Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 1af Chwefror, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Diweddariad y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd

Derbyn unrhyw ddiweddariad gan y Cadeirydd a/neu’r Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith wrth y Pwyllgor nad oedd hi wedi mynychu cyfarfod diwethaf y Panel Rhiant Corfforaethol ond y byddai'n rhoi adborth o'r cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws ei bod wedi mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau Plant – un i sefydlu'r Bwrdd a'r llall i edrych ar y rhaglenni gwaith. Cyfeiriodd hefyd at y Byrddau Trawsnewid ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgell, Ieuenctid a Diwylliant a nodwyd bod Gwasanaethau Llyfrgelloedd yn cael sylw ar y rhaglen heddiw; roedd Gwasanaethau Ieuenctid ar raglen y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 2 Chwefror; nid oedd dyddiad wedi’i bennu ar gyfer rhoi sylw i Wasanaethau Diwylliant. Dywedodd y Cynghorydd Huws ymhellach nad oedd y Bwrdd Trawsnewid Addysg wedi cyfarfod yn ddiweddar.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod y Grŵp Llywio’r Gyllideb wedi cyfarfod i baratoi ar gyfer y cyfarfod heddiw a nododd ei fod wedi mynychu’r Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr i gyflwyno adroddiad y Pwyllgor ar Gael Gwared ar Asedau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ann Griffith at y Gwasanaeth Plant a gofynnodd am eglurhad ynghylch a fyddai'n destun sgriwtini gan y Pwyllgor hwn.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod Cynllun Gweithredu’n cael ei lunio ac y byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor.

3.

Cofnodion Cyfarfod 1 Rhagfyr, 2015 pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi:-

 

Eitem 5 – Monitro Perfformiad: Rheoli Pobl

 

Dywedodd y Cadeirydd y bydd adroddiad ar absenoldeb salwch yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini ym mis Medi.

 

Eitem 7 – Y Gyllideb: Cyllideb Gyfalaf Chwarter 2, 2015/16

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr ail bwynt ar dudalen 5, sef bod y gwariant mewn perthynas â Datblygu Economaidd yn 102%. Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau y byddai'n ceisio eglurhad manwl gan y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law.

 

Eitem 9 – Gwerthusiad Blynyddol AGGCC o Berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol 2014/15

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at y trydydd pwynt yn y penderfyniad ar dudalen 6. Dywedodd y byddai adborth o ran y cynnydd a wnaed ar faterion blaenoriaeth a nodwyd gan AGGCC ar gael i'r Pwyllgor hwn yn chwarterol ac yn debygol o gael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y bydd y Cynllun Gweithredu yn mynd i'r afael â materion sy'n codi. Awgrymoddy Cadeirydd y dylid cyflwyno datganiad ar y sefyllfa i’r cyfarfod nesaf.

 

GWEITHREDU:

 

Cyflwyno datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, gan gynnwys adborth ar faterion a nodwyd gan AGGCC.

4.

Gosod Cyllideb 2016/17: Refeniw a Chyfalaf pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ar y broses ddiwygiedig ar gyfer pennu'r gyllideb a weithredwyd i baratoi ar gyfer cyllideb 2016/17.

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dro fod y Pwyllgor hwn eisoes wedi ystyried y cynigion cychwynnol ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ac wedi sgriwtineiddio’r wybodaeth a gyflwynwyd gan y Penaethiaid Gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015.

 

Roedd yr adroddiad dan ystyriaeth yn y cyfarfod hwn yn gyfle i'r Pwyllgor lunio argymhellion i'r Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys dadansoddiad pellach gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 o’r cyllidebau refeniw a chyfalaf arfaethedig ar gyfer 2016/17, a oedd hefyd cynnwys datganiad ar y sefyllfa yn y meysydd canlynol: -

 

i.    Cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb

ii.   Setliad dros dro i Lywodraeth Leol

iii.  Sefyllfa ddiwygiedig cyllideb 2016/17

iv.  Dreth Gyngor

v.   Cronfeydd wrth gefn

vi.  Cyllidebau ysgolion

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn crynhoi negeseuon allweddol o'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar, a gwybodaeth a gyflwynwyd gan Reolwr y Rhaglen Gorfforaethol.

 

Yn ystod y drafodaeth tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol fel meysydd y gofynnwyd i’r swyddogion roi eglurhad arnynt.

 

  Defnydd o gronfeydd wrth gefn, pwysau ar y gyllideb a lefelau gwarchodaeth i’r dyfodol.

  Lefel yr arbedion i'w gwireddu fel rhan o'r Cynllun Ariannol Tymor Canol ac adolygu'r Cynllun yn y dyfodol, gan gymryd i gyfrif lefelau’r Dreth Gyngor yn y tymor canol.

  Arbedion a ganfuwyd hyd yn hyn a'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor o ran cyflawni targedau arbedion yn y dyfodol, sy'n debygol o fod yn fwy sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

  Lefel y cronfeydd wrth gefn o fewn cyllidebau Addysg, a chyfeiriad at ysgolion mewn diffyg ariannol. Nododd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y byddai angen ailystyried y fformiwla gyfredol.

  Gofynnwyd am eglurhad ar y gweithdrefnau ar gyfer delio â gwargedau yng nghyllidebau ysgolion. Yn ogystal, gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar y balansau ysgol yn gyffredinol. Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu fod balansau yn y Sector Cynradd dros 7% ar gyfartaledd, a 3% yn y Sector Uwchradd. Wrth symud ymlaen, bydd angen edrych ar y pwysoliad rhwng y ddau Sector.

  Effaith toriadau yng nghyllidebau ysgolion ar Gyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig Ynys Môn a Gwynedd. Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu na fyddai unrhyw doriadau eleni.

  Pwysau ar wasanaethau a arweinir gan y galw a chyllid i fynd i'r afael â risgiau allweddol.

  Gofynnwyd am eglurhad ar y Grant Amddifadedd a'r effaith ar y Gwasanaethau Plant.

  Toriadau yn y Dyfodol i grantiau ysgol a’r goblygiadau i'r Awdurdod.

  Lefel y warchodaeth a roddir i gyllidebau ysgolion.

 

Canolbwyntiwyd wedyn ar nifer o gwestiynau allweddol a oedd yn sail i drafodaethau’r Pwyllgor a’i sylwadau / argymhellion o dan bob pennawd i'w hanfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith:-

 

i. A  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Panel Canlyniad Sgriwtini: Arbedion Effeithlonrwydd 2015/16 pdf eicon PDF 895 KB

Cyflwyno adroddiad terfynol ac argymhellion y Pwyllgor Canlyniad Sgriwtini mewn perthynas ag Arbedion Effeithlonrwydd 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor, adroddiad terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini a oedd yn archwilio ymhellach i’r cynnydd a wnaed gan yr Awdurdod o ran cyflawni ei arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2015/16.

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill, 2015, wrth roddi sylw i Adroddiad Terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini: Arbedion Effeithlonrwydd (2014/15) wedi penderfynu y dylai panel o Aelodau Sgriwtini barhau i fonitro’r arbedion a gynigiwyd  gan wasanaethau yn y flwyddyn ariannol hon trwy fonitro cyllideb 2015/16

yn chwarterol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.  Cymeradwyo Adroddiad Terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini gyda'i 5 o brif gasgliadau a’i 7 argymhelliad  unigol;

2.  Bod yr Adroddiad Terfynol yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror, 2016.

6.

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol pdf eicon PDF 780 KB

Cyflwyno datganiad sefyllfa  ynglyn â’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - datganiad ar y sefyllfa gan y Rheolwr Gwasanaeth (Anawsterau Dysgu ac Iechyd Meddwl) ynghylch sut mae'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol yn edrych heddiw yn Ynys Môn, a sut mae'n gweithio ar y cyd â'r Gwasanaeth Iechyd ac yn cael ei ddarparu yn y gymuned gan dîm amlddisgyblaethol. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio’n benodol o dan Fesur Iechyd Meddwl 2012, sy'n gosod y fframwaith ar sut i gael mynediad at y Gwasanaeth.

 

Pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau:-

 

  Gwasanaethau acíwt yn Ysbyty Gwynedd;

  Chwythu’r chwiban a chwynion;

  Barn gadarnhaol am Ward Hergest;

  Y broses ar gyfer penodi gweithwyr Cymorth Cymunedol;

  Fel rhan o arbedion y flwyddyn nesaf, beth fydd effaith y 43k sydd wedi cael ei gynnig ar gyfer ailstrwythuro trefniadau rheoli yn y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Cymunedol?

