Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol ar Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 17eg Medi, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd Kathryn Seeney a Christina Williams i’w cyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar ôl cael eu penodi fel aelodau cyfetholedig yn cynrychioli Rhiant-Lywodraethwyr y sector Cynradd ac Uwchradd ac ADY. Aeth y pwyllgor ati yn ffurfiol i gefnogi’r penodiadau hyn.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2025.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch1 2025/26 pdf eicon PDF 400 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2024/25 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae’r adroddiad ar gyfer y cerdyn sgorio yn manylu ar berfformiad y dangosyddion allweddol o ran cyflawni gweithdrefnau dyddiol y Cyngor i gefnogi amcanion ehangach Cynllun y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer adroddiad cyntaf y flwyddyn ar gyfer y cerdyn sgorio, gan amlygu dangosyddion newydd eu hychwanegu ar gyfer 2025/26 sy’n adlewyrchu perfformiad a gwella gwerth. Mae mwyafrif y dangosyddion (90%) gyda thargedau penodol wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter, gan gyflawni statws CAMG Gwyrdd neu Felyn. Mae sawl enghraifft o berfformiad da wedi’u nodi yn adran 2.3 yn yr adroddiad. Tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones sylw at bump dangosydd sy’n Goch neu Ambr yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd, fel yr amlinellir yn adran 2.2. ynghyd â’r mesurau lliniaru cysylltiedig. Roedd y dangosyddion hyn yn ymwneud â Gwasanaethau Tai (ail osod eiddo gwag a darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), Newid Hinsawdd (gwastraff ailgylchu’n benodol) ac Iechyd y Cyngor Cyfan (amserlen ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth), gyda’r cyfan yn cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth.

 

Adolygodd y pwyllgor y cerdyn sgorio corfforaethol yng nghyd-destun amcanion strategol y Cyngor - Iaith Gymraeg, Addysg, Gofal Cymdeithasol a Llesiant, Tai, Economi a Newid Hinsawdd. Yn ystod y drafodaeth ddilynol codwyd y materion canlynol dan y meysydd thematig:

 

·      Addysg a’r Iaith Gymraeg

 

  • Roedd y pwyllgor yn croesawu presenoldeb gwell ymhlith disgyblion cynradd ac uwchradd o gymharu â Ch1 y flwyddyn flaenorol, er bod ffigyrau dal o dan y targed. Gofynnod aelodau am eglurhad ynghylch y tanberfformiad a’r mesurau sydd ar waith er mwyn mynd i’r afael â hyn.

 

Roedd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd yn cydnabod fod presenoldeb dal i fod yn her genedlaethol ar ôl y pandemig. Mae ysgolion yn defnyddio data presenoldeb yn effeithiol i adnabod disgyblion sydd mewn risg, ac i ymyrryd yn briodol. Mae salwch, amhariadau yn sgil y pandemig, materion iechyd meddwl a chymdeithasol, dim diddordeb yn y cwricwlwm, amrywiad tymhorol a phwysau teuluol, megis caledi ariannol a chyfrifoldebau gofalu i gyd yn cyfrannu at hyn. Mae presenoldeb dal yn brif flaenoriaeth ar gyfer y Gwasanaeth Dysgu oherwydd ei gysylltiad agos gyda llesiant, cyrhaeddiad a chanlyniadau tymor hir disgyblion. Er na chyrhaeddwyd y targed, mae’r tuedd yn gwella. Mae Swyddogion yn gweithio’n agos gydag ysgolion a theuluoedd i fynd i’r afael â beth yw’r rhesymau dros absenoldebau, gan wneud mwy o ddefnyddio o gynlluniau presenoldeb personol ar gyfer y disgyblion dan sylw.

Yn ystod cwestiynau dilynol, gofynnodd y pwyllgor am y berthynas rhwng gwaharddiadau ac absenoldebau, ac a yw disgyblion sydd wedi’u gwahardd neu’r rheiny sydd wedi’u tynnu o’r ysgol gan eu teuluoedd wedi’u cynnwys yn y data. Dywedodd yr Uwch Swyddog Addysg Gynradd, yn amodol ar gadarnhad, nid yw disgyblion sydd wedi’u gwahardd wedi’u cynnwys yn y data. Mae Swyddogion Lles yn cadw cysylltiad agos gyda phlant sydd wedi’u  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Argymhellion y Grwp Tasg a Gorffen Sgriwtini: Eiddo Gwag a Dyraniadau'r Gwasanaeth Tai - Diweddariad ar Gynnydd pdf eicon PDF 326 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Ystyriwyd y mater hwn o dan eitem 3 uchod.

5.

Aelodaeth y Panelau Sgriwtini pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w ystyried gan y Pwyllgor, oedd yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi proses newydd mewn perthynas ag aelodaeth y tri panel sgriwtini yn seiliedig ar drefniadau cydbwysedd gwleidyddol cyfredol y Cyngor. Atodwyd cwmpas a chylch gorchwyl y tri panel sgriwtini i’r adroddiad yn ogystal â chylch gorchwyl y Grŵp Llywio Cydraddoldeb ac Iaith Gymraeg newydd, gyda’r Pwyllgor yn enwebu aelod ar ei gyfer. Nodwyd bod yr Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol wedi cytuno i addasu aelodaeth paneli sgriwtini’n ddiweddar, er mwyn bod yn amodol ar egwyddorion a rheolau cydbwysedd gwleidyddol.

 

Penderfynwyd –

 

·      Cytuno ar drefn aelodaeth ddiwygiedig ar gyfer y tri Phanel Sgriwtini yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol cyfredol y Cyngor.

·      Cytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer y tri panel sgriwtini, fel y nodir yn atodiadau’r adroddiad.

·      Enwebu’r Cynghorydd Ieuan Williams i wasanaethu ar y Grŵp Llywio Cydraddoldeb ac Iaith Gymraeg.

 

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 355 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2026.

 

Penderfynwyd -

 

·      Cytuno ar fersiwn gyfredol y Blaen Rhaglen Waith ar gyfer 2025/26 yn amodol ar adborth o gyfarfod yr Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol mewn perthynas â chynnwys eitem sefydlog ar agenda’r Pwyllgor yn ymwneud â gweithgareddau newid hinsawdd a chynnydd tuag at sero net.

·      Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Blaen Raglen Waith.