodion er gwybodaeth.
3B Cyflwynwyd - crynodeb o'r cyfarfod gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol).
Cyfeiriodd y Cadeirydd at ail ymweliad yr Ombwdsmon â Chyngor Sir Ynys Môn ym mis Awst, 2014 i fynychu cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru. Cyflwynwyd iddo restr o gwestiynau gan yr Aelodau. Yn dilyn y cyfarfod hwn, cyfarfu'r Cadeirydd gydag Arweinyddion y Cyngor a thrafodwyd atebion yr Ombwdsmon.
Adroddodd y Cadeirydd bod yr Ombwdsmon yn symud tuag at ddatrysiad lleol yn hytrach na gwrandawiadau, lle bo hynny'n briodol.
Adroddodd y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar bresenoldeb yr Ombwdsmon yn y Fforwm, ac roedd y prif ymatebion i’w gwestiynau fel a ganlyn:-
• Angen treulio llai o amser yn ymchwilio i gwynion blinderus a wneir gan y Cynghorwyr yn erbyn y naill a’r llall; • Roedd angen i’r Ombwdsmon ganolbwyntio mwy ar y Gwasanaeth Iechyd fel blaenoriaeth oherwydd roedd ganddo achosion “byw neu farw” ar ei ddwylo; • Roedd cyllideb yr Ombwdsmon yn dynn, felly byddai angen gwneud newidiadau mawr i’r modd yr oedd yr Ombwdsmon yn gweithio. Byddai hyn yn cael ei drafod mewn papur arall.
Dywedodd y Gyfreithwraig y bu cyfarfod y Fforwm yn llwyddiannus a bod yr Ombwdsmon yn bwriadu cyflwyno rheoliadau i ganiatáu (yn ddewisol ac nid yn orfodol) Pwyllgorau Safonau Rhanbarthol eleni.
Gofynnodd y Cadeirydd i ymateb y Pwyllgor i'r Papur Gwyn gael ei anfon ymlaen i'r Fforwm fel y gellir trafod barn y Pwyllgor hwn.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
Cwynion Ynghylch Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorwyr Sir. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘CH’) Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorwyr Sir.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
Gweithredu: Y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) i adrodd yn ôl ar ddyddiad apêl.
|
|
Hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned ar y Côd Ymddygiad 5A Derbyn adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y sesiwn hyfforddi a gynhaliwyd ar gyfer Clercod Cynghorau Tref a Chymuned ar y Côd Ymddygiad. (PAPUR ‘D’)
5B Trafodaeth mewn perthynas â dyddiadau’r hyfforddiant nesaf. (Swyddog Monitor).
Cofnodion: 5A Cyflynwyd – adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar y sesiwn hyfforddiant a gynhaliwyd i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ar y Côd Ymddygiad.
Dywedodd y Gyfreithwraig y cynhaliwyd sesiynau hyfforddiant gan y Swyddog Monitro i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned y llynedd a’u bod yn llwyddiannus iawn. O’r 40 o Gynghorau Tref a Chymuned, mynychodd glercod 29 ohonynt. Yn dilyn yr hyfforddiant, anfonwyd llythyrau yn gofyn am atborth. Roedd y cyfan ond un ohonynt, yn fodlon gyda’r hyfforddiant a ddarparwyd.
Ers mynychu’r sesiynau hyfforddiant, dywedodd y Swyddog Monitro fod mwy o glercod Cynghorau Tref a Chymuned yn cysylltu â hi mewn perthynas â’r Côd Ymddygiad.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
Gweithredu: Y Pwyllgor Safonau i gytuno ar y modd y cyflwynir hyfforddiant yn y dyfodol i Aelodau Cynghorau Tref. |
|
Adolygiad o'r Cofrestrau Derbyn adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y casgliadau’n dilyn yr adolygiad o’r cofrestrau a thrafod y cynllun gweithredu. (PAPUR ‘DD’) Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar gasgliadau’r adolygiad o’r cofrestrau a’r cynllun gweithredu. Adroddodd ar y canlynol:-
Y Gofrestr Sefydlog -
• Aelodau ddim yn datgan statws llywodraethwyr ysgol fel buddiant personol; • Aelodau ddim yn darparu digon o fanylion ynghylch buddiant mewn tir yn 1.6 y ffurflen; • Dim digon o fanylion am y gweithgareddau busnes y maent yn ymwneud â nhw; • Anghysonderau o ran aelodaeth o gyrff allanol fel y’u cofnodwyd gan y Cyngor ac fel y cawsant eu datgan ar ffurflenni, gyda rhai Aelodau ddim yn diweddaru eu cofnodion yn rheolaidd.
Cofrestr Datganiadau o Ddiddordeb mewn Cyfarfodydd -
• Aelodau’n ticio’r blwch, ond ddim yn darparu manylion am y buddiant; • Dim digon o fanylion ynghylch beth yw’r diddordeb personol ac / neu ddiddordeb sy’n rhagfarnu, a dryswch ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu; • Aelodaeth a monitro presenoldeb cyrff allanol mewn cyfarfodydd; • Anghysondebau gyda chyhoeddi datganiadau ar wefan y Cyngor.
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch -
• Ychydig iawn o ddatganiadau’n cael eu gwneud; • Dylid nodi gwerth y rhoddion; • Nid oes unrhyw ddolen ar y wefan i roddion a lletygarwch aelodau cyfetholedig.
Cododd Aelodau’r Pwyllgor hwn y materion TGCh canlynol:-
• Datganiadau o ddiddordeb ddim yn cael eu cyhoeddi ar y wefan; • Anghysonderau rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg y datganiadau ar wefan y Cyngor; • Mae angen creu dolen o’r Gofrestr Sefydlog i’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer pob Cynghorydd unigol.
Awgrymodd y Swyddog Monitro y dylai’r Adain Gyfreithiol, gyda chytundeb y Pwyllgor hwn, ysgrifennu at yr holl Aelodau yn dweud bod adolygiad wedi’i gynnal ac yn amgáu’r canfyddiadau cyffredinol. Byddai’r llythyr yn dweud hefyd y bydd aelodau o’r Pwyllgor Safonau yn cysylltu gyda phob Aelod i drafod materion ar eu ffurflenni.
PENDERFYNWYD symud ymlaen ac anfon canfyddiadau cyffredinol yr adolygiad i’r holl Aelodau unwaith y bydd eglurder o ran y materion TGCh.
Gweithredu: Bod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Safonau yn y man. |
|
Ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y Papur Gwyn a’r adolygiad o bwerau’r Ombwdsmon er mwyn cael sylwadau’r Pwyllgor cyn ymateb i’r Ymgynghoriad. (PAPUR ‘E’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar y Papur Gwyn a’r adolygiad o bwerau’r Ombwdsmon gan Bwyllgor Cyllid LlCC er mwyn cael sylwadau’r Pwyllgor cyn ymateb i’r ymgynghoriadau.
Dywedodd y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) y bydd Deddf Llywodraeth Leol Cymru (Democratiaeth) 2013, sydd wedi dod i rym, yn cael ei gweithredu cam wrth gam. Bydd nifer o newidiadau’n cael eu cyflwyno’n o fuan, gan gynnwys cyhoeddi cofrestrau diddordeb ar ffurf electronig; grym i drosglwyddo adroddiadau ynghylch camymddwyn a cheisiadau gan aelodau am ganiatâd arbennig rhwng Pwyllgorau Safonau a grym ar gyfer cydweithio mewn Pwyllgorau Safonau rhanbarthol a fydd yn dod i rym yn ddiweddarach eleni. Hefyd eleni, bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i addasu’r model o’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol i hwyluso gweithrediad polisïau ar gyfer datrys anghydfodau’n lleol ac i egluro sefyllfa Aelodau Lleol (10.2(B) y Côd Ymddygiad) gyda diddordebau etholaethol. Bydd Awdurdodau Lleol yn cael eu heithrio rhag cyhoeddi adroddiadau ynghylch camymddygiad pan fydd achosion yn mynd rhagddynt.
Ar y pwynt hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor Safonau ddarparu ymateb i’r isod:
A ddylai fod grym newydd ai peidio i’r Pwyllgor Safonau ystyried achosion lle mae pryderon difrifol bod aelodau etholedig yn methu â chyflawni eu dyletswyddau’n foddhaol. Ymddengys mai rôl newydd ar gyfer rheoli perfformiad yw hon yn hytrach nag achosion yn ymwneud â’r Côd Ymddygiad. Byddai Llywodraeth Cymru yn darparu cosbau y gellid eu gorfodi. Byddai angen gwarchod yn erbyn cwynion blinderus.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y Papur Gwyn a chododd y mater ynghylch a fyddai’r Pwyllgor Safonau’n dymuno cael rôl yn y broses o reoli perfformiad Aelodau ac a oes angen sbardun ar gyfer yr ymyrraeth honno? Awgrymodd y byddai angen i gŵyn fod yn angenrheidiol ac yn drothwy, neu fel arall, mae’r Pwyllgor Safonau mewn perygl o gael ei alw’n wleidyddol ragfarnllyd. Mae cwyn ysgrifenedig yn rhywbeth i weithredu arni ond mae angen arweiniad mewn perthynas â disgwyliadau’r Aelodau.
