Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 9fed Rhagfyr, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Diweddariad y Cadeirydd

Derbyn diweddariad y Cadeirydd ar ddatblygiadau ers y cyfarfod blaenorol gyda chyfeiriad penodol at y canlynol  

 

·        Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn  Gorchymyn Person Dynodedig

·        Gwaith Aelodau’r Pwyllgor yn ymwneud â’r Rhaglen Drawsnewid a’r Byrddau Prosiect

Cofnodion:

·         Rhoddwyd diweddariad i’r Aelodau gan y Rheolwr Sgriwtini ynglŷn â datblygiadau mewn perthynas â’r Mesur Llywodraeth Leol gyda chyfeiriad penodol at y Gorchymyn Personau Dynodedig a’i oblygiadau i’r swyddogaeth sgriwtini.  Eglurodd y Swyddog bod cyfnod ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Gorchymyn Personau Dynodedig wedi cau ar 21 Tachwedd 2013 a’i bod wedi llunio ymateb mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro; Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio.  Mae’r Gorchymyn Personau Dynodedig yn ymestyn maes sgriwtini i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill sydd wedi eu “dynodi” trwy’r Gorchymyn ac ar hyn o bryd rhai o’r cyrff sy’n cael eu hystyried i’w cynnwys yw’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG ac Awdurdodau Tân ac Achub.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud - pe bai sgriwtineiddio’r cyrff gwasanaeth cyhoeddus hyn yn dod yn ddyletswydd yna y farn yw nad oes dim digon o adnoddau o bell ffordd o fewn yr Awdurdod o safbwynt mewnbwn sgriwtini Swyddog / Aelod na digon o gefnogaeth i allu gwneud y gwaith hwnnw’n effeithiol.  Roedd cynnwys yr ymateb ar yr ymgynghori a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn nodi’r pryderon oedd yn codi yn hyn o beth. 

 

Nodwyd y wybodaeth gan y Pwyllgor.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

·         Y Rheolwr Sgriwtini i gylchredeg y Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad yn electronig i Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn dilyn cwblhau’r ffurflen.

·         Y Rheolwr Sgriwtini i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn y man ar unrhyw atborth a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

·         Adrodd ar Drawsnewid: Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddigwyddiad hyfforddi a gynhaliwyd i Aelodau yr wythnos flaenorol mewn perthynas â Rhaglen Drawsnewid yr Awdurdod.  Mae’r negeseuon allweddol o’r tri Bwrdd Rhaglen Trawsnewid ar gael ar wefan y Cyngor.  Dywedodd y Cadeirydd mai’r bwriad o safbwynt y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yw gofyn i Aelodau’r Pwyllgor sydd hefyd yn gwasanaethu ar un neu fwy o’r Byrddau Rhaglen a’r Byrddau Rhaglen Trawsnewid i roi diweddariadau rheolaidd i’r Pwyllgor fel eu bod yn gwybod am unrhyw ddatblygiadau perthnasol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod o’r Bwrdd Rhagoriaeth Gwasanaeth ei bod yn cymryd amser i’r broses ymwreiddio a darparu canlyniadau gweladwy.  Nododd bod yna bwysau o ran amser yn deillio o faint y toriadau sy’n wynebu’r Awdurdod ac efallai bod lle i ddadlau dros gyflymu’r newid hwnnw i ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil y toriadau.  Dweud wnaeth y Cynghorydd Victor Hughes, oedd yn Aelod o’r Bwrdd Prosiect Gweithio’n Gallach mai prosiect oedd hwn yn ei ddyddiau cynnar ac roedd llawer o waith paratoi i’w wneud o safbwynt mapio adeiladau’r Awdurdod ac ystyried y ffyrdd gorau o wneud y defnydd gorau ohonynt. 

 

·         Hyfforddiant Byrddau Trawsnewid i Aelodau: Gofynnodd y Rheolwr Sgriwtini i’r Aelodau nad oeddent yn gallu mynychu’r sesiwn hyfforddi trawsnewid a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr i gysylltu â hi fel y gallai roi’r dogfennau a ddefnyddiwyd yn yr hyfforddiant iddynt. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig cadw ar y blaen o ran gwybodaeth gan bod rhai cyfrifoldebau penodol ar Aelodau sy’n gwasanaethu ar Fyrddau Prosiect mewn perthynas  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cofnodion Cyfarfod 28 Hydref, 2013 pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol 

 

           28 Hydref, 2013

 

           15 Tachwedd, 2013 (arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd  a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Hydref ac 15 Tachwedd 2013.

