Rhaglen a chofnodion drafft

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, ac yn rhithwir drwy Zoom, Pwyllgor Safonau - Dydd Mercher, 13eg Rhagfyr, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, ac yn rhithwir drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

I dderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. 

Cofnodion:

Datganodd Mr Iorwerth Roberts ddiddordeb personol yn Eitem 8 ar yr agenda, gan fod yr eitem hon yn ymwneud â Chaniatâd Arbennig a roddwyd iddo gan Banel Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 217 KB

Cadarnhau cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: -

 

O ran darparu hyfforddiant ychwanegol ar faterion cynllunio ar gyfer aelodau’n gyffredinol, dywedodd y Swyddog Hyfforddiant AD bod swyddogion cynllunio wedi cadarnhau nad ydynt yn gallu darparu’r math hwn o hyfforddiant ar hyn o bryd, ac mae’r elfen Hyfforddiant yn cael ei tHrafod gyda darparwyr allanol.

 

3.

Diweddariad y Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 116 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth ar y gwaith sydd wedi’i gwblhau gan y Gwasanaeth ers I’r Pwyllgor Safonau gwrdd ddiwethaf ym mis Mehefin.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth: -

 

  Mae’r Protocol ar gyfer Cyfarfodydd Hybrid ar waith ers mis Hydref. Cwblheir adolygiad yn y flwyddyn newydd er mwyn ystyried a fydd angen gwneud unrhyw newidiadau pellach I’r Protocol.

  Mae modiwlau ynghylch llesiant aelodau wedi’u cynnwys yn y Cynllun Datblygu I Aelodau, ac mae’r Cyngor yn gobeithio ei ddatblygu ymhellach. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r CLlLC ar ddarparu hyfforddiant, ac mae’n disgwyl derbyn Fframwaith Hunan-asesu Datblygiad Aelodau gan y CLlLC yn y flwyddyn newydd, fydd yn sylfaen ar gyfer trafodaeth newydd.

  Derbyniwyd Adroddiad Blynyddol gan 26 Aelod Etholedig allan o 35 ar gyfer cyfnod 2022/23, sydd yn welliant sylweddol ar y flwyddyn ganlynol. Bydd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth o’r broses y dylai aelodau ei dilyn er mwyn cwblhau a chyflwyno eu hadroddiadau blynyddol rhwng Mawrth a Mai y flwyddyn nesaf. Mae Trafodaethau wedi cymryd lle gydag awdurdodau lleol eraill ynghylch eu profiadau nhw o ran adroddiadau blynyddol aelodau.

  Mae templed yr adroddiad yn cael ei addasu a’i symleiddio ar gyfer y flwyddyn nesafbydd gwybodaeth ynghylch hyfforddiant aelodau’n cael ei huwchlwytho i’r templed newydd yn awtomatig, yn hytrach na bod aelodau’n gorfod gwneud y dasg hon â llaw.

  Mae disgrifiadau swyddi ar gyfer Arweinyddion Grŵp ar waith ar hyn o bryd, ac maent wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi cymharu ei ddisgrifiadau swyddi ei hun gyda thempledi CLlLC, a dengys eu bod yn cyd-fynd â nhw. Cynhelir ymgynghoriad pellach yn fuan gydag Arweinyddion Grwpiau er mwyn sicrhau bod eu disgrifiadau swydd yn addas at eu diben.

  Mae Cofrestrau Diddordebau Aelodau wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Nodwyd bod y Pwyllgor yn bwriadu adolygu sampl o Gofrestrau Diddordebau aelodau’n fuan.

 

Roedd trafodaethau’n canolbwyntio ar a fyddai Arweinyddion Grwpiau’n elwa o gael templed syml i gofnodi llwyddiannau, datblygiadau ac ati yn eu Hadolygiadau Blynyddol i Aelodau. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y byddai’n dwyn y mater i sylw’r Arweinyddion Grwpiau, ac y byddai’n fodlon hwyluso’r broses gyda chaniatâd yr Arweinyddion Grwpiau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Y byddai’r Pennaeth Democratiaeth yn dwyn y mater o ddefnyddio templed i gofnodi gwybodaeth mewn perthynas ag Adolygiadau Blynyddol Aelodau i sylw’r Arweinyddion Grwpiau.

 

Cam: Gweler Penderfyniad Uchod

4.

Datblygiad Aelodau pdf eicon PDF 603 KB

Adroddiad gan y Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Swyddog Hyfforddiant Adnoddau Dynol mewn perthynas â hyfforddiant a datblygiad sydd wedi cael ei gynnig i aelodau etholedig yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 29 Tachwedd 2023.

 

Dywedodd y Swyddog Hyfforddiant AD fod y Cynllun Hyfforddiant ar gyfer 2023/24 yn Atodiad 1 yn cael ei rannu yn gategorïau, h.y., Hyfforddiant Mandadol; Hyfforddiant Cyffredinol; Iechyd a Llesiant; Hyfforddiant ar Gais; modiwlau E-ddysgu sydd ar gael ar y Llwyfan E-ddysgu, y Gronfa Ddysgu. Dywedodd hefyd ers mis Ebrill 2023, mae 27 sesiwn hyfforddi a datblygu wedi’u cynnig i aelodau.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr adroddiad, sy’n canolbwyntio ar nifer y gwahoddiadau a dderbyniwyd gan aelodau i gymryd rhan mewn hyfforddiant, a faint ohonynt a oedd yn bresennol yn y sesiynau. Nodwyd bod mwy o bwyslais ar hyfforddiant mandadol, ac mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y sesiynau hynny. Hyd yma, mae pob aelod wedi cwblhau hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad; mae 15 wedi mynychu sesiynau Iechyd a Diogelwch (mae hyfforddiant ychwanegol wedi’i drefnu ar gyfer mis Chwefror 2024); mae 29 wedi cwblhau hyfforddiant GDPR/Diogelu Data, mae 29 hefyd wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu, ac mae 21 wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Newid Hinsawdd. Dywedodd y Swyddog Hyfforddiant y bydd sesiwn ar Seiberddiogelwch ar gael i aelodau’n fuan. Nodwyd bod sesiynau sgiliau TGCh 1 i 1 wedi cael eu cynnal, ac maent wedi’u cefnogi gan ganllawiau ‘Cam wrth Gam’.

 

Er yr ystyrir bod safon peth o’r hyfforddiant yn dda iawn, mae aelodau hefyd wedi mynegi pryder nad oedd ansawdd rhai o’r sesiynau hyfforddiant yn foddhaol. Dywedodd y Swyddog Hyfforddiant AD ei bod yn gwerthfawrogi’r adborth, ac y byddai’n gweithredu ar y wybodaeth a gyflwynwyd.

 

Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar ffyrdd i annog aelodau i fynychu hyfforddiant mandadol. Argymhellodd y Swyddog Monitro bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, fel rhan o’u dyletswyddau statudol newydd, yn gofyn am ddata ystadegol gan Arweinyddion Grwpiau ynghylch presenoldeb aelodau mewn hyfforddiant mandadol, yn ystod eu cyfarfod nesaf gyda’r Arweinyddion Grwpiau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn gofyn am ddiweddariad gan

Arweinyddion Grwpiau ar bresenoldeb aelodau mewn sesiynau hyfforddiant mandadol.

 

Cam: Gweler y Penderfyniad uchod.

5.

Cwynion am Ymddygiad a Gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) pdf eicon PDF 778 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â:-

 

(a)           Cynghorwyr Sir, a

(b)           Cynghorwyr Tref a Chymuned

Ar gyfer Chwarter 1 a 2 2023/2024

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar gwynion chwarterol a dderbyniwyd gan OGCC ers y Pwyllgor Safonau diwethaf ym mis Mehefin mewn perthynas ag (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyd Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod dwy gŵyn wedi’u cyflwyno i OGCC yn erbyn Cynghorwyr Sir ar gyfer Chwarter 1, 2023/24 gan aelodau o’r cyhoedd, ond penderfynodd yr Ombwdsmon i beidio ag ymchwilio ymhellach. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned ar gyfer y cyfnod.

 

Nodwyd bod yr Ombwdsmon wedi derbyn dwy gŵyn yn erbyn Cynghorwyr Sir yn ystod Chwarter 2, 2023/24. Derbyniwyd y gŵyn gyntaf gan aelod etholedig, ac mae’r Ombwdsmon yn ei harchwilio. Roedd yr ail gŵyn gan aelod o’r cyhoedd, ond penderfynodd yr Ombwdsmon i beidio ag ymchwilio ymhellach. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned ar gyfer y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys Atodiadau 1-4 yn yr adroddiad.

  Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn dosbarthu Atodiadau 1-4 i aelodau etholedig a chyf-etholedig y Cyngor, a Chlerciaid Cynghorau Tref a Chymuned, drwy eu cylchlythyrau perthnasol.

 

Cam: Gweler y Penderfyniad uchod.

6.

Penderfyniadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 510 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Ganlyniadau Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ers y Pwyllgor Safonau diwethaf a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023.    

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn crynhoi canfyddiadau cyhoeddedig OGCC ar gwynion Cod Ymddygiad rhwng Mehefin a Tachwedd 2023.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod yr Ombwdsmon wedi derbyn 13 cwyn (Atodiad 1 yr adroddiad), a thrafodwyd achosion 1, 2, 3 a 13 mewn mwy o fanylder. Dywedodd fod Achosion 1 a 2 yn cyfeirio at ddau achos o Gyngor Sir y Mwmbwls, oedd yn cynnwys Cynghorydd a oedd wedi bod yn destun archwiliad ar gyfer torri’r Cod Ymddygiad, ac sydd wedi gadael ei rôl ers hynny, a oedd yn cyfyngu unrhyw gosbau y gallai’r Pwyllgor Safonau eu gosod.

 

Mewn perthynas ag Achos 3, roedd Cynghorydd o Gyngor Tref Bae Colwyn wedi torri’r Cod drwy rannu neges wleidyddol sarhaus ar y cyfryngau cymdeithasol. Er bod y Cod wedi’i dorri, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y gŵyn yn cymhwyso ar gyfer y broses “ddwy ffordd”, ac felly, ni ystyriwyd bod unrhyw fudd cyhoeddus ar gyfer ymchwilio ymhellach i’r achos. Rhybuddiwyd y Cynghorydd i gymryd pwyll wrth rannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol.

Nodwyd bod y CLlLC wedi datblygu canllaw ar gyfer aelodau etholedig yn ymwneud â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Atgoffwyd y Pwyllgor bod angen cymryd pwyll wrth rannu negeseuon ar-lein.

 

Roedd Achos 13 yn cyfeirio at gŵyn yn erbyn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a honnwyd ei fod wedi cymryd rhan ac wedi pleidleisio mewn cyfarfod rhithiol wrth yrru cerbyd. Nododd yr Ombwdsmon, er bod y Cynghorydd wedi torri’r Cod, nid oedd yr Heddlu wedi trin ei ymddygiad dan achos troseddol ond roeddynt wedi adrodd ar y drosedd. Penderfynodd yr Ombwdsmon i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach yn yr achos hwn, ond nododd y byddai cofnod o’r achos yn cael ei gadw ac y byddai’n cael ei ystyried eto pe byddai’r Cynghorydd yn torri’r Cod yn y dyfodol. Nodwyd bod yr achos hwn yn berthnasol i aelodau, yn enwedig yng ngoleuni cyhoeddi’r Protocol newydd ar gyfer Cyfarfodydd Hybrid, a gafodd ei drafod gyda’r Pennaeth Democratiaeth dan Eitem 3, gan ei fod yn tynnu sylw at yr ymddygiad sy’n ddisgwyliedig gan aelodau wrth gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithiol.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Cam: Dim

7.

Penderfyniadau gan Banel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 558 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru yng Nghymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Mehefin 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn crynhoi’r materion a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru (PDC) gan yr Ombwdsmon ac sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y PDC ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

 

Roedd yr achos cyntaf yn cynnwys gwrandawiad dros dro yn ymwneud â honiadau bod aelod etholedig o Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth wedi cyflawni toriadau difrifol yn erbyn y Cod Ymddygiad mewn perthynas â phum honiad gwahanol o aflonyddu rhywiol. Dywedodd fod PDC wedi gwahardd y Cynghorydd am 6 mis.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro mai dyma’r tro cyntaf i’r PDC ddefnyddio ei bwerau gwneud penderfyniadau i gosbi Cynghorydd ar sail dros dro. Ddywedodd y bydd y Panel yn cyflwyno penderfyniad pellach yn fuan.

 

Roedd yr ail achos yn cyfeirio at aelod etholedig blaenorol a oedd wedi torri’r Cod Ymddygiad drwy anfon gohebiaeth yn rheolaidd at sawl derbynnydd a oedd yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol. Roedd y Cynghorydd wedi anwybyddu cyngor a roddwyd iddi. Cafodd y Cynghorydd ei diarddel gan y PDC am 18 mis.

 

O ran diarddel, dywedodd y Swyddog Monitro y bydd yn rhaid i aelodau etholedig ddilyn proses ddemocrataidd er mwyn cael eu hail-ethol. Dywedodd y gall aelodau sy’n derbyn cosb dros dro ddychwelyd i’w dyletswyddau etholedig unwaith y bydd y gosb wedi dod i ben, os yw hynny o fewn cyfnod swydd. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at benderfyniad blaenorol a wnaed mewn achos cyfreithiol, sef “Calver”, ble nodwyd bod rhaid i uwch swyddogion y Cyngor feithrincroen tew” er mwyn delio gyda bygythiadau a heriau gan y cyhoedd ac aelodau etholedig. Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr achos hwn yn profi, er y penderfyniad, os yw ymddygiad unigolyn ddigon difrifol, ac yn parhau am gyfnod, bydd y Panel yn darparu cymorth i uwch swyddogion.

 

Roedd y trydydd achos yn ymwneud ag aelod blaenorol o Gyngor Tref a Chadeirydd y Cyngor hwnnw, a oedd wedi bod yn anonest gydag Archwilio Cymru wrth archwilio mater caffael. Cafodd yr aelod ei ddiarddel am 15 mis. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro bod nifer o ffactorau gwaethygol ynghlwm â’r cais hwn, gan fod y Cynghorydd wedi osgoi hysbysu’r archwilydd ei fod wedi gwneud gwallau. Nid oedd y Cynghorydd wedi cydnabod ei fod ar fai, ac roedd wedi ceisio cuddio ei gamgymeriadau.

 

Roedd y pedwerydd achos yn cyfeirio at aelod blaenorol o Gyngor Tref a oedd wedi pledio’n euog o drosedd dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro bod nifer o ffactorau gwaethygol ynghlwm â’r cais hwn, gan arwain at gosb o ddiarddeliad am 9 mis. Er bod y Cynghorydd wedi pledio’n euog yn yr achos Llys, nid oedd wedi ymddiheuro am ei ymddygiad o ran y Cod, ac nid oedd wedi delio â’r mater gyda digon o ddifrifoldeb ym marn PDC.

 

Nodwyd y bydd y Pwyntiau Dysgu o’r achosion hyn yn cael eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 648 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Mehefin 2023.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar ganlyniad unrhyw gais am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau ers ei gyfarfod diwethaf.

 

Cyflwynwyd cais am ganiatâd arbennig gan y Cynghorydd Iorwerth Roberts o Gyngor Cymuned Bryngwran, a gafodd ei ystyried gan Banel Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau ar 3 Hydref 2023. Roedd y cais yn ceisio darparu caniatâd i’r Cynghorydd gymryd rhan mewn trafodaeth ynghylch mater ar y gweill fydd yn cael ei drafod gan y Cyngor Cymuned, yn ei rôl fel Cadeirydd.

 

Roedd Cynghorydd Roberts wedi mynegi datganiad o ddiddordeb personol yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau mewn perthynas â’r eitem hon, a cheisiodd gyngor gan y Swyddog Monitro ynghylch a ddylai adael y cyfarfod tra bo’r eitem yn cael ei thrafod. Dywedodd y Swyddog Monitro y gallai’r Cynghorydd Roberts aros yn y cyfarfod, a bod datgan diddordeb personol yn ddigonol, gan fod y mater yn cael ei drafod er gwybodaeth yn unig, fel bod aelodau’r Panel Caniatâd Arbennig yn gallu cadarnhau cofnodion y Gwrandawiad ar 3 Hydref 2023, fel yr ymddengys yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Pwyllgor yn nodi’r caniatâd arbennig a roddwyd ar sail a’r amgylchiadau ar gyfer gwneud hynny, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

  Bod dau o aelodau’r Panel Caniatâd Arbennig a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad ar 3 Hydref, 2023 a chyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 13 Rhagfyr, 2023, Mr John R Jones a Dr Rhys Davies, wedi cadarnhau bod cofnodion drafft y Panel Caniatâd Arbennig yn Atodiad 1 yr adroddiad yn gywir.

 

Cam: Dim

 

 

9.

