Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r holl Aelodau a Swyddogion i'r cyfarfod ac yn arbennig i aelodau Llais Ni oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gyllideb 2017/18. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Diweddariad y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd wrth y Pwyllgor nad oedd ganddynt unrhyw faterion i adrodd arnynt. |
|
Cofnodion Cyfarfod 21 Tachwedd, 2016 PDF 232 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2016. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. Materion yn codi –
• Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro y bydd unrhyw feysydd y mae’r Pwyllgor yn ystyried ei fod angen esboniad a / neu eglurhad arnynt mewn perthynas â’r rôl Sgriwtini yng nghyswllt y Rhaglen Drawsnewid a’r byrddau prosiect yn cael sylw fel rhan o'r adolygiad sgriwtini sydd wedi cychwyn yn ddiweddar. • Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yr adroddiad Archwilio Allanol y disgwylir amdano ynghylch salwch ar gael eto; byddai dyddiad tebygol cyhoeddi’r adroddiad yn cael ei godi fel mater mewn cyfarfod gyda swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddarach yn yr wythnos. Cadarnhaodd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. • Gyda golwg ar gynnwys y Gwasanaeth Anabledd Dysgu fel pwnc ar gyfer sesiwn friffio i'r Aelodau, dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y bydd nifer o eitemau’n cael eu cynnwys yn y sesiynau briffio a gynhelir cyn diwedd cyfnod y Cyngor hwn a bod pynciau ychwanegol yn cael eu cynnig rhwng nawr a mis Mawrth. |
|
Cynrychiolaeth ar y Bwrdd Diogelu Corfforaethol PDF 566 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro yn gofyn am enwebiad o blith aelodau'r Pwyllgor i wasanaethu fel cyswllt y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Bwrdd Diogelu Corfforaethol. ‘Roedd yr adroddiad yn crynhoi cefndir a chyd-destun y cais a gododd o gasgliadau ac argymhellion y Panel Canlyniad Sgriwtini ar faterion Diogelu a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2016. ‘Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am gylch gorchwyl y Bwrdd Diogelu Corfforaethol er mwyn helpu i wneud y dewis.
Penderfynwyd enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i wasanaethu fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar Fwrdd Diogelu Corfforaethol Ynys Môn. |
|
Gosod Cyllideb 2017/18 (Refeniw a Chyfalaf) PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro yn ymgorffori’r canlynol –
· Adroddiad Swyddog Datblygu Llais Ni ar ymateb pobl ifanc i gynigion arbedion cyllideb 2017/18 (Atodiad 4).
Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro. ‘Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cyd-destun i'r broses o osod cyllideb 2017/18 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol ar gyfer Sgriwtini wrth werthuso'r cynigion ar gyfer y Gyllideb, ac ‘roedd yn ymgorffori'r dogfennau canlynol –
6.1 Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb Refeniw arfaethedig ar gyfer 2017/18 (Atodiad 1)
Crynhodd y Cadeirydd y broses ar gyfer gosod y gyllideb hyd yma, gan gynnwys archwiliad y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o'r cynigion cychwynnol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref, 2016 cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Ar ôl yr ymarfer ymgynghori, lluniwyd set o gynigion terfynol a oedd yn cymryd i ystyriaeth yr adborth gan y cyhoedd ac ‘roedd y rheini wedi eu cyflwyno i’r cyfarfod heddiw am sylw cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2017 i’w hargymell yn ffurfiol i'r Cyngor llawn ar ddiwedd y mis hwn.
Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y cynigion cyllidebol cychwynnol wedi nodi £2.9m o arbedion ar sail y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru a chynnydd o 3% yn y Dreth Gyngor. Cyhoeddwyd ffigyrau’r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr, 2016 ac arweiniodd hynny at gynnydd yn y Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer Cymru ac, o ganlyniad, cafodd Ynys Môn £0.364m ychwanegol o gymharu â’r ffigwr dros dro. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi cymryd hyn i ystyriaeth, yn ogystal â'r angen i ailasesu'r pwysau ar wasanaethau; sef pwysau a deimlir fwyaf yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion a hefyd yn y Gyllideb Addysg All-Sirol fel yr amlinellir yn adran 5 yr adroddiad. Mae'r Gwasanaeth Cyllid wedi adolygu'r arbedion a gyflwynwyd ac mae wedi nodi nad oes modd cyflawni gwerth £314k o arbedion yn 2017/18 (Tablau 3 a 4 yr adroddiad).
Mae Tabl 6 yr adroddiad yn cymharu’r taliadau a godir am y Dreth Gyngor yn Ynys Môn â’r rheini a godir gan yr awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru ac mae Tabl 7 yn nodi effaith y gwahanol godiadau yn lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18. Mae'r adroddiad hefyd yn mynd i'r afael â'r risgiau ariannol cynhenid yn y gyllideb arfaethedig sy'n ymgorffori nifer o dybiaethau ynghylch lefelau tebygol incwm a gwariant yn y dyfodol. Mae'r manylion i’w gweld yn adran 7.
Ar ôl ystyried y cyllid sydd ar gael a'r cynnydd yn y Cyllid Allanol Cyfun ers llunio’r cynigion cyllidebol cychwynnol, yn ogystal â chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi diwygio ei gynigion terfynol ar gyfer y gyllideb ac mae’r prif newidiadau i’w gweld yn adran 10 yr adroddiad. Mae Tabl 8 yn yr adroddiad yn crynhoi’r gofynion a’r cyllid y bydd ei angen i ddarparu cyllideb gytbwys ar gyfer 2017/18.
Cyfeiriodd y Swyddog at adran 13 yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg strategol o'r sefyllfa bosib yn y tymor canol ac a oedd yn nodi’r senario ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |