Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd yr holl Aelodau a Swyddogion i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a fyddai’n ystyried y cynigion cychwynnol ar gyfer gosod y cyllidebau cyfalaf a refeniw ar gyfer 2021/22. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol PDF 340 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 17 Tachwedd, 2020 · 10 Rhagfyr, 2020 (arbennig) · 17 Rhagfyr, 2020 (arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwywyd a chadarnhawyd cofnodion blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir –
17 Tachwedd, 2020 10 Rhagfyr, 2020 (arbennig) 17 Rhagfyr, 2020 (arbennig) |
|
Gosod Cyllideb 2021/2022 (Cyllideb Refeniw) PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses gosod Cyllideb ar gyfer 2021/22 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini wrth arfarnu cynigion cyllideb cychwynnol y Pwyllgor Gwaith gan gymryd i ystyriaeth y prif negeseuon o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y dogfennau a ganlyn ynghlwm i’r adroddiad –
3.1 Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb refeniw 2021/22 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Ionawr 2020 ac a oedd yn cynnwys datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â chynigion cyllidebol cychwynnol y Pwyllgor Gwaith; setliad amodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol; y sefyllfa gychwynnol ar gyfer cyllideb 2021/22; y Dreth Gyngor; cronfeydd wrth gefn a balansau’r Cyngor; cynigion ar gyfer arbedion; pwysau ar y gyllideb; risgiau a’r effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol.
Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad cyllideb a’r cynigion cyllideb drwy ddweud y deuant ar ddiwedd blwyddyn o heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Mae’n rhaid i’r Cyngor gydbwyso ei ddyhead i gadw cynnydd yn y Dreth Gyngor mor isel â phosib gyda’r angen i ymgorffori gwydnwch yn ei gyllideb mewn parodrwydd ar gyfer heriau yn y dyfodol. Roedd yn cydnabod bod y Dreth Gyngor yn fater cynhennus gan fod disgwyl i’r dreth godi bob blwyddyn; yn bersonol roedd yn credu ei bod yn system annheg ac amhriodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ond, oherwydd i Ynys Môn dderbyn setliad amodol gwell na’r disgwyl ar gyfer 2021/22 gan Lywodraeth Cymru roedd yn bosib i’r Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar sail cynnydd arfaethedig o 3.75% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22. Fodd bynnag, mae amseriad setliad Llywodraeth Cymru yn broblem o hyd ac mae’n ffordd anfoddhaol o ariannu cynghorau lleol ac ni fydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 2 Mawrth 2021 - wythnos yn unig cyn y mae disgwyl i’r Cyngor gwblhau a gosod ei gyllideb ar gyfer 2021/22. Mae’r adroddiad cyllideb yn nodi nifer o ystyriaethau ar gyfer gosod cyllideb 2021/22 ac un o’r elfennau allweddol yw’r Contract Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd newydd fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2021. Mae cost y contract newydd yn sylweddol uwch na’r gyllideb bresennol ac ynddo’i hyn mae'n gyfystyr â chynnydd o 3% yn y Dreth Gyngor. Hefyd, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi nodi’r angen i sicrhau cyflenwad o weithwyr sydd â chymwysterau a phrofiad addas ar gyfer y dyfodol fel maes blaenoriaeth ac mae’n awyddus i ailsefydlu’r Rhaglen Hyfforddi Broffesiynol i gynorthwyo i fynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau posib y gallai’r Cyngor ei wynebu.
Cafwyd cyflwyniad gweledol gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 a oedd yn rhoi trosolwg a chyd-destun y gyllideb refeniw, a thynnodd sylw at y prif agweddau ac ystyriaethau a oedd yn effeithio ar lefel y Dreth Gyngor fel a ganlyn –
• Roedd y gyllideb gychwynnol ar gyfer 2021/22, ar sail y rhagamcan yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol, yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Gosod Cyllideb 2021/2022 (Cyllideb Gyfalaf) PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses gosod Cyllideb Gyfalaf 2021/22 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini wrth werthuso cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb gyfalaf gan gymryd i ystyriaeth y prif negeseuon o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y dogfennau a ganlyn ynghlwm i’r adroddiad –
4.1 Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar gynigion cychwynnol cyllideb gyfalaf 2021/22 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Ionawr 2021 ac a oedd yn cynnwys datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â sefyllfa cyllideb gyfalaf gychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2021/22; lefel y gwariant cyfalaf; effaith benthyca ar y gyllideb refeniw oherwydd costau cyllido cyfalaf; costau refeniw parhaus (e.e. cynnaliaeth); pwysau cyllidebol a risgiau, a’r effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol a Chynllun y Cyngor.
Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, bod rhaglen gyfalaf gwerth £36.155m yn cael ei chynnig ar gyfer 2021/22. Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, gan fod diffyg o thua £900k yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 y bwriad yw defnyddio’r tanwariant disgwyliedig yn y cyfrif refeniw yn 2020/21 i bontio’r bwlch er mwyn cyflawni’r rhaglen a gynlluniwyd. Mae mwyafrif y gwariant cyfalaf yn 2021/22 yn gysylltiedig â’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) sydd yn cynnal ac yn datblygu stoc dai’r Cyngor.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 drosolwg o broses y gyllideb gyfalaf drwy gyfrwng cyflwyniad gweledol a sylwebaeth lafar ac amlygwyd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn –
• Nid yw lefel y cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy’r Grant Cyfalaf Cyffredinol a Benthyca â Chymorth, wedi cynyddu ers nifer o flynyddoedd ac ni ddisgwylir y bydd fawr o newid yn y setliad amodol a’r setliad terfynol. • Mae strategaeth cyfalaf y Cyngor yn darparu ar gyfer dyrannu cyllid yn flynyddol i fuddsoddi mewn asedau presennol. Felly, mae’r rhaglen yn cynnwys £1m ar gyfer adnewyddu adeiladau ysgol; £60k ar gyfer adeiladau eraill y Cyngor; £1.25m ar gyfer Priffyrdd; £195k ar gyfer adnewyddu cerbydau a £292k ar gyfer uwchraddio asedau TG. Mae dyraniad o £50k ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl wedi’i gynnwys yn y rhaglen hefyd ac mae’r grant yn rhwymedigaeth statudol. • Mae buddsoddiad cyfalaf o £6.6m wedi’i gynllunio ar gyfer ysgolion newydd (ardal Llangefni – yn amodol ar y penderfyniad terfynol) yn unol ag ymrwymiad y Cyngor i’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. • Cyllidir y rhaglen gyfalaf drwy gyfuniad o grantiau allanol, y Grant Cyfalaf Cyffredinol, a benthyca â chymorth a benthyca digymorth (yn unol â’r manylion yn Nhabl 1, paragraff 3.1 yr adroddiad). Cyllidir prosiectau CRT gyda chyllid CRT sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y diben hwnnw. • Mae prosiectau cyfalaf unwaith ac am byth newydd gwerth £1.105m wedi’u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac maent yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid Cadeirydd y Panel i adrodd ar lafar. Cofnodion: Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts bod y Panel, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2021, wedi archwilio’r cynigion ar gyfer y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf am 2021/22 a bod yr adborth yn unol â’r hyn a adroddwyd o dan eitemau 3 a 4 uchod. |
|
Blaen Raglen Waith PDF 1019 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, yn ymgorffori’r Blaen Raglen Waith hyd at Ebrill 2021 i’r Pwyllgor ei ystyried.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r ddwy eitem ddilynol yn ymwneud â lles staff y Cyngor a chymunedau a monitro effeithiolrwydd y system brofi ac olrhain, y cytunwyd arnynt wedi i’r Pwyllgor graffu ar ymateb y Cyngor i Covid-19, gael eu hamserlennu i gyfarfod mis Ebrill y Pwyllgor.
Penderfynwyd – • Cytuno i’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith yn amodol ar amserlennu’r ddwy eitem ddilynol yn ymwneud ag ymateb y Cyngor i Covid-19 i gyfarfod mis Ebrill y Pwyllgor. • Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.
GWEITHRED: Y Rheolwr Sgriwtini i ddweddaru’r Flaen Raglen Waith yn unol â’r hyn a nodwyd. |