 

4.

Materion Ariannol - Adroddiad Monitro'r Gyllideb Gyfalaf 2013/14 pdf eicon PDF 388 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Gyfalaf am Chwarter 2 (Adroddiad i Bwyllgor Gwaith 2ail Rhagfyr)

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad Monitro Cyllideb Gyfalaf Chwarter 2 2013/14 fel yr oedd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Rhagfyr.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol) wrth y Pwyllgor beth oedd y prif negeseuon ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â gwariant yn erbyn y gyllideb gyfalaf hyd at ddiwedd Medi 2013.  Y gwariant ar gynlluniau cyffredinol hyd yn hyn oedd £6.1m (36% o’r holl gyllideb).  Roedd cynlluniau Tai wedi golygu gwariant o £1.3m (18% o gyfanswm y gyllideb tai).  Roedd y gwariant cyffredinol yn 31% o’r holl gyllideb, gan bod nifer o’r cynlluniau mwy yn cael eu pwyso tuag at ail hanner y flwyddyn.  Cyfeiriodd y Swyddog at gynlluniau oedd yn cario elfen o risg o safbwynt rhedeg dros y gyllideb ac/neu dderbyn cyllid grant mewn perthynas ag adleoli Ysgol y Bont, Prosiect Pier Biwmares a Rhaglen o Welliannau i’r Mân-ddaliadau, ac yr oedd manylion amdanynt yn yr adroddiad ynghyd â chamau monitro ac/neu adfer fel oedd yn berthnasol.  Cyfeiriodd y Swyddog hefyd at brosiectau eraill a datblygiadau gan edrych ymlaen.

 

Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa.  Ategwyd sylwadau yn dweud nad oedd yr Awdurdod wedi gwneud y mwyaf o werth y Stad Fân-ddaliadau trwy gymryd camau i’w gwella mewn da bryd.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU’N CODI

 

5.

Materion Ariannol - Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw 2013/14 pdf eicon PDF 313 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw am Chwarter 2 (Adroddiad i Bwyllgor Gwaith 2ail Rhagfyr)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Chwarter 2 2013/14 fel oedd wedi ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Rhagfyr.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor hyd at Medi 2013 ac yn seiliedig ar hynny, roedd yn cyflwyno sefyllfa ragamcanedig diwedd y flwyddyn o wariant cyffredinol o £265k.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) at wahaniaethau arwyddocaol mewn gwasanaethau gyda chyfeiriad arbennig at y tanwariant £64k ar Ofal Cymdeithasol o gymharu â’r gorwariant £1.295m ar ddiwedd Chwarter 1.  Rhoddodd y Swyddog ddadansoddiad i’r Aelodau o’r prif ffactorau oedd yn gyfrifol am y newid hwn trwy ddadansoddi’r gwariant ar wahanol elfennau o’r gwasanaeth yn ymwneud â phlant a theuluoedd a gofal cymdeithasol i oedolion.  Pwysleisiodd bod cyllidebau gofal cymdeithasol yn eu natur yn rhai cyfnewidiol a nododd na fyddai’r sefyllfa well hon efallai yn cael ei chynnal am weddill y flwyddyn. Bydd y cyllidebau hyn felly yn cael eu monitro’n agos gan staff cyllid a staff y gwasanaeth yn fisol.  Aeth y swyddog ymlaen i gyfeirio at orwariant Grant Budd-daliadau o £310k, sef £230k o Dreth Gyngor ac £80k o Daliad Tai Disgresiynol a oedd wedi codi, yn achos y cyntaf, yn sgil newid y Budd-dal Treth Gyngor am Gynllun Gostyngiad Treth Gyngor, ac yn achos yr ail, o newidiadau diwygio lles.

 

Bu’r Aelodau yn ystyried yr adroddiad ac er eu bod yn croesawu gweld trawsnewid y gorwariant ar Ofal Cymdeithasol Oedolion yn y chwarter cyntaf roeddent yn bryderus gyda maint y newid hwnnw mewn amser mor fyr ac roeddent felly yn awyddus i sefydlu beth oedd y rhesymau am y newid hwn ac a oedd i’w briodoli i –

 

·         Arbedion gwirioneddol ac/neu

·         Moratoriwm ar wario ac os felly, goblygiadau hynny i ddefnyddwyr gwasanaeth

·         A oedd yna swyddog unswydd yn monitro’r gyllideb Gofal Cymdeithasol Oedolion?

 

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) nad oedd unrhyw arian wedi ei arbed.  Yn y chwarter cyntaf nid oedd y cyllidebau wedi eu haleinio’n gywir gyda hynny’n ei gwneud yn anodd i broffwydo a sefydlu beth oedd y gwariant gwirioneddol.  At hynny, nid oedd unrhyw arwydd bod   cynlluniau wedi eu gweithredu mewn perthynas ag arbedion o £500k y bwriadwyd eu gwneud fel rhan o gyllideb 2012/13 ac felly fe ychwanegwyd y swm at y ffigurau yn y gyllideb heb wneud ymchwiliad trylwyr ynghylch pam nad oedd yr arbediad wedi ei gyflawni.  Roedd ymarfer ailaleinio wedi dangos bod yr arbedion wedi eu gwneud.  Hefyd, ers ei weithredu yn Chwarter 1, mae’r system lejer Civica wedi gwneud y wybodaeth yn fwy tryloyw.  Cadarnhaodd y Swyddog bod swyddog arall yn canolbwyntio ar gyllid yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, ond bod y gwaith o osod y gyllideb yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Cyllid.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn gytûn, er mwyn gallu dadansoddi’r sefyllfa ymhellach ac i roi cyfrif digonol o’r gwahaniaeth rhwng sefyllfa gyllidebol Gofal Cymdeithasol Oedolion yn Chwarter 1 a Chwarter 2 ac i gael sicrwydd bod y sefyllfa yn cael ei rheoli, eu bod angen mewnbwn gan y Cyfarwyddwr Cymuned ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Strategaeth Feicio pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Amgylchedd a Thechnegol ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol yn cynnwys Strategaeth Feicio Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol bod y Strategaeth Feicio wedi ei chynhyrchu i gydlynu agwedd y Cyngor tuag at feicio ac i sicrhau bod y Cyngor yn ymwybodol o ofynion Deddf Teithio Egniol (Cymru) 2013 a’i fod yn gallu cyflawni’r gofynion hynny ynghyd â Deddfau eraill sydd yn cael dylanwad ar feicio.  Bydd gweithredu’r strategaeth yn effeithiol yn dod â manteision amgylcheddol, manteision iechyd a lles, manteision o ran hamdden a manteision economaidd yn ogystal â gwell delwedd o Ynys Môn fel cyrchfan feicio.  Aeth y swyddog ymlaen i amlygu nodweddion y rhwydwaith beicio presennol ym Môn fel oedd i’w weld yn y Strategaeth ynghyd â chynigion, datblygiadau tebygol a gwaith uwchraddio mewn perthynas â’r rhwydwaith i’r dyfodol. 

 

Cafwyd sylwadau gan Dr. Wyn Morgan, Sustrans fel a ganlyn –

 

·         Mae’r deddfau gymaint yn gysylltiedig â manteision iechyd ag ydynt â manteision cludiant cynaliadwy ac maent yn darparu her i awdurdodau wella’r agweddau hynny.  Efallai bod cyfarfod â disgwyliadau’r deddfau o ran hyrwyddo’r elfennau twristiaeth a chludiant cynaliadwy yn gallu bod yn drwm ar adnoddau a bydd rhaid blaenoriaethu gwariant. 

·         Mae angen cael trafodaeth efo Arriva Trains gyda golwg ar wella’r ddarpariaeth ar gyfer beiciau ar bob siwrnai o ystyried y goblygiadau i dwristiaid a rhai sy’n dymuno cyfuno beicio gyda siwrnai ar y trên.

·         Mesurau o ran gwneud beicio’n fwy diogel.

·         Y gellid ystyried sefydlu llwybrau rhwydwaith byrrach sy’n cysylltu cymunedau, canolfannau siopau, ysgolion ac ati i hwyluso beicio a’i wneud yn opsiwn teithio mwy deniadol. 

·         Mae’n bwysig gwneud y defnydd mwyaf o goridor yr A5.

·         Gellid rhoddi ystyriaeth i sefydlu cyswllt rhwng Coedwig Niwbwrch a Llanddwyn.

