Rhaglen a chofnodion

Panel Goddefebau, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 24ain Medi, 2015 5.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn Perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cais am Ganiatad Arbennig pdf eicon PDF 5 MB

Ystyried cais am ganiatad arbennig.

 

Copi o’r cais a’r papurau perthnasol ynghlwm.

Cofnodion:

Cyflwynwydcais ar y cyd am ganiatâd arbennig gan Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn mewn perthynas ag adroddiadDarparu Clybiau Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd’ a fydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor Sir ar 29 Medi, 2015.

 

Rhoes y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro amlinelliad o’r categoriau o ddiddordebau personol sydd wedi eu rhestru ym mharagraff 10 y Côd Ymddygiad a’r prawf ar gyfer diddordebau sy’n rhagfarnu ym mharagraff 12.  Eglurodd na fedrir ond rhoddi caniatâd arbennig mewn amgylchiadau penodol a oedd wedi eu rhestru yn Nogfen 3 y dogfennau a oedd ynghlwm wrth yr Adroddiad i’r Panel.

 

PENDERFYNODD y Panel fel a ganlyn :-

 

·           Rhoddir caniatâd arbennig i’r holl Aelodau sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn neu sydd â chydnabod agos (teulu neu gyfaill) sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn (neu wasanaeth cyfatebol/tebyg/cysylltiedig mewn ysgol) sy’n golygu y gall Aelodau o’r fath siarad a phleidleisio, ar yr amod fod y mater yn ymwneud â’r holl ysgolion neu nifer o ysgolion;

·           Bydd y caniatâd arbennig hwn yn ymestyn i unrhyw drafodaeth yn y dyfodol ar y mater hwn (neu wasanaeth cyfatebol/tebyg/cysylltiedig mewn ysgol) am weddill tymor y Cyngor hwn ac ni fydd angen unrhyw ganiatâd arbennig pellach;

·           Bydd Aelodau’n parahu i fod â diddordeb personol dan y Côd a bydd angen iddynt ddatgan y diddordeb hwnnw ar gychwyn y cyfarfod neu ar gychwyn y drafodaeth ar yr eitem berthnasol.  Ar y ffurflenni datgan diddordeb, rhaid i Aelodau gadarnhau eu bod yn dibynnu ar ganiatâd arbennig a gafwyd gan y Pwyllgor Safonau ar 24 Medi, 2015.