Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 10 Ebrill 2025 · 20 Mai 2025 · 21 Mai 2025 (arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir:-
· 10 Ebrill 2025 · 20 Mai 2025 · 21 Mai 2025 (arbennig)
|
|
|
Monitro Perfformiad:Adroddiad Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch4 2024/25 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, yr adroddiad cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer 2024/25 a nododd bod 82.5% o ddangosyddion yr oedd eu targedau’n cael eu monitro yn ystod y chwarter wedi cyflawni neu ragori ar eu disgwyliadau a’u bod wedi derbyn statws RAG gwyrdd neu felyn, gan adlewyrchu perfformiad cryf ar draws y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod y prif feysydd sy’n tanberfformio yn debyg iawn i’r meysydd oedd yn tanberfformio yn Ch3, gan gynnwys nifer y plant sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn (Môn Actif); darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl, ail-osod unedau tai sy’n rhai y mae modd eu gosod, nifer y cytundebau angori blynyddol, cyfraddau ailgylchu gwastraff domestig a cheisiadau rhyddid gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn yr amserlen, er bod yr olaf wedi gwella yn ystod y chwarter olaf. Mae’r Tîm Rheoli’n cadw llygaid ar y meysydd hyn ac mae camau lliniaru ar waith neu ar y gweill. Amlygodd y Cynghorydd Carwyn Jones nifer o ganlyniadau cadarnhaol, fel y nodir yn adran 2.3 yr adroddiad. Roedd y meysydd hyn yn cynnwys cefnogaeth i fusnesau ddatblygu’r Gymraeg trwy’r rhaglen ARFOR, cynnydd o 50,000 yn nifer yr ymweliadau â Chanolfannau Hamdden Môn Actif i wneud gweithgareddau corfforol, gostyngiad yn nifer y disgyblion blwyddyn 11 sy’n gadael yr ysgol heb fynd ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant (NEET), canran uchel o denantiaid yn fodlon â gwaith trwsio ymatebol, perfformiad cryf wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio mewn da bryd a chyflwr ffyrdd dosbarth A, B ac C.
Wrth drafod yr adroddiad cerdyn sgorio ar gyfer Ch4, cododd y Pwyllgor y materion canlynol –
· Nododd y pwyllgor fod nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn gwersi nofio wedi bod yn gostwng bob chwarter trwy gydol 2024/25. Gofynnodd yr aelodau am wybodaeth am y camau sy’n cael eu cymryd i annog mwy o blant i gymryd rhan yn y rhaglen a chyflawni’r targed. Codwyd cwestiwn cysylltiedig ynglŷn â phrinder hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg yng Nghanolfan Hamdden Caergybi, yn ogystal â faint o staff sydd wedi derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio - Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, fod y gwasanaeth yn adolygu data ynghylch defnydd yn gyson a’u bod yn ceisio deall pam fod y galw wedi gostwng. Pwysleisiodd nad yw’r dangosydd yn adlewyrchu pob gweithgaredd nofio ac mae’n cyfeirio’n benodol at wersi nofio preifat ac nid yw’n cynnwys gwersi a ddarperir drwy’r ysgolion cynradd. Gallai nifer o ffactorau ddylanwadu ar y duedd, gan gynnwys cynnydd mewn costau byw a’r ffaith fod gweithgareddau eraill ar gael yn y canolfannau hamdden. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar wella hyfforddiant i hyfforddwyr er ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Dogfen Gyflawni Blynyddol 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2025/26.
Cyflwynwyd y ddogfen gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio - Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, ac roedd yn amlinellu’r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer 2025/26 a’r gweithredoedd fydd yn hyrwyddo cynnydd er mwyn cyflawni’r amcanion strategol yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028. Cynlluniwyd y gweithredoedd lefel uchel hyn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn cyflawni ei ymrwymiadau o dan bob un o amcanion strategol Cynllun y Cyngor erbyn 2028. Y bwriad yw bod y gweithredoedd yn fesuradwy a’u bod yn cynnwys targedau a cherrig milltir eglur lle bynnag y bo hynny’n bosib, gan olygu bod modd iddynt gael eu monitro’n effeithiol trwy gydol y flwyddyn. Bydd cynnydd yn cael ei adolygu’n chwarterol gan y Bwrdd Rhaglen Gwella a Moderneiddio a chaiff canlyniadau’r broses hon eu hadlewyrchu yn yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad a Llesiant.
Yn ystod y drafodaeth ar y Ddogfen Gyflawni, gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau ynglŷn â chynnydd y Cyngor mewn perthynas â nifer ddyheadau a gweithredoedd arfaethedig. Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr mai pwrpas cyflwyno’r ddogfen i’r cyfarfod heddiw oedd penderfynu a oedd y pwyllgor yn fodlon â bwriadau’r Cyngor, fel yr oeddent wedi’u hamlinellu yn y ddogfen ddrafft, cyn cyflwyno’r ddogfen i’r Pwyllgor Gwaith i’w chymeradwyo - nid asesu cynnydd hyd yma. Dywedodd y dylid canolbwyntio ar p’un a yw’r canlyniadau a nodwyd yn ddigon eglur a chadarn, neu a yw’r pwyllgor yn ystyried bod angen ychwanegu elfennau ychwanegol. Ar ôl ei chyhoeddi, bydd y ddogfen yn sail ar gyfer gwaith archwilio a chraffu mwy manwl.
