Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 11eg Gorffennaf, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

Ar ran y Pwyllgor estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Raymond Jones am wellhad buan yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar o ganlyniad i salwch.

 

Estynnodd y Pwyllgor ei gofion a’i ddymuniadau gorau at Mr John R Jones, Prif Swyddog, Medrwn Môn am iechyd da ar gyfer ymddeoliad hir a hapus. Mae Mr Jones wedi bod yn selog yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dros nifer o flynyddoedd, a diolchwyd iddo am ei holl waith caled a'i ymroddiad.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol yn eitem 5 gan y Cynghorydd Ann Griffith gan ei bod yn aelod o Banel y cyfeirir ato yn y drafodaeth.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno cofnodion drafft y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Mai, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Mai, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y canlynol: -

 

Roedd y Cynghorydd Peter Rogers yn dymuno iddo gael ei nodi nad oedd ei absenoldeb o'r cyfarfod blaenorol wedi ei gynnwys yn y cofnodion er bod cyfnod ei waharddiad wedi dod i ben.

 

Eitem 3 - Diweddariadau gan yr Aelodau

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at y Diweddariadau gan yr Aelodau. Dylai cofnodion y cyfarfod blaenorol fod wedi cyfeirio at y Byrddau Prosiectau Trawsnewid yn ogystal â’r Byrddau Rhaglen.

 

Eitem 4 - Adroddiad ar Ganlyniadau Refeniw 2015/16

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Pennaeth Adnoddau wedi gweithredu ar gais y Cynghorydd Llinos Medi Huws i newid blaen yr adroddiad i ddangos y gwahaniaeth yn y tanwariant yn Ch4.

 

Eitem 5 - Adroddiad ar Ganlyniadau Cyfalaf 2015/16

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pennaeth Adnoddau hefyd yn gwneud y gwaith ar y matrics sgorio yr oedd y Pwyllgor wedi argymell y dylid ei ailystyried.

 

Eitem 11 – Adolygu’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at bwynt 2 yn y penderfyniad yn y cofnodion - a oedd yn gofyn am sefydlu symposiwm i ystyried effaith y cynigion ar bentrefi yn Ynys Môn. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini ei bod wedi trafod cynnull symposiwm gyda'r Pennaeth Dysgu, a’i bod wedi ymateb nad oedd ganddi’r capasiti ar gyfer cynnal symposiwm. Fodd bynnag, nodwyd y byddai rhai o'r materion a godwyd yn dilyn yr ymgynghoriad ar yr effaith bosib ar bentrefi yn Ynys Môn yn cael eu cynnwys mewn rhaglen ymgynghori newydd y byddai'r Adran Addysg yn ei chynnal maes o law.

 

O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i dynnu'r cais am symposiwm yn ôl ond byddai'n monitro'r ymgynghoriad pan gyflwynir adroddiad pellach ar foderneiddio ysgolion. 

 

Gweithredu: Rheolwr Sgriwtini i roi gwybod i'r Pennaeth Dysgu.

3.

Diweddariadau gan yr Aelodau

Derbyn diweddariadau gan y cynrychiolwyr Sgriwtini mewn perthynas â’r isod:-

 

1.     ByrddauRhaglen Trawsnewid

 

(a)    Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Llywodraethiant a Phrosesau Busnes -

         Cynghorydd R Meirion Jones

 

(b)    Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Partneriaeth, Cymunedau a Gwella

         Gwasanaethau - Cynghorydd Derlwyn Hughes

 

2.     ByrddauProsiect Trawsnewid

 

(a)    Oedolion

(b)    Moderneiddio Ysgolion

(c)    Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant

Cofnodion:

Ar ôl ymgynghori â’r Pennaeth Trawsnewid ac Aelodau'r Pwyllgor, PENDERFYNWYD nodi bod yr Aelodau canlynol yn cynrychioli'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Byrddau Trawsnewid a restrir isod: -

 

Byrddau’r Rhaglen Drawsnewid:

 

  Llywodraethiant a Phrosesau Busnes - Y Cynghorydd R Meirion Jones

  Partneriaeth, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau - Y Cynghorydd   Derlwyn Hughes

 

Byrddau Prosiectau Trawsnewid

 

  Oedolion - Y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones

  Moderneiddio Ysgolion - Y Cynghorydd Llinos Medi Huws

  Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant - gwag

 

PENDERFYNWYD:

 

  Bod y Pwyllgor yn penodi’r Cynghorydd Gwilym O Jones fel cynrychiolydd Sgriwtini ar y Bwrdd Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant.

