Rhaglen a chofnodion

Ch2 Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 1af Rhagfyr, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Diweddariad y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd

Y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd i ddiweddaru’r Pwyllgor  ar unrhyw faterion yn codi.

Cofnodion:

Dywedodd yr Is-gadeirydd y cynhaliwyd cyfarfod o’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned ar 19 Tachwedd 2015 ac yn ystod y cyfarfod hwnnw, rhoddwyd ystyriaeth i gynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2016/17 yn ogystal â rhaglen waith y ddau bwyllgor sgriwtini. Cadarnhaodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro y cyflwynwyd i’r Fforwm Ddatganiad Sefyllfa ar ffrydiau gwaith sgriwtini. Y bwriad oedd darparu gwybodaeth i’r Fforwm am waith a statws y panelau canlyniad sgriwtini yn ogystal â ffrwd waith sy’n esblygu mewn perthynas ag ymgysylltu gyda dinasyddion/y cyhoedd

a hynny ar y cyd â Lleisiau Cymunedol, ond oherwydd prinder amser, roedd y wybodaeth wedi cael ei chylchredeg wedyn.

3.

Cofnodion Cyfarfod 16 Tachwedd, 2015 pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2015.

 

Yn codi –

 

Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion

 

Ystyried enwebu Aelod o’r Pwyllgor i wasanaethu ar Fwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywircofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Sgriwtini a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2015.

 

Yn codi -

 

Rhoddwyd ystyriaeth i enwebu Aelod o'r Pwyllgor i wasanaethu ar y Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion.

 

Penderfynwyd enwebu'r Cynghorydd R. Llewelyn Jones i wasanaethu ar y Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion.

4.

Monitro Perfformiad : Y Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch 2 2015/16 pdf eicon PDF 518 KB

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - Adroddiad y Pennaeth Trawsnewid yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn rhoi darlun o sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel y cawsant eu hamlinellu a'u cytuno ar y cyd rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth / y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol ar ddiwedd Chwarter 2 2015/16.

 

Materion a godwyd gan y Pwyllgor -

 

           Rheolaeth Ariannol - cyfeiriwyd at nifer y meysydd a oedd â statws CAG ‘Coch’. Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 bod y meysydd hynny sy’n sgorio’n coch oherwydd gorwariant ar y gyllideb yn cael eu sylw yn yr adroddiad monitro ar y Gyllideb Refeniw. O ran y gorwariant mwy sylweddol mewn perthynas â chostau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr,  eglurodd y Swyddog fod oddeutu £ 500k wedi ei wario ar y cyntaf a bod £200k yn arian grant ac mae'r rhan fwyaf o'r gwariant yn digwydd yny Gwasanaethau Plant, Penhesgyn ac Adnoddau. Mae'r costau yn Adnoddau’n gysylltiedig â 2 aelod o staff asiantaeth sy'n ymwneud â’r prosiect CIVICA ac mae modd cwrdd â'r costau hyn o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ac mae 1 aelod o staff asiantaeth yn cael ei gyflogi gan y Tîm Refeniw sy'n gweithio ar gasglu dyledion, gwaith sydd, wrth ei natur, yn creu incwm.

 

Dywedodd y Swyddog bod y gwaith ymgynghorol yn fwy anodd ei ddiffinio ac i dynnu gwahaniaeth rhyngddo a gwasanaeth proffesiynol. Mae llawer ohono yn cael ei ariannu drwy grantiau sy'n golygu bod y costau gwirioneddol yn llai nag oedd yn ymddangos yn wreiddiol. Mae rhai ymgynghorwyr yn llenwi i mewn ar gyfer swyddi staff sy'n golygu bod cyllideb staffio ar gael i dalu am y costau hynny. Er enghraifft, mae rheolaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cael ei ddarparu drwy gontract gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac er bod y gwaith hwn yn cael ei gategoreiddio fel ymgynghoriaeth, mae mewn gwirionedd yn cyflawni swyddogaeth staffio y mae cyllideb ar ei chyfer.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y diffyg yn yr Adain Adnoddau (£73k) mewn perthynas â'r hyn y llwyddwyd i’w gyflawni o ran arbedion a dywedodd fod hyn oherwydd anhawster annisgwyl i gyflawni’r arbedion yn sgil yr ymarfer tendro banc. Dywedodd y Swyddog bod arbedion effeithlonrwydd yn destun sgriwtini gan Banel Canlyniad Sgriwtini penodol a fyddai’n adrodd ar ei waith ym mis Chwefror, 2016.

