Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 15fed Hydref, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gofynnodd nifer o’r Aelodau am eglurhad mewn perthynas â’r gofynion ar gyfer datgan diddordeb ynghylch eitem 9 ar y rhaglenModerneiddio YsgolionArdal Caergybi.

 

Cynghorodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod tri senario wedi cael eu cyflwyno iddi gan yr Aelodau, sef bod yn Aelod Lleol; bod yn llywodraethwr ysgol a effeithir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan y cynigion moderneiddio, ac yn drydydd bod â pherthynas bersonol agos gyda’r ysgol/ysgolion dan sylw oherwydd bod aelod o’r teulu naill ai’n ddisgybl yn yr ysgol(ion) neu yn gyflogedig ynddi. Ei chyngor mewn perthynas â bod yn Aelod Lleol yw fod yr  Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i wneud yn glir mewn canllawiau  nad yw bod yn Aelod Lleol yn gyfystyr â diddordeb personol neu ddiddordeb sy’n rhagfarnu; mae bod yn  llywodraethwr a benodwyd gan y Cyngor ar ysgol yr effeithir arni yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn creu diddordeb personol ond nid diddordeb sy’n rhagfarnu -  byddai’n rhaid  ei ddatgan ond nid yw’n rhwystr rhag cymryd rhan. Mae’r drydydd math o diddordeb ynglyn â bod efo cysylltiad agos personol hefyd yn gyfystyr â diddordeb  personol ond nid diddordeb sy’n rhagfarnu ac mae’n rhaid ei ddatgan - gall yr Aelod gymryd rhan yn y drafodaeth ar y mater yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini ac eithrio unrhyw Aelod a fydd yn rhan o’r broses ar gyfer gwneud y penderfyniad ar y mater h.y. Aelod Lleol sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith.Yn yr achos hwnnw byddai’r diddordeb yn un sy’n rhagfarnu yn Sgriwtini a hefyd yn y Pwyllgor Gwaith.

 

Mewn perthynas â chyngor y Swyddog, gwnaed datganiadau o ddiddordeb gan yr Aelodau a ganlyn mewn perthynas ag eitem 9 ar y rhaglen

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid diddordeb sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd R. Llewelyn Jones.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid diddordeb sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd Raymond Jones.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid diddordeb sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd Jeff Evans (Aelod Lleol nad yw’n aelod o’r Pwyllgor).

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid diddordeb sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas (Aelod Lleol nad yw’n aelod o’r Pwyllgor).

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid diddordeb sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes (Aelod Lleol nad yw’n aelod o’r Pwyllgor).

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ac un sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd John Arwel Roberts (Aelod Lleol nad yw’n aelod o’r Pwyllgor).  Fel Aelod o’r Pwyllgor Gwaith ymadawodd â’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

2.

Diweddariad y Cadeirydd a'r Aelodau

Y Cadeirydd ac Aelodau i roi diweddariad ar ddatblygiadau.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio rhoi sylw i’r mater a bod yr Aelodau hynny sy’n dymuno rhoi diweddariad ar y cyfarfodydd a fynychwyd ganddynt yn anfon eu sylwadau at y Rheolydd Sgriwtini.

3.

Cofnodion 1 Medi, 2014 pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethola gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :

 

·         1 Medi, 2014

·         26 Medi, 2014 (arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 1 Medi 2014 a 26 Medi 2014 (arbennig) a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Cyllideb 2015/16 pdf eicon PDF 270 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro ynghylch bwriadau cychwynnol y Pwyllgor Gwaith.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Rheolydd Dros Dro ar gyfer y Gwasanaethau Cyfrifeg ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â Chyllideb 2015/16.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod yr adroddiad a’r diffyg cyllidebol y mae’n cyfeirio ato yn seiliedig ar ragdybiaeth o ostyngiad o 4.5% yn y setliad ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.  Dywedodd bod cadarnhad wedi ei dderbyn ers drafftio’r adroddiad y byddai’r gostyngiad yn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn yn 3.9% sy’n cyfateb i wahaniaeth o thua £700,000.  Fodd bynnag, mae’r toriad yn parhau i fod yn un sylweddol ac mae unrhyw fanteision yn sgil y ffaith fod y toriad yn llai na’r disgwyl yn debygol o gael eu gwrthbwyso gan gostau uwch i’r Cyngor.  Bydd yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn ystod yr hydref yn cynnig opsiwn unwaith eto i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 5% sy’n sylweddol uwch na chwyddiant ar hyn o bryd.

 

Gofynnwyd i’r Aelod Portffolio wneud sylw ar gronfeydd wrth gefn yr Awdurdod ac a ddylid fod wedi cyflwyno’r cynllun diswyddo gwirfoddol yn gynt fel rhan o gynllun i ddelio â’r gostyngiad yn y cyllid, yn arbennig felly o gofio llymder y toriadau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid y cafwyd gwared ar nifer o swyddi y llynedd trwy’r cynllun diswyddo gwirfoddol ac, yn anffodus, bydd yr opsiwn yn cael ei gynnig a’i ystyried eto eleni.  Mae’r Awdurdod bob amser wedi ceisio sicrhau ei fod yn cadw ei gronfeydd wrth gefn ar lefel sy’n cyfateb i 5% o’r gyllideb flynyddol, yn ogystal â sicrhau bod ganddo gronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi i ddibenion penodol.  Nid oedd yn ystyried bod gan yr Awdurdod ormod o arian wrth gefn.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad a’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r Gyllideb.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI.

