Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriadau a gyflwynwyd.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2025. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Sefydlu Cyllideb 2026/27: Cynigion Drafft Cychwynnol ar gyfer y Gyllideb Refeniw Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, oedd yn cynnwys y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw drafft 2026/27 ac a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Ionawr 2026, i’r pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb, y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol a sefyllfa gychwynnol cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27. Roedd hefyd yn crybwyll y pwysau cyllidebol y mae’n rhaid ymdrin ag o yng nghyllideb 2026/27, y risgiau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod 2026/27, cynnydd yn y Dreth Gyngor er mwyn cael cyllideb sy’n cydbwyso a’r goblygiadau ar gyfer y Cynllun Ariannol Tymor Canol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer, yr adroddiad gan ddweud fod gosod y gyllideb bob blwyddyn dal yn heriol gan fod setliad y llywodraeth leol yn cael ei gyflwyno’n flynyddol er bod galw ers peth amser am setliad tair mlynedd er mwyn gallu cynllunio’n well. Er bod balansau ac arian wrth gefn y Cyngor mewn sefyllfa iach ar hyn o bryd, roedd y Cynghorydd Robin Williams yn pwysleisio’r angen am ddoethineb parhaus a chynllunio ymlaen llaw. Dywedodd wrth y pwyllgor mai’r gofyniad cyllidebol ar gyfer 2026/27 yw £207.023m, wedi ei ariannu drwy’r Grant Cymorth Refeniw, cyfranddaliad Ynys Môn yn y gronfa ardrethi annomestig a’r Dreth Gyngor. Tynnodd sylw at y prif bwysau ariannol sy’n cynnwys chwyddiant a thâl staff, gyda dyfarniadau cyflog ar gyfer staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu ar gyfer 2026/27 dal i’w cadarnhau. Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnig cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.8%, ynghyd â 0.3% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân, sy’n gyfanswm o 5.1%, gan olygu fod y gost i eiddo Band D yn £1,792.98. Cynigir hefyd bod y premiwm o 100% ar dai gwag ac ail dai yn parhau, a bod £1.685m yn cael ei rhyddhau o falansau cyffredinol ac arian wrth gefn wedi ei glustnodi y Cyngor er mwyn cael cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 ei fod wedi derbyn ffigwr terfynol y setliad y noson flaenorol ac roedd £5,692 yn uwch na’r swm a nodwyd yn yr adroddiad. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid hwn. Tynnodd sylw at y prif grantiau refeniw oedd wedi’u cynnwys yn nhabl 2 yr adroddiad ar sail Cymru gyfan, sy’n cael eu dyrannu y tu allan i’r setliad, ac amlygodd y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau a chyllidebau pe byddai unrhyw rai o’r grantiau hyn yn rhewi neu’n lleihau. Cyfeiriodd at y prif newidiadau rhwng cyllideb derfynol 2025/26 a chyllideb gychwynnol 2026/27, fel yr amlinellir yn adran 4 yr adroddiad, ac eglurodd beth oedd eu heffaith gadarnhaol neu negyddol ar y gyllideb. Mae’r rhain yn cynnwys chwyddiant mewn cyflogau staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, cyfradd cyfraniad y cyflogwr i’r gronfa bensiwn, effaith y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gostau gofal preswyl, nyrsio ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Adnoddau Derbyn adroddiad llafar gan Gadeirydd y Panel. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adnoddau, adroddiad ar waith y Panel rhwng Gorffennaf 2025 ac Ionawr 2026. Yn ystod y cyfnod hwn, adolygodd y Panel sefyllfa’r gyllideb gyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer chwarter 4 2024/25 a chwarter 1 a 2 2025/26, gan roi sylw penodol i orwariant yn y Gwasanaethau Plant a Busnes y Cyngor. Gwahoddwyd Uwch Swyddogion i gyfarfod y panel ar 6 Tachwedd 2025 i roi rhagor o wybodaeth am beth oedd yn achosi’r gorwariant yn y meysydd hyn. Cafodd y Panel drosolwg hefyd o'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r gwasanaethau a'r mesurau lliniaru sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r gorwariant.
Penderfynwyd nodi'r diweddariad ar gynnydd y Panel Sgriwtini Adnoddau.
|
|
|
Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026 - 2031 Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Newid Hinsawdd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Newid Hinsawdd i'w ystyried gan y pwyllgor, oedd yn ymgorffori'r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net ar gyfer y cyfnod o 2026 i 2031.
Cyflwynodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd, yr adroddiad gan nodi bod y Cynllun yn adeiladu ar y cynnydd a'r gwersi a ddysgwyd o'r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2022-2025 blaenorol fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad Terfynol. Mae'r cynllun newydd yn nodi sut fydd y Cyngor yn parhau â'i daith tuag at ddod yn sefydliad sero net drwy leihau allyriadau carbon, amsugno mwy o garbon a chryfhau gwydnwch y sefydliad tuag at hinsawdd sy'n newid. Mae'r cynllun yn nodi chwe maes blaenoriaeth allweddol sy'n cynnwys allyriadau asedau a thai, allyriadau trafnidiaeth y Cyngor, allyriadau'r gadwyn gyflenwi, defnydd tir, adferiad natur a bioamrywiaeth, datblygu sefydliadol, a phrosiectau strategol a gwydnwch hinsawdd. Bydd cynllun gweithredu blynyddol yn cael ei ddatblygu a'i adolygu bob chwarter gan y Grŵp Llywio Sero Net fydd yn adrodd i'r Tîm Arweinyddiaeth yn ôl yr angen. Bydd adroddiad cynnydd blynyddol hefyd yn cael ei baratoi a bydd camau gweithredu allweddol dan amcan strategol newid hinsawdd Cynllun y Cyngor yn cael eu hadrodd i'r Bwrdd Rhaglen Gwella a Moderneiddio.
Tynnodd y Cynghorydd Ieuan Williams sylw at y ffaith bod y Cynllun Strategol yn cydnabod nad yw targed y Cyngor i ddod yn sefydliad net sero erbyn 2030 yn gyraeddadwy gyda’r adnoddau presennol, yr amser sydd ar gael na maint y gwaith datgarboneiddio sydd ei angen. Felly mae'r Cynllun Strategol yn cynnig dilyn targed carbon sero net Cymru erbyn 2050 a osodwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Wrth graffu ar y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026 i 2031, cododd y pwyllgor y materion canlynol –
· Gwerth gosod pympiau gwres ffynhonnell aer mewn adeiladau hŷn. Gofynnodd yr aelodau a oes gan y Cyngor dystiolaeth sy'n dangos gwerth am arian. · Y trefniadau ar gyfer chael gwared ar, neu ailgylchu paneli solar ar ddiwedd eu hoes weithredol. Gofynnodd yr aelodau a ddylai'r Cyngor ddatblygu strategaeth waredu ffurfiol yn hytrach na dibynnu ar ddull ad hoc. · Y cynnydd yn allyriadau trafnidiaeth a chadwyn gyflenwi'r Cyngor fel y dangosir yn Atodiad 2 i'r cynllun strategol. Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch y rhesymau dros y cynnydd a sut y dylid dehongli'r data o ystyried bod y fethodoleg adrodd wedi newid. · Y sylwa roddir i addysg yn y cynllun strategol, gyda'r Aelodau'n awgrymu y dylai addysg fod yn rhan bwysicach o'r cynllun. · Uwchraddio stoc tai’r Cyngor. Er nodi bod 93 o dai cyngor wedi cael eu huwchraddio, gofynnodd yr Aelodau sut mae'r Cyngor yn bwriadu mynd i'r afael â'r dasg sylweddol o uwchraddio gweddill ei stoc tai a sut y gallai effeithio ar denantiaid. · Trefniadau ailgylchu batris. Nododd yr aelodau fod casglu batris wedi’i dynnu o’r gwasanaeth ailgylchu a mannau ailgylchu batris bach mewn ardaloedd eraill ond rhaid oedd mynegi pryderon ynghylch y diffyg darpariaeth ar gyfer ailgylchu batris mawr a’r risg bosibl o dipio ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Blaen Raglen Waith 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth oedd yn cynnwys y blaen raglen waith ar gyfer 2025/26 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Amlygodd y Pennaeth Democratiaeth yr eitem ychwanegol – Cynllun Rheoli Strategol ar gyfer Tyddynnod – ar gyfer cyfarfod nesaf y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026.
Penderfynwyd -
· Cytuno ar y fersiwn gyfredol o'r Blaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26 gyda'r eitem ychwanegol ar gyfer y cyfarfod ar 18 Chwefror 2026. · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Blaen Raglen Waith.
|