Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Adroddodd yr Is-gadeirydd fod y Cadeirydd yn absennol heddiw am resymau iechyd, ac ar ran y Pwyllgor, rhoddodd ei ddymuniadau gorau i’r Cynghorydd R Meirion Jones am adferiad buan. Croesawodd Rebecca David Knight o’r Ganolfan Graffu Gyhoeddus i’r cyfarfod hefyd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
· 11 Ebrill, 2016 · 12 Mai, 2016 (Galw eitem i mewn) · 12 Mai, 2016 (Ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn gywir:-
• 11 Ebrill, 2016 • 12 Mai, 2016 (Galw i mewn) • 12 Mai, 2016 (Ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd) |
|
Diweddariadau gan Aelodau Derbyn diweddariad gan y Cadeirydd ac/neu’r Is-Gadeirydd.
(a) Diogelu Corfforaethol - (NID Diogelu Plant) Cadeirydd – Y Cynghorydd Meirion Jones Y Cynghorwyr Ann Griffith, Llinos Medi Huws a Jim Evans
(b) Gosod Tai’r Awdurdod (Tai Gwag) - Cadeirydd - Councillor Gwilym Jones Y Cynghorwyr Raymond Jones, Lewis Davies, Robert Llewelyn Jones a Victor Hughes
Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws y dylai cynrychiolwyr y Pwyllgor hwn ar y Byrddau Rhaglen Trawsnewid adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar waith y gwahanol Fyrddau h.y. Addysg a Gweithio’n Gallach. |
|
Canlyniad y Gyllideb Refeniw 2015/16 PDF 320 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu’r sefyllfa derfynol am y tro ar gyfer y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill, 2015 at 31 Mawrth, 2016.
Ym mis Chwefror, 2015, roedd y Cyngor wedi gosod cyllideb net o £124.6m ar gyfer 2015/16, i’w ariannu o’r Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a’r Grant Cymorth Refeniw. Roedd y gyllideb ar gyfer 2015/16 yn cynnwys y gofyniad i wneud arbedion o £4.3m, sydd wedi cael eu hymgorffori yng nghyllidebau’r gwasanaethau unigol, ac mae’r tan/gorwariannau net yn adlewyrchu a gafodd yr arbedion hyn eu cyflawni neu beidio.
Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) at Atodiad A yr adroddiad gan grynhoi’r prif bwyntiau mewn perthynas â’r sefyllfa dros dro hyd at 31, Mawrth 2016.
Nodwyd bod sefyllfa ariannol y Cyngor ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2015/16 wedi gwella gyda thanwariant o £1.8m. Bydd y tanwariant yn cael ei drosglwyddo i Falansau Cyffredinol y Cyngor. Roedd y sefyllfa wedi gwella ers yr hyn a ragwelwyd ar ddiwedd y trydydd chwarter, a hynny’n bennaf oherwydd addasiadau cyfrifyddu unwaith ac am byth o £450k, a gostyngiad yn y costau cyllido cyfalaf o £400k sy’n deillio o’r llithriad yn y rhaglen gyfalaf. Cyfeiriwyd hefyd at Gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, lle bu tanwariant, oherwydd bod nifer llai na’r disgwyl wedi hawlio.
Nodwyd hefyd yn ystod y flwyddyn, fod y Pwyllgor Gwaith wedi dyrannu £476k i’r Gwasanaethau Plant ac wedi defnyddio £600k o’r Gronfa Yswiriant Wrth Gefn i ariannu gwaith atgyweirio i briffyrdd a Chanolfannau Hamdden oherwydd difrod gan stormydd yn ystod y gaeaf.
Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r eitemau unwaith ac am byth hyn a chyllid ychwanegol, mae’r sefyllfa gyffredinol i gyllidebau’r gwasanaethau dal yn anodd, gyda phwysau i gyflawni arbedion at y dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd cwestiwn ynglŷn ag effaith toriadau ariannol ar wasanaethau yn Chwarteri 3 a 4 2015/16 a Ch1 2016/17. Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) mai bach iawn oedd yr effaith, oherwydd bod gwasanaethau wedi bod yn ddoeth wrth wario, ac roedd hynny wedi cyfrannu at y tanwariant net.