5.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 173 KB

Ystyried mabwysiadu'r canlynol: -

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd  y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

Cofnodion:

Penderfynwyd o Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

6.

Prosiect Gweithio'n Gallach

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Rhaglen Gorfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol yn ymgorffori Achos Busnes llawn ar gyfer bwrw ymlaen gyda’r Prosiect Gweithio’n Gallach ar y llinellau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid Perfformiad fod y prosiect gweithio’n gallach wedi ei anelu tuag at ddarparu amrediad o arbedion fel yr amlinellir yn  yr adroddiad ond, er mwyn sicrhau y gellir cyflawni’r holl arbedion, mae’n rhaid derbyn a mabwysiadu’r prosiect yn ei gyfanrwydd gan gynnwys y cynigion o fewn y tri argymhelliad eang.  Yn seiliedig ar gyngor a gafwyd gan y Swyddog Adran 151, mae arbedion yn annhebygol o gael eu gwneud os mabwysiedir ymagwedd dameidiog yn unig.  Fodd bynnag, gellir cefnogi’r adroddiad yn ei gyfanrwydd ar y ddealltwriaeth na fydd holl elfennau’r prosiect yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd ac y gellid addasu a diwygio rhai agweddau o fewn amserlen gyffredinol y prosiect.  Mae nifer o’r agweddau o fewn yr adroddiad yn tarddu o syniadau a gynigiwyd gan y gweithlu ac mae’n hollbwysig felly bod y neges yn cael ei chyfleu bod yr Awdurdod yn gwrando ar awgrymiadau a wneir gan staff a’u bod yn syniadau y gallai’r Rheolwyr weithio gyda nhw i geisio moderneiddio cyfleusterau, y ddarpariaeth o wasanaethau ac arferion gweithio yn y Cyngor.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod yr adroddiad yn un arwyddocaol i’r sefydliad oherwydd ei fod yn ymwneud â moderneiddio’r ffordd y mae’r Cyngor yn gweithio, y defnydd o dechnoleg a’r ffordd o reoli asedau.  Cadarnhaodd y Swyddog y sylwadau gan yr Aelod Portffolio bod angen gweithredu holl elfennau’r adroddiad yn hytrach na dim ond darnau penodol ohono er mwyn sicrhau bod modd cyflawni buddion llawn y prosiect.  Mae’r adroddiad yn ffrwyth llawer iawn o waith ac mae wedi ei seilio ar waith ymchwil i arferion gweithio awdurdodau eraill a sut maent wedi ymateb i’r rhaglen gweithio’n gallach ac mae wedi cymryd i ystyriaeth y gwersi a ddysgwyd o’u profiadau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Reolydd y Rhaglen Gorfforaethol beidio â rhoi’r cyflwyniad llawn ond ei bod yn cyflwyno’r pwyntiau allweddol yn unig, a hynny oherwydd cyfyngiadau amser yn sgil y rhaglen.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad gan gydnabod trylwyredd ac ansawdd y gwaith.  Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi ei raglennu yn ei raglen waith ar gyfer ei gyflwyno i’w gyfarfod ym mis Gorffennaf a bod cyfyngiad arno o ran yr amser yr oedd yn medru rhoi i’r mater yn y cyfarfod heddiw oherwydd pwysau yn sgil yr eitemau eraill oedd ar y rhaglen.  Gwnaed pwynt gan y Pwyllgor y byddai wedi gwerthfawrogi cael mwy o gyfle i roi sylw manwl i’r ddogfennaeth trwy sesiwn friffio bwrpasol cyn y cyfarfod.

 

Er bod y Pwyllgor yn derbyn y ffordd gydlynol yr oedd yr achos ar gyfer y prosiect wedi ei wneud, tynnodd sylw at yr amheuon isod a oedd yn gweithio yn erbyn iddo fedru cefnogi gweithredu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 67 KB

Ystyried mabwysiadu'r canlynol: -

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

Cofnodion:

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

8.

Opsiynau Gofal Ychwanegol Amlwch a Llangefni

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Strategol (Gofal Cymdeithasol i Oedolion).

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Strategol (Gofal Cymdeithasol Oedolion) ynglŷn â dilyn ymlaen gyda datblygu gofal ychwanegol yn Amlwch a Llangefni.  

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod angen cael ei gefnogaeth mewn egwyddor i’r opsiynau ynglŷn â safleoedd tir fel oedd i’w gweld yn yr adroddiad fel rhan o gyfraniad y Cyngor tuag at ddatblygu Gofal Ychwanegol yn amodol ar y cymalau oedd wedi eu nodi, cyn eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref.  Byddai cael caniatâd yn golygu y gallai’r prosiect gael ei symud ymlaen i'r cam nesaf.