Protocol Datrysiad Lleol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 419 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn manylu ar y Protocol Datrysiad Lleol sydd wedi ei ddatblygu gan y Pwyllgor Safonau at ddefnydd gan y Cynghorau Tref a Chymuned.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar y Protocol Datrysiad Lleol a ddatblygwyd gan y Pwyllgor Safonau fel atodiad i Brotocol Un Llais Cymru, i’w ddefnyddio gan Gynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y fersiwn derfynol o’r Protocol Datrysiad Lleol wedi cael ei rhannu gyda Chynghorau Tref a Chymuned drwy Gylchlythyr y Pwyllgor Safonau ym mis Hydref. Dywedodd y dylai Cynghorau Tref a Chymuned fabwysiadu a defnyddio Protocol Un Llais Cymru i adfer materion ymddygiad. Nodwyd bod cyfyngiadau o fewn Protocol Un Llais Cymru, ac mewn amgylchiadau o’r fath (e.e. pe byddai’r Cadeirydd neu’r Clerc ynghlwm â mater dan ystyriaeth), dylai Cynghorau Tref a Chymuned ofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ymyrryd er mwyn adfer materion cyswllt dan Brotocol Datrysiad Lleol y Pwyllgor Safonau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned; byddai ymrwymiad o’r fath yn ôl disgresiwn Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Trafododd y Pwyllgor Safonau ffyrdd i atgoffa Cynghorau Tref a Chymuned o’r Protocol Datrysiad Lleol yn y dyfodol.

         

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi’r adroddiad.

  Fod y pum aelod annibynnol a’r ddau gynrychiolydd o Gynghorau Tref a Chymuned y Pwyllgor Safonau yn cymryd rhan mewn Hyfforddiant Cyfryngu ym mis Ionawr 2024.

 

Cam: Gweler y penderfyniad uchod.

10.

Diweddariad o'r Fforwm Pwyllgor Safonau Cenedlaethol pdf eicon PDF 443 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Aelodau Annibynnol Pwyllgorau Safonau yng Nghymru. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y Fforwm Pwyllgorau Safonau Cenedlaethol sydd wedi cael ei sefydlu yng Nghymru.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi cymryd rhan yng nghyfarfod diwethaf y Fforwm ym mis Mehefin, a thynnodd sylw at y pwyntiau canlynol:-

 

  Rhoddodd Cadeirydd y Fforwm, yr Athro Mark Philip, gyflwyniad ar Arwain Ymarfer yn Lloegr.

  Roedd trafodaethau’n canolbwyntio ar yr adroddiad Penn, adnoddau’r Pwyllgor Safonau, rhannu arfer da, cynnal safon dda o gydweithio gyda’r Arweinyddion Grŵp, Cynghorau Tref a Chymuned ac ati.

  Bydd y CLlLC yn cynnal sesiwn gadeirio ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Safonau.

  Diweddariad gan Michelle Morris o OGCC ar yr achosion a adroddwyd h.y. 280 o gwynion wedi’u hatgyfeirio i’r Ombwdsmon, sydd wedi arwain at ostyngiad o 4%. Dim ond 35 cwyn oedd wedi cyrraedd y trothwy er budd y cyhoedd.

  Mae nifer y cwynion ynghylch cydraddoldeb a pharch wedi cynyddu – 60% o’r holl gwynion a dderbyniwyd.

  Canllawiau statudol CLlLCtrafodaeth yn canolbwyntio ar a yw’r canllawiau ddigon clir.

  Pwyllgor Safonau Ynys Môn wedi anfon llythyr at y Fforwm.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Cam: Dim

11.

Cynlluniau Hyfforddiant y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 308 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn nodi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned i gais y Pwyllgor Safonau am ddogfennaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y Cynlluniau Hyfforddiant Blynyddol ar gyfer Cynghorwyr a staff Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol), fod y Pwyllgor Safonau wedi gofyn i bob Cyngor Tref a Chymuned gyflwyno copi o’u Cynlluniau Hyfforddiant unigol erbyn 31 Mai 2023 yn ei gylchlythyr ym mis Mawrth. Yng nghyfarfod ffurfiol diwethaf y Pwyllgor Safonau, adroddwyd bod pum Cyngor Tref a Chymuned wedi ymateb i’r cais hwnnw, ac roedd aelodau’r Pwyllgor Safonau’n siomedig iawn â hyn. Yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2023, cytunodd y Pwyllgor Safonau i anfon gohebiaeth bellach at Gynghorau Tref a Chymuned yn gofyn iddynt gadarnhau eu bod wedi mabwysiadu Cynllun Hyfforddi. Anfonwyd cais drwy eu Cylchlythyr Cynghorau Tref a Chymuned ym mis Hydref, gyda llythyr i ddilyn ym mis Tachwedd; hyd yma mae 25 ymateb wedi’u derbyn allan o 40 ymateb posibl.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi plesio’n rhannol gyda nifer yr ymatebion a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned, a gwelwyd y gwelliant fel cam ymlaen. Fodd bynnag, mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghyd y risgiau ynghlwm â materion llywodraethu mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned nad oedd gan Gynlluniau Hyfforddiant ar waith.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth ynghylch Cynghorau Tref a Chymuned yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Cam: Dim

12.

