Rhaglen a chofnodion

Panel Caniatad Arbennig, Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 3ydd Hydref, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 103 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Cais am Ganiatâd Arbennig

Ystyried cais am ganiatâd arbennig gan Gynghorydd Cymuned.

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod cais am ganiatâd arbennig yn cael ei wneud gan y Cynghorydd Iorwerth Roberts o Gyngor Cymuned Bryngwran er mwyn ei alluogi i gymryd rhan, yn ei gapasiti fel Cadeirydd y Cyngor Cymuned, mewn perthynas â mater cynhennus a oedd i’w drafod gan y Cyngor Cymuned. 

 

Ar ôl clywed cefndir y cais am ganiatâd arbennig gan yr ymgeisydd, cynhaliodd y Panel sesiwn breifat er mwyn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd arbennig ai peidio ac os y byddai caniatâd arbennig yn cael ei roi, ystyried (i) ar ba sail y rhoddir y caniatâd arbennig a (ii) a oedd unrhyw gyfyngiadau/ amodau yn cael eu gosod.  

 

PENDERFYNWYD rhoi caniatâd arbennig rhannol i’r Cynghorydd Iorwerth Roberts yn ei gapasiti fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Bryngwran o ran y buddiannau y cyfeiriwyd atynt yn y cais. Mae’r caniatâd arbennig rhannol yn caniatáu’r Cynghorydd i:-

 

  Ysgrifennu at Swyddogion a’r Cyngor Cymuned mewn perthynas â’r mater;

  Siarad â Swyddogion y Cyngor Cymuned am y mater, heb unrhyw amodau;

  Siarad mewn Cyfarfodydd Cyngor Cymuned ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater;

  Aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth a/neu bleidlais ar y mater;

  Os yn berthnasol, cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd gydag unrhyw gyrff allanol yn ei gapasiti fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Bryngwran.

 

Nid yw’r caniatâd arbennig rhannol yn caniatáu’r Cynghorydd i bleidleisio ar y mater. 

 

Rhoddir y caniatâd arbennig ar y sail statudol bod natur diddordeb yr Aelod yn un lle na fyddai hyder y cyhoedd yn cael ei niweidio yn y ffordd y mae busnes y Cyngor yn cael ei gyflawni o ganlyniad i’r Aelod yn cymryd rhan; mae’r diddordeb yn gyffredin i’r Aelod a nifer sylweddol o’r cyhoedd; mae cyfranogiad yr Aelod i’r busnes y mae’r diddordeb yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr Aelod (fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Bryngwran); ac mae’n ymddangos i’r Pwyllgor Safonau ei fod o ddiddordeb i drigolion yr ardal a’r Cyngor y dylai’r anallu gael ei ddiddymu. 

 

Gweithredoedd:

 

• Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Cynghorydd Roberts yn cadarnhau bod Panel y Pwyllgor Safonau wedi rhoi caniatâd arbennig rhannol iddo sy’n ei ganiatáu i ysgrifennu, siarad ond nid pleidleisio ar yr holl faterion yn ymwneud â’r mater hwn.

Rhaid i’r Cynghorydd Roberts ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu wrth fynychu’r Cyngor Cymuned ac unrhyw gyfarfod perthnasol arall gan nodi ei fod wedi cael caniatâd arbennig rhannol gan y Pwyllgor Safonau i allu cymryd rhan ond nid pleidleisio.