 

Roedd y Pwyllgor yn unfrydol yn ei gefnogaeth i’r cynigion mewn egwyddor fel ffordd o symud y Prosiect Gofal Ychwanegol yn ei flaen ar y ddealltwriaeth na fyddai safleoedd tir posibl arall fel a awgrymwyd yn flaenorol yn cael eu gwrthod ac y byddant yn cael eu hystyried os byddant i’w gweld fel rhai ymarferol.

 

Penderfynwyd cefnogi'r cynigion oedd yn yr adroddiad i'w cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith er mwyn symud y Prosiect Gofal Ychwanegol yn ei flaen i’r cam nesaf.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

9.

Moderneiddio Ysgolion - Caergybi pdf eicon PDF 19 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried adroddiad y Rheolwr Rhaglen (Moderneiddio Ysgolion) yn cynnwys canlyniad y broses ymgynghori ffurfiol a wnaed yng nghyswllt y bwriad i uno Ysgol y Parc, Ysgol Llaingoch ac Ysgol Parch Thomas Ellis mewn ysgol newydd ar safle Cybi fel y safle oedd yn cael ei ffafrio.

 

Yn y drafodaeth gynhwysfawr a ddilynodd ar y cynigion oedd wedi eu cynnig, cyfeiriodd y Pwyllgor at y materion a ganlyn gan ofyn am gael eglurhad pellach arnynt gan y Swyddogion.

 

  Pa mor ymarferol oedd cael dwy yn hytrach na thair ysgol yn uno ar safle Cybi a thrwy hynny greu ysgol lai ei maint.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod y bwriad i uno tair ysgol fel yr opsiwn oedd yn cael ei ffafrio ac fel sail yr ymgynghori yn hollol glir.  Cyfeiriodd at adran 7.7 yr adroddiad oedd yn trafod digonolrwydd ac addasrwydd safle Cybi fel cartref i’r tair ysgol unedig.

  Argaeledd adroddiad traffig llawn ar lein ac awgrymwyd bod cydranddeiliaid angen mwy o amser i’w ystyried.  Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw gyfeiriad at y ffactorau tywydd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod yr adroddiad y cyfeiriwyd ato yn cael ei ysgrifennu yn ystod y broses ymgynghori ond nad oedd ar gael yn ystod y cyfnod ymgynghori.   Mae’r adroddiad llawn yn awr wedi ei ryddhau ac y mae’n crynhoi cynnwys yr Asesiad Effaith Traffig a dderbyniwyd ac y mae hwnnw yn adroddiad manwl iawn sy’n delio â nifer o faterion traffig.  Roedd yr adroddiad ar yr ymgynghori yn adran 7.2 yn rhoi sylw i’r pryderon ynglŷn ag Iechyd a Diogelwch ac yn amlygu gwelliannau a wnaed i lwybrau cerdded i’r ysgol.  Roedd y materion hyn wedi eu lleisio yn y cyfarfodydd ymgynghori ond ni ddeliwyd yn llawn â materion traffig oherwydd nad oedd yr adroddiad ar gael ar y pryd.  Bydd adran ar faterion traffig ar ddiwrnod gwlyb yn cael ei gynnwys pan fydd wedi ei gwblhau.

  Pa mor ddigonol a thrwyadl oedd y broses ymgynghori a’r graddau yr ymgysylltwyd â’r cymunedau dysgu a effeithir o ystyried mai dim ond 7 ymateb a gafwyd gan rieni yn Ysgol y Parc a dim ond un ymateb gan riant yn Ysgol Parch Thomas Ellis.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod yr adroddiad yn adran 1.9 yn cyfeirio at y cyfarfodydd ffurfiol a gynhaliwyd gyda’r staff, llywodraethwyr a rhieni yn y tair ysgol.  Cyn hynny, roedd cyfarfodydd anffurfiol wedi eu cynnal ac roedd hynny felly yn mynd y tu hwnt i ofynion cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.  Roedd y broses yn ei chyfanrwydd wedi glynu at y cyfarwyddyd.  Fodd bynnag, gellir bob amser ddysgu gwersi o gynnal ymgynghoriadau ac efallai yn yr achos hwn y gallai’r wers fod wedi bod yn fwy ymatebol a thrwy hynny yn sicrhau bod y broses ymgynghori yn ychwanegu gwerth.

  Absenoldeb unrhyw gofrestr risg yn gysylltiedig â’r prosiect  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Parc Sglefrio Llangefni - Adolygiad Sgriwtini pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwyno adroddiad drafft Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor a’r Rheolwr Sgriwtini yn nodi’r prif faterion oedd yn codi o adolygiad y Pwyllgor o’r broses o gau Parc Sglefrio, Llangefni er cymeradwyaeth yr Aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac i geisio caniatâd y Prif Weithredwr / Arweinydd i’r mater gael ei ystyried fel mater brys yn ei gyfarfod ar 20 Hydref 2014.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI