Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac wedi hynny fe wnaed y cyflwyniadau ffurfiol. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb personol ond nad oeddent yn rhagfarnu gan y Cynghorwyr Richard Griffiths, Aled Morris Jones, Richard Owain Jones, Dylan Rees, Nicola Roberts, Alun Roberts a Robin Williams (nad yw'n aelod o'r Pwyllgor) mewn perthynas ag Eitem 3 ar y rhaglen ar sail gwaith gwirfoddol yr oeddent wedi'i wneud yn ystod cyfnod clo Covid-19. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 339 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2020. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Craffu ar Ymateb y Cyngor i'r Argyfwng Covid-19 (Gan gynnwys yr Effaith Ariannol) PDF 623 KB · Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.
· Cyflwyno adroddiad ar lafar gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtni Cyllid. Cofnodion: Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Prif Weithredwr yn amlinellu ymateb y Cyngor hyd yma i'r pandemig Covid-19 yn unol â'i gyfrifoldebau o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posib 2004 mewn perthynas â pharatoi ar gyfer argyfwng a chydlynu ymateb ar lefel leol.
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad trwy bwysleisio bod yr ymateb i'r pandemig yn dal i fynd rhagddo ac y gall y sefyllfa, ac ymateb y Cyngor iddi, newid yn gyflym iawn. Mae'n dal i fod yn gyfnod ansicr a heriol i bawb. Er bod y Cyngor wedi bod yn canolbwyntio'n bennaf ar ymateb i'r argyfwng Covid-19, yn ystod yr wythnosau diwethaf mae wedi bod yn gweithredu dull deuol er mwyn cynllunio ar gyfer yr adferiad ac ailagor gwasanaethau'n raddol, gan gofio bod y sefyllfa'n parhau i fod yn fregus a bod y normal newydd cryn bellter i ffwrdd. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y cydweithredu ardderchog a welwyd yn Ynys Môn rhwng staff yr holl wasanaethau, aelodau etholedig a phartneriaid y Cyngor yn y gymuned a hefyd yn ehangach ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, a phwysleisiodd bwysigrwydd parhau i weithio fel tîm os am reoli a goresgyn y feirws Covid 19. Dywedodd ymhellach, at ddibenion craffu, fod yr adroddiad a gyflwynir heddiw yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:
- effeithiolrwydd y strwythurau a'r trefniadau llywodraethu a'r prosesau mewnol ar gyfer rheoli'r argyfwng; - llwyddiant y trefniadau ar gyfer diogelu unigolion bregus (plant, pobl ifanc ac oedolion); - effaith y pandemig ar sefyllfa ariannol y Cyngor a'r mesurau lliniaru a sefydlwyd ar gyfer y tymor byr a'r tymor canol; - nodi gwersi a ddysgwyd er mwyn eu defnyddio i lywio ymateb y Cyngor i'r cyfnod adfer ar gyfer y normal newydd; - cynorthwyo gyda'r gwaith paratoi ar gyfer unrhyw ymchwydd dilynol
Wrth arwain y Pwyllgor trwy'r adroddiad yn fanylach, cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weithredwr at yr agweddau canlynol a chadarnhaodd fod holl flaenoriaethau a phenderfyniadau'r Cyngor trwy gydol y cyfnod wedi cael eu gyrru gan ystyriaethau diogelwch - sef diogelwch staff a'r gymuned; parhad busnes - yn enwedig gwasanaethau rheng flaen; a gwaith newydd - llawer ohono'n waith annisgwyl ond lle bu'n rhaid i'r Cyngor ymateb ac addasu ar unwaith.
• Trefniadau Llywodraethu - rhoddwyd trefniadau llywodraethu ar gyfer cynlluniau argyfwng ar waith yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol er mwyn arwain yr ymateb i'r pandemig. Ar lefel leol sefydlodd y Cyngor Dîm Rheoli Ymateb i'r Argyfwng (TRhYA) i arwain ymateb yr Awdurdod Lleol i Covid 19, a oedd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth. Ar y cychwyn ‘roedd y TRhYA yn cyfarfod yn ddyddiol er mwyn cydlynu ymateb y Cyngor i'r pandemig. ‘Roedd elfen o sicrwydd wedi ei adeiladu i mewn i’r ymateb yar ffurf Adroddiadau Sefyllfa dyddiol a oedd yn cael eu paratoi er mwyn crynhoi'r materion a'r risgiau allweddol, a hynny fel y gellid llywio ac uwchgyfeirio materion yr oedd angen rhoi sylw iddynt. Roedd ffrydiau gwaith y TRhYA yn canolbwyntio ar y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd blaenraglen waith y Pwyllgor i’w hystyried.
Penderfynwyd –
• Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaenraglen waith ar gyfer 2020/21 yn amodol ar gynnwys lles gweithwyr y Cyngor a chymunedau'r Ynys, a monitro'r strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu fel meysydd blaenoriaeth y dylid ailedrych arnynt yn y dyfodol. • Nodi’r cynnydd hyd yma wrth weithredu'r flaenraglen waith hon.
GWEITHREDU: Rheolwr Sgriwtini i ddiweddaru’r flaenraglen waith yn unol â’r uchod. |