·         Mae prinder o wybodaeth fel pamffledi am feicio a llwybrau beicio.

·         Mae angen mapio’r ddarpariaeth bresennol a blaenoriaethu datblygiadau yn y dyfodol yn unol â dyheadau’r Awdurdod.

 

Bu Aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth ac fe wnaed y pwyntiau canlynol –

 

·         Cyllid ar gyfer datblygu yn y dyfodol - dywedodd y Pennaeth Cludiant a Gwasanaethau Amgylcheddol nad oedd adnoddau’r Cyngor wedi eu defnyddio i ariannu gwelliannau a bod Taith - Cynllun Cludiant Rhanbarthol wedi bod yn gyfrannwr mawr.

·         Yr angen i feddwl yn gydlynus ar sail gorfforaethol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo’r Strategaeth Feicio.

·         A oedd y cynlluniau i ddatblygu yn y dyfodol yn cynnwys llwybrau beicio oddi ar y priffyrdd ac a fydd y rhain yn cael eu blaenoriaethu fel rhai sydd yn fwy diogel ac felly o bosibl yn fwy deniadol i feicwyr.

·         Yr angen i lunio rhestr o ddatblygiadau sy’n flaenoriaeth.

·         Datblygiadau posib mewn perthynas â Lein Amlwch a’r angen i ddod i benderfyniad pendant ynglŷn â defnyddio’r lein.

·         Yr angen i hyrwyddo llwybrau beicio i’r gwaith.

·         Yr angen i ailystyried y polisi ynglŷn â chynnal a chadw ochrau’r priffyrdd yn arbennig o ran hwyluso beicio diogel ar lonydd yn y wlad.

 

Penderfynwyd argymell y Strategaeth Feicio i’r Pwyllgor Gwaith gyda’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 956 KB

Derbyn diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Sgriwtini.(Copi o’r Rhaglen Waith wreiddiol ynghlwm)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, gopi o raglen waith bresennol y Pwyllgor a hefyd flaenraglen waith y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd y Rheolwr Sgriwtini ddiweddariad byr i’r Aelodau am y rhaglen waith gan amlygu’r materion canlynol –

 

·         Yr angen i gydlynu eitemau er mwyn hwyluso sgriwtini

·         Angen cynnwys Lein Amlwch ar y rhaglen waith i gyfarfod yn y dyfodol.

·         Bod ceisiadau am eitemau ychwanegol yn destun prawf arwyddocâd.

·         Bod y Ganolfan Sgriwtini Cyhoeddus wedi ffurfio cyfres o gwestiynau cyffredinol i Aelodau etholedig mewn paratoad ar gyfer sgriwtineiddio cyllideb y Cyngor (cyfarfod Ionawr 2014).

·         Ei bod wedi anfon crynodeb i Aelodau o’r prif themâu o’r gweithdy cyllid a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd.

·          

Wrth ystyried y Rhaglen Waith, pwysleisiodd yr Aelodau bod angen cael cefnogaeth ddigonol i Bwyllgorau Sgriwtini o ran mewnbwn swyddogion a chyfarwyddyd ac yn eu barn hwy roedd diffyg ar hyn o bryd yn y gefnogaeth honno i Bwyllgorau Sgriwtini ac roeddent yn teimlo y dylai’r Uwch Reolwyr gael gwybod am hyn.

 

Mewn ymateb i wahoddiad y Cadeirydd i’r Aelodau ddod ag unrhyw faterion yr oeddent yn dymuno iddynt gael eu cynnwys ar y rhaglen waith i’w sylw, codwyd y mater o bolisïau cynllunio’r awdurdod lleol a’u sgriwtineiddio.  Dywedodd y Cadeirydd y gellid ystyried eu cynnwys ar y rhaglen waith.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa gyfredol yng nghyswllt y Rhaglen Waith.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

 

·         Y Rheolwr Sgriwtini mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd i ailddrafftio’r rhaglen waith ar gyfer gweddill y flwyddyn er mwyn i’r rhaglen adlewyrchu’r prif flaenoriaethau a hefyd y sylwadau a wnaed.

·         Y Rheolwr Sgriwtini mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd i drafod gyda’r Prif Weithredwr y mater o gael mewnbwn a chefnogaeth swyddogion i’r pwyllgorau sgriwtini.