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn derbyn y datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â'r Gwasanaeth Iechyd Cymunedol;

  Bod y Pwyllgor a swyddog perthnasol yn adolygu'r sefyllfa mewn perthynas â’r gwasanaeth hwn ymhen 6 mis;

  Bod y Pwyllgor Sgriwtini’n cymeradwyo'r datblygiadau a gynlluniwyd i'r gwasanaeth hwn.

7.

Sicrhau Gwasanaethau Cynaliadwy ac Effeithlon ar gyfer y Dyfodol: Trawsffurfio Llyfrgelloedd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Dysgu yn adolygu'r ffordd y mae gwasanaethau llyfrgell yn cael eu darparu.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg fod y rhaglen genedlaethol a heriau ariannol yn golygu bod angen i'r Cyngor adolygu'r ffordd y mae'n darparu gwasanaethau, sy'n cynnwys y gwasanaeth llyfrgelloedd yn gorfod gwneud arbedion o rhwng 20% a 60%. Dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi caniatáu i'r Gwasanaeth Llyfrgell gynnal adolygiad o fodelau darparu.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu fod ymgynghoriad wedi’i gynnal ym mis Hydref a mis Tachwedd y llynedd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw drwy arolwg ar- lein ac wyneb yn wyneb. Mae’r ymateb i’r ymgynghoriad wedi bod yn arbennig o dda, gyda bron 1500 o drigolion yn cwblhau’r holiadur a llawer o ddiddordeb wedi cael ei ddangos yn y maes. Roedd grwpiau o bobl nad ydynt yn ddefnyddwyr llyfrgell nodweddiadol wedi cymryd rhan. Roedd angen cynnal yr ymgynghoriad i chwilio am ffyrdd i wneud arbedion yn y gwasanaeth, a rhoddodd gyfle i edrych ar y ffyrdd gorau o ddarparu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Nododd y Pennaeth Dysgu fod gan y Cyngor well syniad o'r mathau o fodelau y gall eu cynnig yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad. Cyfeiriodd at yr opsiwn o lyfrgelloedd cymunedol. Mae’r cyhoedd yn awyddus i weld mwy o wasanaethau cyffredinol y Cyngor mewn llyfrgelloedd, yn enwedig modelau sy'n golygu defnyddio gwirfoddolwyr dan arweiniad gweithwyr proffesiynol, i gwrdd â safonau cenedlaethol.

 

(Gwnaed datganiadau o ddiddordeb yn yr eitem hon gan y Cynghorwyr R Meirion Jones a Llinos M Huws, gan eu bod wedi bod yn cymryd rhan yn y gwaith sydd wedi esblygu o fewn y Gwasanaeth)

 

Cododd yr aelodau'r materion canlynol yn ystod y drafodaeth:-

 

  Gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau;

  Gwneud defnydd o adeiladau cymunedol;

  Mae cefnogaeth fawr i’r llyfrgelloedd yn y gymuned, mae'n golygu mwy na llyfrau a chyfrifiaduron;

  Mae pobl o'r gymuned leol yn barod i weithio gyda chymorth gan weithwyr proffesiynol, ac yn unol â gofynion y Ddeddf;

  Mae trigolion oedrannus yn defnyddio llyfrgelloedd ar gyfer gweithgareddau eraill megis cinio.

 

Dywedodd yr Aelodau fod staff o fewn y Gwasanaeth yn gadarnhaol iawn ac yn ymroddedig i'r broses ailfodelu ac fe'u canmolwyd am eu gwaith. Teimlwyd nad oedd y toriad o 60% yn gyraeddadwy a byddai'n anodd cwrdd â safonau cenedlaethol.

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

a)  Bod yr Ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Llyfrgell yn glodwiw a dylid ystyried mabwysiadu ei fethodoleg yn gyfan gwbl ar gyfer yr holl ymgynghoriadau o'r fath yn y dyfodol;

b)  Ar ôl ystyried canlyniadau’r Ymgynghoriad, teimlai'r Pwyllgor fod arbedion o 60% yn afrealistig ac nid oedd yn eu croesawu. Cefnogwyd y farn honno gan sylwadau’r Pennaeth Gwasanaethau "y byddai 60% yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i gwrdd â’r Safonau Llyfrgell Cenedlaethol statudol." Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor Sgriwtini’n cefnogi y dylai’r Gwasanaeth barhau i archwilio a chostio'r modelau posib yn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Ysgolion Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn dadansoddi canlyniadau yn ysgolion Môn ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2014/15.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio’n benodol at fframwaith Estyn ar gyfer arolygu awdurdodau a’r disgwyl i’r agweddau allweddol a ganlyn fod yn destun sgriwtini fel rhan o'r broses hunanwerthuso:-

 

  Sut mae'r Awdurdod yn perfformio’n erbyn y meincnodau a osodir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer CA3 a CA4?

  Sut mae perfformiad yr Awdurdod yn cymharu gyda gweddill yr Awdurdodau yng Nghymru?

  A yw perfformiad yn y pynciau craidd yn debyg?

  Ym mha gyfnod allweddol y mae’r perfformiad ar ei orau? Ym mha agweddau y mae angen gwneud gwelliannau?

  Beth yw dosbarthiad ysgolion ar draws chwarteli cinio am ddim? A yw’r dosbarthiad hwn yn well ynteu’n waeth na'r patrwm cenedlaethol?

  Oes ysgolion yr ymddengys eu bod yn tanberfformio?

 

Cyflwynwyd gwybodaeth am gategoreiddio a bandiau ysgolion fel a ganlyn:-

 

4 ysgol yn y band gwyrdd - 3 gynradd ac 1 uwchradd;

29 ysgol yn y band melyn; 13 yn y band ambr; rhai yn y band coch.

13 o ysgolion yn y band ambr eleni, o gymharu â 18 y llyneddroedd hyn yn

siomedig iawn, ond mae cynnydd yn cael ei wneud.

 

Mewn perthynas â sefyllfa gyffredinol yr Awdurdod ar gyfer 2014/15, mae'r Cyngor yn safle 11 allan o 22 ac nid yw hynny wedi newid ers nifer o flynyddoedd.

 

Cododd y Pwyllgor y materion canlynol:-

 

  Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar y trefniadau ar gyfer addysgu plant yn y cartref a holwyd a yw’r Awdurdod yn ymweld â chartrefi. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu ei fod yn ofyniad statudol bod un ymweliad yn cael ei wneud gan Swyddog Addysg i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol.

  Codwyd cwestiwn ar argaeledd prydau ysgol am ddim. Adroddodd y Pennaeth Dysgu bod prydau ysgol am ddim yn cael eu defnyddio fel dangosydd ar gyfer amddifadedd. Os yw teulu’n dod o fewn y categori prydau ysgol am ddim, mae data hanesyddol yn dangos nad ydynt yn perfformio cystal ac nad oes ganddynt, yn aml, gefnogaeth gartref. Mae cyflawni’n fwy o her i blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ac mae rhai plant yn syrthio drwy'r rhwyd.

  Cyfeiriwyd at banel arbennig i blant sy'n derbyn gofal. Awgrymwyd bod y Cyngor yn gofyn am ddadansoddiad o berfformiad y plant hyn, fel y gellir gwneud cymariaethau ar draws Cymru.

  Holodd y Pwyllgor a oedd cydweithio effeithiol ar Ynys Môn rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu bod rhaid mynd i'r afael â’r

materion a nodwyd ar frys. Mae cydweithredu ysgol-i-ysgol yn cynnwys ysgolion

cynradd ac uwchradd.

   Trafododd y Pwyllgor yr heriau sy'n wynebu'r Awdurdod mewn perthynas ag ysgolion yn y categori ambr, ac awgrymwyd na ddylid eu caniatáu i fynd i'r categori coch  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 487 KB

Cyflwyno Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor i fis Mai, 2016.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Flaenraglen Waith hyd at fis Mai, 2016.

10.

Datganiad Sefyllfa : Panelau Canlyniad Sgriwtini pdf eicon PDF 364 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, ddatganiad sefyllfa ynglyn â’r  Panelau Canlyniad Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ddatganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â’r Panelau Canlyniad Sgriwtini er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi'r datganiad ar y sefyllfa.