 

  Bod y Pennaeth Trawsnewid yn rhoi crynodeb o'r prif bwyntiau a drafodwyd, ac yn ystyried fformat priodol i grynhoi adrodd ar waith y Byrddau Rhaglen Trawsnewid a Byrddau Prosiect i’r dyfodol, efallai ar ffurf dangosfwrdd, erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Sgriwtini, ac  adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn chwarterol.

 

  Gofynnodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pennaeth Trawsnewid yn rhoi rhestr swyddogol o'r holl Fyrddau Prosiect a holl Fyrddau’r Rhaglen Drawsnewid i’r Pwyllgor, gan restru'r holl Aelodau fel Aelodau Portffolio Cysgodol neu gynrychiolwyr Sgriwtini.

 

Gweithredu: Pennaeth Trawsnewid i ymateb.

4.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol am 2015-16 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Trawsnewid Llywodraethiant a Phrosesau Busnes).

Cofnodion:

Cyflwynwyd - drafft terfynol yr Adroddiad Blynyddol gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2015/16 i'w ystyried ac ar gyfer sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Mae'r adroddiad yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd ar gyfer y perfformiad a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ac yn amlinellu'r ffocws ar gyfer gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwerthusiad trylwyr o'r holl feysydd gwasanaeth gan ddefnyddio dadansoddiad grid sy'n nodi amcanion, cyflawniadau a chanlyniadau’r gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.

 

Nodwyd o'r adroddiad bod rhai elfennau o’r Gwasanaethau Plant yn fregus, yn enwedig y sefyllfa staffio, ar adeg pan fu pwysau ar y gwasanaeth yn sgil nifer gynyddol o blant ar y Gofrestr a mwy o blant sy'n derbyn gofal. Mae angen moderneiddio’r gwasanaethau Anawsterau Dysgu a gwasanaethau Iechyd Meddwl yn y Gwasanaethau Oedolion. Dyrannwyd arian ychwanegol i’r Gwasanaethau Plant gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth, a oedd yn helpu i leddfu'r pwysau ar staff yn ystod cyfnod o gynnydd yn y galw am wasanaethau. Mae’r heriau i’r dyfodol yn parhau ac maent yn cael sylw’n gorfforaethol. 

 

Gwnaed cynnydd hefyd yn y Gwasanaethau Oedolion. Rhoddwyd pwyslais ar bwysigrwydd cyfuno adnoddau'r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill ee Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd a chynghorau eraill ar draws Gogledd Cymru.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion drosolwg i'r Pwyllgor o'i adroddiad mewn perthynas â chynnydd a chyflawniadau yn ystod 2015/16, ac amcanion i’r  dyfodol, gan gynnwys gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau yn ystod y drafodaeth: -

 

  Bregusrwydd y Gwasanaethau Plant, fel yr amlygwyd gan AGGCC yn eu hadroddiad ar gyfer 2015/16;

  Ansefydlogrwydd y sefyllfa staffio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol - y broses o recriwtio a chadw staff o fewn yr Awdurdod, yn enwedig Gweithwyr Cymdeithasol; rôl staff asiantaeth o fewn y Cyngor;

  Arferion Llys fel rhan o hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol;

  Buddsoddiad yr Awdurdod Lleol yn y Gwasanaethau Plant a mwy o alw am y Gwasanaeth;

  Diogelu;

  Cryfhau gofal cartref;

  Hybiau Cymunedol;

  Gweithio mewn partneriaeth gyda'r Bwrdd Iechyd;

  Pobl Hŷn yn integreiddio gyda phobl ifanc;

  Cynllun Ymyrraeth Gynnar;

  Tîm o Amgylch y Teulu;

  Ariannu'r Sector Gwirfoddol.

