Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd o bllith yr Aelodau Annibynnol ar gyfer tymor newydd y Pwyllgor.

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. Michael Wilson yn Gadeirydd o blith yr Aelodau Annibynnol.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd o blith yr Aelodau Annibynnol ar gyfer tymor newydd y Pwyllgor.

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. Islwyn Jones yn Is-gadeirydd o blith yr Aelodau Annibynnol.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn pethynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

4.

Deddf Llywodraeth Leol 2000 - Apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 38 MB

Derbyn adroddiad Panel Dyfarnu Cymru, dyddiedig 1 Medi, 2015, mewn perthynas a’r Cynghorydd Sir, Peter Rogers.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro a’r Atodiadau.

 

Nododd y Cadeirydd mai adolygiad apêl oedd hwn ar ôl i Dribiwnlys Apêl Panel Dyfarnu Cymru gyfeirio’r mater yn ôl i’r Pwyllgor Safonau, sef y mater yn ymwneud â’r ffaith i’r Cynghorydd Peter Rogers dorri’r Côd Ymddygiad ac argymhelliad y Tribiwnlys y dylid ymestyn y gwaharddiad o un mis i dri mis. Pwysleisiodd y Cadeirydd nad diben y cyfarfod oedd ail-glywed tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 19 Rhagfyr, 2014, nac wedyn i’r Tribiwnlys Apêl a gynhaliwyd ar 10 ac 11 Medi, 2015.


Dywedodd y Cadeirydd ymhellach y bydd rhaid i’r Pwyllgor Safonau benderfynu am ba hyd y dylid gwahardd y Cynghorydd Rogers o ganlyniad i’r ffaith ei fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, sef un ai ei wahardd am un mis neu am dri mis. Dywedodd y Cadeirydd y bydd y Pwyllgor Safonau yn clywed unrhyw dystiolaeth ychwanegol ar gosb a gafwyd ers yr Apêl, naill ai’n ysgrifenedig neu’n llafar, oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Cynghorydd Rogers. Roedd y Pwyllgor wedi derbyn Adroddiad y Tribiwnlys Apêl ar 18 Rhagfyr, 2015 ynghyd â chyflwyniadau ysgrifenedig gan y Cynghorydd Rogers; mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymateb yn dweud nad oes ganddynt unrhyw beth i’w ychwanegu.

Amlinellodd y Cadeirydd y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a nododd y byddai’r Pwyllgor yn ymneilltuo i sesiwn gaeedig i ystyried ei benderfyniad, ac y byddai ond yn galw ar y Swyddog Monitro petai angen unrhyw gyngor penodol. Byddai unrhyw gyngor o’r fath a roddir yn cael ei rannu gyda’r Cynghorydd Rogers.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Swyddog Monitro gyflwyno ei hadroddiad i’r Pwyllgor. Gofynnodd y Cynghorydd Rogers i gael gohirio’r cyfarfod oherwydd bod y Swyddog Monitro wedi cael ei gwahardd rhag cynghori’r Pwyllgor Safonau ynghylch y mater hwn; defnyddiwyd Cyfreithiwr allanol yn y gwrandawiadau blaenorol.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Safonau wedi penderfynu, yn sgil y datganiad yr oedd y Cynghorydd Rogers wedi’i wneud i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynglŷn ag adran gyfreithiol y Cyngor, yr adran yr oedd hi’n Bennaeth Gwasanaeth arni, na fyddai wedi bod yn briodol iddi gymryd rhan mewn materion tystiolaeth yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2014. Roedd y gwrandawiad gerbron y Panel Dyfarnu ar 10 ac 11 Medi, 2015, yn ail wrandawiad o’r holl dystiolaeth. Mae’r materion hyn wedi cau bellach ac nid oes gan y Pwyllgor Safonau unrhyw rym i ailystyried y canfyddiadau ffeithiol. Yn yr amgylchiadau hyn, nid oedd y Swyddog Monitro’n ystyried bod ei sefyllfa bellach yn ei hatal rhag medru cynghori’r Pwyllgor Safonau ar y broses yn y cyfarfod hwn.

 

Ymneilltuodd y Pwyllgor i sesiwn breifat i drafod y mater.

 

Daeth aelodau’r Pwyllgor Safonau yn ôl o’r sesiwn breifat a chyhoeddodd y Cadeirydd fod aelodau’r Pwyllgor Safonau wedi dod i benderfyniad unfrydol y câi’r Swyddog Monitro aros yn y cyfarfod i roi cyngor.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Swyddog Monitro gyflwyno ei hadroddiad.

 

Amlinellodd y Swyddog Monitro ei hadroddiad i’r cyfarfod a nododd fod y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.