Rhaglen a chofnodion drafft

Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 18fed Mehefin, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

I dderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. 

 

Cofnodion:

Bu i Mrs Gill Murgatroyd ddatgan diddordeb personol yn Eitem 6 ar yr agenda (Rhif achos 2 ym Mhenderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru).  Mae'n aelod annibynnol o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint, ac mae'r achos hwn yn ymwneud ag aelod etholedig o Gyngor Sir y Fflint.  Panel Dyfarnu Cymru wnaeth benderfynu ar y penderfyniad.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 255 KB

Cadarnhau cofnodion drafft cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-.

 

  13 Rhagfyr 2023

  15 Chwefror 2024 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd eu bod cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023 yn gywir, yn amodol ar y canlynol: -

 

Materion yn codi: -

 

Rhoddodd y Cyfreithiw (Llywodraethiant Corfforaethol) ddiweddariad gan y Pennaeth Democratiaeth ar Eitem 3 o'r cofnodion: -

 

  O ran y Protocol ar gyfer Cyfarfodydd Hybrid, cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 20 Mawrth 2024.  Adroddwyd bod adolygiad o'r Protocol yn cael ei gynnal.  Nid oes unrhyw broblemau wedi’u nodi ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau pellach; felly, ni wneir unrhyw newidiadau i’r Protocol.

 

Pwysleisiodd y Swyddog Monitro fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi gofyn am wybodaeth gan bob awdurdod am ba mor dda y mae'r Protocol presennol yn gweithio.  Dywedodd fod CLlLC yn bwriadu gwneud gwaith i ddiweddaru'r Protocol presennol, a bydd ymarferiad ymgynghori ar Brotocol drafft newydd maes o law.

 

  Nodwyd bod y templed ar gyfer Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau wedi'i symleiddio fel bod gwybodaeth am hyfforddiant aelodau ac Aelodaeth Pwyllgor wedi'i huwchlwytho i'r templed newydd pan fydd aelodau'n ei dderbyn.  Hyd yn hyn, mae 26 o bob 35 aelod etholedig wedi cyflwyno adroddiadau blynyddol ar gyfer 2023/24.

 

  Mae templed newydd wedi'i ddatblygu rhwng y Gwasanaethau Democrataidd a   Thîm Hyfforddi Adnoddau Dynol i gofnodi Adolygiadau Blynyddol yr Aelodau, sydd wedi cael eu rhannu gydag arweinwyr grŵp.  Nodwyd bod yr adborth ar anghenion hyfforddi wedi’i gyflwyno gan bedwar o’r Arweinwyr Grŵp.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod enw Cadeirydd Fforwm y Pwyllgor Safonau Cenedlaethol wedi'i nodi'n anghywir ar dudalen 7 o'r cofnodion, dylai gyfeirio at Clive Wolfendale

 

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft cyfarfod arbennig y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2024 yn gywir.

3.

Datblygiad Aelodau pdf eicon PDF 109 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Hyfforddi a Datblygu Adnoddau Dynol ar ddarpariaeth hyfforddi a datblygu a gynigwyd i aelodau etholedig yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu fod 37 o gyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'u cynnig i aelodau ers mis Ebrill 2023, a bod 35 aelod wedi mynychu hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. Roedd y ffigurau presenoldeb a gofnodwyd ar gyfer sesiynau hyfforddi gorfodol eraill yn amrywio rhwng 34 ar gyfer Seiberddiogelwch a 26 ar gyfer Iechyd a Diogelwch.  Pwysleisiwyd bod y ffigurau presenoldeb ar gyfer hyfforddiant gorfodol wedi bod yn siomedig, o ystyried bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar fynychu'r sesiynau hyn.  Lleisiwyd pryderon fod diffyg presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi yn cael effaith yn ei dro ar ddatblygu aelodau a symud y rhaglen yn ei blaen, oherwydd bydd angen trefnu hyfforddiant pellach, gan roi pwysau ychwanegol ar staff ac adnoddau ariannol y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu ei bod wedi derbyn cais i deilwra hyfforddiant Llesiant yn benodol ar gyfer anghenion aelodau i fynd i'r afael â meysydd e.e. menopos. Yn dilyn cais i CLlLC, cynigir dau fodiwl pellach i aelodau h.y. Diogelwch Personol i Gynghorwyr a Rheoli Cam-drin a Bygythiadau Ar-lein.

