Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 19eg Rhagfyr, 2014 9.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

 

 Ni wnaed datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, y cofnodion cyhoeddus a gafwyd ar 11 Medi, 2014.

(PAPUR ‘A’)

Cofnodion:

 

 Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2014.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

“O dan Adran 100(A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’I diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’rPrawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.”      (PAPUR ‘B’)

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol mai’r rhagdybiaeth fel arfer yw y bydd Gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn gyhoeddus oni bai bod yna resymau pwysicach dros eu cynnal yn breifat. Y mater preifat yng nghyswllt y Gwrandawiad hwn yw’r trafodion mewn perthynas â’r tir a thystiolaeth Mr. Geal. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Rogers a oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus a chadarnhaodd yntau nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad, yn amodol ar safbwynt Mr. Geal mewn perthynas â’i dystiolaeth ef ei hun. Felly, penderfynodd y Pwyllgor i beidio â chau allan y wasg a’r cyhoedd ond i ddal yn ôl rhag gwneud penderfyniad yng nghyswllt tystiolaeth Mr. Geal hyd nes y byddai’n bresennol ac yna eri holi beth fyddai ei farn ynglŷn â rhoi ei dystiolaeth ei hun.

 

Cytunwydy byddai’r Gwrandawiad yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.

 

 

4.

Adroddiad

Y Pwyllgor Safonau i dderbyn ac ystyried adroddiad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorydd Sir wedi torri’r côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

(PAPUR ‘C’)

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ymchwilio i gŵyn a godwyd gan y Prif Weithredwr mewn perthynas ag achosion honedig o dorri’r Côd Ymddygiad i Aelodau mewn perthynas â’i gysylltiad â’r Cyngor Sir yn gwerthu darn o dir yn Nwyran a chronoleg o ddigwyddiadau a Rhestr o Faterion a baratowyd gan Mr Keith-Lucas ac a ddarparwyd ymlaen llaw i’r holl bartïon.

 

Rhoddodd y Cadeirydd amlinelliad o’r weithdrefn ar gyfer y Gwrandawiad a chytunodd pawb oedd yn bresennol i’r weithdrefn fel yr oedd wedi ei nodi yn y Rhaglen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Rogers sylwadau ynghylch pam y dylai’r honiadau gael eu taflu allan heb wrandawiad, yn cynnwys cysylltiad y Swyddog Ymchwilio â mater blaenorol, absenoldeb tystiolaeth ychwanegol gan y swyddogion a phryder y Cynghorydd Rogers ynglŷn â phriodoldeb camau eraill a gymerwyd gan y Cyngor. Eglurodd cynrychiolydd OGCC nad oedd ganddi unrhyw gysylltiad â mater arall ar wahân i’r ffaith ei bod yn gwybod fod cydweithiwr/wraig wedi cael sgwrs ar y ffôn gyda’r Cynghorydd Rogers. Cynghorodd Mr Keith-Lucas nad oedd unrhyw un o’r materion a gyflwynwyd yn annilysu’r gwrandawiad ac y dylai’r Pwyllgor ddod i benderfyniad ar yr honiadau yn seiliedig ar y ffeithiau yn unig ac na fyddai modd cael tystiolaeth ynghylch y ffeithiau hynny ond trwy wrandawiad. Penderfynodd y Pwyllgor fwrw ymlaen gyda’r gwrandawiad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Ms. Ginwalla (yn cynrychioli Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) i gyflwyno’i hadroddiad yn ffurfiol a oedd yn amlinellu’r materion allweddol am y gŵyn a dderbyniwyd gan y cyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r achos honedig o dorri’r Cod Ymddygiad oherwydd methiant y Cynghorydd Rogers i gofnodi ei ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn materion yn ymwneud â gwerthu tir yn 6 Glandŵr, Dwyran. Ar ôl ystyried y gŵyn, roedd y cyn Ombwdsmon wedi penderfynu bod digon o dystiolaeth i ddechrau ymchwiliad. Casglwyd tystiolaeth gan Swyddogion y Cyngor ynghyd ag e-byst, llythyrau a gohebiaeth yng nghyswllt y mater hwn. Cafwyd datganiad hefyd gan Mr. Geal. Roedd yr Ombwdsmon wedi’i fodloni bod perthynas agos yn bodoli rhwng y Cynghorydd Rogers a Mr Geal rhwng Mawrth 2012 ac Awst 2013. Cryfhawyd y berthynas honno gyda phriodas rhwng plant y ddau yn 2013.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Safonau ac i’r Cynghorydd Rogers ofyn cwestiynau i Ms. Ginwalla a chafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb.

 

Rhoddodd 2 Swyddog o’r Adain Rheoli Stadau dystiolaeth fel tystion i’r Pwyllgor a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Safonau a’r Cynghorydd Peter Rogers holi’r swyddogion.

 

Yn dilyn seibiant ar gyfer cinio, dywedodd y Cynghorydd P. Rogers y byddai Mr. Geal yn rhoi tystiolaeth fel tyst i’r Pwyllgor Safonau. Gofynnodd y Cadeirydd i Mr. Geal a oedd yn fodlon rhoi tystiolaeth yn gyhoeddus. Dywedodd Mr Geal ei fod yn fodlon gwneud hynny. Felly, penderfynodd y Pwyllgor barhau i drafod mewn sesiwn agored.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Safonau a’r Cynghorydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.