Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas iddo gael ei nodi ei fod yn Aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen ar gyfer Clybiau Brecwast.

2.

Cofnodion Cyfarfodydd pdf eicon PDF 332 KB

·           Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Safonau gafwyd ar 11 Mawrth, 2015.

 

·           Cyflwyno, i’w cadarnahu,gofnodion y Panel Caniatad gafwyd ar 1 Ebrill, 2015.

 

(PAPUR A)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2015.

 

·         Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y Panel Caniatâd Arennig a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2015.

3.

Adolygiad o’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio – Rhan 4.6 y Cyfansoddiad pdf eicon PDF 31 MB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) a Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/ Dirprwy Swyddog Monitro.

(PAPUR B)

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro mai pwrpas yr adroddiad oedd adolygu’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio i sicrhau bod safon gyffredin ar gyfer delio gyda mathau penodol o geisiadau a bod aelodau a swyddogion yn ymddwyn yn briodol mewn amgylchiadau o’r fath.

 

Dywedodd y Swyddog bod y Rheolau wedi bod mewn bodolaeth ers nifer o flynyddoedd a’u bod yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i unrhyw faterion cyfredol neu broblemau posibl.  Dywedodd y cafodd y Rheolau eu hadolygu ddiwethaf yn 2013 fel y manylir ar hynny ym mharagraff 2.1 yr adroddiad a dywedodd ei fod yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o unrhyw broblemau neu faterion a oedd angen sylw.  Yn dilyn ymgynghori gyda’r Pennaeth Cynllunio a’r Prif Swyddog ar gyfer y Pwyllgor, dywedodd mai’r farn gyffredinol yw nad oes unrhyw faterion o’r fath ar hyn o bryd.  Dywedodd fod argymhelliad wedi cael ei gyflwyno i beidio â gwneud unrhyw newidiadau ar hyn o bryd oherwydd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 sy’n bwriadu safoni a rheoleiddio’r weithdrefn a maint Pwyllgorau Cynllunio. Ymdrinnir â hyn drwy ddeddfwriaeth eilaidd nad ydyw hyd yma wedi ei chyhoeddi.  Rhagwelir y bydd nifer o bethau tebyg rhwng y Rheolau Gweithdrefn Cynllunio cyfredol a’r weithdrefn/protocol cenedlaethol arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Nodi’r adroddiad a’r newidiadau arfaethedig a ragwelir gan y Ddeddf;

·         Peidio â gwneud unrhyw newidiadau ar hyn o bryd i Reolau Gweithdrefn Cynllunio’r Cyngor;

·         Cymeradwyo hyfforddiant a gweithredu’r gweithdrefnau/protocolau cenedlaethol newydd pan gânt eu cyhoeddi a phan ddônt i rym.

4.

Canllawiau Diwygiedig ar y Côd Ymddygiad i Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymuned pdf eicon PDF 1 MB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR C)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â’r Canllawiau diwygiedig ar y Côd Ymddygiad.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro mai’r Ombwdsmon sy’n gyfrifol am gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo Aelodau i gydymffurfio gyda’r Côd Ymddygiad statudol.  Eglurodd y Swyddog fod 3 set o ganllawiau wedi cael eu cyhoeddi dan y Côd cyfredol ac mai hwn yw’r trydydd sy’n disodli’r ddau flaenorol.  Dywedodd fod Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymuned wedi cael nodiadau Canllaw ar wahân.  Pwysleisiodd yr angen i Aelodau’r Pwyllgor hwn fod yn ymwybodol o’r canllawiau ar y Côd Ymddygiad rhag ofn y bydd angen iddynt ystyried cwyn berthnasol a gyflwynir iddynt. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r Canllawiau diwygiedig ar y Côd Ymddygiad fel y cawsant eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.

 

Gweithredu:  Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at  Gynghorau Cymuned i gadarnhau fod y Canllawiau Diwygiedig wedi cael eu dwyn at sylw eu Haelodau.

5.

Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013 a Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015 pdf eicon PDF 549 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR CH)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro ar newidiadau statudol a wnaed gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2015. Dywedodd bod y ddeddfwriaeth wedi dod i rym gyda newidiadau cynlluniedig yn cael eu gweithredu fesul modiwl dan ddeddfwriaeth eilaidd.  Daeth modiwlau newydd i rym mis Mai. Mae rhai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol berthnasol i waith y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ymhellach fod gofyniad statudol yn awr ar bob Cyngor Cymuned i fod â phresenoldeb ar y we ac i gyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefannau.  Dywedodd y Swyddog fod y gofyniad hwn yn berthnasol i’r Pwyllgor Safonau oherwydd cafwyd cwynion ynghylch materion yn ymwneud â thryloywder mewn Cynghorau Tref a Chymuned, ac yn arbennig felly Cynghorau Cymuned bychan a rhai nad oes ganddynt fawr o adnoddau.  Dywedodd fod rhai aelodau o’r cyhoedd a chynghorwyr newydd wedi mynegi cryn anfodlonrwydd ynglŷn â’r ffaith nad yw rhai Cynghorau Cymuned yn cydymffurfio gyda’r gofynion cyhoeddi o ran rhaglenni, cofnodion, cyfrifon ac ati, a dywedodd ei bod hi a’r Archwilwyr wedi derbyn cwynion ynghylch diffygion a materion perthynas yn codi o’r rhwystredigaethau hynny, a bod y rhain wedi cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro ar y Gofrestr o Ddiddordebau Aelodau sydd bellach wedi cael ei chyflwyno.  Mae gan y Cyngor Sir dair cofrestr o ddiddordeb ac un yn unig sydd gan Gynghorau Tref a Chymuned sef “cofrestr o’r datganiadau a wneir mewn cyfarfodydd”.  Bellach, rhaid i Aelodau Cynghorau Cymuned gwblhau ffurflenni “Cofrestru Diddordebau Ymlaen Llaw”, a rhaid i’r ddwy fod ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y ‘Gofrestr o Ddiddordebau Aelodau’ yn arwyddocaol i Aelodau’r Pwyllgor Safonau o ran y gwaith y maent yn ei wneud yn flynyddol i adolygu’r cofrestrau o ddiddordebau’r Cynghorwyr Sir sy’n rhan benodol o’u rhaglen waith.  Nid oes unrhyw gynllun newydd i adolygu cofrestrau’r Cynghorau Cymuned wedi ei gynnwys ar gyfer eleni (oherwydd rhaid i’r broses newydd sefydlu’n gadarn) ond efallai y byddai’n rhesymol rhybuddio Cynghorau Cymuned y bydd y Pwyllgor Safonau’n adolygu’r cofrestrau y flwyddyn nesaf?

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd cosbi Cynghorau Tref a Chymuned nad oeddent wedi cydymffurfio gyda’r gofyniad statudol i fod â gwefan.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y gallai aelodau’r cyhoedd gyflwyno cwynion ynghylch camweinyddu i’r Ombwdsmon.  Efallai na fyddai’r Ombwdsmon yn gweithredu ond gallai gyhoeddi rhybudd/cerydd cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Nodi’r newidiadau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, yn arbennig paragraff 2;

·         Penderfynu a ddylai materion cydymffurfiaeth mewn perthynas â’r cyfrifoldeb newydd hwn fod yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Safonau.

 

GWEITHREDU:

 

·         Pennaeth Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro i ofyn i’r Adain Bolisi am ddata i sefydlu pa Gynghorau Tref a Chymuned sydd â gwefan, ac a yw’r rheini nad oes ganddynt bresenoldeb ar y we yn bwriadu trefnu hynny;

·         Adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau ar 10 Rhagfyr 2015 ar ganfyddiadau’r uchod.

·         Yna, y Swyddog Monitro i ysgrifennu at yr Ombwdsmon ynghylch cwestiynau a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor Safonau o ran  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Taflenni Ffeithiau a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Ymchwiliadau a Chyfweliadau - Côd Ymddygiad yr Aelodau pdf eicon PDF 818 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR D)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod Swyddfa’r Ombwdsmon wedi cyhoeddi dwy daflen ffeithiau ar y Côd Ymddygiad er budd yr Aelodau.  Mae’r Taflenni Ffeithiau’n berthnasol i Gynghorwyr Tref a Chymuned a Chynghorwyr Sir fel ei gilydd.  Mae’r taflenni gwybodaeth yn rhoi gwybod i Aelodau am y broses ar gyfer ymchwiliadau a chynnal cyfweliadau gyda’r Ombwdsmon yn ystod ymchwiliad.  Mae’r Ombwdsmon eisiau Aelodau fod yn barod ac yn wybodus am y broses.

 

Dywedodd y Cadeirydd y dylid dwyn at sylw’r Aelodau mai cyfrifoldeb y Cynghorwyr Tref a Chymuned a Chynghorwyr Sir yw datgan diddordeb personol hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn un anffurfiol.  Os nad yw Aelodau yn datgan diddordeb a bod cwyn yn dod i law, dywedodd y gallai cwyn am dorri’r Côd Ymddygiad ddilyn.

 

PENDERFYNWYD argymell yn y man fod cyfathrebiad yn cael ei hanfon at yr holl Aelodau yn dwyn eu sylw at gyngor yr Ombwdsmon fel y’i gwelir yn ATODIAD 3 yr adroddiad.

 

Gweithredu:  Y Swyddog Monitro i anfon copïau caled o’r Taflenni Ffeithiau a linc i’r Cynghorau Cymuned.

7.

Canllawiau Lleol Ddrafft ar Gôd Ymddygiad y Swyddogion pdf eicon PDF 1001 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR  DD)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro ar yr uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod y Côd Ymddygiad i Swyddogion y tu allan i awdurdod y Pwyllgor Safonau.  Dywedodd bod yna Gôd Ymddygiad statudol yn y Cyfansoddiad, ac mae staff yn arwyddo i’w dderbyn pan fyddant yn cychwyn contract cyflogaeth gyda’r Cyngor.  Mae’r Côd Ymddygiad yn wahanol i Gôd yr Aelodau oherwydd mae Côd yr Aelodau wedi esblygu i gynnwys cysyniadau o ddiddordebau personol a rhagfarnus ond nid yw’r Côd ar gyfer y Swyddogion yn gwahanu rhwng y diddordebau hynny.

 

Awgrymodd y Swyddog Monitro y dylai’r Cyngor edrych ar ddrafftio Canllawiau Lleol ar y Côd i Reolwyr a Swyddogion i gynorthwyo ei staff.  O ran mynychu cyfarfodydd, mae’r sefyllfa yn syml yn gyffredinol ond mae ymwneud gweithredol o ddydd i ddydd yn fwy anodd e.e. proses gaffael lle mae aelod o’r teulu yn rhan ohoni.  Mewn achosion o’r fath, bydd angen i swyddogion ddod ymlaen i ddatgelu unrhyw gysylltiadau a bydd angen i reolwyr sefydlu ‘gwahanfuriau’.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn cefnogi’r Canllawiau Lleol Drafft ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion ac yn argymell eu cymeradwyo i bwrpas ymgynghori.

8.

Cwynion ynghylch Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 335 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR E)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Rhoes y Swyddog Monitro diweddariad i’r Aelodau ar gwynion sydd wedi cael eu cyflwyno.  Dywedodd bod dau adroddiad, un yn ymwneud â Chynghorydd Sir a’r ail yn ymwneud â Chynghorydd Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Swyddog bod y gŵyn gyntaf wedi bod gerbron y Panel Dyfarnu ac nad yw’r mater wedi gorffen yn llwyr. Mae’r materion eraill y mae’r Ombwdsmon wedi eu hystyried naill ai wedi cael eu gwrthod neu, mewn un achos, penderfynodd yr Ombwdsmon ymchwilio ond defnyddiodd ei bwerau i ddwyn yr ymchwiliad i ben gan anfon nodyn cynghori i’r Aelod ynglŷn â’i ymddygiad.  Dywedodd y Swyddog mai dim ond un mater sy’n parhau i fod angen sylw ac nad oes unrhyw gwynion newydd wedi dod i law yn erbyn Aelodau.  O ran Cynghorau Tref a Chymuned, dywedodd bod y cyfan o’r cwynion a gyflwynwyd wedi cael eu gwrthod gan yr Ombwdsmon.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

9.

Adolygu’r Tair Gofrestr o Ddiddordebau’r Aelodau pdf eicon PDF 856 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR F)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr Aelodau wedi gofyn am y cyfle i drafod yr Adolygiad diwethaf o’r Cofrestrau cyn cychwyn ar y broses ar gyfer yr adolygiad nesaf.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod Aelodau’r Pwyllgor Safonau wedi cysylltu gyda’r aelodau i gael eglurhad ynghylch rhai manylion yn y cofrestrau. Yn y gorffennol, ymarfer bwrdd gwaith yn unig fu hwnnw.  Yn dilyn atborth gan y Pwyllgor Safonau, anfonwyd nodyn cynghori allan.  Anfonwyd nodyn tebyg eleni.

 

Roedd yr Aelodau wedi dweud bod nifer o faterion TGCh yn parhau i fod angen sylw gydag anghysonderau rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg y Cofrestrau.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n costio oddeutu £10,000 i unioni’r diffyg hwnnw a bod y cynnig wedi cael ei wrthod ar y cyd gan y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a’r Rheolydd Gwasanaethau Ar-lein.  Mabwysiadwyd dull llai technegol gyda chefnogaeth gan yr adain Gyfieithu ac mae’r dull hwnnw’n gweithio.

 

PENDERFYNWYD trafod y broses o adolygu’r cofrestrau yn 2016 a phenderfynu pa welliannau y gellir eu gwneud.