Crynodeb o'r Ymatebion i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Adolygiad Penn pdf eicon PDF 593 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn manylu ar y Crynodeb, sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, o’r ymatebion a dderbyniwyd yn ei Ymgynghoriad ar Ganfyddiadau Adolygiad Penn.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Penn.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod y Pwyllgor Safonau, yn ei gyfarfod ym mis Mehefin, wedi ystyried ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganfyddiadau Adroddiad Fframwaith Safonau Moesegol Cymru a gwblhawyd gan Richard Penn. Dywedodd fod y Pwyllgor Safonau wedi paratoi ymateb i’r ymgynghoriad, sydd wedi’i gynnwys yn y sylwadau a gwnaed gan yr Arweinyddion Grwpiau.

 

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi crynodeb o’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad, a gellir eu gweld drwy’r ddolen a ddarparwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Pwyllgor Safonau’n nodi cynnwys crynodeb Llywodraeth Cymru ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar argymhellion yr Adolygiad Annibynnol ar yr Adroddiad Fframwaith Safonau Moesegol (Richard Penn).

  Fod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn hysbysu’r Pwyllgor Safonau o unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth arall a dderbyniwyd mewn perthynas ag Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad Penn.

 

Cam: Gweler y Penderfyniad uchod.

13.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 685 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022/23.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2022/23 a 2023/24.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ei bod yn ofyniad statudol i bob Pwyllgor Safonau baratoi Adroddiad Blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn. Dywedodd mai Adroddiad Blynyddol 2022/23 oedd y flwyddyn gyntaf ble roedd rhaid i’r Pwyllgor Safonau ystyried asesiad ar gydymffurfiaeth Arweinyddion Grwpiau gyda’u dyletswyddau newydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y bydd angen dilyn yr un broses o ystyried cydymffurfiaeth Arweinyddion Grwpiau gyda’i dyletswyddau eto yn Adroddiadau Blynyddol 2023/24. Dywedodd bod y Pwyllgor Safonau wedi cwrdd ym mis Tachwedd i drafod y broses adrodd i’w defnyddio i fwydo i mewn i Adroddiad Blynyddol eleni. Trafodwyd addasiadau yn y cyfarfod anffurfiol hwnnw. Cadarnhaodd y Pwyllgor eu bod yn derbyn yr addasiadau a nodwyd ar Ffurflen Adroddiadau’r Arweinyddion Grwpiau sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Nodwyd y byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cyflwyno copi o’r templed drafft addasedig i’r Arweinyddion Grwpiau yn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2024. Bydd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd hefyd yn ceisio mewnbwn gan Arweinyddion Grwpiau ar y newidiadau arfaethedig. Argymhellwyd hefyd bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn trafod unrhyw hyfforddiant gydag Arweinyddion Grwpiau, a all fod yn berthnasol iddyn nhw o fewn eu rolau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. 

14.

Polisi Indemniadau pdf eicon PDF 99 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn amgáu copi o’r Polisi Indemniadau fel y’i trafodwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 29 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar adolygiad y Gwasanaethau Democrataidd ar Bolisi Indemniadau’r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod Polisi Indemniadau’r Cyngor wedi cael ei gyflwyno yn ystod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 29 Tachwedd 2023. Dywedodd fod y Polisi yn dyddio’n ôl i 2006, pan ddaeth

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006 yn rhan o ddeddfwriaeth, gydag awdurdodau lleol dan rwymedigaeth i gynnig indemniadau (ac yswiriant) i aelodau a swyddogion wrth ryddhau eu dyletswyddau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod polisi yswiriant y Cyngor Sir yn rhannu’r un rôl a’r Polisi Indemniadau i’r rhan helaeth, ond, yn ychwanegol, mae’r Polisi’n cynnig diogelwch o ran digolledu aelodau mewn achosion ble mae’r Cod Ymddygiad wedi’i dorri, gan fod y Cod y tu allan i gwmpas y polisi yswiriant. Dywedodd fod y cwmni yswiriant wedi gosod y telerau ac amodau, ac mai’r cwmni sy’n penderfynu a ddylid talu neu wrthod cais am iawndal.

 

Mae gan y Cyngor Is-bwyllgor Indemniadau i wneud penderfyniadau ar geisiadau yn unol â’r Polisi. Byddai cais am indemniad yn cael ei ganiatáu yn ôl disgresiwn yr Is-bwyllgor. Nodwyd nad oes cais ar gyfer indemniad wedi’i dderbyn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf;

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod cap cenedlaethol o £20,000 yn bodoli ar hawliadau ar gyfer indemniad. Dywedodd, yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Tachwedd, fod aelodau wedi mynegi pryder nad yw’r cap o £20,000 wedi cynyddu ers 2013. Cynigiodd y Pwyllgor fod y cap yn cael ei godi yn unol â chwyddiant pan fydd y Polisi’n cael ei adolygu nesaf yn 2024. Ategodd y Rheolwr ei fod yn gap cenedlaethol, nid lleol.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ei fod yn bosibl i aelod dderbyn indemniad dan y Polisi yn ôl penderfyniad yr Is-bwyllgor Indemniadau. Os bydd cais yn cyrraedd y Panel Dyfarnu, neu’r Pwyllgor Safonau, a bod yr aelod yn destun cosb o ddiarddeliad neu fwy, mae’n rhaid talu’r indemniad. Os yw’r gosb yn llai, gwneir ad-daliad yn ôl disgresiwn y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y Polisi Indemniadau a rôl y Pwyllgor Safonau o ran indemniadau sydd wedi’u cymeradwyo i aelodau, sydd yna’n cael eu dal wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau.

 

Cam: Dim

15.

Adolygiad o Gofrestrau Diddordebau Sampl o Aelodau Etholedig y Cyngor Sir pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro gyda manylion ynghylch y broses sydd i’w dilyn pan yn cynnal adolygiadau o gofrestrau diddordebau sampl o’r aelodau etholedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwyr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar sampl o Gofrestr Diddordebau Aelodau Etholedig.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol), fel rhan o’i rhaglen waith ar gyfer 2023-24, bydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnal adolygiad ar sampl o Gofrestr Diddordebau Aelodau Etholedig. Dywedodd, er mwyn cydymffurfio gyda’r Cod Ymddygiad, mae’n rhaid cadw tair cofrestr a’u diweddaru h.y., y Gofrestr Sefydlog; y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch; a Datganiadau o Ddiddordeb mewn Cyfarfodydd.

 

Nodwyd y bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan 5 aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau, lle bydd pob aelod yn cwblhau ymarferiad ar y dangosfwrdd. Mae Nodyn Cyngor Methodoleg wedi’i rhannu fel canllaw i helpu aelodau yn ystod y broses o gynnal adolygiadau.

 

Bu i’r Pwyllgor Safonau gwrdd yn anffurfiol y mis diwethaf er mwyn dewis sampl o 20 allan o 35 aelod etholedig, yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol. Dywedodd fod y Pwyllgor yn cefnogi’r syniad i adolygu Cofrestr arweinydd pob grŵp, a bydd gweddill aelodau’r grŵp hwnnw’n cael eu dewis ar hap. Nodwyd bod y broses ddethol bellach wedi’i chwblhau, ac mae rhestr o 4 wedi’i hanfon ymlaen at bob aelod annibynnol, yn nodi pa gofrestrau y byddan nhw’n eu hadolygu.

 

Bydd y 5 aelod annibynnol yn cwrdd yr wythnos nesaf i drafod y broses a’r amserlen maent yn bwriadu ei dilyn. Mae aelodau etholedig wedi cael gwybod am y broses adolygu fel rhan o raglen waith y Pwyllgor Safonau; bydd gohebiaeth bellach yn cael ei anfon cyn dechrau’r adolygiadau.

 

Ar ôl yr adolygiad, bydd adroddiad cyffredinol yn cael ei baratoi a’i rannu gyda phob aelod er mwyn annog arfer da ac i gydnabod unrhyw faterion sydd angen eu datrys neu eu gwella. Nodwyd y bydd y Pwyllgor Safonau yn cael cyfle i gyflwyno unrhyw argymhellion sydd gan aelodau annibynnol mewn perthynas â’u canfyddiadau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau.

 

Cam: Dim