Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 21ain Tachwedd, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Diweddariad gan y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor nad oedd ganddo unrhyw ddatblygiadau i adrodd yn eu cylch  heblaw am nodi ei fod wedi mynychu cyfarfodydd o'r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi a mis Hydref yn benodol i gyfleu safbwyntiau’r Pwyllgor Sgriwtini mewn perthynas â’r Gyllideb a Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1, ynghyd  â chanfyddiadau'r Panelau Canlyniad Sgriwtini ar Ddiogelu Corfforaethol a Gosod Tai Gweigion. Nodwyd hefyd fod yr Is-Gadeirydd wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith ar 7 Tachwedd, 2016 i adrodd ar yr ymateb Sgriwtini i’r  cynigion ar gyfer Cyllideb ddrafft gychwynnol 2017/18.

3.

Cofnodion Cyfarfod 12 Medi, 2016 pdf eicon PDF 382 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:

 

·         12 Medi, 2016

·         19 Hydref, 2016 (cyfarfod y Gyllideb)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Medi ac 19 Hydref, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o gofnodion cyfarfod 12 Medi, 2016 -

 

           Mewn perthynas â'r cais a wnaed i egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau’r cynrychiolwyr Sgriwtini mewn perthynas â’r Rhaglen Drawsnewid a Byrddau Prosiect ac i gael eglurhad ar y y broses ar gyfer rhoi adborth ohonynt, cadarnhaodd y Cadeirydd fod ffordd ymlaen wedi ei chytuno ers mis Medi ac yr adroddir ar hynny i'r Pwyllgor maes o law.

           Dywedodd y Cadeirydd, a chadarnhaodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro, fod y Prif Weithredwr wedi cadarnhau y bydd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ei waith mewn perthynas ag absenoldeb salwch ar gael i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol pan fydd wedi ei gyhoeddi, a chyn iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith, a bod angen neilltuo amser yn y Rhaglen Waith i’r Pwyllgor roi sylw iddo.  

           O ran yr adroddiad ar berfformiad y Gwasanaethau Plant yr oedd y Pwyllgor wedi penderfynu’n wreiddiol y dylid ei drefnu ar gyfer y cyfarfod hwn, dywedodd y Cadeirydd fod adroddiad cynhwysfawr ar y Gwasanaethau Plant y sgil yr arolygiad gan AGGCC bellach wedi ei ymgorffori o fewn y rhaglen ar gyfer y Pwyllgor a gynhelir ar 13 Mawrth, 2017.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, i neilltuo lle priodol yn Rhaglen Waith y Pwyllgor ar gyfer ystyried adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar salwch.

4.

Monitro Perfformiad : Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol Ch2 2016/17 pdf eicon PDF 936 KB

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol am Chwarter 2 2016/17.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid a oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ac yn nodi sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel y cawsant eu hamlinellu a’u cytuno rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth / y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol ar ddiwedd Chwarter 2, 2016/17.

 

Yn dilyn y drafodaeth am y Rhaglen Drawsnewid a’r Byrddau Prosiect yn gynharach yn yr haf a’r ffaith bod y Pwyllgor Sgriwtini wedi nodi ei fod yn ansicr ynghylch ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau  fel y cyfeirir atynt o dan eitem 3 uchod, dywedodd y Pennaeth Trawsnewid fod y Tîm Trawsnewid wedi paratoi dwy lifsiart esboniadol, sef un sy'n ymwneud â'r Bwrdd Rhaglen Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes a’r llall yn ymwneud â’r Bwrdd Rhaglen Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau. Mae'r siartiau’n nodi pwy sy'n gyfrifol am beth yn ogystal â dangos y cyswllt rhwng Sgriwtini a'r Byrddau Rhaglen.

 

Cafwyd adroddiad gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid Perfformiad ac Adnoddau Dynol ar berfformiad mewn perthynas â Rheoli Pobl a chyfraddau salwch y Cyngor yn benodol. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod cyfraddau salwch ar ddiwedd Chwarter 2 yn dangos gwelliant bychan (4.89 diwrnod o salwch am bob gweithiwr amser llawn cyfatebol) o gymharu â’r llynedd (5.33 diwrnod). Nid oedd y ffigurau a nodwyd yn yr ystadegau absenoldeb salwch eleni yn cynnwys diwrnodau i ffwrdd yn sâl oherwydd profedigaeth (414 diwrnod) a oedd, o’u cynnwys yn y cyfrifiad, yn dod â'r canlyniad i 5.02 diwrnod am bob gweithiwr amser llawn cyfatebol, sy’n dal i fod ychydig yn well. Felly, er bod y data yn dangos bod y duedd yn gwella, mae’r cynnydd yn araf ac, oherwydd maint y Cyngor, bydd absenoldeb oherwydd salwch yn cyrraedd pwynt yn y dyfodol lle na fydd y sefyllfa’n gwella a bydd hynny’n golygu y bydd yn anodd gwneud cynnydd y tu hwnt i'r pwynt hwnnw. Mae'r Panelau Her Salwch sy’n monitro sut y cynhelir y Cyfarfodydd Adolygu Presenoldeb yn cael effaith, ac mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn parhau i herio perfformiad yn gadarn. Er bod  perfformiad salwch yr ysgolion yn parhau i fod yn bryder, maent wedi cael canllawiau ar sut i gymryd camau i wella’r sefyllfa. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo a pharheir i herio’r Penaethiaid Gwasanaeth i wella perfformiad eu gwasanaethau o ran absenoldeb salwch cyn y ddau chwarter sy'n debygol o fod y rhai anoddaf mewn perthynas â chyfraddau salwch yn y Cyngor.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r wybodaeth yn yr adroddiad a chododd y materion canlynol –

 

           O ran Rheoli Pobl, ‘roedd y Pwyllgor o’r farn ei bod yn gynamserol i fod yn siarad am gyrraedd pwynt lle byddai’n debygol y byddai llai o gynnydd yn cael ei wneud o ran gostwng cyfraddau absenoldeb salwch.  ‘Roedd y Pwyllgor o'r farn bod lle i wella’r cyfraddau ac y gallai adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, pan gaiff ei gyhoeddi, gyflwyno syniadau ac awgrymiadau ychwanegol ar gyfer gwella’r sefyllfa. Cydnabuwyd y pwynt hwn gan yr Aelod Portffolio ar gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro'r Gyllideb: Y Gyllideb Refeniw Ch2 2016/17 pdf eicon PDF 412 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r  Gyllideb  Refeniw am Chwarter 2 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer ail chwarter 2016/17 ynghyd â'r sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid nad oedd y sefyllfa yn wahanol iawn i’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1. O ran sefyllfa ariannol 2016/17, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa’r Dreth Gyngor, rhagwelir gorwariant o £660k, sef 0.53% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2016/17. ‘Roedd manylion am berfformiad ariannol y gwasanaethau unigol yn y cyfnod, ynghyd â’r  canlyniadau a ragwelir ar gyfer pob un, i’w gweld yn Atodiad B i'r adroddiad. Dywedodd yr Aelod Portffolio mai un maes sy’n sefyll allan yw’r Gwasanaethau Plant a bod y gwariant arnynt £299k yn uwch na’r gyllideb a broffiliwyd ar hyn o bryd ac y rhagwelir y bydd  gorwariant o £683k (9.18%) ar gyfer y flwyddyn ariannol yn ei chyfanrwydd. Mae'r gorwariant i'w briodoli i raddau helaeth i gynnydd yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal a chynnydd hefyd yng nghostau lleoliadau i gwrdd ag anghenion cymhleth plant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi cymryd camau lliniaru er mwyn rheoli gwariant yn y maes. Mae'r camau hyn yn cynnwys  mabwysiadu dull ymyrraeth gynnar ataliol o weithredu mewn perthynas â sicrhau lles plant, a hynny trwy greu Tîm Trothwy Gofal a buddsoddi arian ychwanegol yn y Gwasanaethau Plant eleni ac yn ddwy flynedd ddilynol fel y disgrifir ym mharagraff 3.3.2 o'r adroddiad. Mae Cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod yn cynnig opsiwn y gellid syrthio’n ôl arno ond y nod yw ceisio osgoi defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb. Mae profiad y blynyddoedd diwethaf wedi dangos bod sefyllfa ariannol y rhan fwyaf o wasanaethau yn tueddu i gywiro ei hun erbyn diwedd y flwyddyn, ond mae’r Gwasanaethau Plant yn eithriad lle bu ymyrraeth i reoli'r gyllideb.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad fel y'i cyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

           Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch a oes Cynllun B i fynd i'r afael â'r sefyllfa os bydd y gyllideb wedi gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio mai’r opsiwn arall sydd ar gael yw troi at gronfeydd wrth gefn y Cyngor fel "arian diwrnod glawog". Fodd bynnag, mae profiad y blynyddoedd blaenorol wedi dangos nad oes fawr o angen gwneud hynny.

           Nododd y Pwyllgor y tanwariant o £170k a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn mewn perthynas â Rheoleiddio (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) a gofynnodd am eglurhad nad oedd hyn ar draul capasiti o fewn yr Adran Rheoleiddio. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd bod gan y swyddogaeth gynllunio ddigon o adnoddau, yn enwedig o ran materion gorfodaeth ac AHNE. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) y byddai'n codi'r mater gyda'r Pennaeth Rheoleiddio ac Economaidd gyda golwg ar gymharu'r gymhareb staffio yn Adran Reoleiddio Cyngor Sir Ynys Môn gyda’r gymhareb mewn awdurdodau eraill.

           Nododd y Pwyllgor, er yr ystytrir bod y cronfeydd wrth gefn yn ddigonol i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro'r Gyllideb: Y Gyllideb Gyfalaf Ch2 2016/17 pdf eicon PDF 393 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Gyfalaf am Chwarter 2 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, er bod y gwariant a broffiliwyd hyd at ddiwedd yr ail chwarter ar gyfer y Gronfa Gyffredinol yn 95%, dim ond 30% o'r gyllideb flynyddol a wariwyd hyd yma. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio bod nifer o'r cynlluniau cyfalaf yn gwario yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol ac erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, disgwylir y bydd 95% o'r gyllideb wedi ei wario.

Nododd y Pwyllgor mewn perthynas â'r Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (LlLlLlA) mai dim ond £0.380m o'r grant oedd wedi ei wario ar ddiwedd yr ail chwarter. Er y disgwylir y bydd y grant wedi ei wario’n llawn erbyn diwedd y flwyddyn, nododd y Pwyllgor, o ystyried lefel y gwariant y byddai ei angen yn ail hanner y flwyddyn ariannol, fod perygl na fyddir yn cyrraedd y lefel gwariant gofynnol, ac y collir y grant. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y Grant yn cwmpasu tri phrif brosiect ac eglurodd eu cymhwyster ar gyfer derbyn cyllid a'r cam yr oedd pob un ohonynt wedi ei gyrraedd. Cadarnhaodd y Swyddog bod pob prosiect yn cael ei fonitro'n ofalus a bod cynlluniau wrth gefn ar gyfer pob un. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) ei bod yn hyderus y byddai'r grant yn cael ei wario’n llawn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Nododd y Pwyllgor hefyd y dylid bod yn derbyn dychweliadau ariannol ar y buddsoddiad a wnaed yn y portffolio mân-ddaliadau erbyn hyn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 y bydd yr incwm rhent o’r stad mân-ddaliadau yn 2017/18 yn fwy na £ 500k ac y bydd £250k ohono’n cael ei neilltuo ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw bob blwyddyn, gyda’r gwarged yn cael ei ddefnyddio i helpu gyda phrif gyllideb y Cyngor.

 

Penderfynwyd nodi'r gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

7.