 

Nododd y Pwyllgor yr esboniadau a roddwyd o ran lliniaru'r tanberfformiad yn erbyn targedau DP a gofynnodd am ffigurau’r flwyddyn flaenorol i ddibenion cymharu ac i gynorthwyo'r Pwyllgor i werthuso lefel y cynnydd neu fel arall.

 

           Rheoli Perfformiad - Cyfeiriwyd at DP 21 (nifer y tasgau trwsio tai a gwblhawyd ar gyfartaledd fesul gweithiwr pob diwrnod) a DP 23 (y nifer o ddiwrnodau calendr a gymer ar gyfartaledd i osod unedau llety (heb gynnwys Eiddo Anodd eu Gosod) fel dau allan o bedwar o ddangosyddion yn y Gwasanaeth Tai sydd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro Perfformiad: Rheoli Pobl

Y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) i adrodd ynghylch absenoldeb salwch.

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a’r Cydlynydd Absenoldeb Salwch gyflwyniad gweledol ar y sefyllfa mewn perthynas â rheoli absenoldeb salwch yn yr Awdurdod.

 

Amlygwyd y pwyntiau canlynol -

 

           Roedd y ffigyrau ar gyfer Chwarter 2 2015/16 yn dangos ychydig o welliant ar y chwarter blaenorol ond nid ydynt cystal â'r rhai ar gyfer y chwarter cyfatebol y llynedd. Rhagwelir y bydd gwelliant yn y chwarter nesaf a gwnaed cynlluniau i ddelio â'r cynnydd a ragwelir yn y ffigurau dros fisoedd y gaeaf.

           Mae canran y cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd o fewn y meincnod 5 niwrnod gwaith (82%) wedi gostwng ychydig o gymharu â Chwarter 1 (86%), ond mae'n debyg i’r chwarter hwn y llynedd.

           Er bod cyfraddau absenoldeb salwch tymor hir wedi bod yn mynd i fyny o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn canolbwyntio’n benodol ar y maes hwn ac ymgynghorwyd gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth i geisio sefydlu a oes modd dylanwadu ar rai achosion unigol yn unol â Polisi Rheoli Absenoldeb yr Awdurdod. Y disgwyliad y bydd tystiolaeth o’r gwelliannau hyn yn Chwarteri 3 a 4.

           Mewn perthynas ag absenoldeb salwch tymor byr, mae canran y cyfarfodydd adolygu presenoldeb (CAP) a gynhelir  gan reolwyr wedi gostwng yn Chwarter 2 (24%) o'i gymharu â Chwarter 1 (33%).

           Bod yr Awdurdod wedi bod yn rhan o adolygiad cenedlaethol o bolisïau absenoldeb salwch awdurdodau lleol a gwelwyd mai’r awdurdod hwn oedd wedi gwella fwyaf o blith yr 20 o awdurdodau a gymerodd ran. Amlygodd yr adolygiad, er bod polisïau ar gyfer rheoli absenoldeb yn debyg ar draws yr awdurdodau lleol, mae rhai awdurdodau yn perfformio’n well nag eraill a’r rhesymau am hynny’n amrywio, gyda’r ddau awdurdod sy'n perfformio orau wedi allanoli'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal sydd, yn draddodiadol, â lefel uchel o absenoldeb oherwydd salwch. Y neges sylfaenol i'w chymryd o'r adolygiad yw y dylai dyfalbarhad yr Awdurdod o ran gwreiddio ei bolisïau a'i arferion rheoli absenoldeb  arwain at ganlyniadau yn y man oherwydd nid yw ei ddull yn annhebyg i'r un a fabwysiadwyd gan yr awdurdodau eraill.

