Rhaglen a chofnodion

Ch4, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 10fed Mehefin, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 16 Ebrill, 2015 pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod -

 

·         16 Ebrill, 2015

·         14 Mai, 2015 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod

 

           16 Ebrill, 2015

           4 Mai 2015 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd)

 

3.

Diweddariad y Cadeirydd ac Aelodau

Y Cadeirydd a’r Aelodau i adrodd ar ddatblygiadau/digwyddiadau ers y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei bresenoldeb mewn cyfarfodydd o Grŵp Llywio’r Gyllideb ac oherwydd newid yn y weithdrefn a benderfynwyd gan y fforwm hwnnw, na fydd angen mwyach i Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod yn bresennol ym mhob adolygiad gwasanaeth ac y byddai’r gwaith o sgriwtineiddio’r broses honno yn cael ei wneud gan y Pwyllgor yn ei gyfanrwydd ar ddiwedd y broses. 

4.

Monitro Perfformiad - Y Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch4 2014/15 pdf eicon PDF 581 KB

Cyflwyno’r cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 4 2014/15.

(Adroddiad i Bwyllgor Gwaith 26 Mai, 2015)

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes yn ymgorffori’r cerdyn sgorio diwethaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15 ac yn dangos sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar gyfer y flwyddyn fel y cawsant eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Mai, 2015. Roedd yr adroddiad yn amlygu’r rhannau hynny o’r Cerdyn Sgorio a oedd yn dangos bod y rhaglen wella a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth gyfredol yn cael ei gwireddu ynghyd ag eithriadau lle yr oedd cofnod o danberfformiad ynghyd â’r mesurau lliniaru a gynigir i fynd i’r afael â’r meysydd hynny. 

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r meysydd isod mewn perthynas â Rheoli Perfformiad a oedd wedi eu dynodi’n Goch - meysydd yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi gofyn yn benodol i’r Pwyllgor eu sgriwtineiddio fel y gall fodloni ei hun ynglŷn â’r rhesymau am fethiant i gyflawni’r targed perfformiad a chael sicrwydd fod camau unioni wedi eu cynllunio neu ar waith-

 

           SCC/041a: Y ganran o blant cymwys, perthnasol a phlant a oedd yn flaenorol yn rhai perthnasol, sydd â chynlluniau llwybr yn ôl yr angen.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Rhiantu Corfforaethol a Phartneriaethau bod y mesur perfformiad hwn yn ymwneud â’r bobl ifanc hynny sydd wedi bod mewn gofal neu sy’n parhau i dderbyn gofal ac y mae’n rhaid i’r Awdurdod fod â chynlluniau llwybr ar eu cyfer er mwyn hwyluso eu trosglwyddiad i fyw’n annibynnol. Cynigiodd yr esboniadau lliniaru isod am y tanberfformiad –

 

           Ar gyfer yr un cyfnod llynedd, roedd 23 o bobl ifanc yn y categori oed hwn ac roedd perfformiad yr Awdurdod yn erbyn y targed wedi llithro o 78.26% am 2013/14 i 77.28%. Er mai dim ond 4 o bobl ifanc oedd heb gynllun llwybr, mae’r ffigwr hwn yn cynrychioli canran uwch oherwydd roedd y nifer berthnasol yn isel i gychwyn ac o’r herwydd, mae’r ganran o ran perfformiad wedi cael ei sgiwio.

           Unigolion bregus yw’r rhain sydd, yn aml, wedi cael profiadau negyddol ac maent yn glir am yr hyn y maent eisiau a dim eisiau ei wneud ac nid ydynt bob amser eisiau bod yn rhan o gynlluniau ffurfiol ar gyfer eu dyfodol. Yn aml, mae stigma ynghlwm wrth fod yn blentyn sy’n derbyn gofal ac mae rhai o’r bobl ifanc hyn yn dewis torri’r cysylltiadau hynny ar y cyfle cyntaf. O’r herwydd, mae sicrhau eu bod yn cyfranogi yn her. 

           Mae gan y Gwasanaeth raglen glir ar gyfer sicrhau y bydd cynlluniau llwybr yn cael eu cwblhau ar gyfer y 4 unigolyn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf – mae un eisoes wedi’i gwblhau a bydd y tri arall yn cael eu cwblhau’n o fuan.

