Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithwir

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol –

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Cofnodion:

Ystyriwyd a PHENDERFYNWYD o dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A i’r Ddeddf honno, a’r Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

3.

Cais am Ganiatâd Arbennig

Ystyried cais am Ganiatâd Arbennig.

 

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod saith Aelod o’r Pwyllgor Gwaith wedi cyflwyno cais ar y cyd i oresgyn diddordeb personol mewn perthynas â “Strategaeth Ddigidol Ysgolion Ynys Môn a Chwmni Cynnal Cyf.”.

 

Roedd y cais yn nodi’r busnes yr oedd yr Aelodau’n dymuno cymryd rhan ynddo, a’r math o ganiatâd arbennig a geisiwyd, a’r sail statudol dros wneud y cais.

 

Ar ôl derbyn cyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, daeth y Panel i’r casgliad a ganlyn:-

 

1.   Bod y diddordeb gyfystyr â diddordeb personol yn unol â’r diffiniad yn y

 Côd Ymddygiad/Canllawiau’r Ombwdsmon.

2.   Mae’r diddordeb yn un sy’n rhagfarnu yn unol â’r ystyr yn y Côd

Ymddygiad.

3.   Nid oes unrhywganiatâd arbennigyn y Côd Ymddygiad a fyddai’n

     caniatáu i’r Ymgeiswyr gymryd rhan.

4.   Byddai’r Ymgeiswyr yn cael eu hatal rhag cymryd rhan/gwneud

      penderfyniadau a ni fyddent yn gallu cyflawni un o swyddogaethau’r

      Pwyllgor Gwaith.

5.   O’r herwydd, ni fyddai modd i’r Pwyllgor Gwaith sicrhau cworwm oni

     roddir caniatâd arbennig.

6.  Rhoddwyd caniatâd arbennig i bob un o’r saith ymgeisydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi Caniatâd Arbennig i bob un o’r saith ymgeisydd yn unol â’r geiriad a ganlyn, i:-

 

  ysgrifennu at swyddogion [a/neu’r Pwyllgor Gwaith/Pwyllgor/Cyngor] am y mater;

  siarad â swyddogion y Cyngor am y mater, nad ydynt yn Ymddiriedolwyr neu’n Aelodau o Fwrdd Cwmni Cynnal Cyf., ar yr amod y cedwir cofnod o unrhyw drafodaethau o’r fath;

  siarad yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith/Pwyllgor/Cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater;

  aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/bleidlais ar y mater (ar gael os oes gan Aelod anallu);

  pleidleisio mewn cyfarfodydd o’r fath;

  ymgymryd â rôl lawn mewn unrhyw gyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd unrhyw gyrff allanol;

  daw’r caniatâd a roddwyd fel hyn i ben ar 9 Mai 2022.

 

Nodwyd bod rhaid i’r Aelodau y rhoddwyd caniatâd arbennig iddynt ddatgan eu diddordebau personol sy’n rhagfarnu, a’r ffaith eu bod wedi derbyn caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau, ym mhob cyfarfod perthnasol pan fyddant yn trafod a/neu’n pleidleisio mewn cyfarfodydd. 

 

Rhoddir y caniatâd arbennig o dan Baragraff 81(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ar y sail a ganlyn:-

 

 Os oes gan ddim llai na hanner aelodau’r awdurdod perthnasol, neu hanner aelodau bwyllgor yr awdurdod y mae’r busnes i gael ei ystyried ganddo, ddiddordeb sy’n berthnasol i’r busnes hwnnw”.

 

 Os oes gan ddim llai na hanner aelodau gweithrediaeth arweinydd a chabinet y mae’r busnes i gael ei ystyried ganddo ddiddordeb sy’n berthnasol i’r busnes hwnnw a bod naill ai paragraff (d) neu (e) hefyd yn gymwys”.

 

Gweithredoedd:

 

Bydd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn:-

 

  Ysgrifennu at y saith aelod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.