Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 16eg Hydref, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor a Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Sonia Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2024/2025.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2024.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

 

4.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2023/24 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgorffori Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24.

 

Cyflwynwyd yr eitem hon gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol. Mae hwn yn adroddiad statudol y mae’n rhaid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei baratoi, ei gyhoeddi a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, yn unol ag Adran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.  Pwrpas yr adroddiad yw darparu gwybodaeth i Bartneriaid ynglŷn â’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’i weithgareddau yn ystod 2023/24. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, fel Awdurdod Lleol, yn cael ei gynrychioli ar y Bwrdd, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a nifer o sefydliadau ac asiantaethau eraill, yn ogystal ag aelodau o’r trydydd sector. Amcanion allweddol y Bwrdd yw:

  • cydweithio er mwyn integreiddio ffrydiau gwaith
  • gwella gofal a chymorth er mwyn sicrhau fod gan unigolion fwy o lais mewn perthynas ag iechyd a lles preswylwyr
  • darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • defnyddio adnoddau, sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithiol oherwydd y pwysau sy’n wynebu gwasanaethau rheng flaen

 

Disgrifiodd yr Aelod Portffolio sut fyddai gweithio mewn partneriaeth o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a chyda phartneriaid yn cynorthwyo i ddatblygu cymunedau a gwasanaethau gwydn ar gyfer unigolion y mae angen gofal a chymorth arnynt.

 

Cyflwynodd Siobhan Gothorp, Rheolwr Busnes Rhanbarthol Tîm Cefnogi Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, drosolwg o Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2023/24:

 

  • Roedd prif lwyddiannau’r Bwrdd yn cynnwys gwireddu rhaglen y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol gwerth £32.8 miliwn sy’n cynnwys 141 o gynlluniau/gwasanaethau ar hyd a lled Gogledd Cymru.
  • Datblygu Cynllun Cyfalaf Strategol Rhanbarthol 10 mlynedd sy’n cynnwys 31 o Gynlluniau Cyfalaf.
  • Sefydlu Llwybr Cymorth Cof Rhanbarthol sy’n darparu gwasanaeth di-dor ar draws y Partneriaid, gan gydweithio i ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phryderon cyn yr asesiad ac ar ôl derbyn diagnosis er mwyn sicrhau llwybr teg.
  • Sefydlu Canolfannau Dementia yn y 6 sir gan ddefnyddio cronfa grant gwerth £390,000 dros gyfnod o 3 blynedd. Mae un Ganolfan Dementia barhaol wedi’i lleoli ar Ynys Môn, yn Hwb Cymunedol Glanhwfa yn Llangefni.
  • Ym mis Ionawr 2024, sefydlwyd cynllun er mwyn ardystio a chydnabod Cymunedau Dementia Gyfeillgar Gogledd Cymru, i gymryd lle’r Cynllun Dementia Gyfeillgar Cenedlaethol blaenorol dan arweiniad y Gymdeithas Alzheimer’s. Yn sgil hynny, mae’r Bwrdd wedi llwyddo i ail-ardystio Cymunedau Dementia Gyfeillgar presennol a chynorthwyo canolfannau newydd, a rhai sy’n datblygu, i gael eu hardystio.
  • Roedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant, a sefydlwyd ym mis Ionawr 2024 o dan strwythur llywodraethu diwygiedig, yn llwyddiant allweddol arall. Mae’n canolbwyntio ar flaenoriaethau ledled Gogledd Cymru er mwyn gwella bywydau plant â chyflyrau niwroamrywiol cymhleth, megis Awtistiaeth ac ADHD, sydd ar restrau aros hir i gael eu hasesu a chael diagnosis gan y Bwrdd Iechyd Lleol.  Mae Ynys Môn yn canolbwyntio’n benodol ar ymyrraeth gynnar ac atal trwy gyflwyno timau amlddisgyblaethol yn seiliedig ar y bum ysgol Uwchradd a’r ysgolion cynradd yn nalgylchoedd yr ysgolion hynny.
  • Datblygwyd strategaeth Rhanbarthol Cyflogaeth â Chymorth ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Arolygiaeth Gofal Cymru: Llythyr Gwiriad Gwella Awdurdod Lleol - Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 754 KB

Cyflwyno adroddiad a chynllun gweithredu Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor eu hystyried, Lythyr Gwiriad Gwella Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a’r Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad a luniwyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Cyflwynwyd yr eitem gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol a nododd bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn bresennol mewn cyfarfod o’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddar a bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau sgriwtini allweddol. Cyfeiriodd yn fyr at gefndir yr arolygiad ar y Gwasanaethau Oedolion ym mis Mehefin 2024 a nododd bod cryfderau ac arfer dda wedi cael eu hamlygu, yn ogystal â meysydd i’w gwella. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, yn ogystal ag edrych ar gynnydd a wnaed yn dilyn yr arolygiad blaenorol a gwblhawyd ym mis Hydref 2022.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr adroddiad yn un cadarnhaol a’i fod yn tystio i’r cynnydd a wnaed ers yr arolygiad diwethaf yn erbyn yr 11 maes y nodwyd bod angen eu gwella.  Mae pum maes wedi cael eu gweithredu’n llawn erbyn hyn, ac mae angen cynnydd pellach mewn perthynas â’r chwe maes sy’n weddill. Ni nodwyd unrhyw feysydd risg penodol gan AGC. Mae’r adroddiad yn cymharu’n ffafriol ag adroddiadau Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru. Mae’r cynllun gwella’n cynnwys gweithredoedd allweddol yn gysylltiedig â’r 11 maes gwella a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Llongyfarchodd y Prif Weithredwr y Gwasanaeth am dderbyn adroddiad cadarnhaol o ystyried y pwysau a’r heriau a wynebir wrth ddarparu gwasanaeth ar Ynys lle mae’r boblogaeth yn heneiddio.

 

Dywedodd y Pwyllgor ei fod yn gwerthfawrogi’r adroddiad. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y materion allweddol canlynol yn benodol:-

 

  • Roedd canlyniadau’r arolwg yn dangos bod 89% o bobl yn teimlo fod rhywun yn gwrando arnynt ‘bob amser’ neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’ ac roedd y Pwyllgor am wybod i ba raddau mae’r Gwasanaeth yn deall pam fod yr 11% sy’n weddill yn teimlo nad oedd rhywun yn gwrando arnynt, a beth sy’n cael ei wneud i ddatrys hyn. Roedd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn credu fod canlyniadau’r arolwg yn gadarnhaol o ystyried natur heriol y Gwasanaeth a nododd pa mor bwysig yw cael trafodaeth agored a gonest gyda defnyddwyr gwasanaeth o’r cychwyn cyntaf.
  • Gofynnwyd sut fyddai’r Gwasanaeth yn parhau i wella o ystyried yr heriau ariannol sy’n ein hwynebu ac argaeledd gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion sy’n cael eu hasesu, yn enwedig mewn perthynas â gofal tymor byr neu ofal seibiant. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion yn cydnabod yr her barhaus hon, ac mae’r Gwasanaeth yn parhau i geisio darparu gwasanaethau gofal effeithiol mor agos â phosib at gymunedau lleol yr unigolion hynny. Disgrifiodd y sefyllfa barhaus lle mae’r galw am wasanaethau gofal yn cynyddu tra bod y cyllid yn lleihau.
  • Pa gynlluniau sydd ar waith i fonitro cynnydd yn erbyn y meysydd sydd angen sylw? Roedd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn cydnabod pa mor bwysig yw monitro’r rhaglen waith yn rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd yn unol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Enwebiadau Pwyllgor - Panelau Sgriwtini Cyllid ac Addysg pdf eicon PDF 698 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Keith Roberts i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Cyllid.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Ieuan Williams i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Addysg.

 

 

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 375 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2025.

 

PENDERFYNWYD -

 

·         Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2024/25.

·         Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.