Cyfeiriwyd hefyd at dudalen gyntaf yr adroddiad - nad oedd y tanwariant yn adlewyrchu’r darlun go iawn o ran y pwysau ar wasanaethau, yng nghyswllt arbedion caffael o £500k.
Gofynnodd yr Aelod i’r Adran Gyllid addasu’r geiriad ar dudalen gyntaf yr adroddiad fel y byddai gan y cyhoedd ddealltwriaeth gliriach o’r tanwariant yn Ch4.
Gweithredu: Fel y nodir uchod.
PENDERFYNWYD argymell bod:-
• y Pwyllgor yn nodi’r sefyllfa a amlinellwyd mewn perthynas â’r perfformiad ariannol ar gyfer 2015/16; • y sefyllfa derfynol yn aros yn un dros dro hyd nes bod yr archwiliad statudol yn cael ei gwblhau. |
|
Canlyniad y Gyllideb Gyfalaf 2015/16 PDF 443 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf am 2015/16, sy’n destun archwiliad. Cyfeiriodd at Atodiad A yr adroddiad fel a ganlyn:-
• Llithriad a ddygwyd ymlaen o 2014/15; • Roedd cynlluniau ychwanegol wedi cael eu hychwanegu i’r Rhaglen Gyfalaf, y mwyaf o’r rhain oedd y Cyfrif Refeniw Tai a phrynu allan ohono a gawsai ei ariannu trwy fenthyca digymorth; • Grantiau Cyfalaf – defnyddiwyd arian refeniw i ariannu cynlluniau grant mewn tri phrif faes:-
1. Ysgolion yr 21ain Ganrif – tanwariant o £0.149m mewn grantiau ysgol. Mae’r Cyngor yn disgwyl am ymateb gan Lywodraeth Cymru i’w gais i gael cario’r swm hwn ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf; 2. Ffordd Gyswllt Llangefni – tanwariant oherwydd oedi wrth ddechrau’r cynllun – i’w gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf; 3. Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – yr arian grant wedi’i wario.
Roedd derbyniadau cyfalaf yn is na’r disgwyl, yn bennaf oherwydd mân- ddaliadau. Mae peth incwm wedi’i gynhyrchu o werthu mân-ddaliadau, a defnyddiwyd yr incwm hwn i ariannu’r rhaglen wella. Bydd rhagor o eiddo’n cael eu gwerthu yn 2016/17 a bydd hyn yn sicrhau bod yr holl welliannau wedi cael eu hariannu trwy gyfrwng derbyniadau cyfalaf.
Nodwyd hefyd, ar ddiwedd y flwyddyn, fod y Cyngor wedi tanwario ar y canlynol:-
• CRT – 4m; • Ysgolion yr 21ain Ganrif – 6.8m; • Ffordd Gyswllt Llangefni – 1m; • Gweithio’n Gallach – 1m.
Bydd llithriad o £7.8m yn cael ei gario ymlaen i Gynllun Cyfalaf 2016/17, a chaiff ei ariannu trwy fenthyca a benthyca digymorth.
Yn codi o’r drafodaeth, gofynnwyd am eglurder ynghylch rheoli prosiectau cyfalaf yn y Rhaglen Gyfalaf. Amlygwyd yr angen i adolygu’r matrics sgorio a sgriwtineiddio prosiectau cyfalaf a sut maent yn cael eu hymgorffori yn y Gyllideb Gyfalaf. Ymatebodd y Pennaeth Swyddogaeth fod angen i’r Cyngor adolygu’r broses o reoli prosiectau cyfalaf.
PENDERFYNWYD argymell bod y Pwyllgor yn:-
• Nodi’r canlyniad drafft dros dro ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2015/16, yn amodol ar yr archwiliad; • cefnogi bod £7.791m yn cael ei gario ymlaen i 2016/17 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen o ganlyniad i lithriad. Bydd y cyllid yn cario drosodd i 2016/17; • gofyn i’r Adran Gyllid ailymweld â’r matrics sgorio ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf, ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. |
|
Monitro Perfformiad 2015/16 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 4 PDF 556 KB Cyflwyno’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4, 2015/16. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Trawsnewid ar y Cerdyn Sgorio terfynol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16, sy’n egluro sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd ac y cytunwyd rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol am 2015/16.
Nododd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod y Cyngor wedi perfformio’n dda ac wedi cwrdd â’r mwyafrif o’r targedau. Rhoddodd grynodeb manwl o’r adroddiad a chyfeiriodd at y canlynol:-
• Rheoli Pobl – O ran lefelau salwch, roedd cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith wedi cwrdd â thargedau, ac roedd lefelau salwch tymor byr wedi gwella o gymharu ag y llynedd. Roedd lefelau salwch tymor hir wedi gostwng yn ystod Ch4 a dros y flwyddyn, yn groes i’r duedd yn Ch3. • Rheolaeth Ariannol – Roedd y Cyngor wedi tanwario ar wasanaethau, a rhai Adrannau wedi tanwario mwy nag eraill. • Gwasanaethau Cwsmer – Mae’r gwaith o reoli cwynion yn mynd yn ei flaen ac anfonwyd ymatebion i’r cwynion a dderbyniwyd. Mae nifer o bryderon wedi’u cofnodi, ac mae gwaith yn mynd rhagddo nawr i wella’r systemau sy’n sail i’r pryderon hyn. • Mae’r UDA a’r Pennaeth Proffesiwn wedi llunio Cynllun Gweithredu i adolygu lefelau salwch am y flwyddyn i ddod. O ran rheoli perfformiad, bydd gweithdai’n cael eu cynnal a chaiff targedau eu hadolygu.
Nododd yr Aelodau bryder ynglŷn â lefelau absenoldeb salwch tymor hir, a cheiswyd eglurder ar y rhesymau am y problemau sydd wrth wraidd hyn mewn rhai Adrannau penodol lle mae’r perfformiad wedi bod yn wael o gymharu â blynyddoedd cynt. Trafodwyd hefyd y gost o salwch tymor hir a chyflogi staff llanw.
Codwyd pryderon hefyd ynglŷn â lles staff a straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith, gan fod y Cyngor yn mynd trwy newidiadau enfawr gyda Gweithio’n Gallach. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar rôl y Cyngor i sicrhau bod y gofal a’r gefnogaeth orau ar gael i staff y Cyngor ar yr adeg hon. Awgrymwyd hefyd y dylid gwobrwyo staff sydd wedi cyflawni cyfradd bresenoldeb o 100%.
PENDERFYNWYD argymell bod y Pwyllgor yn nodi ac yn derbyn y meysydd lliniaru a amlinellwyd yn yr adroddiad yn amodol ar sylwadau a wnaed i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol.
|
|
Cynllun Gweithredu mewn Ymateb i Adroddiad AGGCC PDF 270 KB Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.
Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion ar Werthusiad Perfformiad Blynyddol AGGCC ar gyfer 2014-15, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 1 Rhagfyr 2015.
Adroddodd y Deilydd Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Cyngor wedi buddsoddi £476k yn y Gwasanaethau Plant y llynedd, ac y byddent yn buddsoddi £500k arall yn 2016/17. Nododd fod Panel Aelodau wedi cael ei sefydlu i oruchwylio’r gwaith a wnaed o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac i oruchwylio gweithrediad Cynllun Gwella’r Gwasanaethau Plant.
Amlygwyd y pwyntiau a ganlyn:-
• Mae tair swydd Gweithiwr Cymdeithasol newydd yn cael eu creu i gwrdd â’r galw yn y Gwasanaeth; • Ail-leoli staff o’r Adran Addysg i’r Tîm Gwasanaethau Plant i gryfhau gwasanaethau ataliol; • Cryfhau’r gefnogaeth i Weithwyr Cymdeithasol sy’n gorfod mynd i’r Llys; • Sefydlu ‘Hyb Gwybodaeth’ i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Crynhodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y prif faterion a amlygwyd yn Adroddiad Blynyddol AGGCC ar gyfer 2014/15. Nodwyd ers hynny fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd yn y Gwasanaeth Plant a’r Gwasanaeth Oedolion. Nodwyd ymhellach y bydd yna newidiadau i’r ddau Wasanaeth gan y byddai Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei gweithredu, ar ôl iddi ddod i rym yn ddiweddar, a’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015/16 fydd yr olaf yn y fformat presennol.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion wedyn fod AGGCC yn dymuno gweld y Cyngor yn cryfhau’r Gwasanaethau Oedolion. Cyfeiriwyd at wasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â’r bwrdd iechyd, a nododd bod cryfhau’r cytundebau a’r trefniadau llywodraethu yn y maes hwn yn flaenoriaeth i’r gwasanaeth.
