Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, ac yn rhithwir drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 228 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 yn gywir.

3.

Adroddiadau Blynyddol Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 95 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf ynglŷn â’r nifer isel o adroddiadau blynyddol sy’n cael eu cyflwyno gan aelodau etholedig.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod trefniadau ar waith i godi ymwybyddiaeth ac annog aelodau newydd i gyflwyno a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar eu gweithgareddau. Dywedodd bod yr aelodau yn ymwybodol o’r broses a’r amserlen ar gyfer cyflwyno adroddiad blynyddol, a bod yr Arweinyddion Grŵp hefyd wedi cael eu briffio ar y mater.  

 

Nodwyd bod 24 allan o 35 (68%) wedi dod i law hyd yma ar gyfer 2022/23, a bod hynny’n dda o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth y bydd fersiwn diwygiedig o’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yr Arweinyddion Grwp y mis yma ac i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 28 Mehefin 2023.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth ei fod yn bwriadu: -

 

  Trafod gydag aelodau unigol i weld a oes unrhyw beth yn eu rhwystro rhag cyflwyno a chyhoeddi adroddiad blynyddol.

  Trafod ffyrdd o adnabod ymarfer dda/gwersi i’w dysg gyda Chynghorau Sir eraill er mwyn annog mwy i gwblhau adroddiad blynyddol.

  Datblygu’r templed ar gyfer cwblhau adroddiadau blynyddol i sicrhau ei fod yn hawdd i’w ddefnyddio. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithred: Dim

4.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 528 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol ar yr hyfforddiant a’r cyfleoedd datblygu a gynigiwyd i aelodau etholedig yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD bod 59 diwrnod o hyfforddiant wedi cael ei gynnig i aelodau etholedig rhwng mis Mai 2022 a Mawrth 2023 ar bob math o bynciau e.e. Sgiliau Cadeirio a TGCh, a bod rhai sesiynau wedi cael eu cynnal ar gyfer Pwyllgorau penodol ee, y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion/ Llywodraeth ac Archwilio. Nodwyd bod presenoldeb yn ystod y sesiynau hyn wedi amrywio. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD bod trefniadau ar waith ar gyfer Cynllun Hyfforddi 2023/23. Cyfeiriodd at Strategaeth Datblygu Aelodau 2022-2027, sy’n amlygu’r cymorth y mae’n rhaid i’r Cyngor ei hwyluso ar gyfer ei aelodau. Dywedodd bod pob aelod wedi cael gwahoddiad i gyfweliad datblygu i drafod eu hanghenion hyfforddi unigol.  Nodwyd hefyd y byddant yn ymgynghori â’r Tîm Arweinyddiaeth a chyda Phenaethiaid Gwasanaeth ac yn gofyn iddynt amlygu unrhyw anghenion datblygu a hyfforddiant posib.   Yna, bydd y Cynllun Hyfforddi drafft yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac yna’r Pennaeth Democratiaeth.

 

Yn ychwanegol i’r Cynllun Hyfforddi, nodwyd bod Bwletinau ar gyfer Aelodau Etholedig sy’n crynhoi’r hyfforddiant sydd ar gael ar y Gronfa Ddysgu wedi cael eu cynhyrchu a’u rhannu.  Nodwyd hefyd y bydd adroddiadau chwarterol ar bresenoldeb aelodau yn ystod sesiynau hyfforddi yn cael eu rhannu â’r Arweinyddion Grwp yn y dyfodol.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD y rhoddir ystyriaeth i gynnal mwy o sesiynau hybrid/wyneb yn wyneb eleni.  Dywedodd bod amser y sesiynau’n cael eu hadolygu’n barhaus er mwyn bod yn hyblyg ac ymateb i anghenion unigolion gydag ymrwymiadau gwaith/gofalu.

 

Awgrymodd un aelod y dylid darparu hyfforddiant ychwanegol ar faterion cynllunio i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Dywedodd y Rheolwr Hyfforddiant AD y dylid siarad â’r Swyddogion Cynllunio ynglŷn ag unrhyw hyfforddiant bellach yn y lle cyntaf.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Cyflwyno’r Cynllun Hyfforddi Aelodau i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 28 Mehefin 2023 er mwyn ei gymeradwyo.

  Bod y Rheolwr Hyfforddiant AD yn codi’r mater ynglŷn â darparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gyda Swyddogion Cynllunio’r Cyngor.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod.

5.

Cwynion am Ymddygiad a Gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 583 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â:-

 

(a)  Cynghorwyr Sir, a

(b)  Cynghorwyr Tref a Chymuned

ar gyfer Chwarter 3 a Chwarter 4 o 2022/2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi’i ddiweddar ar y cwynion chwarterol a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) mewn perthynas â (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref/Cymuned. 

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro nad oedd unrhyw gwynion wedi cael eu cyflwyno i OGCC ynghylch Cynghorwyr Cyngor Sir Ynys Môn yn ystod Chwarter 3, 2022/23 (Hydref - Rhagfyr 2022) a Chwarter 4, 2022/23 (Ionawr - Mawrth 2023).

 

Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw gwynion wedi cael eu cyflwyni i OGCC ynghylch Cynghorwyr Tref/Cymuned Ynys Môn yn ystod Chwarter 3 a Chwarter 4, 2022/23. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys Atodiadau 1-4.

  Bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn rhannu Atodiadau 1-4 gydag aelodau etholedig a chyfetholedig y Cyngor, ac aelodau’r Cynghorau Tref a Chymuned yn eu Newyddlenni unigol.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod.

 

6.

Penderfyniadau Cyhoeddus aer gyfer holl Gynghorau Cymru gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) pdf eicon PDF 455 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Ganlyniadau Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ers y Pwyllgor Safonau diwethaf a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022.  

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn crynhoi’r wybodaeth a oedd wedi’i gyhoeddi ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ar gyfer y cyfnod Rhagfyr 2022 hyd Mai 2023 mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Dirprwy Swyddog Monitro bod crynodeb cynhwysfawr o’r 7 achos a oedd yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad ar gael yn Atodiad 1.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) mai’r brif thema yn yr adroddiad yw bod yr Ombwdsmon yn dal i ddefnyddio’r prawf trothwy dau gam er mwyn gweld a ddylid ymchwilio i gŵyn ai peidio. Dywedodd bod dau achos wedi’u cyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru, a bod dau wedi’u cyfeirio at y Pwyllgor Safonau perthnasol. Trafodir achos rhif 2 mewn mwy o fanylder yn eitem rhif 7 ar yr agenda.  

 

Nodwyd y bydd penderfyniadau’r Ombwdsman yn cael eu cynnwys yn y Newyddlen nesaf y Cynghorwyr Sir a’r Cynghorwyr Tref a Chymuned. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Cynnwys dolenni i’r achosion a adroddwyd yn eu cylch a’r pwyntiau dysgu a amlygwyd gan yr Ombwdsmon yn y Newyddlenni ar gyfer y Cynghorwyr Sir a’r Cynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod.

7.

Penderfyniadau gan Banel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 521 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru yng Nghymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Rhagfyr 2022. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn crynhoi’r prif faterion a phwyntiau dysgu yn y penderfyniadau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru, ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ym mis Rhagfyr 2022.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Dirprwy Swyddog Monitro grynodeb o’r 2 achos canlynol a gyflwynwyd i Banel Dyfarnu Cymru: -

 

Achos 1 – Apêl y Cynghorydd Paul Rogers yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a oedd heb ei gyflwyno cyn y terfyn amser. Nodwyd bod rhaid i aelodau fod yn ymwybodol o faterion technegol wrth apelio a glynu wrth yr amserlenni llym sydd wedi cael eu gosod ar gyfer Tribiwnlysoedd Apêl. 

 

Achos 2 – Mae achos y cyn-Gynghorydd Sheila Jenkins yn fwy cymhleth gan ei fod yn ymwneud â chyn gynghorydd a oedd wedi cymryd rhan mewn eitem fusnes a heb ddatgan buddiant personol a rhagfarnus ar ddau achlysur. Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad bod hwn yn achos difrifol o dorri’r cod a chafodd ei anghymhwyso am flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r astudiaethau achos a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

 

Gweithred: Dim

8.