 

Materion a godwyd gan y Pwyllgor -

 

           Yr angen i fuddsoddi mewn mesurau a fydd yn cynorthwyo i ddod â staff sydd ar absenoldeb salwch tymor hir oherwydd straen yn ôl i'r gweithle e.e. drwy arferion ymwybyddiaeth ofalgar a fyddai hefyd yn gweithredu fel strategaeth ataliol.

           Yr angen i geisio gwelliannau pellach o ran nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhelir o fewn yr amserlen.

           Yr angen brys i gynyddu nifer y Cyfarfodydd Adolygu Presenoldeb a gynhelir o fewn yr amserlenni.

           Yr angen i rannu gwybodaeth am lefelau presenoldeb yn ehangach.

 

Penderfynwyd nodi'r sefyllfa o ran Rheoli Absenoldeb Salwch yn yr Awdurdod a nodi hefyd bod camau i sicrhau gwelliant yn parhau i fynd rhagddynt.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH

6.

Monitro'r Gyllideb : Y Gyllideb Refeniw Ch2 2015/16 pdf eicon PDF 388 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw am Chwarter 2 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer ail chwarter 2015/16 a'r sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn gan gynnwys ffynonellau’r prif amrywiadau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa wedi gwella o gymharu â’r chwarter blaenorol  a bod y sefyllfa ariannol a ragwelir yn gyffredinol ar gyfer 2015/16 bellach yn orwariant o £ 980k, sy'n llai na 1% (0.78%) o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2015/16 ac yn welliant o gymharu â’r gorwariant a ragwelwyd o £1.62m (1.3%) yr adroddwyd arno ar ddiwedd Chwarter 1.

 

Nododd y Pwyllgor y sefyllfa a gofynnodd am eglurhad ar y tanwariant o £395k a ragwelir ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar ddiwedd y flwyddyn .Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 bod sefyllfa'r Gwasanaeth Cynllunio ychydig yn wahanol i'r blynyddoedd diwethaf oherwydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion ar ddatblygiadau mawr lle ceir incwm am yr amser a dreulir ar y prosiectau hynny. Er bod swyddogion, mewn rhai achosion, wedi cael eu symud i ymgymryd â dyletswyddau sy’n ymwneud â’r datblygiadau hynny, nid oes neb wedi cael eu penodi i’r swyddi gwag gan olygu bod incwm nad oedd ar gael o’r blaen yn cwrdd â’r costau hynny. Mae ystyriaeth yn cael ei rhoddi i’r modd y bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn cael ei drin yng nghyllideb y flwyddyn nesaf o ystyried bod y gwaith ar y datblygiadau mawr wedi cyrraedd pwynt arwyddocaol, a bydd angen rhoi sylw dyledus i’r modd y cyfrifir am y gwaith hwn a’r incwm a’r costau cysylltiedig .Nododd y Pwyllgor na fyddai'n dymuno gweld newidiadau yn cael eu gwneud ar draul y Gwasanaeth Gorfodaeth Gynllunio.

 

Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor am arweiniad ynghylch meysydd y dylid parhau i’w hadolygu a bod yn effro i unrhyw newidiadau ynddynt, dywedodd y Swyddog bod y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gwasanaethau Plant yn feysydd lle mae'n anodd rheoli gwariant oherwydd yr elfen anochel  o anwadalwch sy'n gysylltiedig â’r rhain fel cyllidebau sy’n seiliedig ar y galw am wasanaeth. Er bod troi at gronfeydd wrth gefn y Cyngor os oes galw’n codi nad oedd modd ei ragweld, dylid nodi y dylid cadw lefel resymol o arian wrth gefn ac na ddylai balansau gael eu defnyddio i bontio’r bwlch yn y gyllideb refeniw.

 

Penderfynwyd nodi'r canlynol -

 

           Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol hyd yn hyn

           Y diffyg a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn, a

           Y camau sy'n cael eu cymryd i roi sylw i hyn.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

 

(Nodwyd na chymerodd  y Cynghorydd H. Eifion Jones, yr Aelod Portffolio Cyllid ran yn y drafodaeth mewn perthynas â'r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd)

7.

