Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 16eg Tachwedd, 2021 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 431 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch2 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes y Cyngor, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn nodi sefyllfa’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2021/22yn erbyn ei amcanion gweithredol fel y’u hamlinellwyd ac y cytunwyd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn. 

Mae mwyafrif y dangosyddion perfformiad Iechyd Corfforaethol (70%) yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau (Gwyrdd neu Felyn) ac mae strategaeth ddigidol y Cyngor yn parhau i fod yn llwyddiannus yn ystod y pandemig. Mae’r dangosyddion Gwasanaeth Cwsmer yn parhau i berfformio’n dda ac eithrio dangosydd 04b mewn perthynas â chanran yr ymatebion ysgrifenedig i gwynion i’r adran Gwasanaethau Cymdeithasol a anfonir cyn pen 15 diwrnod sydd yn 58% ar hyn o bryd ac yn is na’r targed o 80%. Mae natur gymhleth y cwynion hyn yn aml iawn yn golygu cyfraniad aml asiantaeth ac mae llwyddo i alinio’r wybodaeth cyn pen 15 diwrnod yn her reolaidd. Mae’r perfformiad hwn yn well na’r 50% a welwyd yn Ch1 ac mae’n galonogol bod 18 allan o’r 19 o gwynion a dderbyniwyd wedi cael eu trafod gyda’r achwynydd cyn pen 5 diwrnod gwaith. Er bod perfformiad mewn perthynas â phresenoldeb yn y gwaith yn Ambr ar ddiwedd Chwarter 2 gyda 4.09 diwrnod wedi’i golli oherwydd absenoldeb am bob CALl, gosodwyd targed mwy heriol eleni ac o ystyried y perfformiad hwn yng nghyd-destun y targed o 4.25 diwrnod wedi’i golli am bob CALl a osodwyd ar gyfer y ddwy flwyddyn flaenorol, heb y newid hwn byddai’r perfformiad hwn wedi bod yn Wyrdd.   Mae mwyafrif y Dangosyddion Perfformiad (84%) yn perfformio’n uwch na’u targed neu o fewn 5% i’w targed ac am y tro cyntaf nid oedd gan dau o’r tri Amcan Llesiant yr un dangosydd a oedd yn tanberfformio’n ambr neu’n goch yn erbyn eu targedau. Cymysg fu’r perfformiad yn erbyn dangosyddion Amcan Llesiant 3 yn gyffredinol (Gweithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau i sicrhau y gallant ymdopi’n effeithiol gyda newidiadau a datblygiadau wrth amddiffyn ein hamgylchedd naturiol) gyda 57% o’r targedau’n tanberfformio. Mae pedwar dangosydd mewn perthynas â rheoli gwastraff a chynllunio yn Goch neu Ambr ac mae manylion pellach ynglŷn â’r mesurau lliniaru wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Ar hyn o bryd mae adran rheoli cyllid y cerdyn sgorio yn darogan tanwariant o £0.858m ar gyfer y flwyddyn a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth, 2022.Caiff rheolaeth ariannol ei fonitro drwy adroddiadau chwarterol i’r Pwyllgor Gwaith.

Ymatebodd yr Aelodau Portffolio a Swyddogion i gwestiynau a phwyntiau a godwyd ar yr adroddiad cerdyn sgorio fel a ganlyn –

·           Mewn perthynas â phryderon am y gostyngiad yng nghanran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio, yn benodol y gostyngiad yn nhunelledd y gwastraff gwyrdd a gasglwyd o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2020/21 ac awgrym bod gyflwyno ffi am gasglu gwastraff gwyrdd yn wrthgynhyrchiol, rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor bod y gostyngiad o ganlyniad i nifer o resymau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Mae’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Derbyn diweddariad ar lafar gan Gadeirydd y Panel.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Ariannol ddiweddariad i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod o’r Panel ar 28 Hydref, 2021 a oedd yn cynnwys darparu trosolwg i’r Panel o’r canlynol –

·           Mae’r heriau ariannol a wynebir gan y Gwasanaethau Oedolion yn bennaf oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn gyffredinol ac yn sgil y pandemig wedi arwain at bwysau cyllidebol ar y gwasanaeth Oedolion. Mae’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau’n amserol o’r ysbyty er mwyn i fwy o welyau fod ar gael yn cynyddu’r galw am becynnau gofal cymdeithasol i bobl fregus iawn sydd yn golygu bod costau’r Gwasanaeth Oedolion yn cynyddu. Er y cydnabyddir mai cyfyngedig yw’r posibilrwydd o  liniaru’r pwysau ariannol ar y Gwasanaeth Oedolion gan fod yn rhaid cwrdd â’r galw, roedd y Panel o’r farn bod angen system fwy cadarn â ffocws cymunedol sydd ddim mor ddibynnol ar adeiladau nad ydynt yn addas i’r diben erbyn hyn a bod profiad y defnyddiwr gwasanaeth yn bwysicach na’r adeilad lle darperir y gwasanaeth. Bydd y Panel yn parhau i edrych ar yr agwedd hon ynghyd â’r heriau eraill yn y Gwasanaeth Oedolion wrth symud ymlaen.

·           O ran cynnal a chadw priffyrdd a ffyrdd mae nifer o bryderon ynghylch cyflwr ffyrdd di-ddosbarth yr Ynys yn enwedig pan fyddant dan amodau gaeafol.  Ystyriwyd y broses ar gyfer blaenoriaethu a chlustnodi gwariant cyfalaf ar gyfer ffyrdd a rhoddwyd sicrwydd i’r Panel drwy’r wybodaeth a ddarparwyd bod y broses yn un rhesymol o ystyried ei bod hi’n amhosibl atgyweirio pob twll yn y ffordd gyda’r adnoddau sydd ar gael.  Nododd y Panel y byddai angen cyllid o tua  £7.2m i ddod â’r rhwydwaith ffyrdd leol i’r safon yr hoffai’r Cyngor ei weld, a chydnabuwyd bod cyllid annigonol yn ffactor cyfyngol. Roedd y Panel yn fodlon bod y Gwasanaeth Priffyrdd yn gwneud popeth o fewn ei allu gyda’r cyllid sydd ar gael iddo, i gynnal a sicrhau defnyddioldeb ffyrdd yr Ynys.

 

Penderfynwyd nodi’r diweddariad gan y Panel Sgriwtini Cyllid yn dilyn ei gyfarfod ar 28 Hydref, 2021 a diolch i Gadeirydd y Panel, y Cynghorydd Dafydd Roberts am yr wybodaeth.

 

5.

Cynllun Trosiannol pdf eicon PDF 641 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol, adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cynllun Trosiannol. Mae’r Cynllun yn nodi’r blaenoriaethau a dyheadau allweddol ar gyfer y cyfnod adfer yn syth wedi’r pandemig a bydd yn pontio’r cyfnod rhwng Cynllun cyfredol y Cyngor a’r Cynllun diwygiedig/newydd a fydd yn cael ei fabwysiadu gan y weinyddiaeth newydd wedi Mai, 2022. Bydd hefyd yn darparu’r paramedrau gweithredol er mwyn i Swyddogion allu cyflawni ffrydiau gwaith allweddol dros y 12 mis nesaf.  Cynghorwyd y Pwyllgor bod y Cynllun yn cydnabod bod y Cyngor yn mynd i mewn i gyfnod trosiannol a’i fod wedi’i ddylunio i helpu’r Cyngor gynllunio ar gyfer y normal nesaf gan barhau i fod yn ddigon hyblyg i addasu ac ymateb i gyfleoedd ac unrhyw anawsterau a all godi.  Dylid cydnabod wrth ddarparu fframwaith a llwybr ar gyfer symlyn ymlaen yn dilyn Covid-19, y gall nifer o faterion y tu hwnt i reolaeth y Cyngor effeithio ar ei allu i gyflawni amcanion y Cynllun ac y bydd yr elfen hon o ansicrwydd yn parhau. Fodd bynnag, mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth o’r farn ei bod hi’n amserol rhoi cynllun trosiannol ar waith er mwyn ailosod a/neu adnewyddu’r cyfnod cyn y pandemig a hefyd ystyried effaith y pandemig a’r newidiadau a ddaeth yn ei sgil mewn sawl maes, i sicrhau bod y Cyngor yn ddiweddar a chyfredol ac y gall ganolbwyntio ar faterion allweddol rhwng nawr a diwedd tymor y Cyngor presennol. Bydd y fframwaith yn dal i fod yn ei le hyd nes y penodir Cyngor newydd ym mis Mai, 2022 a chyn iddo allu mabwysiadu cynllun corfforaethol newydd. Mae’r Cynllun wedi’i enwi’n gynllun trosiannol yn hytrach na chynllun adfer ac mae’n seiliedig ar y dybiaeth na fydd cyllid sylweddol newydd ar gael i’r Cyngor ar gyfer ei weithgareddau adfer ac felly mae’n rhaid gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys cynlluniau cyllid grant a thrwy barhau i ddosbarthu cyllid grant i sefydliadau eraill.  Mae’r Cynllun wedi’i ddylunio i fod yn syml a hawdd i’w ddeall fel bod pawb yn glir ynglŷn â chyfarwyddyd ac arweiniad y Cynllun a’r hyn y mae’r Cyngor yn ceisio’i gyflawni drwy’r Cynllun, ac i sicrhau bod trigolion, aelodau etholedig, rheoleiddwyr, partneriaid a staff yn deall bwriad y Cyngor yn ystod cyfnod trosiannol anodd ac ansicr.  Mae’r Cynllun yn seiliedig ar 3 prif amcan yn ymwneud â’r economi, yr amgylchedd a gwasanaethau cymunedol allweddol ac o dan yr amcanion hyn mae nifer o dasgau uchelgeisiol a heriol  wedi’u nodi yn ychwanegol i ddyletswyddau statudol a busnes dydd i ddydd y Cyngor. Bydd unrhyw sylwadau ar gynnwys y Cynllun yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun a bydd yn cael ei addasu’n briodol cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac yna i’r Cyngor Llawn.

Croesawyd y Cynllun gan y Pwyllgor fel Cynllun sydd yn rhoi gweledigaeth glir ar gyfer symud drwy’r broses rheoli argyfwng tuag at ailddechrau’r normalrwydd newydd.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith 2021/22 pdf eicon PDF 993 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor ar gyfer 2021/22 ei gyflwyno i’w ystyried.

Eglurodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd rhaid aros am wybodaeth ynglŷn â setliad ariannol arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22 cyn pennu dyddiad ar gyfer y cyfarfod i ymgynghori ar gyllideb 2021/22.

Penderfynwyd –

·         Cytuno ar y fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2021/22

·         Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.