Ceisuadau am Ganiatâd Arbennig

Mae’n arferol bod adroddiad yn cael ei baratoi gan y Swyddog Monitro ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau. Yn ystod y cyfnod ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 28 Mehefin 2022 a dyddiad cyhoeddi’r agenda, nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath wedi eu derbyn. Ar y sail hwn, nid oes adroddiad wedi’i gynnwys.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd adroddiad, a nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau am ganiatâd arbennig wedi dod i law ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau a dyddiad cyhoeddi’r agenda hwn. 

9.

Protocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 770 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar ddatblygiad Protocol Datrysiad Lleol at ddefnydd Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar gyflwyno Protocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod y Pwyllgor Safonau wedi trafod p’un ai a oedd yn dymuno mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned, yn debyg i’r Protocol a gafodd ei ddrafftio gan y Pwyllgor a’i fabwysiadu gan aelodau’r Cyngor Cymuned.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod Un Llais Cymru wedi cyhoeddi Protocol i’w ddefnyddio gan y Cynghorau Tref a Chymuned i’w helpu i ddatrys materion lefel isel yn fewnol. Dywedodd bod y Pwyllgor Safonau’n annog y Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu a, lle bo angen, defnyddio’r Protocol hwnnw, serch hynny nid yw pob un Cyngor wedi’i fabwysiadu. Nid yw bob amser yn ymarferol chwaith, gan fod y broses yn dibynnu’n drwm ar gynnwys Cadeirydd a Chlerc y Cyngor perthnasol, rhywbeth sydd ddim bob amser yn bosibl os ydynt ynghlwm â’r anghydfod. 

 

Nodwyd bod y Pwyllgor Safonau wedi cynorthwyo’r Cynghorau Tref a Chymuned gyda phrosesau datrys anffurfiol yn y gorffennol. Nodwyd hefyd nad yw’n orfodol cymryd rhan mewn proses o’r fath a bod hynny’n digwydd yn ôl disgresiwn Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.   

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un ai y dylai’r Pwyllgor ddatblygu ei Brotocol ei hun i ddelio â materion yn ymwneud ag ymddygiad, i gyd-fynd â Phrotocol Un Llais Cymru. Yn dilyn trafodaeth, cafodd y cynnig drafft yn Atodiad 1 ei dderbyn gan y Pwyllgor, yn amodol ar fân newidiadau h.y. egluro pryd y dylid defnyddio Protocol Un Llais Cymru, a defnyddio iaith lai technegol yn y ddogfen.

 

Gofynnwyd am eglurder ynglŷn â p’un ai a fyddai modd i Un Llais Cymru addasu ei Brotocol a darparu hyfforddiant i Gynghorau Tref a Chymuned. Ymatebodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod y Protocol sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Un Llais Cymru yn nodi y  dylai swyddogion/aelodau o “Gynghorau Tref a Chymuned dderbyn hyfforddiant er mwyn eu galluogi i weithredu’r Protocol”.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ysgrifennu at Un Llais Cymru i weld a yw’n cynnig hyfforddiant ar ei Brotocol Datrysiad Lleol, gyda’r bwriad o rannu’r wybodaeth hon â’r Cynghorau Tref a Chymuned.

  Derbyn Protocol Datrysiad Lleol drafft y Pwyllgor Safonau ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned sydd ar gael yn Atodiad 1, yn amodol ar y mân newidiadau sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n anfon copi o’i Brotocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned i’r Cynghorau Tref a Chymuned drwy’r Newyddlen a bod Cadeirydd y Pwyllgor yn ei gyflwyno yn ystod cyfarfod o’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n cynnal trafodaethau pellach ar sut i hyrwyddo Protocol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned.  

 

Gweithred: Gweler y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Diweddariad ar Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 196 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Aelodau Annibynnol Pwyllgorau Safonau yng Nghymru. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol),  yn dilyn cyfarfod cyntaf Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgor Safonau ym mis Ionawr eleni. 

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Dirprwy Swyddog Monitro y bydd y Pwyllgor Safonau’n cael cyfle, drwy’r Cadeirydd, i godi unrhyw faterion pwysig eraill yng nghyfarfod nesaf y fforwm ar 30 Mehefin.

 

Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn y cwestiynau a ganlyn yn ystod y cyfarfod diwethaf: -

 

  Sut mae Cynghorau eraill yn paratoi a chyflawni Adroddiadau Blynyddol Aelodau?

  Ydi awdurdodau lleol eraill yn darparu Hyfforddiant Sgiliau Cadeirio? A oes modd trefnu hyfforddiant drwy’r Fforwm?

 

Nodwyd bod y Fforwm wedi cytuno i edrych ymhellach ar Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau a Hyfforddiant Sgiliau Cadeirio.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Safonau ystyried p’un ai a oeddent yn dymuno codi unrhyw faterion yng nghyfarfod nesaf y Fforwm, er mwyn iddynt gael eu cynnwys ar yr agenda. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Bod y Cadeirydd yn mynd ar ôl y materion uchod yn cynnwys p’un ia  a ydi’r hyfforddiant sgiliau Cadeirio yn orfodol mewn awdurdodau eraill, a’i fod yn codi’r materion a ganlyn yng nghyfarfod nesaf y Fforwm: -

 

  Pa fath o rôl (prosesau/gweithdrefnau) y mae Pwyllgorau Safonau eraill yn ei chwarae wrth ddelio â Chynghorau Tref a Chymuned?

  Beth ydi profiad Pwyllgorau Safonau eraill o hyfforddiant Un Llais Cymru?

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod.

11.

Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau 2022/23 pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23.

 

Cofnodion:

CyflwynwydAdroddiad Blynyddol Drafft gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ynghyd â Rhaglen Waith Arfaethedig y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2023/24.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod aelodau wedi cyfarfod yn anffurfiol i drafod yr Adroddiad Blynyddol Drafft a’r Rhaglen Waith ar gyfer 2023/24.  Dywedodd nad ydi’r Adroddiad yn gyflawn ar hyn o bryd, gan nad ydi’r broses i gasglu gwybodaeth gan yr Arweinyddion Grŵp ynglŷn â’u dyletswyddau newydd wedi’i chwblhau.   

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Cytuno ar gynnwys yr adroddiad ac atodiadau drafft yn amodol ar gynnwys brawddeg i ddiolch i’r swyddogion sy’n cefnogi’r Pwyllgor am eu gwaith.

  Bod yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2022/23 (Atodiad 1) yn cael ei ddiweddaru ar ôl i’r broses o gasglu gwybodaeth gan yr Arweinyddion Grŵp gael ei chwblhau.

  Bod unrhyw newidiadau i’r Adroddiad Blynyddol yn cael eu gwneud naill ai yn ystod cyfarfod anffurfiol neud trwy ohebu â  holl aelodau’r Pwyllgor, yn unol â chyfarwyddiadau’r Cadeirydd, ac yn dilyn trafodaeth â’r Swyddog Monitro.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod.

12.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad Penn pdf eicon PDF 849 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn nodi manylion yr ymateb a baratowyd gan y Pwyllgor Safonau mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad Penn.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ymgynghoriad drafft Llywodraeth Cymru ar yr Adroddiad Penn.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod Llywodraeth Cymru ynghanol proses ymgynghori ar yr Adolygiad Penn. Dywedodd bod y Pwyllgor Safonau wedi cwrdd yn anffurfiol i drafod barn y Pwyllgor Safonau mewn ymateb i gwestiynau penodol yn y ddogfen ymgynghori (Atodiad 1). Mae’r Pwyllgor Safonau wedi ystyried y cwestiynau ac mae ymateb drafft wedi cael ei baratoi (Atodiad 2). Cyflwynwyd ymateb drafft y Pwyllgor Safonau gan Gadeirydd y Pwyllgor yn ystod cyfarfod o’r Arweinyddion Grŵp.

