Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas ddatgan diddordeb personol yn Eitem 2 ar yr agenda am ei fod yn Gynghorydd Sir ar gyfer Ward Cybi, sy’n eistedd y tu mewn i dalgylch Ysgol Uwchradd Caergybi.
Bu i’r Cynghorydd Keith Roberts (un o’r ymgeiswyr ar gyfer caniatâd arbennig) ddatgan diddordeb personol yn Eitem 2 ar yr agenda, am ei fod yn Gynghorydd Sir ar gyfer Ward Cybi, ac yn Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Caergybi. |
|
|
Cais am Ganiatâd Arbennig Ystyried ceisiadau am ganiatâd arbennig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro (GP) fod dau gais am ganiatâd arbennig wedi’u derbyn gan y Cynghorydd Jeff Evans a’r Cynghorydd Keith Roberts, mewn perthynas â’u ddiddordeb yn y cynnig ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi, gyda’r ddau yn Lywodraethwyr wedi’u penodi gan y Cyngor Sir.
Cyfeiriwyd at y Cod Ymddygiad (Atodiad 1 yr adroddiad), sy’n nodi’r amodau hynny ble mae’n rhaid i Gynghorwyr Sir wneud cais am ganiatâd arbennig ar gyfer diddordebau personol a diddordebau sy’n rhagfarnu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod yr ymgeiswyr yn yr adroddiad yn ceisio cael caniatâd arbennig ar gyfer tryloywder a gonestrwydd, er mwyn rhoi caniatâd iddynt gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth a phroses gwneud penderfyniad yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 15 Hydref 2025, lle bydd y materion yn cael eu hystyried. Nodwyd fod y Cynghorydd Jeff Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
Cafodd y Cynghorydd Roberts gyfle i siarad gyda’r Panel a rhoi ei resymau am geisio caniatâd arbennig.
Ar ôl clywed am gefndir y ceisiadau am ganiatâd arbennig gan yr ymgeiswyr, cafodd y Panel sesiwn breifat i bennu a ddylid rhoi caniatâd arbennig ai peidio, ac os rhoddir caniatâd arbennig, i ystyried (i) ar ba sail(seiliau) y dyfernir y caniatâd arbennig ac (ii) oes unrhyw gyfyngiadau i’w cyflwyno.
PENDERFYNWYD dyfarnu caniatâd arbennig i’r Cynghorydd Jeff Evans a’r Cynghorydd Keith Roberts, yn eu rhinwedd fel Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Caergybi mewn perthynas â’r rhesymau hynny y cyfeiriwyd atynt yn y ceisiadau.
Mae’r Caniatâd arbennig yn rhoi hawl i’r Cynghorwyr:-
• ysgrifennu at swyddogion a/neu’r Pwyllgor/Cyngor am y mater; • siarad â swyddogion y Cyngor am y mater heb amodau; • siarad yn nghyfarfodydd y Pwyllgor/Cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater; • aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/pleidlais am y mater; • pleidleisio; a • chymryd rhan mewn cyfarfodydd allanol a chyfarfodydd unrhyw gyrff allanol fel aelod o’r Cyngor.
Gweithred:
• Bod y Cynghorydd Evans a’r Cynghorydd Roberts yn datgan diddordeb personol wrth fynychu cyfarfodydd y Cyngor a’r holl gyfarfodydd eraill. • Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Cynghorydd Jeff Evans a’r Cynghorydd Keith Roberts yn cadarnhau bod y Panel Caniatâd Arbennig wedi dyfarnu caniatâd arbennig iddynt sy’n eu galluogi i ysgrifennu, siarad am a phleidleisio ar yr holl faterion yn ymwneud â’r mater hwn. |