Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol ar Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 18fed Mawrth, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i’r Cynghorydd Celfyn Furlong, oedd wedi cael ei ethol i’r Cyngor yn ddiweddar, ac sy’n aelod newydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr ymddiheuriadau a’u nodi.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2026.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025 pdf eicon PDF 856 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn ymgorffori’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025, i’r Pwyllgor ei ystyried a’i adolygu.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo adroddiad yn rhinwedd ei swydd fel pencampwr cydraddoldeb ac amrywiaeth, a nododd fod yr adroddiad yn amlinellu sut y cyflawnodd y Cyngor ei ddyletswyddau statudol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, yn ystod 2024/25. Mae’r adroddiad yn cynnwys trosolwg o gynnydd tuag at gyflawni’r Cynllun Strategol Cydraddoldeb 2024-2028, mae’n amlygu’r prif gyflawniadau ac mae’n cyflwyno data cydraddoldeb mewn perthynas â’r gweithlu ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Mae’n manylu hefyd ar y camau a gymerwyd i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da.

 

Wrth edrych ymlaen, mae’r Cyngor yn bwriadu adeiladu ar y cynnydd yn 2024/25 trwy ganolbwyntio ar bum blaenoriaeth - cryfhau’r defnydd o ddata cydraddoldeb, canolbwyntio mwy ar ganlyniadau mesuradwy, datblygu cydweithio ymhellach â chydweithwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol, cwblhau trefniadau monitro ac adrodd a pharatoi ar gyfer y ddyletswydd statudol newydd i asesu effaith iechyd a ddaw i rym ym mis Ebrill 2027. Mae’r adroddiad yn dangos fod y Cyngor, at ei gilydd, yn parhau i wneud cynnydd cadarnhaol o ran hyrwyddo cydraddoldeb, gwella cynhwysiant a gwreiddio arferion teg o fewn ei wasanaethau. Mae’n ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth teg, hygyrch a chynhwysol a meithrin diwylliant cadarnhaol o gydraddoldeb, o fewn y sefydliad ac yn ei ymwneud â’r cyhoedd.

 

Wrth adolygu’r adroddiad, trafododd y Pwyllgor y materion canlynol –

 

·      Pam fod y Cyngor yn cyflogi mwy o ferched na dynion.

 

Hysbyswyd y pwyllgor fod merched, am resymau cymdeithasol a hirsefydlog, yn parhau i gyflawni rolau gofalu di-dâl ar raddfa llawer uwch na dynion, ac mae hynny yn ei dro yn golygu fod swyddi rhan amser, hyblyg neu sefydlog - y mathau o swyddi sy’n nodweddiadol mewn llywodraeth leol - yn fwy deniadol. Mae hyn yn golygu fod y Cyngor yn naturiol yn denu cyfran uwch o geisiadau gan ferched. Mae gweithlu’r Cyngor felly’n adlewyrchu tueddiadau ehangach o fewn y sector yng Nghymru. Er bod swyddogion yn cydnabod bod y patrwm hwn yn ganlyniad i ffactorau cymdeithasol hirsefydlog, bu iddynt nodi bod y Cyngor yn cydnabod pa mor bwysig yw ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd.

 

·      Gofynnodd aelodau a yw mynd i’r afael â’r duedd hon yn rhan o’r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud ar y cyd â phartneriaid.

 

Hysbyswyd aelodau fod y berthynas â Choleg Llandrillo Menai yn arbennig o bwysig o ran hyrwyddo’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael o fewn y Cyngor, yn ogystal â’r strwythurau sydd ar waith i gefnogi pobl ifanc i ymuno â’r sefydliad a datblygu eu gyrfa. Rhannwyd esiamplau â’r pwyllgor o waith partneriaeth ehangach y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gan gynnwys cydweithio â’r tîm cydlyniant cymunedol rhanbarthol. Mae’r bartneriaeth wedi caniatáu i’r Cyngor adnabod grwpiau a sefydliadu newydd i ymgysylltu â nhw, gan fanteisio ar wybodaeth a dealltwriaeth y tîm o gymunedau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2025/26 pdf eicon PDF 629 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Perfformiad, Digidol a Moderneiddio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio, oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2025/26, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae adroddiad y cerdyn sgorio yn manylu ar berfformiad y dangosyddion allweddol mewn perthynas â chyflawni gweithredoedd dydd i ddydd y Cyngor i gefnogi amcanion ehangach Cynllun y Cyngor.

 

Cyflwynwyd adroddiad y cerdyn sgorio gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, a nododd fod y mwyafrif o ddangosyddion (86%) y gosodwyd targedau ar eu cyfer wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter, a bod eu statws yn Wyrdd neu Felyn. Mae adran 2.3 yn yr adroddiad yn manylu ar enghreifftiau nodedig o berfformiad da. Mae wyth dangosydd yn Goch neu Ambr yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd - mae adran 2.2 yn yr adroddiad yn manylu arnynt, ynghyd â’r mesurau lliniaru cysylltiedig, ac maent yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a Llesiant (achosion sy’n cael eu hailgyfeirio yn y Gwasanaethau Plant), Gwasanaethau Tai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (cyfanswm nifer y cwsmeriaid sydd â chontractau angori a chanran y busnesau risg uchel sy’n cael eu harchwilio’n rheolaidd a archwiliwyd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff yn benodol) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb yn brydlon i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth). Cadarnhaodd fod y Tîm Arweinyddiaeth yn monitro’r holl feysydd hyn.

 

Wrth adolygu’r cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer y trydydd chwarter, cododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol –

 

·      Roedd y pwyllgor am gael gwybod beth arall fyddai’n bosib ei wneud i gynyddu canran yr ymweliadau â rhyngwyneb cyfrwng Cymraeg prif wefan y Cyngor.

 

Hysbyswyd aelodau fod Fforwm y Gymraeg wedi bod yn trafod ffyrdd o sicrhau fod ffurflenni, dogfennau ac ymgynghoriadau yn haws eu deall ac yn fwy hygyrch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Grŵp Llywio’r Gymraeg hefyd yn monitro’r dangosydd perfformiad hwn. Er y gwelwyd ychydig o welliant, bydd camau ychwanegol yn cael eu hystyried pan adolygir y Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn. Byddai’r Cyngor yn dymuno gweld cyfran uwch o ddefnyddwyr yn defnyddio’r rhyngwyneb cyfrwng Cymraeg, yn enwedig gan fod dwysedd y siaradwyr Cymraeg ar Ynys Môn ymysg yr uchaf yng Nghymru. Un o’r heriau yw annog preswylwyr i deimlo’n hyderus bod safon eu Cymraeg yn ddigon da i ddefnyddio fersiwn Gymraeg y wefan.

 

·      Mewn perthynas â Newid Hinsawdd, nododd aelodau fod perfformiad DP 02 - canran y gwastraff domestig sy’n cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yn ystod Ch3 wedi dirywio o gymharu â pherfformiad Ch3 yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd aelodau’n cydnabod fod y tywydd sych yn gynharach yn y flwyddyn yn golygu fod llai o wastraff gwyrdd wedi’i gasglu a gofynnwyd oni ddylai’r targed ar gyfer Ch3 gael ei addasu i adlewyrchu hynny. Gofynnodd aelodau hefyd a oedd y Cyngor wedi cysylltu ag awdurdodau eraill sydd wedi llwyddo i gyflawni’r targed o ailgylchu 70% o wastraff a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Hysbyswyd y pwyllgor fod y Cyngor yn trafod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2026-2056 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2026- 2056, i’r pwyllgor ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, a nododd fod Cynllun Busnes y CRT yn amlinellu strategaeth tymor hir y Cyngor ar gyfer cynnal, gwella ac ehangu ei stoc o dai cyngor, yn ogystal â sicrhau fod y cyfrif Refeniw Tai yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol. Mae angen y cynllun er mwyn sicrhau Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru sydd werth tua £2.7m yn 2026/27. Trwy’r CRT, mae’r Cyngor yn rheoli ac yn berchen 4,095 eiddo a 581 garej ledled yr Ynys. Yn ystod cyfnod y Cynllun Busnes, bydd twf o dros 25% yn y stoc dai, i dros 5,000 eiddo, er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol am dai cymdeithasol, gyda dros 950 o bobl ar y rhestr aros ar hyn o bryd. Mae’r Cynllun Busnes yn cynnwys rhaglen gyfalaf gwerth £16m ar gyfer 2026/27 sydd yn cynnwys gwaith SATC, cynnal a chadw, addasiadau a mesurau effeithlonrwydd ynni, ynghyd â £15.5m ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys Tai Gofal Ychwanegol ym Mhorthaethwy.

 

Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y pwysau sy’n gysylltiedig â chyflawni SATC 2023, datgarboneiddio tai presennol y Cyngor a chwrdd â’r galw lleol, yn ogystal â chadw rhenti ar lefel fforddiadwy. Er bod Cynllun Busnes y CRT yn parhau i fod yn hyfyw, nododd fod rheolaeth ofalus yn hanfodol o ystyried y bwriad i fenthyca £57m dros gyfnod y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd hyd at 2030/31.

 

Wrth graffu ar Gynllun Busnes y CRT, cododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol -

 

·      Ceisiodd y pwyllgor sicrwydd na fyddai partneriaeth y Cyngor â chymdeithasau tai wrth ddatblygu tai cymdeithasol newydd yn arwain at or-ddatblygu a allai danseilio cymeriad a chydbwysedd cymunedau a phentrefi.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn rheoli ei stoc dai ei hun a bod partneriaid yn y sector cymdeithasau tai yn gosod tai gan ddefnyddio rhestr dai y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi cynnal asesiad o’r angen am dai lleol ac mae’n darparu llinell sylfaen ar gyfer nodi’r mathau o dai sydd eu hangen, ac ymhle. Pan fydd cyfle i ddatblygu tai yn codi, bydd y Cyngor yn ystyried p’un a yw’n diwallu angen a nodwyd. Mae’n ystyried gwybodaeth leol hefyd, gan gynnwys data o’r rhestr dai sy’n dangos faint o unigolion sydd angen tŷ, y math o lety sydd ei angen arnynt a’r lleoliadau sydd orau ganddynt.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor a yw’r Gwasanaethau Tai yn parhau i wynebu her o ran cael mynediad at eiddo er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol a/neu waith gwella er mwyn cyflawni targedau.

 

Hysbysodd y pwyllgor fod hawl gan denantiaid i ddewis ac mae’r Cyngor, fel landlord, yn parchu dymuniadau tenantiaid sy’n gwrthod gwelliannau oherwydd eu bod yn fodlon â’u cartrefi fel ag y maent. O dan yr amgylchiadau hynny, ni all y gwasanaeth ond wneud y gwelliannau y mae’n dymuno eu gwneud pan fydd yr eiddo’n dod yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith 2026/27 pdf eicon PDF 341 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

Mewn ymateb i gais penodol, a chyda chaniatâd y Cadeirydd gan nad oedd yr eitemau hynny ar y rhaglen, cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar brosiect Porth Caergybi, sydd â’r nod o ehangu Porthladd Caergybi ac sydd yn rhan o Fargen Dwf Gogledd Cymru. Amlinellodd hefyd y sefyllfa mewn perthynas ag ailddatblygu hen safle Alwminiwm Môn a chyflwynodd wybodaeth am y gwaith sy’n mynd rhagddo i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â darparu cyfleusterau parcio ar gyfer lorïau sy’n teithio i Iwerddon drwy Borthladd Caergybi.

 

Penderfynwyd cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2026/27.