Cododd yr Aelodau y pwyntiau a ganlyn:-
• Gofynnwyd am eglurder ar y lefel uchel o drosiant staff yn y Gwasanaethau Plant. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant nad oedd unrhyw negeseuon clir yn deillio o’r cyfweliadau gadael, ond roedd yn amlwg bod y trosiant uchaf ymysg y gwasanaethau ‘gwaith maes’. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw sefydlogi’r gweithlu o fewn y Gwasanaeth, a nododd fod y Gwasanaethau Plant a’r Adran Adnoddau Dynol yn adolygu’r Strategaeth Weithlu ar hyn o bryd. • Codwyd cwestiwn ynghylch y posibilrwydd o gael cynllun ‘ffeirio staff’ rhwng y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion, a fyddai’n galluogi staff i symud o gwmpas o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant nad oes unrhyw ‘gynlluniau ffeirio’ neu gynllun ‘cymorth bydi’ mewn grym rhwng y ddau wasanaeth ar hyn o bryd, ond gellid ystyried hyn yn y dyfodol. • Nododd yr Aelodau bryder bod y Gwasanaethau Plant wedi cael eu disgrifio fel ‘bregus’. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y Gwasanaethau Plant yn faes o risg cynhenid, a bod yr Awdurdod Lleol yn cadw golwg ar y risgiau, a bod ganddo ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 63 KB Ystyried mabwysiadu'r isod:-
"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm". Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn ar y sail bod y drafodaeth yn golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Costau Ymgynghorwyr Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd – dadansoddiad o ffioedd ymgynghoriaeth gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151i’r Pwyllgor ar ôl i Aelod wneud cais am y wybodaeth.
Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar wybodaeth mewn perthynas â chost staff ymgynghorol/asiantaeth a chyfeiriodd at y prif eitemau o wariant wedi’i godio. Nodwyd bod gan y gwasanaethau gyllidebau i gwrdd â chost staff ymgynghorol/asiantaeth a phan nad oes ganddynt gyllidebau, mae gan y Pennaeth Gwasanaeth ddisgresiwn trwy’r broses cyllideb ddatganoledig i drosglwyddo arian o gyllidebau er mwyn ariannu costau a geir. Nodwyd ymhellach bod rhaid i’r Cyngor brynu gwasanaethau ymgynghorol i mewn o bryd i’w gilydd er mwyn cael sgiliau arbenigol nad oes gan staff y Cyngor, neu lle nad yw’n gost-effeithiol i’r Cyngor gyflogi aelod o staff yn llawn amser i wneud y rôl os mai dim ond am gyfnodau byr yn ystod y flwyddyn y byddai angen y rôl.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth ar ffioedd ymgynghoriaeth. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 95 KB Ystyried mabwysiadu'r isod:-
"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm". Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn ar y sail bod y drafodaeth yn golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Adolygu’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.
Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ar Raglen Amlinelliad Strategol yr Awdurdod (SOP), a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, 2013.
Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg yr adroddiad ar yr adolygiad o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Mae’r Rhaglen Amlinelliad Strategol ar gyfer Moderneiddio Ysgolion wedi cael ei chyflwyno ers 2013 ac mae wedi’i chynnwys mewn 4 band o A i D.
PENDERFYNWYD:-
• derbyn argymhellion 1-7 fel y nodir yn yr adroddiad; • argymell bod symposiwm yn cael ei sefydlu i ystyried effaith cynigion ar bentrefi yn Ynys Môn; • cefnogi’r argymhellion uchod bod y Pwyllgor Gwaith yn bwrw ymlaen â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. |