Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 6ed Gorffennaf, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Diweddariad y Cadeirydd ac Aelodau

Derbyn diweddariad ar unrhyw fater perthnasol yn codi.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr isod -

 

  Gan gyfeirio at y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Gorffennaf 2015, y cafodd wybod fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol perthnasol, yn unol â darpariaethau paragraff 4.6.16.10 y Cyfansoddiad, na fyddai’r trefniadau galw i mewn yn berthnasol i’r penderfyniad arfaethedig i ymgynghori ynghylch dyfodol cartref preswyl Heulfre oherwydd tybiwyd bod y mater yn un brys. 

  Bod cyfarfodydd o’r Panelau Canlyniad Sgriwtini a Rheoli Asedau a Dileu Dyledion wedi cael eu cynnal ac wedi cychwyn yn addawol iawn. Cynhelir cyfarfod pellach o’r Panel Rheoli Asedau yn y dyddiau nesaf.  Dywedodd wrth y Pwyllgor bod y Cynghorydd Llinos Medi Hughes wedi penderfynu sefyll i lawr fel Aelod o’r Panel Canlyniad Sgriwtini Dileu Dyledion oherwydd ymrwymiadau eraill a rhoes wahoddiad i unrhyw Aelod arall o’r Pwyllgor a oedd yn dymuno llenwi’r swydd wag i nodi eu diddordeb.

  Roedd Fforwm y Cadeiryddion a’r Is-Gadeiryddion Sgriwtini wedi cyfarfod yn ddiweddar.  Cyfeiriodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro at y drafodaeth ar y sesiynau cymorth y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn bwriadu eu cynnal ar ddulliau sgriwtini a’r cyfarfod o’r Fforwm Cyswllt Cynghorau Tref a Chymuned a gynhelir y dydd Iau hwn 9 Gorffennaf fel materion o ddiddordeb i’r Pwyllgor yn codi o gyfarfod y Cadeiryddion a’r Is-Gadeiryddion Sgriwtini.

  Bod cyfarfodydd o’r Byrddau Rhaglen Trawsnewid yn mynd rhagddynt.

  Bod cyfarfod o Banel Sgriwtini mewn perthynas ag adolygiad achos Gwasanaethau Plant wedi cael ei gynnal.  Roedd y Panel wedi ystyried amgylchiadau’r achos ynghyd â meysydd yn ymwneud â phroses, gweithdrefn a chyfathrebu a gwnaed argymhellion i wella ymarfer yn y dyfodol.  Dywedodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro ei bod wedi cael trafodaeth gyda Phennaeth y Gwasanaethau Plant ynglŷn â’r dull mwyaf priodol o ddwyn y darn o waith hwn i ben ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol arno.

  Roedd Aelodau wedi cael eu diweddaru ar gynnydd mewn perthynas â symud ymlaen gyda’r prosiect Gweithio’n Gallach yn y sesiwn friffio fisol i Aelodau ar 2 Gorffennaf a bod hynny felly wedi cwrdd â chais y Pwyllgor hwn am eglurhad ar y mater yn y cyfarfod blaenorol ym mis Mehefin.

  Mewn perthynas â chais gan Aelod am adroddiadau llawnach i Sgriwtini ar faterion yn ymwneud ag Iechyd Meddwl Oedolion ac Anableddau Dysgu Oedolion, dywedodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro ei bod wedi ymgynghori gyda Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â rhoddi sylw i’r mater hwn a’i fod ef wedi dweud wrthi y bydd yn cyfarfod gyda’i Reolwyr Gwasanaeth yn o fuan i ystyried rhaglen o bynciau posibl mewn perthynas ag iechyd meddwl oedolion ac anableddau dysgu oedolion y gellid eu cyflwyno i Sgriwtini drwy raglenni gwaith y ddau Bwyllgor. Ymgynghorwyd hefyd gyda Phennaeth y Gwasanaethau Plant oherwydd bod iechyd meddwl oedolion yn faes sy’n cael effaith ar y gwasanaethau plant a mater penodol iechyd meddwl plant a phobl ifanc.  Roedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cofnodion Cyfarfod 10 Mehefin, 2015 pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015.

4.

Enwebiad i'r Panel Rhiantu Corfforaethol pdf eicon PDF 314 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Swyddog Sgriwtini yn gwahodd y Pwyllgor i enwebu un o’i Aelodau i wasanaethu ar y Panel Rhiant Corfforaethol am y flwyddyn ddinesig 2015/16.  Yn yr adroddiad, cafwyd crynodeb o gylch gorchwyl a phwrpas y Panel Rhiant Corfforaethol ac argymhellwyd y dylid ail-enwebu y Cynghorydd Ann Griffith, sef deilydd y swydd ar hyn o bryd, sydd wedi datblygu dealltwriaeth o’r gwaith sy’n gysylltiedig.

 

Penderfynwyd ail-enwebu’r Cynghorydd Ann Griffith i wasanaethu ar y Panel Rhiant Corfforaethol am 2015/16.

5.

Trefniadau'r Awdurdod Lleol i Gefnogi Diogelu Plant pdf eicon PDF 582 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant ynglyn â’r adolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant ar adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau sicrwydd ac atebolrwydd yr Awdurdod ar gyfer sicrhau bod trefniadau corfforaethol priodol ar gyfer diogelu wedi cael eu sefydlu ac yn gweithio’n effeithiol.  Roedd adroddiad llawn Swyddfa Archwilio Cymru ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad ynghyd â Chynllun Gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion SAC yn Atodiad 2.

 

Dygodd y Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu a Sicrwydd Ansawdd) sylw at yr isod fel pwyntiau allweddol i’r Pwyllgor -

 

  Mae nifer o’r argymhellion a wnaed yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru eisoes wedi cael eu gweithredu.

  Mae polisi diogelu wedi cael ei fabwysiadu a Bwrdd Diogelu Corfforaethol wedi cael ei sefydlu.

  Er bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod bod yr Awdurdod wedi sefydlu nifer o brosesau a threfniadau, mae hefyd yn nodi angen i -

 

  Gwblhau’r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Diogelu

  Gynyddu perchenogaeth o’r agenda Ddiogelu ar draws y sefydliad.

  Sefydlu’n gadarn sicrwydd sefydliadol ynghylch swyddogaeth ddiogelu’r Awdurdod Lleol yn y broses o gynllunio busnes, rheoli risgiau sefydliadol a fframweithiau rheoli perfformiad.

  Sicrhau fod sefydlu trefniadau sgriwtini ffurfiol a rheolaidd mewn perthynas â diogelu yn cael blaenoriaeth ynghyd â chadarnhau fod gwaith archwilio mewnol yn cael ei wneud yn rheolaidd ar ddiogelu.   

 

  Bod proses i’r holl benaethiaid gwasanaeth nodi a llunio blaenoriaethau diogelu erbyn 2015/16 ar gyfer eu cynnwys mewn cynlluniau darparu gwasanaeth a fydd wedyn yn cael eu monitro drwy’r cerdyn sgorio Diogelu.

  Bydd adroddiad corfforaethol ar ddiogelu yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac i’r Byrddau Rhanbarthol Diogelu Plant ac Oedolion bob blwyddyn.

  Mae angen cwblhau’r rhaglen hyfforddiant diogelu a’i defnyddio ar draws y Cyngor ac mae angen rhoddi sylw penodol i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu mewn perthynas ag oedolion a phlant gyda chyfeiriad penodol at fasnachu plant, camddefnyddio plant yn rhywiol, camdriniaeth yn y cartref a chaethwasiaeth fodern.

  Mae nifer o’r polisïau allweddol a restrir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Polisi Diogelu wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru ac eithrio’r Polisi Gwirfoddoli, y Polisi Disgyblu a’r canllawiau ar ddefnyddio ataliaeth ac amser a bydd y rhain yn cael eu hadolygu yn unol â’r amserlenni a bennir yn y Cynllun Gweithredu.  

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r adroddiad gan mofyn sicrwydd mewn perthynas â’r canlynol

 

  Nododd y Pwyllgor fod SAC wedi dwyn sylw at y ffaith fod angen cwblhau ar frys saith o bwyntiau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu’r Polisi Diogelu sy’n ymwneud â hyfforddi staff ac Aelodau mewn materion diogelu sef gwaith sy’n mynd rhagddo a bod y Cyngor ychydig islaw’r cyfartaledd o ran nifer y bobl sydd wedi derbyn hyfforddiant ar ddiogelu yn y 6 mis diwethaf.