 

Nodwyd yr ymgynghorwyd â Gwasanaethau Democrataidd ynglŷn â Chynllun Datblygu ar gyfer Arweinwyr Grŵp, mae drafft o'r Cynllun wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.  Cynhaliwyd trafodaethau hefyd gyda darparwyr allanol a Chynghorau eraill ar rannu arfer da.

 

(Ymunodd y Cynghorydd Iorwerth Roberts â'r cyfarfod am 10.20am)

 

Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch y niferoedd isel yn y sesiynau hyfforddi.  Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu fod amser y cyfarfodydd yn destun pryder i rai aelodau, er bod yr opsiwn i gynnal sesiynau hyfforddi yn ystod y dydd a'r nos ar gael ar hyn o bryd. Dywedodd mai un opsiwn posibl fyddai cynnal sesiynau hyfforddi rhithwir ar gyfer hyfforddiant cyffredinol. Hefyd trafodwyd yr opsiwn o recordio sesiynau hyfforddi; ni fyddai hyn yn addas ar gyfer hyfforddiant gorfodol, gan fod angen cadarnhau presenoldeb.

 

Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu mai'r nod yw cyhoeddi'r Cynllun Datblygu Aelodau Etholedig ym mis Medi.  Bydd yn ddogfen sy'n cael ei datblygu, a’i hadolygu'n rheolaidd i ystyried anghenion aelodau etholedig.

 

Awgrymodd yr Is-gadeirydd ei fod yn cyfarfod ag Arweinwyr Grŵp i drafod diffyg presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi gorfodol ac i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynychu'r sesiynau hyn.  Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu y byddai'n fodlon rhannu enwau'r aelodau hynny nad ydynt wedi mynychu hyfforddiant gorfodol gyda'r Is-gadeirydd.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd mai’r teimlad yn gyffredinol oedd y dylai Arweinwyr Grŵp ymgymryd â hyfforddiant ar sgiliau hyfforddi. Cyfeiriodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu at Eitem 3 o'r adroddiad lle mae'n nodi y byddai'r opsiwn hwn yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu 1:1 ar gyfer Arweinwyr Grŵp.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cwynion am ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoedd Cymru (OGCC) pdf eicon PDF 349 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â:-

 

(a) Cynghorwyr Sir, a

(b) Cynghorwyr Tref/Cymuned

ar gyfer Chwarter 3 a 4 o 2023/2024

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar gwynion chwarterol a dderbyniwyd gan OGCC ers y Pwyllgor Safonau diwethaf mewn perthynas â (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod un gŵyn wedi'i chofnodi yn erbyn Cynghorydd Sir yn ystod Chwarter 3, 2023/24, ar ôl cael ei chyflwyno i'r Ombwdsmon yn Haf 2023, a bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddi.  Doedd dim cwynion wedi eu derbyn yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned ar gyfer y cyfnod.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod un gŵyn newydd wedi'i chyflwyno i'r Ombwdsmon yn erbyn Cynghorwyr Sir yn ystod Chwarter 4, 2023/24. Mae'r Ombwdsmon yn ymchwilio iddi. 

 

Cafodd yr achos cyntaf ei adrodd i'r Ombwdsmon ym mis Mai y llynedd a'r ail ym mis Chwefror eleni. Os bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu bod angen camau pellach o ran y cwynion, yna gellid cyfeirio pob cwyn yn ôl at y Pwyllgor Safonau i gynnal gwrandawiad.

 

Nodwyd bod pum cwyn wedi eu cyflwyno i'r Ombwdsmon yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned yn ystod Chwarter 4. Mae'r Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i bedair o'r pum cwyn ond mae'n ymchwilio i'r bumed. Mae'r pum mater yn ymwneud ag un Cyngor Tref a Chymuned, a bydd y cwynion hyn yn cael eu trafod yn Eitemau 10 ac 11 o'r agenda heddiw, pan fydd y wasg a'r cyhoedd wedi'u gwahardd.

 

Mynegwyd pryderon gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch yr amserlen ar gyfer datrys cwynion. Nododd y Swyddog Monitro fod yr Ombwdsmon wedi dweud yn ddiweddar bod achosion yn cronni. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys Atodiadau 1-4 yr adroddiad.

 

Cam Gweithredu: Dim

5.

Penderfyniadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 209 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Ganlyniadau Ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 13 Rhagfyr 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn crynhoi’r canfyddiadau a gyhoeddwyd gan OGCC yn ymwneud â chwynion Cod Ymddygiad yng Nghymru rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Mai 2024.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod 16 o gwynion wedi cael eu cyfeirio i sylw OGCC, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd at gamgymeriad yn achos 6, yn ymwneud â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr o dan y golofn sylwadau.  Dylid rhestru'r wybodaeth a ddangosir yma yn erbyn achos 15.

  

Mae achos 6 yn cyfeirio at Gynghorydd a oedd wedi torri sawl paragraff o'r Cod, gan gynnwys dwyn anfri ar ei rôl, defnyddio statws fel Cynghorydd er ei fudd ei hun a methu â datgan diddordeb personol, sy’n rhagfarnu, trwy gymryd rhan mewn trafodaeth yn ymwneud ag ymddygiad ei wraig.  Cafodd yr aelod ei wahardd am chwe mis.

 

Mae achos 7 yn ymwneud â Chynghorydd a oedd wedi ymddwyn mewn modd ymosodol ac amharchus.  Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i'r achos a phenderfynodd beidio â chymryd unrhyw gamau pellach, gan fod hwn yn ddigwyddiad ynysig.  Awgrymwyd bod paragraff 4(b) o'r Cod wedi’i dorri yn sgil peidio â dangos parch ac ystyriaeth i eraill.

 

Roedd achos 9 yn ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol, lle'r oedd y Cod wedi'i dorri gan fod y Cynghorydd wedi dwyn anfri ar ei rôl.  Rhoddwyd cerydd i'r Cynghorydd, gydag argymhelliad y dylai'r aelod ymgymryd â hyfforddiant pellach ar y Cod Ymddygiad, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol.

 

Roedd achos 11 yn cynnwys honiad bod Cynghorydd wedi methu dangos parch tuag at aelodau benywaidd o'r Cyngor, ond canfuwyd nad oedd hynny’n wir.  Roedd honiadau eraill hefyd, ond roedd yr Ombwdsmon o'r farn, gan fod y Cynghorydd bellach wedi ymddeol o'i rôl, y byddai opsiynau cosbi yn gyfyngedig, ac felly nid oedd budd cyhoeddus mewn cymryd camau pellach.  

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y bydd diweddariadau pellach mewn perthynas â'r achosion hynny sydd wedi'u hadrodd, ond nad ydynt wedi'u cwblhau, yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.  Awgrymodd y dylid tynnu sylw at brotocol cyfryngau cymdeithasol y Cyngor hwn yng nghylchlythyrau nesaf y Pwyllgor Safonau i aelodau etholedig ac aelodau o Gynghorau Tref a Chymuned er mwyn eu hatgoffa. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Cam Gweithredu: Dim

6.

Penderfyniadau gan Banel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 220 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau PDC yng Nghymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 13 Rhagfyr 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn crynhoi materion a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru (PDC) ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ym mis Rhagfyr 2023.

 

Rhoddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) grynodeb o'r achosion: -

 

Achos 1 - Honiad bod cyn-gynghorydd wedi gwneud sylwadau amharchus a bygythiol ar y cyfryngau cymdeithasol.  Daeth PDC i'r casgliad bod sylwadau'r Cynghorydd wedi eu gwneud fel unigolyn preifat yn hytrach nag fel aelod etholedig.  Nodwyd mai dim ond un paragraff o'r Cod oedd yn berthnasol yn yr achos hwn; p’un ai a oedd ymddygiad y Cynghorydd wedi dwyn anfri ar rôl yr unigolyn fel Cynghorydd neu'r awdurdod.  Penderfynodd y Panel nad oedd y Cod wedi'i dorri a bod y Cynghorydd wedi dwyn anfri arni ei hun yn bersonol.  Wrth grynhoi, cyfeiriodd y Cyfreithiwr eto at y Protocol Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Aelodau sydd ar gael yn CSYM, a phwysigrwydd atgoffa'r aelodau amdano.

 

Achos 2 - Roedd yr ail achos yn cyfeirio at honiad o dorri'r Cod yn erbyn Cynghorydd a oedd wedi anfon negeseuon rhywiol at berson a oedd wedi bod eisiau ei help gyda phroblem yn ymwneud â thŷ aelod o'r teulu.  Pan na chafodd yr help a'r cydweithrediad yr oedd wedi gobeithio amdano gan y Swyddog Tai, bu i'r Cynghorydd ymddwyn mewn modd digywilydd a bygythiol ac yna bu iddo ymddwyn mewn modd tebyg tuag at y Swyddog Monitro.  Ystyriodd y Tribiwnlys yr honiadau hynny a daethpwyd i’r casgliad bod y Cynghorydd yn euog o dorri sawl paragraff o fewn y Cod. Nododd y Tribiwnlys ei fod yn teimlo bod pwyslais gormodol ar yr honiadau yn yr achos, ac wrth ystyried y gosb, canolbwyntiwyd ar ymddygiad a chamweddau'r Cynghorydd, ac nid ar nifer yr honiadau.  Teimlai'r Tribiwnlys y byddai un neu ddau achos o dorri rheolau yn fwy addas ar gyfer y sefyllfa, a dilynwyd y canllaw ar gosbau.  Cafodd y Cynghorydd ei wahardd am gyfnod o bedwar mis.

 

Achos 3 – Roedd yn cyfeirio at apêl gan gyn Gynghorydd yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau lleol.  Rhoddwyd caniatâd i'r Cynghorydd apelio gan fod Llywydd PDC o'r farn nad oedd y Pwyllgor Safonau wedi egluro yn ei benderfyniad pam, ar sail y ffeithiau, fod y Cod wedi'i dorri.  Roedd y Panel yn cefnogi penderfyniad y Pwyllgor Safonau, a byddai'r aelod wedi cael ei gwahardd am 6 mis, pe bai hi'n dal yn aelod.

 

Achos 4 - gwrthodwyd caniatâd i apelio.

 

Pwysleisiodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol), pan fydd Pwyllgor Safonau’n dod i benderfyniad yn dilyn gwrandawiad, rhaid iddo sicrhau ei fod yn cynnwys manylion wrth gofnodi’r penderfyniad; rhaid i'r penderfyniad, esbonio'r rhesymau, beth oedd manylion yr achos, yr ystyriaeth a roddwyd i dystiolaeth y manylion a ph’un ai a ystyriwyd y canllaw ar gosbau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys crynodebau'r achos a gyflwynir yn yr adroddiad.

 

Gweirthed:  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau am ganiatad arbennig

Mae'n arferol i adroddiad gael ei baratoi i'r Pwyllgor Safonau gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y ceisiadau am ganiatadau arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau. Yn ystod y cyfnod rhwng y Pwyllgor Safonau ar 13 Rhagfyr 2023 a diwrnod cyhoeddi’r rhaglen hon, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau. Ar y sail hon, nid oes adroddiad ynghlwm.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw adroddiad, a nodwyd nad oes unrhyw geisiadau am ganiatâd arbennig wedi dod i law yn ystod y cyfnod ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau a dyddiad cyhoeddi'r agenda hwn.

8.

