Rhaglen a chofnodion

Galw i Mewn, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 4ydd Tachwedd, 2014 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol i'r cyfarfod arbennig hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol oedd wedi ei alw i ddelio â mater galw i mewn.  Eglurodd mai’r Cynghorydd R.G. Parry, OBE fyddai’n arwain ar y galw i mewn oherwydd na allai ef, fel Cadeirydd y Pwyllgor, wneud y ddwy ddyletswydd.  Roedd y busnes dan sylw yn golygu cwestiynu penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ac er mwyn gwneud hynny roedd 5 Aelod nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith wedi arwyddo cais galw i mewn ac wedi darparu rhesymau dros herio’r penderfyniad.  Y Cynghorydd R.G. Parry, OBE fyddai yn arwain ar yr agwedd honno.  Byddai’r aelodau oedd wedi llofnodi’r cais i alw i mewn oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac nad oeddent yn aelodau o'r Pwyllgor yn cael cyfle i wneud cyfraniad a byddai Arweinydd y Cyngor a'r Deilydd Portffolio Trawsnewid Corfforaethol yn cael eu gwahodd i ymateb.  Wedi hynny, bydd Aelodau'r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i ofyn cwestiynau i unrhyw un o'r partïon.  Bydd Arweinydd y Cyngor a'r Deilydd Portffolio Trawsnewid Corfforaethol yn yr un modd yn gallu gofyn am fewnbwn gan y Swyddogion.  Roedd tri llwybr ar gael i’r Pwyllgor Sgriwtini wrth benderfynu’r mater hwn sef cytuno gyda phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith;  anghytuno a chyfeirio’r mater yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith i'w ailystyried naill ai'n rhannol neu yn gyfan gwbl, neu gyfeirio'r mater i’r Cyngor i'w ystyried ymhellach.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 172 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i fabwysiadu’r canlynol:

 

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

Cyn cymryd pleidlais ar y mater hwn o gau allan y wasg a’r cyhoedd, dywedodd y Cadeirydd nad oedd ef yn bersonol wedi bod yn hapus i dderbyn y ddarpariaeth ar gyfer cau allan y wasg a'r cyhoedd.  Roedd hwn yn un o'r achosion hynny lle yr oedd yn teimlo y dylai'r mater o gau allan y wasg a’r cyhoedd a’i peidio gael ei drafod cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud.  Eglurodd ei fod wedi cael trafodaeth fer gyda'r Uwch Gyfreithiwr ac roedd wedi gofyn i’r Swyddog egluro’r sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â sut y mae angen i’r Pwyllgor ddelio â'r mater hwn.  Mae’r Prawf Budd y Cyhoedd yn nodi dau reswm pam ei fod yn cael ei argymell bod y diddordeb i’r cyhoedd wrth  gynnal yr eithriad yn gorbwyso’r diddordeb cyhoeddus o ddatgelu'r wybodaeth, sef -

 

  Bod gwybodaeth yn ymwneud â materion sensitif ynglŷn ag arian a busnes yr Awdurdod yn mynd i gael ei drafod.

  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth y gellid yn rhesymol ddisgwyl y byddai’n golygu y byddid yn ymgynghori neu’n negodi gyda staff yr Awdurdod ac y gallent gael eu hadnabod yn anuniongyrchol pe cai’r adroddiad ei drafod yn y parth cyhoeddus.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn arbennig o anhapus gyda'r ail reswm oherwydd ei bod yn amlwg bod trafodaethau wedi eu cynnal ac yn parhau ynglŷn â chwtogi niferoedd staff.  Mae'n wybodaeth gyffredinol bod bwriad i dorri yn ôl ar swyddi e.e. mae gwahoddiad wedi mynd allan i staff sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer diswyddo gwirfoddol.  Felly roedd yn credu bod sail dros amau a yw hwn yn rheswm dros gau allan y wasg a’r cyhoedd.  O safbwynt y rheswm cyntaf, roedd yn credu y byddai angen gofyn am resymau penodol pam fod hwn yn bodoli oherwydd ar y llaw arall, mae’n cael ei gydnabod bod y mater yn ymwneud ag arian cyhoeddus a bod diddordeb cyhoeddus mewn sicrhau tryloywder mewn perthynas â sut y caiff busnes y Cyngor ei drefnu a'r strwythur y mae'n ei fabwysiadu wrth gyflawni ei wasanaethau.  Yn bersonol, roedd yn credu bod llawer iawn o bwysau’n cael ei roi i hyn, yn y ddadl arbennig hon.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn cynrychioli'r Swyddog Monitro oedd ag ymrwymiad arall.  Roedd wedi rhoi cyngor ar y mater i'r Pwyllgor Gwaith a hefyd wedi rhoi cyngor ysgrifenedig i'r Cynghorydd R G Parry, OBE mewn perthynas â'r Pwyllgor Sgriwtini.  Cyngor y Swyddog Monitro  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith sydd wedi'i Alw i Fewn

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref, 2014 mewn perthynas â’r Prosiect Gweithio’n Gallach a sydd wedi’i alw i fewn gan y Cynghorwyr  R.Meirion Jones, Llinos Huws,  Alun Mummery, R.G.Parry, OBE, Dylan Rees, Nicola Roberts a Vaughan Hughes

 

Y ddogfennaeth berthnasol:

 

·        Copi o’r Penderfyniad a wnaed a’r Cais Galw i Fewn

 

·        Copi o’r adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014

 

 

Cofnodion:

Ni drafodwyd yr eitem.