Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Margaret Murley Roberts a’r Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn dymuno iddo gael ei gofnodi eu bod wedi ystyried ac wedi derbyn cyngor cyfreithiol o ran a oedd angen iddynt ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda. Mae gan y ddau Gynghorydd berthynas waith broffesiynol â’r Cynghorydd sy’n destun yr adroddiad yn eitem agenda 3. Fodd bynnag, daeth y ddau i’r casgliad nad oedd y berthynas yn bodloni’r lefel o gysylltiad personol agos yn unol â’r ystyr yn y Cod Ymddygiad i Aelodau ac y byddent yn cymryd rhan yn Eitem 3 ar yr agenda gan nad oedd angen iddynt ddatgan diddordeb na thynnu’n ôl o fod yn ystyried yr eitem. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol: -
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus atodedig.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Penderfyniad Cychwynnol ynghylch cwyn a gyfeiriwyd at y Swyddog Monitro gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’w hystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor Cyflwyno adoddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro er mwyn penderfynu a oedd cwyn a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Safonau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dangos un ai: -
(i) “nad oes unrhyw dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad; neu
(ii) y dylid cynnal gwrandawiad lleol ynglŷn â’r mater fel y gall yr Aelod wneud sylwadau, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn gysylltiedig â chanfyddiadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad eu bod wedi methu â, neu y gallant fod wedi methu â, chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad”
Yn dilyn ystyried adroddiad y Swyddog Monitro ac adroddiad Swyddog Ymchwilio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fe benderfynodd y Pwyllgor Safonau yn unfrydol y dylid cyfeirio’r mater i wrandawiad lleol a chytunwyd i’r canlynol: -
PENDERFYNWYD: -
• Y dylid cynnal gwrandawiad lleol o’r Pwyllgor ynglŷn â’r mater fel y gall yr Aelod perthnasol wneud sylwadau, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn gysylltiedig â chanfyddiadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad eu bod wedi methu â, neu y gallant fod wedi methu â, chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.
• Bod y Swyddog Monitro yn cynnal y broses Cyn-Wrandawiad yn unol â’r Weithdrefn.
|