 

Adroddodd y Cadeirydd bod yr Arweinyddion Grŵp wedi trafod y cyfnod cyn y gallai cyn-gynghorwyr neu swyddogion ddod yn aelodau o’r Pwyllgor Safonau yn ystod eu cyfarfod. Dywedodd nad oedd consensws clir ynglŷn â hynny. Roedd dau Arweinydd Grŵp yn cytuno â chynnig y Pwyllgor Safonau, sef: -

 

1.  Gall Cyn-gynghorydd eistedd fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau ddwy flynedd ar ôl gadael swydd etholedig.

2.  Gall y rhan fwyaf o gyn-weithwyr y Cyngor eistedd fel aelod annibynnol ar ôl 12 mis o ddiwedd eu cyflogaeth. Fodd bynnag, mae’n rhaid i unigolyn a oedd mewn swydd wleidyddol gyfyngedig ddisgwyl dwy flynedd yn dilyn diwedd eu cyflogaeth.              

 

Roedd dau Arweinydd Grŵp yn credu y dylai’r cyfnod gras fod yn 3 blynedd ar gyfer cyn-weithwyr ac na ddylai cyn-gynghorwyr fod yn gymwys i fod yn aelodau annibynnol o Bwyllgorau Safonau. 

 

Nodwyd y bydd Llywodraeth Cymru’n darparu adborth ar yr ymgynghoriad ar ôl coladu’r holl ymatebion. Bydd cyfle i’r Pwyllgor Safonau ystyried y trosolwg hwnnw maes o law.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Pwyllgor Safonau’n cymeradwyo’r ymateb drafft yn Atodiad 2, ar yr amod bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a’r Cadeirydd yn addasu geiriad y ddogfen [fel y nodir yn y trydydd paragraff isod]. 

  Bod y Cadeirydd yn anfon ymateb y Pwyllgor Safonau i’r ymgynghoriad drafft at Lywodraeth Cymru ar ran Cyngor Sir Ynys Môn

  Bod y Cadeirydd yn nodi bod gwahaniaeth barn ynglŷn â’r ymateb i gwestiynau 14 ac 15 mewn perthynas â’r cyfnod cyn y caiff cyn-gynghorwyr a gweithwyr ddod yn aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau.

  Bod y Swyddog Monitro’n rhoi gwybod i’r Pwyllgor Safonau pan ddaw unrhyw ddogfennau neu wybodaeth i law yn dilyn Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad Penn.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod.

13.

Cynlluniau Hyfforddi'r Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 213 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn nodi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned i gais y Pwyllgor Safonau am ddogfennaeth.   

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr uchod.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ei bod hi bellach yn ofynnol i bob Cyngor Tref a Chymuned ddatblygu a chyhoeddi Cynllun hyfforddi ar gyfer cynghorwyr a swyddogion. Roedd rhaid cyhoeddi’r Cynllun Hyfforddi cyntaf cyn pen 6 mis yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Dywedodd bod y Pwyllgor Safonau, yn ei Newyddlen i’r Cynghorau Tref a Chymuned, wedi gofyn am gopi o Gynllun Hyfforddi pob Cyngor Tref a Chymuned.  Nodwyd mai dim ond 5 allan o’r 40 Cyngor Tref a Chymuned oedd wedi ymateb.

 

Mynegwyd Pryder ynglŷn â’r ymateb siomedig gan y Cynghorau Tref a Chymuned. Trafodwyd ffyrdd o atgoffa’r Cynghorau Tref a Chymuned ynglŷn â’u rhwymedigaeth gyfreithiol i gynhyrchu Cynllun Hyfforddi a’i gyhoeddi ar eu gwefan a ffyrdd o’u cynorthwyo i wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi’r wybodaeth ynglŷn â’r Cynghorau Tref a Chymuned yn Atodiad 1 yn yr adroddiad.

  Ysgrifennu at bob Cyngor Tref / Cymuned i weld a ydynt wedi cael copi o Newyddlen y Pwyllgor Safonau a oedd yn gofyn am gopi o’u Cynllun Hyfforddi.

  Bod adroddiad diweddaru ar y Cynlluniau Hyfforddi’n cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Celyn Edwards am ei gwaith gyda’r Pwyllgor Safonau. Dywedodd y bydd yn ymddiswyddo fel aelod o’r Pwyllgor yn fuan.