 

Gweithredu:

 

·         Y Swyddog Monitro i ddrafftio llythyr at yr holl Aelodau ar ddiwedd y flwyddyn yn cadarnhau y bydd y Pwyllgor Safonau yn dilyn yr un broses y flwyddyn nesaf.

·         Y Pwyllgor Safonau i gynghori Aelodau a chaniatáu amser iddynt ddiweddaru’r cofrestrau os oes unrhyw faterion yn parhau i fod angen sylw o ran y “Gofrestr o Roddion a Lletygarwch” a’r “Gofrestr Sefydlog”;

·         Cynnwys adolygiad o’r Adroddiadau Blynyddol a Hyfforddiant.

10.

Hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr Tref pdf eicon PDF 805 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR FF)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro ar yr uchod.

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar Raglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer y flwyddyn gyfredol o ran hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Tref.  Dywedodd fod cyfarfodydd wedi cael eu trefnu yn yr ardaloedd a ganlyn:-

Caergybi

Porthaethwy

Biwmares

Llangefni

Dyddiad dros dro ar gyfer Amlwch.

 

Cynigiodd y Swyddog Monitro fod un Aelod o’r Pwyllgor Safonau yn mynychu cyfarfod o bob Cyngor Tref.  Y farn wreiddiol oedd i Aelodau fynychu cyfarfod cyffredin am awr ond gwrthodwyd y syniad hwnnw gan y Cynghorau Tref oherwydd bod yn well ganddynt gael sesiwn hyfforddi ar wahân.  Byddai sesiwn cwestiwn ac ateb yn rhan o’r drafodaeth.

 

Rhoes y Swyddog Monitro i bob Aelod restr o gyfarfodydd gyda dyddiadau a lleoliadau i fynychu cyfarfodydd y Cynghorau Tref.  Awgrymodd pob Aelod yn wirfoddol y cyfarfod y byddant yn hoffi ei fynychu.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Bod y Pwyllgor Safonau yn cadarnhau/diwygio cynnwys y sleidiau.

·         Nodi unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cynghorau Tref.

·         Cadarnhau y bydd pob Aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn mynychu sesiynau hyfforddi yn ardal pob Cyngor Tref gyda’r Swyddog Monitro.

11.

Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru pdf eicon PDF 490 KB

Derbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

(PAPUR G)

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ynghylch yr uchod.

 

Rhoes y Cadeirydd ddiweddariad ar y cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2015.  Cyfeiriodd at agweddau cadarnhaol y Fforwm a oedd yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr ac sydd eisoes wedi cael ei weithredu gan y Pwyllgor hwn. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyfodol y Pwyllgorau Safonau Rhanbarthol sy’n ansicr ar hyn o bryd ac y byddai angen ei ailystyried yn dilyn unrhyw ad-drefnu gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

Gweithredu:  Aelodau’r Pwyllgor Safonau i godi unrhyw faterion a all fod ganddynt ar gyfer cyfarfod nesaf y Fforwm Pwyllgor Safonau Rhanbarthol (dim dyddiad wedi ei bennu hyd yma).

12.

Cynhadledd Genedlaethol ar gyfer Pwyllgorau Safonau pdf eicon PDF 377 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR NG)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro ar yr uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y bydd Cynhadledd Pwyllgorau Safonau Cenedlaethol Cymru yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ac y bydd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau yn mynychu ynghyd â’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro.  Eglurodd fod y mater wedi cael ei ddwyn i sylw’r Pwyllgor Safonau er mwyn gofyn i Aelodau pa weithdai sy’n flaenoriaeth ganddynt.  Dywedodd y cynhelir 6 o weithdai a bod modd i gynrychiolwyr fynychu’r cyfan o’r 6 os ydynt yn dymuno.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Mynychu’r holl sesiynau:-

1.    Cyfryngau Cymdeithasol – Cadw Allan o Drwbl

2.    Chwythu’r Chwiban – Addasu i ddelio â modelau gweithredu newydd i’r gwasanaethau cyhoeddus.

3.    Cynghorau Cymuned - Llywodraethau a Safonau

4.    Datrys Problemau’n Lleol – yn ymarferol.

5.    A yw Egwyddorion Nolan yn addas at y diben yn yr hinsawdd bresennol a thros yr 20 mlynedd nesaf.

6.    Cywirdeb ym maes Cynllunio – diweddariad.

7.     

·         Anfon unrhyw feysydd penodol neu gwestiynau i’r Cadeirydd/Is-Gadeirydd rhoddi sylw iddynt yn ystod y Gynhadledd.

 

·         Y Cadeirydd/Is-Gadeirydd i baratoi adroddiad ffurfiol o’r Gynhadledd i’r Pwyllgor Safonau ar 10 Rhagfyr 2015.