Monitro'r Gyllideb: Y Gyllideb Gyfalaf Ch2 2015/16 pdf eicon PDF 602 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Gyfalaf am Chwarter 2 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid nad oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol yn Chwarter 2 yr oedd angen eu hamlygu ac nad oedd unrhyw elfen o'r rhaglen yn peri pryder ar hyn o bryd.

 

(Gwnaeth y Cynghorydd Peter Rogers ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â'r drafodaeth ar y rhaglen mân-ddaliadau).

 

Nododd y Pwyllgor y canlynol -

 

           Mai 13% yn unig yw’r gwariant ar y Prosiect Gweithio’n Gallach - hysbyswyd y Pwyllgor y byddai diweddariad ar Weithio’n Gallach yn cael ei gyflwyno i Gyfarfod Briffio Misol yr Aelodau a gynhelir ar ddydd Iau, 3 Rhagfyr, 2015.

           Bod y gwariant mewn perthynas â Datblygu Economaidd yn 102%. Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 y byddai'n gofyn am eglurhad manwl gan y Pennaeth Adfywio Cymunedol ac Economaidd ac yn adrodd yn ôl i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd.

           A oes modd cyfiawnhau parhau i wario arian cyfalaf ar y rhaglen gwella mân-ddaliadau yn yr hinsawdd economaidd bresennol pan mae’r manteision yn gyfyngedig ac a fyddai’n rhesymol yn awr i drethdalwyr Ynys Môn ddisgwyl gweld elw ar y portffolio.

 

Penderfynwyd nodi'r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer Chwarter 2 2015/16.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

8.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Llyfrgelloedd 2014/15 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys Asesiad Llywodraeth Cymru (MALD) o Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Llyfrgell am 2014/15 a'r materion sy'n codi.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu bod y safonau a nodir yn y Pumed Fframwaith Ansawdd o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2014-17 wedi cael eu hymestyn sy’n ei gwneud yn anos cymharu perfformiad gyda'r flwyddyn flaenorol. Mae'r pumed fframwaith yn rhoi pwyslais ar ganlyniadau a'r manteision y mae'r Gwasanaeth yn eu darparu i drigolion yr Ynys. Mae'r asesiad yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd yn ffurflen flynyddol Ynys Môn ac mae’n dangos bod y Gwasanaeth yn perfformio'n dda ac wedi cwrdd â 14 o’r 18 hawliau craidd yn llawn. O'r 7 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, mae Ynys Môn wedi cyflawni 4 yn llawn a 3 yn rhannol. Fodd bynnag, mae'r asesiad hefyd yn nodi bod y gwasanaeth yn Ynys Môn yn un sydd ag elfennau perfformiad cryf a gwan ac y gallai unrhyw doriadau ychwanegol i’r gyllideb adael y Gwasanaeth mewn sefyllfa fregus a bod perygl i’r perfformiad ddirywio. Cyfeiriwyd yn benodol  at lefelau staffio y bernir eu bod yn is na'r safonau a bennwyd a nodir hynny fel rhywbeth sy’n achosi pryder o ran datblygiad y Gwasanaeth. Dywedodd y Swyddog bod dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y Gwasanaeth tra'n ceisio cynnal safonau yn her barhaus.

