Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 11eg Mawrth, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor a Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 231 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 2025.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir ac amlinellwyd a nodwyd y cynnydd yn erbyn y camau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod.

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2024/25 pdf eicon PDF 437 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy'n cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Mae’r cerdyn sgorio’n dangos sefyllfa’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 yn erbyn yr amcanion strategol a amlinellir yng Nghynllun y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a ddangosodd fod 87% o'r dangosyddion oedd â thargedau a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio'n dda yn erbyn y targedau hynny a bod eu statws yn Wyrdd neu Felyn. Mae hwn yn ganlyniad cadarnhaol sy'n adlewyrchu perfformiad cryf yn gyffredinol ar draws y Cyngor. Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at y meysydd lle'r oedd perfformiad y Cyngor wedi gwella a/neu ragori ar y targed sef gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion - does yr un ysgol mewn categori dilynol / statudol Estyn, gwaith cynnal a chadw ymatebol, gosod unedau busnes y cyngor, cyflwr ffyrdd A, B a C a gofynion sgiliau Cymraeg wrth recriwtio. Tynnodd sylw hefyd at feysydd a nodwyd yn yr adroddiad fel rhai sydd angen eu gwella i gyrraedd eu targed. Roedd y rhain yn cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth. Mae'r meysydd hynny'n ymwneud â nifer y plant sy'n cael gwersi nofio ar hyd y flwyddyn (Môn Actif), darparu grantiau cyfleusterau i'r anabl - addasiadau mawr ac ail-osod unedau llety sy’n rhai y mae modd eu gosod yn y sector Tai, nifer y contractau angori, canrannau ailgylchu gwastraff ac ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth o fewn yr amserlen. Roedd yr adroddiad yn nodi'r cyd-destun i'r materion hynny ac yn amlinellu'r camau lliniaru a gynlluniwyd ac a weithredwyd.

 

Wrth adolygu adroddiad cerdyn sgorio corfforaethol Chwarter 3 cafodd y materion canlynol eu trafod gan y pwyllgor –

 

·      Ydi'r Tîm Arweinyddiaeth yn gallu darparu sicrwydd bod ei fewnbwn a'i ymyrraeth mewn perthynas â meysydd sy'n tanberfformio yn llwyddiannus ac a ystyriwyd defnyddio gwahanol ddulliau i wella perfformiad fel Vanguard, Rheolaeth Lwyr ar Ansawdd (TQM) a gwelliant parhaus.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn fodlon bod y dulliau a gymerwyd i ymdrin â meysydd sy’n tanberfformio yn briodol ac yn drylwyr. Mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn adolygu adroddiadau’r cerdyn sgorio chwarterol drafft yn rheolaidd ac yn canolbwyntio ar feysydd lle nad yw'r canlyniadau'n cyrraedd y targedau a osodwyd a/neu lle mae'r duedd ar i lawr, gan gynnal trafodaethau gyda phenaethiaid gwasanaeth a rheolwyr i nodi unrhyw faterion sylfaenol a/neu amgylchiadau lliniarol a chytuno ar gamau cywiro. Yn achos rhai DP mae angen neilltuo adnoddau neu wneud newidiadau pellach sy'n cysylltu â chamau gweithredu yng Nghynllun y Cyngor ac yn digwydd ochr yn ochr â rheoli a monitro perfformiad. Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yn credu bod y Cyngor mewn sefyllfa ariannol i gyflwyno systemau newydd ar draws y bwrdd a bod perygl yn y tymor byr y gallai trosglwyddo i system newydd darfu ac effeithio ar ddarparu gwasanaethau a pherfformiad, yn enwedig mewn meysydd gwasanaeth lle mae'r pwysau eisoes yn uchel. Serch hynny, gellid treialu dulliau eraill mewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-2055 pdf eicon PDF 911 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2025 i 2055 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Mae Cynllun Busnes y CRT yn nodi sut y bydd adnoddau yn cael eu gwario i gynnal, gwella a datblygu stoc tai'r Cyngor.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai. Esboniodd ei bod yn ofynnol i gynghorau yng Nghymru sydd â Chyfrif Refeniw Tai (CRT) baratoi Cynllun Busnes y CRT i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn bod yn gymwys i gael Lwfans Atgyweiriadau Mawr. Mae'r Cynllun yn nodi strategaethau'r Cyngor ar gyfer cynnal a gwella ei stoc tai yn ogystal â dangos ei ymrwymiad i Safonau Ansawdd Tai Cymru 2 2023. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod llunio Cynllun hyfyw eleni wedi bod yn fwy heriol oherwydd nad yw incwm rhent wedi cynyddu cymaint â chostau ac nad yw bellach yn ddigon i dalu am yr holl wariant ar dai’r Cyngor sy'n deillio o ofynion SATC 2 2023 a chostau eraill.

 

Wrth gadarnhau y bydd y Cynllun a gyflwynir i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ddiwedd y mis yn cynnwys yr holl fanylion ariannol perthnasol, cyfeiriodd Pennaeth Gwasanaethau Tai  at y prif bwyntiau yn y Cynllun o ran datblygu tai a buddsoddi mewn tai presennol, gan ddweud bod y Cyngor yn anelu at ddatblygu 1,400 o unedau ychwanegol gyda £252m o wariant ar y stoc tai presennol dros y cyfnod o 30 mlynedd. Dros bum mlynedd, bydd £38m yn cael ei wario ar waith trwsio ymatebol, bydd 225 o unedau ychwanegol yn cael eu datblygu gan gynnwys y ddarpariaeth gofal ychwanegol cynlluniedig ym Mhorthaethwy a bydd £49m yn cael ei wario ar uwchraddio'r stoc i gydymffurfio â SATC 2 2023. Bydd y lefel hon o wariant yn golygu benthyca £70m.

 

Yn dilyn, dyma’r prif bwyntiau a drafodwyd 

 

·      Gwnaed awgrymiadau ynglŷn â chysylltu polisi tai cymdeithasol y Cyngor â'r Gymraeg ac yn benodol integreiddio'r iaith o fewn y diffiniad o "lleol" er mwyn diogelu a hyrwyddo'r iaith a'r cymunedau Cymraeg ar yr ynys.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod cysylltiad ag Ynys Môn yn un o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer tai cymdeithasol a nodir yn y polisi dyraniadau tai presennol sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fod wedi bod yn byw neu'n gyflogedig yn yr ardal am bum mlynedd. Byddai gan ymgeiswyr sydd â chysylltiad cymunedol flaenoriaeth dros y rhai heb unrhyw gysylltiad yn unol â'r polisi a byddai hynny’n helpu i warchod cymunedau. Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid a Thai y byddai'n fodlon edrych ar unrhyw dystiolaeth fod cymunedau’n cael eu heffeithio o safbwynt iaith gan gymhwyso'r polisi dyrannu presennol.

 

·      Y ffyrdd y mae Cynllun Busnes y CRT yn galluogi'r Cyngor i gyflawni blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2023-2028

 

Wrth osod targedau uchelgeisiol ar gyfer datblygu tai, dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd a phrynu’n ôl hen dai’r cyngor, esboniodd Aelod Portffolio Cyllid a Thai fod Cynllun Busnes y CRT yn ceisio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynllun Strategol Rheoli Perygl Llifogydd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Perygl Llifogydd i'w ystyried gan y Pwyllgor, a chraffu arno.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd ar ran y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd wedi ymddiheuro am ei absenoldeb. Adroddodd fod gan y Cyngor fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ddyletswydd i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol o dan Ddeddf Llifogydd a Dŵr 2010. Mae'r Cynllun Strategol Rheoli Perygl Llifogydd yn nodi uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Ynys Môn am gyfnod o chwe blynedd, yn gyson â'r amcanion, y mesurau a'r polisïau a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, cododd y pwyllgor y materion canlynol –

 

  • Ydi'r Cyngor wedi ystyried ffyrdd y gall gynnwys y cyhoedd yn well â'r broses ymgynghori.

 

Esboniodd Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd fod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal dros chwe wythnos a'i fod wedi defnyddio sawl sianel i sicrhau ei fod yn hygyrch gan gynnwys digwyddiadau galw heibio, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, holiadur ar-lein a chyfweliad radio. Cadarnhaodd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y broses ymgynghori wedi'i chynnal yn unol â chanllawiau'r Cyngor sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd i weld os ydyn nhw’n effeithiol. Mae'n bosibl fod pobl nad ydynt yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y pwnc yn llai tueddol o gymryd rhan.

 

  • Y ffyrdd y mae'r Cynllun Strategol yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor a'i berthynas â Nodyn Cyngor Technegol Cynllunio 15 (Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol)

 

Cyfeiriodd Pennaeth Gwastraff ac Eiddo Priffyrdd at y ddeddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol sydd wedyn yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor o ran amcanion y Cyngor ar gyfer Newid Hinsawdd. Tynnodd Pennaeth Gwastraff ac Eiddo Priffyrdd sylw at y cyfeiriad yn y strategaeth at y Bwrdd Cymeradwyo SuDS sydd ar wahân i'r broses gynllunio ac yn sicrhau bod safleoedd datblygu arfaethedig yn addas o safbwynt rheoli llifogydd ar y safle ac o fewn y gymuned ehangach.

 

  • Cyfeiriwyd at y sefyllfa yn Nwyran ac ym Mhorthaethwy ac at gynnydd a statws cynlluniau a gwaith yn yr ardaloedd hynny, cyfrifoldebau'r asiantaethau dan sylw ac a ddylid gwell ymdrechion i gyflymu pethau.

 

Rhoddodd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y wybodaeth ddiweddaraf

i'r aelodau am y sefyllfa yn y ddwy ardal benodol a chadarnhaodd fod gan y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldebau gwahanol o ran rheoli perygl llifogydd a'u bod yn cydweithio i amddiffyn cymunedau rhag llifogydd. Cadarnhaodd y gall y Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd a chyfeiriodd at y ffactorau dan sylw. Hefyd esboniodd y gall fod mwy o her sicrhau bod achosion busnes ar gyfer cynlluniau mewn ardaloedd gwledig yn llwyddiannus  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 440 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill, 2025 i'w ystyried.

 

Cafodd ei ddatrys –

  • Cytuno ar y fersiwn bresennol o'r Blaen Raglen Waith ar gyfer 2024/25.
  • Nodi'r cynnydd hyd yma wrth weithredu'r Blaen Raglen Waith.