  Nododd y Pwyllgor hefyd, er bod SAC yn cydnabod bod ymrwymiad clir ar ran y Cyngor i wella, roedd y cynnydd yn araf deg. Dywedodd y Rheolwr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol Ch4 pdf eicon PDF 347 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro ar faterion a oedd yn parhau i fod angen sylw yn codi o’r cerdyn sgorio corfforaethol am Chwarter 4.  Yn yr adroddiad, nodwyd ymateb y gwasanaeth i danberfformiad yn erbyn y 3 dangosydd perfformiad a nodir isod sy’n ffurfio cyfres o 6 o DP yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi eu cyfeirio i’r Pwyllgor i’w sgriwtineiddio o Ch4 (rhoddwyd sylw i’r 3 cyntaf yng nghyfarfod o’r Pwyllgor ar 10 Mehefin):

 

  SCA/01b – canran gofalwyr oedolion sydd wedi cael asesiad neu adolygiad o’u hanghenion yn ystod y flwyddyn.

 

Rhoes Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion eglurhad o ran y targed a gollwyd a chyfeiriodd yn benodol at nifer y gofalwyr a oedd wedi gwrthod asesiad (348) ac sydd hefyd yn cael eu cofnodi gan y dangosydd, fel ffactor dylanwadol allweddol yn y tanberfformiad yr adroddwyd arno.  Dywedodd y Swyddog, o’r rheini a gytunodd i dderbyn asesiad yn 2014/15, roedd 564 (neu 92%) wedi derbyn asesiad yn y flwyddyn.  Pan gaiff y rheini a wrthododd asesiad (348) eu ffactora i mewn, mae’r ganran yn gostwng i 57.1%

 

Nododd a derbyniodd y Pwyllgor yr eglurhad a gafwyd.

 

Gwnaed pwynt ynglŷn â’r angen i weithredu rhaglen hyfforddiant gynlluniedig ynghylch Alzheimer a Dementia yn y Cyngor.  Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol i’r Cyngor fod mewn sefyllfa i gyflwyno ei hun fel sefydliad sy’n ymwybodol o anghenion unigolion gydag Alzheimer a Dementia ac sydd wedi datblygu rhaglen hyfforddiant penodol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned y byddai’n rhoi sylw i’r mater hwn sy’n berthnasol o ran y Rhaglen Ranbarthol a Rhaglen Drawsnewid y Cyngor ei hun a hefyd yng nghyd-destun y Ddeddf Iechyd a Llesiant( Cymru). 

 

  LCL/004 – nifer y deunyddiau llyfrgell a roddwyd allan yn ystod y flwyddyn.

 

Soniodd y Pennaeth Dysgu am yr isod fel ystyriaethau lliniarol -

 

  Er bod perfformiad yn erbyn y dangosydd wedi gostwng, gwelwyd cynnydd o 73k yn nifer yr ymweliadau i wasanaethau llyfrgelloedd.  Nid yw pawb sy’n ymweld yn benthyca eitemau ymhob achos gyda nifer yn defnyddio gwasanaethau eraill megis y cynnig o gyngor ac ymchwil, ymholiadau a defnyddio cyfrifiaduron.

  Bydd y Gwasanaeth yn adrodd am y tro cyntaf eleni ar ddeunyddiau a “e-fenthyciwyd” a rhagwelir y bydd gwelliant sylweddol o ran nifer yr eitemau a roddwyd allan hefyd yn sgil lansio’r gwasanaeth e-adnodd newydd drwy Gonsortiwm Caffael Cymru Gyfan.

  Mae cyswllt clir rhwng y Gronfa Lyfrau a nifer y deunyddiau a roddir allan yn Ynys Môn gyda’r Gronfa Lyfra yn cael ei nodi fel isel yn adroddiad CYMAL am 2013/14.  Cafodd cais i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn canolog i ychwanegu at y Gronfa Lyfrau yn ystod 2015/16 ei wrthod.

 

Nododd y Pwyllgor y sefyllfa gan dderbyn yr eglurhad a roddwyd o’r perfformiad yn erbyn y dangosydd.

 

  LCS/002b – nifer yr ymweliadau i ganolfannau chwaraeon a hamdden  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Drafft 2014/15 pdf eicon PDF 947 KB

Cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol drafft am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyriedddrafft cychwynnol o Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2014/15.  Mae’r adroddiad yn asesu cynnydd y Cyngor yn erbyn ei amcanion gwella am 2014/15 fel y cânt eu hamlinellu trwy’r saith maes allweddol a nodwyd yn Nogfen Cyflawni Blynyddol 2014/15.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes wrth y Pwyllgor fod yr Adroddiad Perfformiad drafft wedi cael ei gyflwyno i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ynghyd â Swyddfa Archwilio Cymru sydd wedi darparu sylwadau cychwynnol ar y cynnwys.  Bydd perfformiad yn cael ei ddadansoddi ymhellach pan fydd gwybodaeth gymharol ynghylch perfformiad ar draws Awdurdodau Cymru ar gael rhyw bryd yn ystod mis Awst i fis Medi.