Diweddariad am y Fforwm Pwyllgor Safonau Cenedlaethol pdf eicon PDF 100 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Fforwm Cenedlaethol Aelodau Annibynnol Pwyllgorau Safonau yng Nghymru

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad diweddaru gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar gyfarfod diwethaf Fforwm y Pwyllgor Safonau Cenedlaethol, a fynychwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar 29 Ionawr 2024.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Safonau wedi derbyn copi o nodiadau'r Cadeirydd a'r cofnodion o'r cyfarfod hwnnw.  Crynhodd y pwyntiau canlynol: -

 

  Cyflwyniad gan Swyddfa'r Ombwdsmon yn manylu ar y cynnydd mewn achosion a gyflwynir i'r Ombwdsmon, sy'n ychwanegu at lwyth achosion presennol yr Ombwdsmon.

  Cyflwyniad ar Bwyllgorau Safonau a Chydbwyllgorau.

  Cyflwyniad ar y Protocol Datrysiad Lleol.

  Trafodaeth ar fater penodol lle'r oedd Arweinydd Grŵp hefyd yn cynrychioli aelodau etholedig ar Bwyllgor Safonau.  Roedd yr aelod hwnnw o’r farn na allai barhau i fod yn aelod o'r Pwyllgor Safonau ac yn Arweinydd Grŵp; tra mewn awdurdod arall, roedd Arweinydd Grŵp o dan yr un amgylchiadau, a barhaodd yn y rôl ar y Pwyllgor Safonau.

  Cynhaliwyd dwy sesiwn hyfforddi a gymeradwywyd yn ystod cyfarfod y Fforwm h.y. hyfforddiant ar gadeirio cyfarfodydd ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ar 12 Chwefror 2024 a sesiwn hyfforddi ar gynnal gwrandawiadau ar gyfer Cadeiryddion ar 23 Ebrill 2024

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd y bydd yn mynychu cyfarfod nesaf y Fforwm ar 24 Mehefin 2024 ar ran y Cadeirydd, a bydd yn adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.

          

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a'r diweddariad gan yr Is-gadeirydd.

 

Cam Gweithredu: Dim

9.

Adolygiad o'r Cofrestrau o Fuddiannau ar gyfer sampl o Aelodau Etholedig y Cyngor Sir pdf eicon PDF 132 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro gyda manylion y canfyddiadau a wnaed yn ystod yr adolygiadau o gofrestrau buddiannau ar gyfer sampl o aelodau etholedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar Adolygiad o'r Cofrestrau Diddordebau ar gyfer aelodau etholedig.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod yr adolygiadau wedi'u cynnal ym mis Ionawr 2024 gan y 5 aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau.  Dilynodd yr aelodau annibynnol y ddogfen ganllaw a ddatblygwyd ar gyfer yr adolygiadau.  Penderfynwyd cymryd sampl o 20 aelod etholedig a oedd yn cynnwys pob Arweinydd Grŵp, gyda'r sampl oedd yn weddill yn cynnwys aelodau yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol gan ddewis enwau ar hap.  Wedi hynny cyfarfu aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau i drafod eu canfyddiadau.

 

Deilliodd pedwar cam o'r canfyddiadau, a drafodir yn Adran 2.6 yr adroddiad.

 

Mae'r cyntaf yn ymwneud â gohebiaeth bersonol, sydd wedi'i hanfon at ambell aelod etholedig.  Yn gyffredinol, roedd yr aelodau annibynnol yn fodlon â'r canfyddiadau, ond roeddent yn teimlo bod angen ysgrifennu at rai aelodau i dynnu eu sylw at rai materion, megis yr angen i ddiweddaru eu cofrestrau.  Anfonwyd gohebiaeth, derbyniwyd ymatebion, ac mae'r rhan fwyaf o faterion wedi cael sylw.  Fodd bynnag, mae rhai materion yn parhau, y mae angen eu datrys o hyd.   Mae gohebiaeth bellach yn cael ei hanfon gan yr Is-gadeirydd ac mae'r gwaith yn parhau.

 

Roedd yr ail gam yn ymwneud â llesiant aelodau, a amlygwyd drwy absenoldebau neu newid mewn patrymau presenoldeb ar gyfer cyfarfodydd neu sesiynau hyfforddi. Anfonwyd gohebiaeth at Arweinwyr Grŵp ynghylch aelodau penodol o'u grwpiau, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i fodloni'r Pwyllgor fod Arweinwyr Grŵp yn cymryd camau mewn perthynas â phryderon yn ymwneud â llesiant.

 

Mae'r trydydd cam yn ymwneud â materion corfforaethol neu dechnegol y mae angen mynd i'r afael â nhw e.e. y broses o ddiweddaru cofrestrau, yn enwedig cofrestrau ar gyfer datgan diddordebau mewn cyfarfodydd, sydd ar bapur ar hyn o bryd, tra bod cofrestrau eraill yn cael eu diweddaru'n electronig.  Mae llythyr wedi'i anfon at y Prif Weithredwr, sydd wedi cydnabod yr ohebiaeth ac wedi datgan ei fod yn bwriadu cynnal ymholiadau pellach a rhoi adborth maes o law.

 

Y cam olaf sy'n deillio o'r ymarfer yw y bydd adroddiad cyffredinol yn cael ei baratoi ar gyfer pob aelod i roi adborth ar y themâu cyffredinol a gododd yn ystod yr adolygiadau gan rannu arfer da a gwersi a ddysgwyd.  Mae trefniadau ar waith i'r Is-gadeirydd gyflwyno'r adroddiad drafft i gyfarfod Arweinwyr Grŵp cyn y bydd yn cael ei rannu drwy e-bost gyda'r holl aelodau.

 

Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor Safonau, er mwyn diweddaru aelodau. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Cyflwyno adroddiad pellach yng nghyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor  Safonau ym mis Rhagfyr 2024, i

(a)    rannu copi o'r adroddiad cyffredinol, gan gynnwys y prif themâu

sy'n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 119 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus atodedig.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y

wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol

ar y sail y gallai gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir

yn Atodlen 12A o'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus atodedig."

11.

Cwynion ynghylch ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) mewn perthynas â Chynghorwyr Cymuned yn ystod Chwarter 4 o 2023/2024

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â hysbysu'r Pwyllgor o'r duedd sy'n codi yn y cwynion a anfonwyd at OGCC mewn perthynas â Chynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar gwynion am ymddygiad i'r Ombwdsmon ar gyfer Chwarteri 3 a 4 ar gyfer 2023/24, mewn perthynas â Chynghorwyr Tref a Chymuned.  Trafodwyd yr eitem hon yn gyffredinol yn Eitem 4 ar yr agenda.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod pum cwyn wedi eu cyflwyno i'r Ombwdsmon yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned o un Cyngor Tref a Chymuned.  Penderfynodd yr Ombwdsmon beidio ag ymchwilio i bedwar o'r cwynion, ac mae ymchwiliad i'r pumed cwyn yn parhau.

 

Nodwyd bod dau aelod o'r Pwyllgor Safonau wedi mynychu cyfarfod o'r fforwm Cyngor Tref a Chymuned hwn yn ddiweddar fel arsylwyr.  Cynhaliwyd trafodaeth am ymwneud y Pwyllgor Safonau â Datrysiad Lleol a chymorth yn y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau o blaid cynnig hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad i Glercod a Chynghorwyr Tref a Chymuned yn Hydref 2024. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Cytuno ar gynnwys Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad fel llythyrau templed i'w anfon ar ran y Pwyllgor Safonau drwy'r Cadeirydd pan wneir ymholiadau mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned/ Cynghorwyr; a

  Chytuno i beidio â datgelu enw'r Cyngor Tref a Chymuned y cyflwynwyd y pum cwyn yn eu herbyn i'r Ombwdsmon yn Chwarter 4 2023/2024.

  Cytuno i drefnu hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gyfer Clercod a Chynghorwyr Tref a Chymuned yn ystod Hydref 2024.