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell ar y 4 hawl graidd a nodwyd yn yr hunanasesiad fel rhai yr oedd  Ynys Môn ond wedi eu cyflawni’n rhannol yn ogystal â'r 3 dangosydd ansawdd a oedd ond wedi eu cyflawni’n rhannol. Hefyd, rhannodd y Swyddog wybodaeth am broffiliau llyfrgelloedd unigol gan gynnwys nifer yr ymwelwyr, eitemau a roddwyd ar fenthyg, y gost fesul ymweliad a chost fesul eitem a fenthycwyd. Mewn ymateb i ymholiadau ynglŷn â pheth o’r data, dywedodd y Swyddog y byddai'n adolygu'r ffigurau ac ailgylchredeg y wybodaeth.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am esboniad ynghylch y modd yr oedd y tanberfformiad cyfredol yn dylanwadu ar y Rhaglen Trawsnewid Llyfrgelloedd. Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai un o'r prif heriau yw sicrhau bod y Gwasanaeth yn parhau i fod mor effeithiol ac effeithlon â phosibl o fewn cyfyngiadau'r gyllideb. Mae toriadau cyllidebol o 10% wedi cael eu gweithredu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol gan arwain at ostyngiad yn nifer y staff. Gan mai staffio a chostau cynnal a chadw adeiladau yw prif wariant y Gwasanaeth mae’r rhain yn cael sylw fel rhan o'r adolygiad trawsnewid gwasanaethau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd yr ymgynghoriad yn bwydo i mewn i opsiynau a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i'w cymeradwyo ym mis Chwefror, 2016 a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini yn ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror, 2016 am fewnbwn cyn penderfynu pa opsiynau i ymgynghori'n ffurfiol arnynt. Mae'r ymgynghoriad felly mewn dau gam  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol AGGCC o'r Gwasanaethau Cymdeithasol 2014/15 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad y AGGCC ac atodiadau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol AGGCC a llythyr cysylltiedig ar gyfer 2014-15 er sylw'r Pwyllgor. Mae'r adroddiad yn nodi gwerthusiad o berfformiad Cyngor Sir Ynys Môn wrth gyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn 2014/15, gan gynnwys meysydd cynnydd allweddol o gynnydd a meysydd ar gyfer eu gwella.

 

Ymhelaethodd Mark Roberts, AGGCC ar y meysydd penodol ar gyfer eu gwella a meysydd o gynnydd yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fel y cofnodwyd yn yr adroddiad ac fe grynhodd y perfformiad fel a ganlyn -

 

           Yn y Gwasanaethau Oedolion mae’r Cyngor yn gwneud defnydd da o'r adnoddau sydd ar gael ac yn cyflawni ei nod o gefnogi pobl i fod yn annibynnol ac mor hunangynhaliol â phosibl.

           Mae perfformiad cryf o ran cyflawni yn erbyn y cynllun busnes.

           Mae perfformiad mewn llawer maes yn gryf ac mae cynnydd yn cael ei wneud i gwrdd â  thargedau’r Cyngor.

           Cymerwyd camau sylweddol i foderneiddio gwasanaethau.

           Bu llai o gynnydd o ran datblygu gwasanaethau i oedolion iau ac mae angen gwerthuso effaith y newid ar oedolion hŷn i sicrhau nad ydynt yn agored i unrhyw risgiau diangen.

           Yn y Gwasanaethau Plant, mae’r Cyngor yn ymwybodol o'r risgiau lle mae’r gwelliant yn fregus.

           Mae angen gwelliant parhaus yn ansawdd y gwasanaethau.

           Bu canlyniadau da wrth gwrdd â thargedau perfformiad ond mae datblygu’r gwasanaeth wedi bod yn arafach yn y gwasanaethau plant.

           Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi elwa o’r gwelliannau mewn cefnogaeth gorfforaethol, goruchwylio a sgriwtini.

           Mae’r capasiti i gyflawni cynlluniau gwella yn anhawster yn y gwasanaeth ac adlewyrchir hynny yn y diffyg cynnydd mewn perthynas â nifer o’r meysydd i'w gwella a nodwyd yn adroddiad y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd y pwyntiau a godwyd yn y drafodaeth eang a gafwyd wedyn fel a ganlyn -

 

           Gofynnwyd am eglurhad ar y defnydd o'r gair "bregus" i ddisgrifio gwelliannau yn y gwasanaethau plant. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd ynghylch  gwydnwch y gwasanaethau a chynaliadwyedd gwelliannau i’r dyfodol. Oherwydd materion mewn perthynas â maint, capasiti,  arbenigedd a phrofiad y gweithlu, ynghyd â materion mewn perthynas ag arferion a pherfformiad yn y gorffennol, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor yr ystyrir y gallai fod yn her i’r gwasanaethau plant gyflawni’r holl gyfrifoldebau a disgwyliadau sydd arno, a dyna pam y defnyddiwyd y gairbregusi ddisgrifio’r gwelliannau mewn rhai meysydd.

           Materion recriwtio a chapasiti a'r angen am sefydlogrwydd yn y gweithlu Gwasanaethau Plant er mwyn datblygu’r profiad a'r arbenigedd angenrheidiol.