Serch hynny, cyflwynwyd diweddariad i’r pwyllgor ar nifer o gynlluniau, gan gynnwys cyflwyno’r gronfa ddata Cysylltu Gofal i gymryd lle’r system WCCIS, y datblygiad Gofal Ychwanegol newydd yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy, mesurau rheoli llifogydd a pharatoadau er mwyn cefnogi Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn 2026 - yn enwedig cystadleuwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg. Er ei fod yn croesawu’r ddogfen, mynegodd y Cynghorydd Ieuan Williams bryder nad oedd y ddogfen yn nodi’n ddigon eglur sut fyddai’r gweithredoedd arfaethedig yn cael eu cyflawni. Gofynnodd a oedd fframwaith monitro perfformiad cynhwysfawr ar waith er mwyn sicrhau atebolrwydd, ac awgrymodd efallai nad yw cyfarfodydd chwarterol y byrddau rhaglen yn ddigonol i gynnal trosolwg o rychwant y gweithredoedd sy’n cael eu hamlinellu. Gofynnodd am sicrwydd fod bob gweithred yn weithredoedd SMART - penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac wedi’u cyfyngu o ran amser - a bod rhywun wedi gwirio eu bod yn rhesymol. Tynnodd sylw hefyd at nifer o enghreifftiau lle’r oedd yn credu bod angen i’r ddogfen fod yn fwy eglur ynglŷn â gweithredu a monitro.
Eglurodd y Prif Weithredwr mai pwrpas y Ddogfen Gyflawni yw rhannu Cynllun y Cyngor, sy’n gynllun pum mlynedd, yn rhannau blynyddol, hygyrch. Mae’r ddogfen yn amlinellu blaenoriaethau blynyddol y Cyngor ar gyfer y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid, er mwyn cefnogi’r amcanion tymor hwy yng Nghynllun y Cyngor. Dywedodd fod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Atgyweirio To Canolfan Addysg y Bont: Gwersi a Ddysgwyd Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo oedd yn nodi’r gwersi a ddysgwyd yn dilyn methiant y to yng Nghanolfan Addysg y Bont.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, fel cofnod o’r gwersi a ddysgwyd ar ôl darganfod gwendidau yn y prosesau a ddefnyddiwyd wrth adeiladu to Canolfan Addysg y Bont, gan gynnwys dyluniad yr adeilad, gosod y contract a threfniadau rheoli. Mae’r gwersi a nodir yn y cynllun gweithredu yn Atodiad A naill ai wedi cael eu gweithredu, maent ar y gweill, neu byddant yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer pob prosiect adeiladu yn y dyfodol.
Roedd y pwyllgor yn croesawu’r adroddiad a chanmolodd y ffaith ei fod mor agored, yn ogystal â’i ymrwymiad i ddysgu a gwella. Awgrymwyd y dylid paratoi crynodeb un dudalen, hawdd ei ddeall, ar gyfer y cyhoedd, yn ogystal â rhannu gwybodaeth bellach gydag aelodau ynglŷn â mesurau i gryfhau prosesau cadw dogfennau. Holodd yr aelodau hefyd a fyddai’r Cyngor yn ystyried comisiynu toeau gwyrdd ar adeiladau ysgol yn y dyfodol.
Esboniodd y Cynghorydd Gary Pritchard fod y grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu Canolfan Addysg y Bont wedi’i ddyfarnu’n rhannol oherwydd bod y dyluniad yn un arloesol. Mae’r adroddiad yn nodi disgwyliadau eglur ar gyfer dylunio, adeiladu a rheoli systemau cymhleth newydd fel rhan o brosiectau yn y dyfodol, gan gynnwys toeau. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Gwasanaeth Eiddo wedi cwblhau pum ysgol newydd arall ers adeiladu Canolfan Addysg y Bont yn 2013, ac nid oedd dyluniad yr un ohonynt yn cynnwys toeau oer neu doeau gwyrdd.
Pwysleisiodd y Prif Weithredwr werth hunanarfarnu, yn enwedig o ran nodi gwersi a hyrwyddo gwelliannau. Diolchodd hefyd i bawb a ymatebodd yn brydlon pan ddaeth y problemau gyda’r to i’r amlwg, gan gynnwys yr ysgol, yr ysgol uwchradd a’r ganolfan hamdden, y Gwasanaethau Dysgu, Eiddo a Chyllid, yn ogystal â’r adran Iechyd a Diogelwch ac aelodau’r Cyngor. Roedd pawb wedi cydweithio er mwyn datrys y broblem a lleihau unrhyw amharu. Roedd yr ymateb yn rhagorol yn ei farn ef, o ran agweddau technegol yr adeilad a’r gefnogaeth a roddwyd i staff a disgyblion yr ysgol.
I gloi, diolchodd y Cadeirydd i’r Cyngor am sut y deliodd â’r broblem a’i ymrwymiad i ddysgu o’r profiad.
Penderfynwyd nodi’r gwersi a ddysgwyd a’r camau a gymerwyd i’w rhoi ar waith, fel y cânt eu cynnwys yn y Cynllun Gweithredu yn Atodiad A.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2026.
Penderfynwyd -
· Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26. · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.
|