Sut dylid ymdrin ag apeliadau? Cyn 2001, roedd modd cyflwyno apeliadau yn erbyn holl benderfyniadau’r Pwyllgor Safonau i’r Cyngor llawn. A yw hyn yn bosibl gyda chwynion ynghylch “perfformiad”? Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn ffafrio’r Panel Dyfarnu fel yr opsiwn gwell.
Cododd yr Aelodau’r materion isod:
• Roedd angen canllawiau cadarn ar gyfer y Pwyllgor Safonau; • Dylid codi mater diffyg presenoldeb mewn cyfarfodydd gydag Arweinwyr y Grwpiau yn y lle cyntaf; • Cosbau – mewn perthynas â pherfformiad/presenoldeb mewn cyfarfodydd; • Dylai cynnal is-etholiad fod yn gosb mewn achosion eithafol.
Dywedodd y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) fod yr Ombwdsmon eisiau cyflwyno grym newydd a fyddai’n sicrhau fod Arweinwyr Cynghorau, Arweinyddion Grŵp a Phrif Weithredwyr Awdurdodau Lleol yn parchu amrywiaeth. Byddai gan Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau swyddogaethau gorfodaeth. Nid oes gan y Pwyllgor Safonau wrthwynebiad i hyn mewn egwyddor ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Nodiadau Briffio Diweddaraf Derbyn adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y nodiadau briffio diweddaraf a baratowyd gan yr adran gyfreithiol. (PAPUR ‘F’) Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar y nodiadau briffio diweddaraf a baratowyd gan yr Adain Gyfreithiol.
Yn dilyn y cyfarfod diwethaf ym Medi 2014, mae dau nodyn briffio wedi’u drafftio:-
1. Canllawiau Lleol Drafft ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion 2. Nodyn Briffio ar Ganiatadau Arbennig
Mae’r Canllawiau Lleol ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion wedi cael ei baratoi i gynorthwyo swyddogion sy’n anghyfarwydd gyda’r Côd ac mae’n estyniad i’r Côd Ymddygiad.
Mae dwy ffurflen newydd wedi cael eu drafftio ar Ddatganiadau Diddordeb i swyddogion, h.y. rhoi gwybod am ddiddordeb personol a rhoi gwybod am ddiddordeb personol mewn cyfarfod. Mae’r drydedd ffurflen ar gyfer rhoddion a lletygarwch ac mae eisoes yn cael ei defnyddio.
PENDERFYNWYD:
• Diwygio a chymeradwyo'r dogfennau drafft yn Atodiadau 1 a 2 yn unol â chais y Pwyllgor. • Awdurdodi eu cyhoeddi i Swyddogion ac Aelodau. |
|
Ymestyn tymor y Pwyllgor Safonau Diweddariad llafar gan y Swyddog Monitro.
Gweler yr Adroddiad sydd ynghlwm a phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith (9 Chwefror, 2015) a’r Cyngor llawn (26 Chwefror, 2015). (PAPUR ‘FF’) Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor Llawn wedi cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i ailbenodi Aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau am dymor pellach o 4 blynedd o 17 Rhagfyr, 2015.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai tymor y Cynghorydd Raymond Evans fel Aelod o’r Pwyllgor hwn yn dod i ben ym mis Rhagfyr. Gellir cysylltu gydag Un Llais Môn i lenwi’r 2 sedd sydd wedi eu neilltuo i Gynghorau Tref a Chymuned. Cadarnhaodd holl Aelodau cyfredol y Pwyllgor Safonau, ac eithrio Mr Evans, eu bod yn fodlon parhau i wasanaethu fel Aelodau o’r Pwyllgor Safonau am dymor arall.
Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr awdurdod a roddwyd i Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud yr holl newidiadau canlyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor ac i Gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau, i ymestyn yr holl benodiadau yn y dyfodol i ddau dymor yn awtomatig i holl Aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Ni chafwyd gwybod am unrhyw fater arall. |