 

Gofynnwyd am wybodaeth am y gwasanaeth gofal cartref yn Ynys Môn. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ar sut mae'r gwasanaeth wedi esblygu. Dywedodd fod y ddarpariaeth gofal cartref mewn ardaloedd trefol yn gweithio'n dda, ond ei fod yn anos i’w gyflawni mewn ardaloedd gwledig. Adroddodd ymhellach y bydd y Gwasanaeth yn mynd allan i dendr yn fuan, a bod angen sefydlu tri phecyn gofal - gyda staff wedi'u lleoli yng ngogledd, canolbarth a de Ynys Môn. Bydd yr Awdurdod yn gweithio ar y cyd gyda'r Bwrdd Iechyd, a bydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol ar Gwynion – Gwrando a Dysgu o Gwynion (Gwasanaethau Cymdeithasol) pdf eicon PDF 606 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant ar ddyletswydd y Cyngor i ddarparu Adroddiad Blynyddol ar weithrediad y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini perthnasol i fonitro'r trefniadau ar gyfer ymdrin yn effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u  cynrychiolwyr.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu a Sicrhau Ansawdd) grynodeb manwl o'r adroddiad a oedd yn cyfeirio at sylwadau cadarnhaol a negyddol am y gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt 8 yn yr adroddiad – y protocol ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a godwyd yn y sesiwn friffio ac a gymeradwywyd gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

Nododd yr Aelodau sylwadau a wnaed gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn ystod 2015/16 ynghylch y gwasanaethau a ddarparwyd gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal, cydnabu’r Aelodau berfformiad yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wrth weithredu'r Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a delio â chwynion.

 

Croesawodd y Pwyllgor y Cynllun Gweithredu ar gyfer datblygu'r trefniadau ar gyfer ymdrin yn effeithiol â sylwadau a chwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad a gofynnodd a oedd Adroddiad Cwynion Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei rannu gyda'r Swyddog Cwynion Corfforaethol i gyferbynnu fformatau. Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y gellid ei rannu’n gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD:

 

  Bod y trydydd argymhelliad ym mhwynt 8 yr adroddiad yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer 2016/17;

 

  Bod yr adroddiad blynyddolGwrando a Dysgu o Gwyniongan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei rannu’n gorfforaethol.

 

Gweithredu: Bod Swyddog Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (S. Shanahan) yn gweithredu ar benderfyniadau 1 a 2 a bod y Rheolwr Sgriwtini yn gweithredu ar benderfyniad 3.

6.

Rhaglen Waith Sgriwtini pdf eicon PDF 552 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolydd Sgriwtini.

Cofnodion:

CyflwynwydBlaenraglen Waith y Pwyllgor am y cyfnod o fis Mai, 2016 i fis Mai, 2017.

 

Crybwyllodd un Aelod y math o adroddiadau oedd yn cael eu rhannu gyda Sgriwtini a gofynnodd i Gyfarwyddwr dynodedig y Gwasanaethau Cymdeithasol a yw sgriwtineiddio ansawdd y gwasanaethau cymdeithasol yn flaenoriaeth fel yr oedd hi’n ei dybio.

 

Yn ogystal, nodwyd bod tendro am wasanaethau gofal cartref, ôl-ofal a thaliadau Teleofal yn y Gwasanaethau Oedolion oll ar y Rhaglen Waith hyd at fis Tachwedd, ond nad oedd unrhyw eitemau ar ôl y dyddiad hwnnw. Holwyd a oedd yn deg mai'r unig ffordd i sgriwtineiddio ansawdd yn ystod y cyfnod hwn oedd trwy'r Cerdyn Sgorio?

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol trwy ddweud ei bod yn bwysig cynnwys themâu perthnasol, a chynigiodd siarad â'r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd a'r Rheolwr Sgriwtini.

                                                         

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.