 

Wedi rhoddi sylw cychwynnol i’r adroddiad drafft, daeth y Pwyllgor i’r canlyniad nad oedd mewn sefyllfa yn y cyfarfod hwn i wneud cyfiawnhad â’i gynnwys a hynny oherwydd prinder amser ac oherwydd nad oedd gwybodaeth gymharol ar gael gan olygu nad oedd gan y Pwyllgor y darlun llawn a’r data cyflawn i fedru sgriwtineiddio’r adroddiad mewn modd ystyrlon.  Nodwyd y bydd yr adroddiad perfformiad yn cael sylw gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 14 Medi ond wedi deall na fydd y wybodaeth lawn ynghylch perfformiad efallai ar gael ar gyfer ei gyhoeddi gydag agenda’r cyfarfod hwnnw, ac yn dilyn trafodaeth bellach, awgrymwyd y dylid cynnal cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor ar adeg a fyddai’n galluogi’r Pwyllgor i roddi sylw i’r adroddiad perfformiad blynyddol terfynol fel y gall sefydlu lle y mae’r Awdurdod, lle y mae angen iddo fod, sut y bydd yn cyrraedd yno a sut y mae’n cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

 

Penderfynwyd gohirio’r drafodaeth ar Adroddiad Blynyddol 2014/15 i gyfarfod yn y dyfodol.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro i ymgynghori gyda’r Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes a’r Cadeirydd i gytuno ar adeg addas i’r Pwyllgor ystyried Adroddiad Perfformiad Blynyddol terfynol 2014/15.

8.

Matrics Sgorio Strategaeth Gyfalaf 2015 pdf eicon PDF 736 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog  Adran 151 Dros Dro ynglyn â’r matrics ar gyfer sgorio bidiau cyllideb gyfalaf 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn ymgorffori Strategaeth Gyfalaf 2015 a’r atodiadau cysylltiedig â’r Matrics Cyfalaf ar gyfer sgorio bidiau cyfalaf.

 

Wedi cael eglurhad ar rai pwyntiau mewn perthynas â’r matrics sgorio ac wedi awgrymu y dylid diwygio aelodaeth y Grŵp Tir ac Asedau Adeiledig Corfforaethol i adlewyrchu’r Uwch Reolwyr presennol, croesawodd y Pwyllgor gyflwyno’r matrics sgorio cyfalaf fel cam cadarnhaol o ran blaenoriaethu a monitro prosiectau cyfalaf.

 

Penderfynwyd nodi a chefnogi matrics sgorio cyfalaf a’r strategaeth TGCh ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 fel y cawsant eu cyflwyno.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

9.

Blaen Rhaglen Waith 2015/16 pdf eicon PDF 501 KB

Cyflwyno diweddariad o’r Flaen Rhaglen Waith.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw a sylwadauBlaenraglen Waith diweddaredig y Pwyllgor am 2015/16.

 

Dygodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro sylw’r Pwyllgor at newidiadau i’r Rhaglen Waith fel a ganlyn -

 

   Gohirio ar gais y Gwasanaeth, yr Adolygiad ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd i’r cyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Chwefror 2016.  Gan fod yr Aelodau wedi cael diweddariad ar y pwnc hwn yn y sesiwn friffio fisol i Aelodau ar 2 Gorffennaf, ystyriwyd ei fod yn ddianghenraid i’w ystyried yn ffurfiol hefyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod hwn. Adroddir ar yr adolygiad o’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd i’r Pwyllgor Gwaith y mis hwn gyda golwg ar ymgynghori a bydd canlyniad y broses yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini ym mis Gorffennaf ynghyd â chynigion penodol y Gwasanaeth.

   Mae’r Gofrestr Risg Gorfforaethol wedi cael ei chynnwys fel eitem ychwanegol ar gyfer cyfarfod yr Pwyllgor a gynhelir ym mis Mawrth 2016.

 

Penderfynwyd nodi a derbyn y Blaenraglen Waith ddiweddaredig.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI