Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Datganiadau'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd Derbyn diweddariad gan y Cadeirydd a/neu’r Is-Gadeirydd. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd i Aelodau'r Pwyllgor a oedd ganddynt unrhyw faterion i adrodd arnynt:-
Adroddodd y Cynghorydd Ann Griffith ar ei phresenoldeb yng nghyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol ar 7 Mawrth a dywedodd bod gan y Cyngor 116 o blant mewn gofal ar hyn o bryd. Cyfeiriodd at adroddiad y Swyddog Adolygu Annibynnol a nododd bod bron i 1m yn cael ei fuddsoddi yn y Gwasanaethau Plant.
Roedd y Cynghorydd Llinos Medi Huws wedi bod yng nghyfarfod y Bwrdd Trawsnewid Addysg ar 9 Mawrth. Adroddoddy Cynghorydd Huws fod y Bwrdd wedi edrych ar brosiectau ar gyfer Rhyd y Llan, Caergybi, a Bro Rhosyr. Yn ogystal, adolygwyd y Gofrestr Risg Gorfforaethol a’r strategaeth foderneiddio o ran ymateb i newidiadau arfaethedig mewn ardaloedd penodol e.e. Llangefni.
Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y cynnydd gydag adroddiad terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini ar Ddyledion Drwg a fydd yn cael ei gynnwys ar raglen cyfarfod nesaf y Pwyllgor Sgriwtini hwn a gynhelir ar 11 Ebrill 2016 ac a fydd yn cael sylw wedyn yn y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2016.
Yn dilyn cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r Aelodau canlynol yn eistedd ar y Panelau Canlyniadau Sgriwtini (PCS) isod:-
(a) Diogelu Corfforaethol - (Nid Diogelu Plant) Cadeirydd - Y Cynghorydd Meirion Jones Y Cynghorwyr Ann Griffith, Llinos Medi Huws a Jim Evans
(b) Gosod Tai yr Awdurdod (Anheddau gwag) Cadeirydd - Y Cynghorydd Gwilym Jones Y Cynghorwyr Raymond Jones, Lewis Davies, Robert Llewelyn Jones a Victor Hughes.
Gweithredu:
(b) Rheolwr Sgriwtini i roi gwybod i’r Aelodau am ddyddiad cyfarfod y Panel. |
|
Cofnodion Cyfarfod 1 Chwefror, 2016 Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2016. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar y canlynol:
Materion yn codi
Eitem 3 – Cofnodion - 1 Rhagfyr, 2015 – Monitro’r Gyllideb: Cyllideb Gyfalaf Ch2 2015/16
Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad gan y Pennaeth Adnoddau ar wariant gan yr Adran Datblygu Economaidd ac ymatebodd y Pennaeth Adnoddau fod y cynnydd yn y cyllid yn fwy na'r hyn a ragwelwyd.
Eitem 9 – Cofnodion - 1 Rhagfyr, 2015 – Gwerthusiad Blynyddol AGGCC o Berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2014/15
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Pwynt Gweithredu ar dudalen 3 a'r wybodaeth sydd i'w hadrodd i’r Pwyllgor. Ymatebodd y Prif Weithredwr trwy ddweud y byddai copi o gynllun gweithredu’r Gwasanaethau Plant yn mynd i’r afael ag agweddau ar adroddiad AGGCC.
Eitem 6 – Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol
Cyfeiriodd y Cynghorydd Ann Griffith at bwynt bwled yn y cofnodion a oedd yn cyfeirio at "barn gadarnhaol am Ward Hergest". Gofynnodd am gywiriad i ddarllen "adolygiad cymysg" oherwydd y mynegwyd sylwadau cadarnhaol a negyddol. |
|
Monitro'r Gyllideb: Y Gyllideb Refeniw Ch3 2015/16 Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllieb Refeniw am Chwarter 3 2015/16. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer Chwarter 3.
Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem uchod, ynghyd ag eitemau 5 a 6 isod, wedi cael eu hystyried yn gynharach heddiw gan y Pwyllgor Gwaith. Codwyd mater yn ystod y drafodaeth ynghylch amseriad y Pwyllgor Sgriwtini heddiw gan nad yw’r Pwyllgor hwn wedi cael cyfle i ystyried adroddiadau Ch3 a chyflwyno sylwadau i'r Pwyllgor Gwaith.
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wybod i’r Pwyllgor fod y Rhestr o Gyfarfodydd Pwyllgorau ar gyfer 2016/17 wedi cael ei adolygu i fynd i'r afael â'r pwynt hwn.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
|
Monitro'r Gyllideb: Y Gyllideb Gyfalaf Ch3 2015/16 Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Gyfalaf am Chwarter 3 2015/16. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Chwarter 3.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
|
Monitro Perfformiad : Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2015/16 Cyflwyno’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 3 2015/16. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Trawsnewid yn crynhoi Ch3 a’r camau gweithredu allweddol a nodwyd.
Yn deillio o'r drafodaeth, cyfeiriodd yr Aelodau at lefel y gwariant ar ymgynghorwyr a gofynnwyd am eglurhad ar y wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn yr adroddiadau. Nododd y Pennaeth Adnoddau fod y costau o £1.6m y cyfeiriwyd atynt yn awr wedi cael eu haddasu i lawr i £1.2 miliwn yn dilyn adolygiad o wariant yn erbyn y côd ar gyfer ymgynghorwyr.
Canolbwyntiodd y drafodaeth hefyd ar yr angen i gyflogi ymgynghorwyr ar sail tymor byr i bwrpas rheoli gofynion statudol a lliniaru risgiau ac i sicrhau capasiti arbenigol e.e. ar gyfer delio â’r prosiect Wylfa Newydd.
Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch ffioedd ymgynghori a dadansoddiad o staff asiantaeth a gyflogir gan yr Awdurdod hwn.
Gweithredu: Cyflwyno dadansoddiad o'r ffioedd ymgynghori i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -
"Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygolrwydd y câi gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm". |
|
Eitem 8 - CYFRINACHOL |
|
Monitro Perfformiad : Y Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyflwyno’r Gofrestr Risg Gorfforaethol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol mewn perthynas â'r uchod.
Nododd y Pennaeth Adnoddau fod y Gofrestr yn cael ei hadolygu gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) bob chwarter ac y cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ar 16 Chwefror 2016.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn nodi'r risgiau critigol a sylweddol ac yn ystyried effaith y risgiau hyn wrth ymgymryd â'r swyddogaeth sgriwtini yn ystod rhaglen flynyddol y Pwyllgor.
|
|
Blaen Rhaglen Waith Cyflwyno Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor. Cofnodion: Cyflwynwyd Blaenraglen Waith y Pwyllgor am y cyfnod Mai, 2015 i Fai, 2016.
Mewn perthynas â chyfeiriad y Pwyllgor at adroddiad ar y Trefniadau Ôl-Ofal (Gwasanaethau Plant), nododd y Rheolwr Sgriwtini y byddai amserlennu’r eitem hon yn cael ei adolygu fel rhan o'r Rhaglen Waith ar gyfer 2016/17.
Gweithredu: Fel y nodwyd uchod.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |