Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 18 KB

I ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Cais am Ganiatad Arbennig

Ystyried cais am ganiatad arbennig.

 

Copi o’r cais a’r papurau perthnasol ynghlwm. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - cais ar y cyd am ganiatâd arbennig gan Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn yng nghyswllt y Cydgytundeb Statws Sengl a oedd i’w drafod yn y cyfarfod o’r Cyngor Sir llawn ar 7 Ebrill 2015.

 

Amlinellodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y categorïau o ddiddordebau personol a rhagfarnus sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 10 a 12 y Côd Ymddygiad. Eglurodd na fedrir ond rhoi caniatadau arbennig mewn amgylchiadau penodol oedd wedi’u rhestru yn Adran 2 y dogfennau a oedd wedi eu cyflwyno i’r Panel. Nodwyd y gall 13 o Aelodau Etholedig ddatgan diddordeb rhagfarnus yn y mater.

 

Rhoddodd y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol amlinelliad o gefndir y Cytundeb Statws Sengl i’r Panel a’r penderfyniad y bydd ei angen gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 7 Ebrill 2014.

 

Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb ac ymneilltuodd y Panel i sesiwn breifat i drafod y mater.

 

Wedi i’r Panel ddychwelyd, cyhoeddodd y Cadeirydd bod y Panel wedi PENDERFYNU rhoi caniatadau arbennig i’r holl Aelodau o’r Cyngor Sir a fydd efallai angen datgan diddordebau rhagfarnus, yng nghyswllt statws sengl, oherwydd bod ganddynt gydnabod personol agos ymysg staff y Cyngor a’u bod yn gwybod y byddant yn cael eu heffeithio gan benderfyniad/au’r Cyngor.

 

Rhoddir y caniatâd yn unol â pharagraff 2(d) ac y mae wedi’i gyfyngu i siarad, ond nid i bleidleisio.