Llyfrgelloedd yn Gwneud Gwahaniaeth - Pumed Fframwaith Ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2014/17: Adroddiad Blynyddol CSYM 2015/16 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dysgu a oedd yn ymgorffori Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015/16 ynghyd ag asesiad Llywodraeth Cymru (MALD) o Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd gyfer 2015/16.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell fod yr Adroddiad Blynyddol (Atodiad 2) yn cynnwys crynodeb o berfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth yn ystod 2015/16 a’i fod wedi ei gyflwyno i MALD ar ffurf ddrafft. Mae'r asesiad yn dangos bod y gwasanaeth yn perfformio'n dda a’i fod wedi cyfarfod 17 o'r hawliau craidd yn llawn ac wedi cwrdd yn rhannol â’r un a oedd ar ôl fel yr  ymhelaethodd y Swyddog. O'r 7 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, llwyddodd Ynys Môn i gyflawni 4 ohonynt yn llawn a 3 yn rhannol, sydd yn debyg i berfformiad 2014/15. Fodd bynnag, mae MALD yn mynegi pryder am rai meysydd, yn enwedig o ran y safon sy'n ymwneud â chyfanswm nifer y staff sydd ar y sefydliad a nifer y staff proffesiynol fesul pen o’r boblogaeth sydd, fel y mae MALD yn nodi, yn safonau sydd gryn bellter o fod wedi eu cyflawni.  Dywedodd y Swyddog fod perfformiad yn gyffredinol debyg i berfformiad y llynedd, gyda rhai gwelliannau amlwg o ran pa mor gyflym y gellir cyflawni’r hyn y gofynnir amdano a chwrdd â hawliau craidd. Mae'r mater staffio isel yn parhau ac mae’n cael ei amlygu gan MALD.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar rai o'r dangosyddion a'r hyn a ddisgwylir ganddynt.  Nododd y Pwyllgor fod perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn dda ar y cyfan yn enwedig o ystyried y cyd-destun o orfod cwrdd a chynnal y safonau gydag adnoddau sy'n lleihau. Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y sefyllfa staffio sy’n parhau, yn enwedig o ran staff proffesiynol, a cheisiodd sicrwydd ynghylch cadernid y gwasanaeth o ran ei allu i barhau i fodloni’r disgwyliadau arno. Holodd y Pwyllgor a oedd modd recriwtio i ddiogelu rhag dirywiad yn safon y gwasanaeth yn y dyfodol. Dywedodd y Pennaeth Dysgu nad oedd yr Awdurdod mewn sefyllfa i ystyried ychwanegu at ei gyflenwad o staff proffesiynol a bod y Gyfadran Dysgu Gydol Oes o dan bwysau i fod mor effeithiol ac effeithlon ag y bo modd, a bod hynny’r un mor berthnasol i'r Gwasanaeth Llyfrgell ag ydyw i wasanaethau eraill o fewn y gyfadran. Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi cynnig rhai arbedion, a hynny o fewn cyd-destun o wasanaeth sydd eisoes wedi ei gwtogi. Y gobaith yw y bydd yr ailfodelu arfaethedig o gymorth i daclo a goresgyn rhai o'r problemau sy'n wynebu'r gwasanaeth.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015/16.

           Nodi asesiad Llywodraeth Cymru (MALD) o Adroddiad Blynyddol 2015/16 y Gwasanaeth Llyfrgell a materion sy'n codi.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

8.

Newidiadau i'r Polisi Codi Tâl - Gwasanaethau Gofal Cartref pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn nodi'r opsiynau ar gyfer gweithredu newidiadau i'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cartref. Mae'r adroddiad yn amlinellu’r cefndir, y sefyllfa bresennol, yn ogystal â’r sail gyfreithiol ar gyfer codi tâl am ofal.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad gweledol gan amlygu’r ystyriaethau allweddol a'r rhesymeg dros newid fel a ganlyn:

 

           Bod pedwar opsiwn ar gael (yn unol â pharagraff 2 o'r adroddiad ysgrifenedig) y bwriedir ymgynghori arnynt rhwng mis Tachwedd, 2016 ac Ionawr 2017.

           Mae gan Ynys Môn bolisi hanesyddol a hynod o godi £15 yr wythnos ar unigolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Mae hyn yn is na'r gyfradd a nodir yn y canllawiau.

           Bod yr egwyddorion ar gyfer newid yn seiliedig ar gydymffurfio â chanllawiau statudol; yr angen i sefydlu strwythur codi tâl tecach a mwy cynaliadwy fel bod unigolion yn talu tâl priodol, a'r angen i'r Awdurdod adennill y gost o ddarparu gwasanaethau yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

           Bod gofal cartref yn costio £4.45m ar hyn o bryd a bod £462k ohono’n incwm.

           Yn dilyn ymlaen o'r broses arbedion, nodwyd bod angen i'r Awdurdod godi ffioedd priodol am y gwasanaethau a ddarperir.  .

           Yn seiliedig ar weithredu dull bandio (y mae angen ei fabwysiadu er mwyn cydymffurfio â pharamedrau gweithredol system gorfforaethol y Cyngor ar gyfer asesiadau ariannol a thaliadau / anfonebau), bydd 68 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn gweld cynnydd yn y tâl a godir arnynt a byddai 18 yn talu llai.

           Nid oes a wnelo’r newidiadau arfaethedig ddim â’r cynnydd cenedlaethol y disgwylir i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno yn y tâl uchaf y gellir ei godi am ofal cartref o fis Ebrill, 2017.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y pwyntiau canlynol

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y gwahaniaethu mewn cyfraddau budd-daliadau i bobl dros yr oed pensiwn a phobl dan oed pensiwn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod pobl o dan oed pensiwn yn cael eu diffinio’n genedlaethol fel pobl sy’n gallu gweithio a chael mynediad i fudd-daliadau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag anabledd. Gofynnodd y Pwyllgor fod yr esboniad am y gwahaniaeth hwn yn cael ei egluro yn yr ymgynghoriad.

           Nododd y Pwyllgor, yn ôl y cyfraddau budd-daliadau a thaliadau gwasanaeth a nodwyd ym mharagraff 1.5 yr adroddiad, y bydd rhai defnyddwyr gwasanaeth ar eu hennill o ganlyniad i'r newidiadau a bod hynny’n groes i’r syniad o gyflwyno system sy’n fwy cyson a theg. Cydnabu’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod hynny’n bosibilrwydd a dywedodd y byddai'r gwasanaeth yn cyflwyno mesurau diogelu i atal hynny rhag digwydd ac y byddai’n diwygio'r tabl yn unol â hynny. Gofynnodd y Pwyllgor am gopi o'r cyfraddau a’r taliadau diwygiedig.

           Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch a oedd y nod o gyflwyno cysondeb o ran taliadau yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Newidiadau i'r Polisi Codi Tâl - Gwasanaethau Teleofal pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn nodi'r opsiynau ar gyfer newid y polisi codi tâl ar gyfer gwasanaethau teleofal.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad gweledol ar y sefyllfa bresennol a'r rhesymeg dros newid. Dywedodd y Swyddog, o ganlyniad i wahanol resymau hanesyddol, fod amryw o daliadau’n gysylltiedig â Gwasanaethau Teleofal a bod angen ailiniad graddol i sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bob defnyddiwr gwasanaeth. Mae’r trefniadau ar gyfer y ffioedd cyfredol yn gymhleth ac mae'r Gwasanaeth o’r farn y dylid safoni ffioedd i sicrhau tegwch a lleihau'r gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r system gyfredol.

 

Penderfynwyd cytuno bod Swyddogion yn ymgynghori am gyfnod gyda’r defnyddwyr a effeithir ynghylch y pedwar opsiwn a amlinellir yn yr adroddiad cyn cyflwyno argymhellion terfynol i’r Pwyllgor Gwaith.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

10.

Eitem er Gwybodaeth - Y Gwasanaeth Anabledd Dysgu Cymunedol pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Yn unol â’r cais a wnaed gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym Mawrth 2016, cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn amlinellu'r sefyllfa a'r cynnydd gyda’r Rhaglen Drawsnewid o fewn y Gwasanaeth Anableddau Dysgu. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r gweithgareddau hyd yma sydd o fewn cwmpas y prosiectau unigol a restrir ym mharagraff 2.2 yr adroddiad, ynghyd â'r cynllun gwaith i’r dyfodol ar gyfer pob un o'r prosiectau a'r gweithgareddau allweddol yn eu sgil.

 

Awgrymwyd y dylid rhoi proffil uwch i’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu o ran busnes y Pwyllgor hwn ac fel maes ar gyfer sgriwtini ynddo’i hun.  Cytunwyd y dylid ei argymell fel pwnc i gael sylw mewn sesiwn friffio i Aelodau yn y Flwyddyn Newydd a bod y  Pwyllgor yn penderfynu wedyn a ddylid ei dilyn i fyny fel maes ar gyfer sgriwtini.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad fel datganiad sefyllfa ar y Gwasanaeth Anabledd Dysgu a chymeradwyo'r datblygiadau arfaethedig o fewn y gwasanaeth.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Y Gwasanaeth Anabledd Dysgu i gael ei gynnwys fel pwnc ar gyfer sesiwn friffio i'r Aelodau yn y Flwyddyn Newydd.

11.

Eitem er Gwybodaeth - Blaenrhaglen Waith pdf eicon PDF 539 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro a oedd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor hyd at Ebrill, 2017.

 

Nododd y Pwyllgor bod nifer o eitemau sylweddol ar raglen y cyfarfod a gynhelir ym Mawrth 2017.  Dywedodd y Cadeirydd y gellir adolygu’r sefyllfa yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror, 2017 ac y gellir trefnu cyfarfod arbennig os bydd angen.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r adroddiad.