           Mae’r Gwasanaeth yn bwriadu cynnal adolygiad o’r trefniadau ôl-ofal yn ystod y flwyddyn nesaf ac, fel rhan o’r adolygiad hwnnw, bydd yn ailedrych ar ganllawiau statudol ac arfer dda ac yn ceisio annog pobl ifanc i gymryd rhan er mwyn dylanwadau ar gynllunio gofal ac ymarfer y cynlluniau gofal.  Bydd y swydd newydd, Swyddog  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro'r Gyllideb - Canlyniad y Gyllideb Gyfalaf 2014/15 pdf eicon PDF 419 KB

Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad y Gyllideb Gyfalaf am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgoradroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf am y cyfan o flwyddyn ariannol 2014/15.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf o £25m ar gyfer 2014/15 ar draws y Cronfeydd Cyffredinol a Thai gan gynnwys cyllid grant a chan gynnwys llithriad. Y canlyniad dros dro yn erbyn y gyllideb yw £21.3m sy’n cynrychioli gwariant 85%. Nid ystyrir bod y canlyniad yn broblemus oherwydd mae gwariant cyfalaf yn cynnwys eitemau a darnau o weithgaredd unwaith ac am byth sydd yn aml, yn parhau am flwyddyn neu ragor ac y gellir eu gohirio am nifer o resymau. Mae fformat y canlyniadau yn Atodiad B yn seiliedig ar y fformat a oedd yn cael ei ddefnyddio cyn 2014/15 ac o’r herwydd mae’n gyfyngedig o ran y manylion y mae’n eu darparu. Yn Atodiad C, gwelir y rhaglen gyfalaf yn y fformat diwygiedig sy’n rhoddi mwy o fanylion am y gwariant cyfalaf sydd wedi ei gynllunio. Wedi i’r broses o gymeradwyo’r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2015/16 gael ei sgriwtineiddio, dywedodd y Swyddog y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf er mwyn egluro’r pwysoliadau cyfalaf a ddefnyddiwyd fel rhan o’r broses honno. 

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaeth y pwyntiau isod 

 

           Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y diffyg sy’n parhau mewn perthynas â’r rhaglen ar gyfer gwella’r mân-ddaliadau sydd, ar ôl ei gario drosodd i 2015/16 yn £1.393m a holodd am yr hyn y bwriedir ei wneud i ostwng y diffyg ac i gyflymu’r broses ar gyfer gwerthu asedau. Cyfeirioddy Pwyllgor at lefel arwyddocaol y buddsoddiad yn y stad mân-ddaliadau ac awgrymodd y dylai’r Awdurdod fod yn edrych yn awr at sicrhau dychweliad ar yr ased hwn.  

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, er gwaethaf y sefyllfa o ran y mân-ddaliadau, fod y sefyllfa ar y cyfan gaiff ei hadlewyrchu yn yr adroddiad yn foddhaol.  Roedd yn cydnabod y pryder ynglŷn â’r rhaglen mân-ddaliadau oedd yn awr yn ei phumed flwyddyn (y flwyddyn derfynol) ac er bod perfformiad wedi gwella’n ddiweddar o ran lleihau’r diffyg a chynyddu derbyniadau cyfalaf, cadarnhaodd ei fod yn bwriadu ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin i gomisiynu dadansoddiad ar gynnydd gyda’r rhaglen gwella mân-ddaliadau, yn cynnwys camau y gellid eu cymryd i bontio’r diffyg.  Gan edrych i’r dyfodol, mae’n debyg y byddai hyd yn oed llai byth o arian ar gael ar gyfer y rhaglen gyfalaf sy’n golygu y bydd angen monitro pob cynllun yn ofalus, ac felly roedd y matrics sgorio ar gyfer 2015/16 yn cael ei gyflwyno.  Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio hefyd at fenthyca digefnogaeth fel ffordd newydd ond gostus serch hynny o ariannu gwariant cyfalaf.  Rhybuddiodd, er bod y cyfraddau llog dal yn isel  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro'r Gyllideb - Canlyniad Dros Dro y Gyllideb Refeniw 2014/15 pdf eicon PDF 426 KB

Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad dros dro y Gyllideb Refeniw am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar sefyllfa ariannol dros dro y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2014/15 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Adroddodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro bod y Cyngor, ym mis Chwefror 2014, wedi gosod cyllideb refeniw net ar gyfer 2014/15 o £126.7m.  Roedd angen gwneud arbedion o £6.3m i’r gyllideb.  Y sefyllfa ariannol ddrafft yn gyffredinol yw tanwariant o £599k (0.47%) ac roedd yr adroddiad yn darparu eglurhad am amrywiaethau sylweddol rhwng y gwasanaethau.  Y gwasanaeth oedd yn perfformio waethaf oedd y Gwasanaeth Cyllid, a’r prif beth oedd yn gyfrifol am hyn oedd defnyddio staff asiantaeth i gynorthwyo gyda chau cyfrifon 2013/14.  Nid yw’r mwyafrif o’r staff hyn ar gontract bellach.  Yn ogystal â bod yn ganlyniad eithaf da i’r Cyngor, llwyddwyd i gyflawni hyn yng nghyd-destun bod rhai rheolwyr gwasanaeth yn gorfod cystadlu â symiau negyddol mawr yn eu cyllidebau ar ffurf arbedion i’w canfod.  Dywedodd y Swyddog fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi awgrymu ei fod yn dymuno parhau i fonitro’r rhaglen arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2015/16 a’i fod yn dymuno gwneud hynny ar sail chwarterol.  Cynigiodd y Cadeirydd y dylid gwneud i ffwrdd â’r ymrwymiad chwarterol ac y dylai’r Panel Sgriwtini Effeithlonrwydd y Gyllideb gwrdd pan fo hynny’n briodol, a chytunwyd i hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod llawer o waith wedi’i wneud i gyflawni’r rhaglen arbedion ar gyfer 2014/15.  Fe wnaed y difrod i gyllideb y Gwasanaeth Cyllid yn Chwarter 1 ac ers hynny mae wedi bod yn fater o reoli a chyfyngu’r gorwariant.  Mae’r canlyniadau wedi amlygu sawl maes lle bu gorwariant y byddai’n werth ymchwilio ymhellach iddynt e.e. costau trafnidiaeth addysg, Oriel Ynys Môn a chyllideb y Parc a Chyfleusterau Awyr Agored.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn

 

           Nododd y Pwyllgor er bod yr adroddiad yn dangos gostyngiad yn nifer y staff asiantaeth oedd yn cael eu cyflogi, roedd Cerdyn Sgorio Chwarter 4 yn dangos fod y nifer wedi cynyddu mewn gwirionedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod angen gwahaniaethu rhwng staff asiantaeth sy’n gweithio i gyflenwi swyddi gwag a’r rheini sydd wedi cael eu tynnu i mewn yn ychwanegol i staff y sefydliad.  O ran y Gwasanaeth Cyllid roedd gorwariant o £780k wedi cael ei ragweld ar ddechrau’r flwyddyn ac roedd hynny wedi lleihau erbyn diwedd y flwyddyn.  Mae costau trafnidiaeth ysgol ar hyn o bryd yn destun prosiect caffael ac mae’r gyllideb Parciau Hamdden a Chyfleusterau Awyr Agored yn enghraifft o gyllideb nad yw’n cydymffurfio â’r arbedion effeithlonrwydd a dderbyniwyd ar y pryd.

 

           Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ar raddfa’r  lleihad yn staff y Sefydliad fel y maes gwariant mwyaf. Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro y byddai’n cylchredeg y wybodaeth honno i Aelodau’r Pwyllgor.   

 

           Roedd y Pwyllgor yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Mynychu Cynhadledd pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cadeirydd a’r Swyddog Sgriwtini o’r Gynhadledd  Llwyddo drwy Gyd-Weithio a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 27 Mawrth, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r Pwyllgor adroddiad ar y cyd gan y Cadeirydd a’r Swyddog Sgriwtini ar y prif themâu o’r Gynhadledd Llwyddo Drwy GydweithioRhannu Atebolrwydd i’r Cyhoedd yng Nghymru, a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 23 Mawrth 2015.  Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r Pwyllgor y byddai adroddiad ffurfiol ar y gynhadledd yn cael ei gyhoeddi ac awgrymodd bod y Pwyllgor yn ailymweld â themâu’r gynhadledd mewn mwy o fanylder yr adeg honno.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad.   

8.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 489 KB

Cyflwyno drafft cychwynnol o Flaen Rhaglen Waith y Pwyllgor am 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd drafft cychwynnol Blaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2015/16.

 

Codwyd y materion a ganlyn

 

           Gofynnwyd am Ddatganiad Sefyllfa ar y Prosiect Gweithio’n Gallach i’w gynnwys ar agenda’r Pwyllgor ar gyfer 6 Gorffennaf, 2015 ac yn dilyn hynny gofynnwyd am adroddiad mwy manwl ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Medi, 2015.

           Eglurder ynghylch natur a statws yr ymgynghoriad mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Rhosyr a fyddai’n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 14 Medi.

           Bod y Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar oedolion gydag anghenion iechyd meddwl ac oedolion gydag anableddau dysgu fel meysydd yn y Gwasanaethau Oedolion nad oedd wedi cael eu hadrodd yn ddigonol i Sgriwtini.

           Bod cyfarfod nesaf y pwyllgor ar 6 Gorffennaf yn cael ei aildrefnu o 3:00 p.m. i 2:00 p.m. oherwydd ymrwymiadau hyfforddiant Aelodau yn hwyrach y prynhawn hwnnw.

 

Rhoddodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y pynciau fyddai’n cael eu hystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2015 a’r rhesymau am eu cynnwys.

 

Penderfynwyd nodi a derbyn y Blaenraglen Waith ddrafft gyda’r ychwanegiadau a gynigwyd.

 

GWEITHRED YN CODI: Y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro i fynd ar ôl y materion a godwyd gan y Pwyllgor.