           Cadernid y gwasanaethau i fedru gwrthsefyll pwysau ariannol parhaus. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gallai rhai opsiynau cyllidebol gael effaith ar ansawdd, ond o ran gweithredu  dewisiadau a wnaed yn y gorffennol, nid oes dim i awgrymu bod y rheini wedi bod yn afresymol neu nad ydynt wedi bod yn drylwyr.

           Cododd y Pwyllgor nifer o faterion gweithredol a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Gwasanaethau Plant - Adolygiad Achos Penodol pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant yn ymgorffori diweddariad gan y Panel Archwilio a benodwyd i archwilio camau a gymerwyd gan y gwasanaeth a’r cynnydd a wnaed yn dilyn adolygiad manwl gan y Pennaeth Gwasanaeth o'r arferion mewn achos penodol.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth Plant fod y panel sgriwtini wedi ei benodi i geisio sicrwydd bod yr adolygiad achos wedi ei gynnal yn drylwyr ac yn ddiduedd, a bod y gwasanaeth yn ymateb yn briodol i'r materion sy'n codi o'r achos a bod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn y Cynllun Gweithredu. Rhoddwyd tystiolaeth i’r panel sgriwtini o sut mae'r pwyntiau dysgu a nodwyd gan yr adolygiad achos yn cael eu gweithredu.

 

Cadarnhaodd yr aelodau hynny o'r Pwyllgor Sgriwtini a fu'n gwasanaethu ar y panel sgriwtini ac a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwn eu bod yn fodlon bod y Gwasanaeth wedi adolygu'r mater ac wedi nodi gwersi i'w dysgu. Maent hefyd yn fodlon eu bod wedi derbyn gwybodaeth a bod eu gwaith sgriwtini yn  tystio i'r ffaith bod camau wedi eu cymryd, neu yn cael eu cymryd, yn erbyn y cynllun gweithredu.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

11.

Panel Canlyniad Sgriwtini: Gwaredu Asedau pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini ar waredu asedau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini i adolygu dull yr Awdurdod o reoli a chael gwared ar asedau ei gyflwyno i'r Pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Penderfynwyd -

 

           Cymeradwyo'r Adroddiad Terfynol ynghyd â'i 6 phrif gasgliad a’r 25 o argymhellion unigol.

           Bod yr Adroddiad Terfynol yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr, 2015.

           Bod cofnodion pob cyfarfod o'r Panel Canlyniad Sgriwtini yn cael eu cynnwys fel atodiad i'r Adroddiad Terfynol pan gaiff ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn galendr a dim ond ar yr achlysur hwn.

           Bod yr Adroddiad Terfynol hwn yn sefydlu sylfaen a chynsail ar gyfer arferion gweithio, mewnbynnau a ffurf cyflwyno adroddiadau terfynol ar gyfer panelau sgriwtini eraill i'r dyfodol.

           Nodi bwriad y Panel i ailymgynnull mewn 9 mis (Medi, 2016) er mwyn monitro cynnydd gyda diwygio’r Polisi a Gweithdrefnau Rheoli Asedau a hefyd i archwilio Rhaglen Datblygu Mân-ddaliadau'r Cyngor.

 

(Ymataliodd y Cynghorydd Ann Griffith rhag pleidleisio)

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

12.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 515 KB

Cyflwyno Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro a oedd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor at fis Ebrill, 2016 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro at y canlynol -

 

           Y gallai hi gadarnhau y bydd yr adroddiad ar yr adolygiad o’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Chwefror, 2016.

           Y bydd adroddiad ar sgôp, cylch gorchwyl ac aelodaeth y tri phanel canlyniad sgriwtini a  benodwyd gan y Pwyllgor hwn yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod ym mis Chwefror 2016.  Bydd dau o’r panelau hynny, sef Panel Gofalwyr Anffurfiol a Phanel Gosod Tai'r Awdurdod Lleol, yn cael   eu sefydlu mewn ymateb i feysydd a nodwyd fel rhai a oedd yn tanberfformio yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a bydd y trydydd, sef Panel Diogelu Corfforaethol , yn cael ei sefydlu mewn ymateb i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r Flaenraglen fel y cafodd ei chyflwyno.